PWYLLGOR ARCHWILIO 23.03.06 PWYLLGOR ARCHWILIO 23.03.06 Yn bresennol: Y Cynghorydd Brian Jones (Cadeirydd); Y Cynghorydd Godfrey Northam (Is-gadeirydd). Y Cynghorwyr Edward T. Dogan, Thomas G. Ellis, Selwyn Griffiths, Huw Price Hughes, Henry Jones , Michael Sol Owen a Gwilym Williams. Hefyd yn Bresennol: Dilys A Phillips (Pennaeth Gweinyddol a Gwarchod y Cyhoedd), Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid), Dewi Morgan (Rheolwr Archwilio a Risg), Gwyn Morris Jones (Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol), Nick James (Rheolwr Fflyd, Cyfadran Amgylchedd), Alan Jones (Peiriannydd Cynorthwyol, Uned Adeiladwaith Cyfadran Amgylchedd), Rhys Thomas (Rheolwr Tai Sector Breifat, Cyfadran Gofal), Amlyn ab Iorwerth (Rheolwr Trwyddedu) Carys Hughes-Jones (Swyddog Pwyllgor); ac Alan Jones (Swyddfa’r Archwiliwr Dosbarth). Ymddiheuriadau: Y Cynghorwyr Dylan Edwards a Charles Wyn Jones. Croeso Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r Cynghorydd Gwilym Williams a etholwyd yn ddiweddar yn Aelod ar y Pwyllgor Archwilio. 1. COFNODION Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2006 fel rhai cywir. 2. CYNNYRCH YR ADAIN ARCHWILIO MEWNOL a) ADRODDIADAU I’W HYSTYRIED AR GAIS Y CADEIRYDD A’R IS-GADEIRYDD Adroddodd y Rheolwr Archwilio a Risg i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor wneud cais i swyddogion o’r gwasanaethau perthnasol fynychu’r cyfarfod i ateb unrhyw gwestiynau a godir o’r ...