PWYLLGOR ARCHWILIO, 31.07.06
3 pages
Welsh

PWYLLGOR ARCHWILIO, 31.07.06

-

Le téléchargement nécessite un accès à la bibliothèque YouScribe
Tout savoir sur nos offres
3 pages
Welsh
Le téléchargement nécessite un accès à la bibliothèque YouScribe
Tout savoir sur nos offres

Description

PWYLLGOR ARCHWILIO 31.07.06 PWYLLGOR ARCHWILIO, 31.07.06 Yn bresennol: Y Cynghorydd Gwilym O.Williams (Is-Gadeirydd yn cadeirio); Y Cynghorwyr: Tom Ellis, E.H. Griffith, Selwyn Griffiths, Brian Jones, Charles Wyn Jones, Michael Sol Owen a W. Tudor Owen; Peredur Jenkins (Arweinydd Portffolio). Hefyd yn Bresennol: Dilys A Phillips (Pennaeth Gweinyddol a Gwarchod y Cyhoedd), Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid), William E.Jones (Uwch Reolwr Cyllid), Dewi Morgan (Rheolwr Archwilio a Risg), Ffion Madog Evans (Rheolwr Cyllid – Adnoddau a Chorfforaethol), Helen L.Williams (Cyfrifydd Cyfalaf a Rheolaeth), Nia Wyn Jones (Swyddog Pensiynau a Buddsoddiadau) ac Eirian Roberts (Swyddog Pwyllgor). Ymddiheuriadau: Y Cynghorwyr Edward Dogan, Huw P.Hughes, Robert J.Hughes, Henry Jones, Dewi Lewis a Godfrey Northam. 1. COFNODION Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2006 fel rhai cywir. 2. CYFRIFON TERFYNOL 2005/06 Cyflwynwyd – y datganiadau statudol o gyfrifon y Cyngor am 2005/06. Rhoddodd yr Arweinydd Portffolio Cyllid gyflwyniad ar y cefndir perthnasol drwy nodi – (1) y gofynnid i’r pwyllgor hwn fabwysiadu’r datganiadau ariannol statudol ar gyfer eu cyhoeddi a’u harchwilio. (2) mai pwrpas y datganiadau statudol o’r cyfrifon oedd cyfrannu tuag at lywodraethu priodol, gan ddangos sefyllfa ariannol y Cyngor ar ffurf safonol. (3) y rhoddwyd sylw manwl i gronfeydd penodol yn y Gr ŵp Tasg Technegol ...

Informations

Publié par
Nombre de lectures 96
Langue Welsh

Extrait

PWYLLGOR ARCHWILIO 31.07.06
PWYLLGOR ARCHWILIO, 31.07.06
Yn bresennol:
Y Cynghorydd Gwilym O.Williams (Is-Gadeirydd yn cadeirio);
Y Cynghorwyr: Tom Ellis, E.H. Griffith, Selwyn Griffiths, Brian Jones, Charles Wyn Jones,
Michael Sol Owen a W. Tudor Owen; Peredur Jenkins (Arweinydd Portffolio).
Hefyd yn Bresennol:
Dilys A Phillips (Pennaeth Gweinyddol a Gwarchod y Cyhoedd), Dafydd
Edwards (Pennaeth Cyllid), William E.Jones (Uwch Reolwr Cyllid), Dewi Morgan (Rheolwr
Archwilio a Risg), Ffion Madog Evans (Rheolwr Cyllid – Adnoddau a Chorfforaethol), Helen
L.Williams (Cyfrifydd Cyfalaf a Rheolaeth), Nia Wyn Jones (Swyddog Pensiynau a
Buddsoddiadau) ac Eirian Roberts (Swyddog Pwyllgor).
Ymddiheuriadau:
Y Cynghorwyr Edward Dogan, Huw P.Hughes, Robert J.Hughes, Henry
Jones, Dewi Lewis a Godfrey Northam.
1.
COFNODION
Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Mehefin
2006 fel rhai cywir.
2.
CYFRIFON TERFYNOL 2005/06
Cyflwynwyd – y datganiadau statudol o gyfrifon y Cyngor am 2005/06.
Rhoddodd yr Arweinydd Portffolio Cyllid gyflwyniad ar y cefndir perthnasol drwy nodi –
(1)
y gofynnid i’r pwyllgor hwn fabwysiadu’r datganiadau ariannol statudol ar gyfer eu
cyhoeddi a’u harchwilio.
(2)
mai pwrpas y datganiadau statudol o’r cyfrifon oedd cyfrannu tuag at lywodraethu
priodol, gan ddangos sefyllfa ariannol y Cyngor ar ffurf safonol.
(3)
y rhoddwyd sylw manwl i gronfeydd penodol yn y Grŵp Tasg Technegol Cyllid ar
13 Mehefin, 2006 ac y cyflwynwyd argymhellion perthnasol y Grŵp Tasg i’r
Pwyllgor Craffu Adnoddau a Chorfforaethol ar 29 Mehefin ac i Fwrdd y Cyngor ar
4 Gorffennaf. Erbyn hyn, ‘roedd y datganiadau statudol o’r Cronfeydd a
Reserfau ar dudalennau 39-41 o’r llyfr cyfrifon yn adlewyrchu’r penderfyniadau
hynny.
(4)
y cyflwynwyd dau adroddiad ar sefyllfa ariannol derfynol gwasanaethau’r Cyngor
i’r Pwyllgor Craffu Adnoddau a Chorfforaethol ar 29 Mehefin – y naill ar “Gyfrifon
Refeniw Terfynol” a’r llall ar “Wariant Cyfalaf 2005/06” – a’u bod yn dangos
tanwariant neu orwariant pob gwasanaeth, er mwyn pennu’r symiau i’w cario
ymlaen i 2006/07. ‘Roedd argymhellion y Pwyllgor Craffu bellach wedi’u
cyflwyno i Fwrdd y Cyngor ar 4 Gorffennaf, ac ‘roedd y Cyfrif Refeniw ar dudalen
11 o’r llyfr cyfrifon yn adlewyrchu’r penderfyniadau perthnasol.
(5)
oherwydd newid i’r gofynion statudol, bod rhaid i’r Pwyllgor Archwilio fabwysiadu
cyfrifon 2005/06 erbyn diwedd Gorffennaf eleni (o gymharu â diwedd Medi yn y
blynyddoedd a fu) ac y byddai’n rhaid mabwysiadu’r cyfrifon erbyn diwedd
Mehefin o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
I gloi, diolchodd yr Arweinydd Portffolio i staff y Gwasanaeth Cyllid am gyflawni’r holl
waith o fewn amserlen dynn iawn ac argymhellodd i’r aelodau fabwysiadu’r llyfr cyfrifon.
1
PWYLLGOR ARCHWILIO 31.07.06
Yna ymhelaethodd y swyddogion canlynol ar gynnwys y rhannau a nodir o’r llyfr cyfrifon
gan wahodd cwestiynau o’r llawr.
Swyddog
Rhan o’r Llyfr Cyfrifon
Tud.
Pennaeth Cyllid
1 – Rhagymadrodd
1-5
2 – Datganiadau a Pholisïau Cyfrifo
6-10
Uwch Reolwr Cyllid
3 – Y Cyfrif Refeniw a Nodiadau i’r Cyfrif Refeniw
11-20
4 – Atodiad A – Dadansoddiad Gwariant ar
Wasanaethau
64-66
5 – Cyfrif Refeniw Tai a Nodiadau i’r Cyfrif
Refeniw Tai
21-24
6 – Y Fantolen a Nodiadau i’r Fantolen
25-36
7 – Symudiadau yn y Reserfau a Nodiadau ar y
Symudiadau yn y Reserfau
37-43
Rheolwr Cyllid
(Adnoddau a
Chorfforaethol)
8 – Llif Arian a Nodiadau ar y Llif Arian
44-46
9 – Cyfrifon Grŵp
47-49
10 – Ymddiriedolaethau
50-51
Pennaeth Cyllid
11 - Cronfa Bensiwn a Nodiadau'r Gronfa Bensiwn
52-61
12 – Barn a Thystysgrif yr Archwiliwr Dosbarth
62-63
Holwyd nifer sylweddol o gwestiynau ar sawl agwedd o’r llyfr cyfrifon, gan gynnwys y
polisïau cyfrifo, gwerth cymharol y balansau a’r reserfau penodol, materion parthed
ymddiriedolaethau a digonolrwydd y Gronfa Bensiwn. Darparwyd ymatebion llawn i’r
rhain ar lafar gan y Pennaeth Cyllid, yr Uwch Reolwr Cyllid, y Rheolwr Cyllid (Adnoddau
a Chorfforaethol) a’r Cyfrifydd Cyfalaf a Rheolaeth. Arweiniodd y cwestiynau isod at
ddau gais am weithredu pellach –
(1)
Y Cyfrif Refeniw a Nodiadau i’r Cyfrif Refeniw – Nodyn 10 – Taliadau i Weithwyr
(tud. 16) – Cwestiynwyd cywirdeb y tabl “
Nifer Gweithwyr y Cyngor a
dderbyniodd fwy na £60,000
” oedd yn datgan na fu i unrhyw weithiwr dderbyn
£80,000 ac uwch yn 2004/05 a chytunodd yr Uwch Reolwr Cyllid i edrych i mewn
i’r mater ac esbonio’n uniongyrchol i’r aelod oedd yn cwestiynu.
(2)
Y Cyfrif Refeniw a Nodiadau i’r Cyfrif Refeniw - Nodiadau 16 ac 17 - Y Dreth
Gyngor a’r Dreth Ddi-Annedd Genedlaethol (tud. 18-19) - Cyfeiriwyd at y ffigurau
Darpariaeth Dyledion Drwg
” yn y tablau sy’n dadansoddi’r incwm net sy’n deillio
i’r Cyngor o’r trethi hyn a holwyd faint o ddyledion drwg sy’n cael eu dileu gan y
Cyngor. Cytunodd y Pennaeth Cyllid i ddod â’r ffigurau perthnasol gerbron yr
aelodau yng nghyfarfod dilynol y Pwyllgor Archwilio. Yn y cyd-destun hwn,
sicrhaodd yr Arweinydd Portffolio Cyllid yr aelodau fod pob ymdrech yn cael ei
wneud i adennill dyledion ac eglurodd yr Uwch Reolwr Cyllid fod y ffigurau’n
ymddangos yn waeth eleni oherwydd yr angen i gau’r cyfrifon ynghynt.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r datganiadau ariannol statudol o gyfrifon y
Cyngor am 2005/06 ar gyfer eu cyhoeddi a’u harchwilio.
3.
DATGANIAD RHEOLAETH FEWNOL 2005-06
Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg yn cyflwyno’r Datganiad Rheolaeth
Fewnol ar gyfer 2005/06 er cymeradwyaeth y pwyllgor.
Adroddodd y Rheolwr Archwilio a Risg –
(1)
ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol Cymru gynhyrchu Datganiad Rheolaeth
Fewnol (DRhF) blynyddol yn unol â Rheoliad 4(2)(a) o Reoliadau Cyfrifon ac
2
PWYLLGOR ARCHWILIO 31.07.06
Archwilio (Cymru) 2005. Er y bu gofyn ers oddeutu 3 blynedd (gan argymhellion
o ymarfer da ac nid gan ddeddfwriaeth) i gynhyrchu Datganiad Rheolaeth
Ariannol Mewnol fel rhan o’r cyfrifon, ‘roedd yr angen newydd am DRhF yn llawer
ehangach gan ei fod yn cynnwys elfennau eang o reoli risg, llywodraethu a’r
amgylchedd rheolaeth fewnol gorfforaethol.
(2)
bod angen cyhoeddi’r DRhF gyda’r cyfrifon terfynol.
(3)
ei bod yn hanfodol bod tystiolaeth yn ei le er mwyn cefnogi cynnwys y DRhF cyn
cyhoeddi’r ddogfen ac y byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn adolygu’r
dystiolaeth honno yn eu hadolygiad o waith y Cyngor.
(4)
y bu datblygu fframwaith er mwyn cynnwys portffolio o dystiolaeth i gefnogi’r
DRhF yn un o dasgau allweddol yr Adain Archwilio Mewnol ac y seiliwyd y
fframwaith ar ganllawiau sydd wedi’u cynnwys mewn cyhoeddiadau CIPFA.
Defnyddiwyd datganiadau, sylwadau a gosodiadau gan swyddogion allweddol ac
o amrywiol strategaethau a pholisïau’r Cyngor i lunio’r DRhF.
Adroddodd y Pennaeth Cyllid y bydd y Datganiad Rheolaeth Fewnol wedi’i gynnwys
gyda’r datganiadau a pholisïau cyfrifo fel rhan o lyfr cyfrifon terfynol y Cyngor yn dilyn
archwiliad.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r ddogfen fel Datganiad Rheolaeth Fewnol Cyngor
Gwynedd ar gyfer blwyddyn ariannol 2005/06 a’r cyfnod ers dyddiad y fantolen.
Dechreuodd y cyfarfod am 10.30am a daeth i ben am 11.55am
3
  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents