PWYLLGOR ARCHWILIO 05.06.06 PWYLLGOR ARCHWILIO 05.06.06 Yn bresennol: Y Cynghorydd Godfrey Northam (Cadeirydd); Y Cynghorwyr Edward T. Dogan, E.H. Griffith, Selwyn Griffiths, Huw Price Hughes, Robert J. Hughes, Brian Jones, Charles Wyn Jones, Henry Jones, Meinir Owen, Michael Sol Owen, W. Tudor Owen a Gwilym Williams. Hefyd yn Bresennol: Dilys A Phillips (Pennaeth Gweinyddol a Gwarchod y Cyhoedd), Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid), Dewi Morgan (Rheolwr Archwilio a Risg) a Carys Hughes-Jones (Swyddog Pwyllgor). Ymddiheuriadau: Y Cynghorwyr Dylan Edwards a Dewi Lewis; ac Alan Jones (Swyddfa’r Archwiliwr Dosbarth). 1. CADEIRYDD PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Godfrey Northam yn Gadeirydd am y flwyddyn 2006-07. 2. IS-GADEIRYDD Cynghorydd Gwilym Williams yn Is-gadeirydd am y flwyddyn 2006-07. 3. DATGAN BUDDIANT PERSONOL Datganodd y Cynghorydd Selwyn Griffiths fuddiant yn eitem 5, Cynnyrch yr Adain Archwilio Mewnol, Atodiad 10 (Ysgol Eifionydd) oherwydd ei fod yn lywodraethwr yno. Nid oedd y buddiant yn golygu bod rhaid iddo dynnu’n ôl rhag ystyried y mater. 4. COFNODION Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2006 fel rhai cywir. 5. CYNNYRCH YR ADAIN ARCHWILIO MEWNOL AM Y CYFNOD HYD AT 31 MAI 2006 Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg ar waith yr Adain Archwilio am y cyfnod 1 Mawrth 2006 hyd at 31 Mai 2006, sef: • ...