Y Cyngor Cenedlaethol – ELWa Côd Ymarfer Archwilio - Diwygiad At: Penaethiaid sefydliadau addysg bellach yng Nghymru Crynodeb: Pwrpas y Llythyr Perthynol i Archwilio hwn yw ychwanegu at y Côd Ymarfer Archwilio Presennol er mwyn adlewyrchu newidiadau statudol a datblygiadau mewn llywodraethu corfforaethol. Cyfeirnod: ARL/FE/11 Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2002 Gwybodaeth Bellach: Rob Rogers e-bost: rogersr@elwa.org.uk Teleffon: 01443 663710 Cyfeiriad: ELWa De-ddwyrain Cymru Ty’r Afon Ffordd Bedwas Bedwas Caerffili CF83 8WT 1 Cefndir 1.1 Mae memoranda ariannol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) gyda'r sefydliadau addysg bellach yn mynnu bod y sefydliadau yn sefydlu trefniadau archwilio yn unol â Chôd Ymarfer Archwilio (y Côd). Er pan ffurfiwyd y Cyngor, mae'r ymrwymiad hwn wedi ei fodloni trwy barhau i weithredu gofynion Côd CCABC a gyhoeddwyd ym 1999. 1.2 Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor ar ganol datblygu system gynllunio a chyllido newydd ar gyfer dysgu ôl-16 (gan eithrio addysg uwch) yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys adolygu'r trefniadau sy'n ofynnol i gyflawni cyfrifoldeb y Cyngor dros sicrhau gwerth am arian, o fewn fframwaith o ymarfer gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb. 1.3 Digwyddodd nifer o newidiadau yn y darpariaethau statudol ac mewn arferion archwilio er pan gyhoeddwyd y Côd. Bydd angen i'r sefydliadau gymryd y rhain i ystyriaeth yn y cyfamser, cyn sefydlu'r system gynllunio a ...