Comment
16 pages
Welsh

Comment

-

Le téléchargement nécessite un accès à la bibliothèque YouScribe
Tout savoir sur nos offres
16 pages
Welsh
Le téléchargement nécessite un accès à la bibliothèque YouScribe
Tout savoir sur nos offres

Description

Dyfodol Tai Cyngor yng Ngwynedd.’ Adroddiad gan Gomisiwn Tenantiaid Gwynedd gyda chymorth Ymgynghorwyr PS Awst 2006. Atodiad 8 Sylwadau Tenantiaid Sylw Mae’n sïwr bod arian mawr yn cael ei wario ar gyflogau pobl sy’n glanhau strydoedd. Hefyd pam bod goleuadau yn cael eu gadael ymlaen ar y strydoedd pan nad oes eu hangen? Cegin newydd fwy fyddai fy mlaenoriaeth i ar gyfer gwella fy nghartref. Syniad da iawn cadw bys y Cyngor ar byls y tenantiaid. Gobeithio y bydd hyn yn cario ymlaen. We need double glazed windows and doors. The kitchen and bathroom are next door to each other, this is not right. They are very slow installing double glazing in the old people’s bungalows in Pennal. Fel tenant rydwi’n meddwl ei bod yn hollbwysig bod gennym wres canolog a ffenestri newydd gan fod y ty yr ydwi’n byw ynddo yn oer iawn yn y gaeaf. Mae hyn yn fy mhoeni gan fod gen i 3 o blant ifanc. Fel tenant rydwi’n poeni bod cymaint o blant yn rasio ar hyd y llwybrau ar eu beics. Yn Hafan Elan mae amodau gwael o safbwynt gwaith paentio, ffenestri, drysau ayb. Mae’r tai yma wedi cael eu hanwybyddu yn rhy hir. Mae diogeledd yn wael iawn yma hefyd. Yn fy nghartref pesennol does yna ddim preifatrwydd i mi nac i’m plant – mae’n agored yma ac rydym yn agos i’r briffordd a ffordd lai. Mae’n annifyr yn yr haf ac yn y gaeaf. Fe ddylai fod wedi ei ffensio. O flaen ein byngalos ni mae tir glas lle mae plant yn chwarae ond mae c ŵn yn baeddu yma hefyd. Fyddai’n bosibl i ...

Informations

Publié par
Nombre de lectures 92
Langue Welsh

Extrait

Dyfodol Tai Cyngor yng Ngwynedd. Adroddiad gan Gomisiwn Tenantiaid Gwynedd gyda chymorth Ymgynghorwyr PS Awst 2006.    Atodiad 8 Sylwadau Tenantiaid  Maen sïwr bod arian mawr yn cael ei wario ar gyflogau pobl syn glanhau strydoedd. Hefyd pam bod goleuadau yn cael eu gadael ymlaen ar y strydoedd pan nad oes eu hangen? Cegin newydd fwy fyddai fy mlaenoriaeth i ar gyfer gwella fy nghartref. Syniad da iawn cadw bys y Cyngor ar byls y tenantiaid. Gobeithio y bydd hyn yn cario ymlaen. We need double glazed windows and doors. The kitchen and bathroom are next door to each other, this is not right. They are very slow installing double glazing in the old peoples bungalows in Pennal. Fel tenant rydwin meddwl ei bod yn hollbwysig bod gennym wres canolog a ffenestri newydd gan fod y ty yr ydwin byw ynddo yn oer iawn yn y gaeaf. Mae hyn yn fy mhoeni gan fod gen i 3 o blant ifanc. Fel tenant rydwin poeni bod cymaint o blant yn rasio ar hyd y llwybrau ar eu beics. Yn Hafan Elan mae amodau gwael o safbwynt gwaith paentio, ffenestri, drysau ayb. Maer tai yma wedi cael eu hanwybyddu yn rhy hir. Mae diogeledd yn wael iawn yma hefyd. Yn fy nghartref pesennol does yna ddim preifatrwydd i mi nac im plant  maen agored yma ac rydym yn agos ir briffordd a ffordd lai. Maen annifyr yn yr haf ac yn y gaeaf. Fe ddylai fod wedi ei ffensio. O flaen ein byngalos ni mae tir glas lle mae plant yn chwarae ond mae c n yn baeddu yma hefyd. Fyddain bosibl i ni gael arwydd yn rhybuddio perchnogion c n, os gwelwch yn dda? Ar y funud rydwin bryderus iawn nad oes cloeon diogelwch ar ddrws yr ystafell ymolchi. Ar y funud maer gwasanaeth trwsio a chynnal a ddarperir gan y Cyngor yn annerbyniol. Nid yw fy nh i wedi ei baentio ers 17 mlynedd. Mae rheiliaur balcon wirioneddol angen paent. Maer draeniau wedi blocio gyda gwastraff ac nid ywr gwellt wrth y modurdai byth yn cael ei dorri. Rydwi wedi bod yn disgwyl am dros 18 mis am welliannau i du allan fy nh , maer ffenestri yn torri ac yn gollwng d r. Maer swyddog wedi bod yn edrych ar fy nh i 3 gwaith a does dim wedi cael ei wneud eto. Gan ein bod yn denantiaid ir Cyngor fe ddylai gwelliannau gael eu cynnig fel opsiwn. Maer cwestiynau yn fy marn i yn unochrog. Gan fy mod i yn denant anabl, fel fy nghymydog, maent wedi dweud wrthym y bydd yn rhaid i ni aros am 5 mlynedd i gael bae anabl. Pam bod raid i ni aros mor hir am welliannau in cartrefi? Gwell ffensus. A bus stop would be very welcome here as there is nowhere to shelter whilst waiting for the bus. Methu cael y Cyngor i wneud dim, araf iawn, mae fy nghartref i angen ei baentio. Glanhaur pafin lle mae gwellt yn tyfu  mae yn edrych yn fler. Gallem wneud gyda rhagor o dai Cyngor ar gyfer pobl ifanc au plant. Buaswn yn gallu gwneud efo cegin newydd mewn gwirionedd. Fedrwch chi stopio gwastraffu arian a chwilio am well gweithwyr i wneud gwaith trwsio cyffredinol. Gwneud yn sïwr nad yw tenantiaid yn amharchu eu cartrefi. Ni ddylid gwerthu tai Cyngor ayb i denantiaid, fydd yna ddim tai ar ôl. Maer tai hyn yn cael eu gwerthun rhad. Os gall tenantiaid fforddio i brynu, fe ddylent brynu tai heblaw tai cyngor. Fe ddylid dod âr tai Cyngor i fyny i safon. Dydwi ddim yn deall sut maer Cyngor yn cwblhau eu llwyth gwaith ar ein stad ni, maent nob amser yn dechrau ym Maesincla,
 
52
Dyfodol Tai Cyngor yng Ngwynedd. Adroddiad gan Gomisiwn Tenantiaid Gwynedd gyda chymorth Ymgynghorwyr PS Awst 2006.    
ynan mynd i Cae Mur, wedyn maent yn methu â mynd ddim pellach ac maer gweddill ohonom yn colli allan. Rydym newydd gael gwres canolog ond maer drws ffrynt yn ddifrifol, drafftiog iawn, a ffenestri dwbl rhannol yn unig ydym wedi eu cael felly pan ddawr gaeaf fe fyddwn yn colli unrhyw fudd or gweres canolog. Maen ofynnol ir Cyngor wneud y ffyrdd ar palmentydd yn fwy addas ar gyfer pobl anabl a defnyddwyr cadeiriau olwyn. Dylai tenantiaid y Cyngor gael mwy o lais pan gaiff penderfyniadau eu llunio ar faterion o bwys. Angen dirfawr am ffenestri dwbl. Mae gen i wres canolog ond mae fy myngalo i fel oergell yn y gaeaf. Ffieiddio at y pris ofynwyd am fy nh  pan oeddwn eisiau ei brynu, roedd y t  drws nesaf yn rhatach. Angen dirfawr am ffenestri a drysau gwydr dwbl, hefyd trwsior modurdai, drysau a thoeau. Cafodd ffenestri dwbl eu gosod yn ein cartref ni ond gan fod yr hen ddrysau yn ffition wael a dim gwres canolog ynddo, maen cartref ni yn dal yn oer iawn yn y gaeaf. Ffenestri dwbl, ond nid ydynt yn cau ac mae gwres yn colli yn y gaeaf. Llawer iawn o droseddu ac ymddygiad gwrth gymdeithasol ar y stad a dim adwaith oddi wrth y cyngor nar heddlu. Mae gwydrau dwbl yn bwysig iawn, rydych wedi addo edrych i mewn ir broblem hon flynyddoedd yn ôl. Oherwydd bod prisiau nwy yn cynyddu o hyd dylair foeler gael ei newid i gyddwysydd er mwyn arbed arian, er nad oes gwres canolog llawn yn y t   Bob tro yn byddaf yn cwyno am y fframiau ffenestri ar ffrynt fy nh byddaf yn cael yr un ateb  does yna ddim digon o arian. Maer ffenestri yn barod i syrthio allan ou fframiau. Bob tro y gwnes i gysylltu â Chyngor Gwynedd ynghylch gwelliannau im cartref e.e. tân nwy a gosod cawod, dywedwyd wrthyf mai cyfrifoldeb y tenant yw unrhyw welliannau ac nid cyfrifoldeb y cyngor, felly bu raid i mi dalu i blymer cymwys wneud y gwaith  fe gostiodd hyn yn ddrud i mi a rhiant sengl ydw i. When i rang the local office regarding essential improvements needed to my home, I received very little attention but I was promised that someone would call before the end of the afternoon  it is easy enough to sit in the office and promise over the phone. Ymestyn y maes parcio. Mae cynnal yr ochr allan yn bwysig iawn ac ni ddylai tenantiaid orfod rhoi gwybod ir cyngor am broblemau  erbyn y bydd y broblem wedi ei dwyn i sylw r cyngor fe fydd wedi mynd yn ddrud iw drwsio. Awgrymaf bod tai yn cael eu harchwilio yn rheolaidd. I would like to see improvements seen to much quicker than they are at the moment. Wedi cael llond bol ar lenwi holiaduron, nid ydynt yn cyflawni dim  neu ychydig iawn. Rydym wedi bod heb warden safle yma yn Hafan Deg ers dros flwyddyn. Maent hefyd wedi dweud wrthym y bydd raid i ni ffonio i Gaernarfon os bydd unrhyw broblem. Drysau ffrynt a drysau cefn angen eu paentio, heb dderbyn sylw ers 11 mlynedd. Angen ffenestri dwbl. Torri gwellt ywr peth pwysicaf gen i  rydwi yn 92 oed ac yn methu â chlirior gwellt, mae yn mynd efor gwynt o hyd. Maer tu allan  landerydd ayb  wedi pydru ac felly hefyd yr hyn maent yn ei alwn feranda. Maer rendrad wedi dod i ffwrdd ers blynyddoedd oherwydd bod y tu mewn yn damp. O ganlyniad maer adeilad yn oer iawn yn y gaeaf er bod yma ffenestri dwbl a gwres canolog. Dylair cwterydd gael eu glanhau heb i ni ofyn am y gwasanaeth. Dylai coed gael eu torri pan fyddant yn beryglus, h.y. yn hongian uwchben y tai. Dydi Cyngor Gwynedd yn dda i ddim. Rydwin byw mewn fflat bach iawn gydag un
 
53
Dyfodol Tai Cyngor yng Ngwynedd. Adroddiad gan Gomisiwn Tenantiaid Gwynedd gyda chymorth Ymgynghorwyr PS Awst 2006.    
ystafell wely, heb ddim gwres canolog a dim ffenestri dwbl. Nid yw cyngor Gwynedd wedi helpu o gwbl mewn 3 blynedd. Tydi Cyngor Gwynedd ddim bob amser yn gwneud gwaith da fel landlordiaid. Does gen i ddim llawer o ffydd mewn Cymdeithasau Tai  nid llywodraeth leol ydyn nhw. Dylai gwerthu tai i denantiaid barhau. Fe ddylai Cyngor Gwynedd roi mwy o sylw ir ardloedd gwledig gan eu bod nhw bob amser ar waelod y rhestr. Fe fyddem ni yn hoffi cael gwres canolog hefyd. Wedi cwyno yn ddiweddar ynghylch y tu allan  y llwybr cefn. Dim cofnod o alwadau cynt  fe fyddai system log yn syniad da. Ni ddylai staff Tai ddyrannu tai yn yr ardaloedd lle maent hwy neu eu teuluoedd yn byw, maent bob amser ar ben y rhestr ac yn cael y tai gorau yn yr ardaloedd gorau ayb. Rydw i wedi bod ar y rhestr trosglwyddo ers 7 mlynedd ac heb gael cynnig symud na mynd ar y rhestr fer o gwbl. I would like to point out that the council houses themselves and not the estates should be given attention  this is what happens now. I would like to have central heating in my cottage in Deinolen. Beth am faw c n? Peidio â thorri gwellt mor aml  defnyddior dynion i gasglu sbwriel ar y palmentydd ar llwybrau. Sut bod pob t cyngor heblaw 2 yn Chwilog efo ffenestri dwbl a gwres canolog nwy? Fe y gallwch feddwl, fy un i ydy un or rhai sydd heb y rhain. Sut maen nhwn dewis pa rai iw gwneud ac yn gadael fy un i allan bob tro  dim ond un grat sydd gen i ar gyfer cynhesur t i gyd ac maen oer iawn ynddo yn y gaeaf. Rydw i yn anabl gan fy mod wedi cael torri fy nwy goes i ffwrdd. Rydwin byw mewn fflat ir anabl, does gen i ddim gardd, dim lein ddillad (sychwr trydan ymlaen drwyr amser), does dim ffenestr yn yr ystafell ymolchi fely maer larwm yn mynd o hyd oherwydd y stêm or gawod. Dim drws cefn. Mae gennym 4 o dai ir anabl ond dim lwc  maent yn tynnur lifft grisiau i ffwrdd ac yn rhoi pobl abl yn y fflatiau felly pa obaith sydd gennym ni? Rydwin siomedig bod rhai tai yn cael gwres canolog a ffenestri dwbl a thai eraill yn cael llawer llai. Rydwin dal i ddisgwyl i chi ddod i drwsior tamprwydd yn fy ystafell wely gefn a gosod fframiau ffenestri PVC a gwydrau dwbl rhag ofn iddynt bydru a syrthio allan, trwsior landerydd ac atal d r rhag llifo i lawr y ffenestri. Rydwin poenin fawr y byddai trosglwyddo perchnogaeth i Gymdeithas Dai yn effeithio ar sicrwydd y denantiaeth. Rydwin mwynhau bod yn denant ir Cyngor. Rydwin disgwyl am landerydd newydd, maer silffoedd ffenestri angen sylw ac fe ddylem gael drysau efo gwydrau dwbl hefyd. Yn fy marn i mae llawer or tenantiaid yn hen ac fe ddylent gael help i gynnala chadw eu tai au gerddi. Yn fy marn i fe ddylair Cyngor fod yn broactif o safbwynt edrych ir dyfodol, e.e. arbed ynni, tai cymdeithasol, hefyd gwneud tai o fewn y drefn treth cyngor bresennol a dechrau parchur bobl h n Nid wyf yn credu y bydd o unrhyw help i gymdeithas leol na chenedlaethol fod efo asiantaethau yn rhedeg tai. Mae Cyngor Gwynedd yn rhy fawr. Does gen i ddim gwres canolog na ffenestri a drysau efo gwydrau dwbl ac rydwi yn 68 mlwydd oed. Nid wyf yn credu y dylai tenantiaid gael yr hawl i brynu. Nid wyf yn credu bod gan y cyngor gymaint o ddiddordeb ag y maent yn cymryd arnynt yn y tenantiaid ar tai  edrychwch ar gyflwr ein cartref ni a does neb yn poeni digon in helpu i wella pethau. Tydw i ddim yn dymuno mynd at gymdeithas dai o gwbl!!! Mae r Cyngor yn well! Teimlaf bod y gwaith o baentio ochr allan y tai ar y stad angen ei ail wneud. Fy nheimlad i yw bod agwedd Cyngor Gwynedd tuag at ymddygiad gwrth
 
54
Dyfodol Tai Cyngor yng Ngwynedd. Adroddiad gan Gomisiwn Tenantiaid Gwynedd gyda chymorth Ymgynghorwyr PS Awst 2006.    
gymdeithasol, cyffuriau a siarter y tenant angen ei archwilio. Fy nheimlad i ydy bod fy nh i wedi ei anwybyddu gan y cyngor. Rydw i a fy nheulu wedi ein gorfodi i wellar eiddo ein hunain. Fy nheimlad i ydy bod gwres canolog yn hanfodol, yn enwedig i bobl mewn oed a phobl efo plant. Yn y gaeaf maer ystafelloedd i gyd yn oer iawn ac mae gen i un mab 1 oed a dau fab arall. Mae yna 2 wresogydd trydan ym mhob ystafell ond maen nhw yn drwm ar drydan. Ond rydwin gobeithio rwan cael gwres trwy Gynulliad Cymru gan eu bod nhw wedi fy nodi i ar gyfer derbyn gwres canolog. Rydwi wedi bod yn byw yma ers dwy flynedd a hanner ac rydwi yn dal i ddisgwyl am gael trwsio fy ngwres canolog. Rydwi wedi bod yn denant am dros 30 mlynedd ac wedi bod ar y rhestr trosglwyddo am hanner yr amser yna. Mae fy merch ai dau blentyn yn byw efo fi ac rydym angen t mwy. Rydwi wedi bod yn gofyn am ddrws ffrynt newydd am o leiaf 3 blynedd a dim byd yn digwydd. Hefyd dylair holl dai ar y stad fod efo gwres canolog. Rydwi wedi bod yn fodlon efor gwasanaethau yr ydwi wedi eu derbyn gan y Cyngor. Rydwi wedi bod yn disgwyl ers 12 mis am gawod a chegin. Mae fy nghegin i yn syrthion ddarnau. Rydwi wedi bod yn disgwyl ers 5 wythnos am gael trwsio drws fy nghwt glo. Ar ffens yn y cefn. Rydwi wedi cael nifer o broblemau efo taliadau rhent ac ad-daliadau budd-daliad tai. Yn fy marn i fe ddylid edrych ar y drefn bresennol a chwilio am ffyrdd o wella dealltwriaeth rhwng y gwahanol adrannau ar cwsmeriaid. Rydwi wedi byw yma ers 5 mlynedd a tydir ffenestri byth wedi erbyn sylw. Rydwi wedi eerfyn am gael symud am flynyddoedd, maer gegin yma mor fach, fedrai ddim ymdopi a does yma ddim lle i gadw dim. Rydwi wedi gofyn am fynglo efo ramp a dim grisiau. Mae yma waith sydd heb ei orffen, a llechi rhydd ar y to. Pryd y caiff y gwaith ei orffen? Gobeithio y bydd Cyngor Gwynedd yn parhau i edrych ar ôl y tai achos maent yn rhoi gwasanaeth gwerth chweil. Rydwi wir angen bath yn fy ystafell ymolchi, ond fe fuaswn hefyd yn hoffi gwelliannau fel ffens a nodweddion diogelwch gan ein bod mewn perygl yma oherwydd criwiau ifanc. Rydwin teimlon gryf y dylid gwneud rhywbeth i helpu pobl ifanc lleol gael tai iw rhentu neu iw prynu am bris rhesymol. Fy marn i yw y dylair holl denantiaid gael gwres canolog, ceginau da ac ystafelloedd ymolchi yn eu tai. Fy marn i yw y dylair holl denantiaid dderbyn yr un lefel o welliannau a gwaith cynnal ar eu cartrefi. Fy marn i yw y dylair holl denantiaid dderbyn archwiliad blynyddol gan y cyngor er mwyn sicrhau bod unrhyw welliannau angenrheidiol yn cael eu cwblhau yn syth ac i safon uchel, fel na fydd materion bach yn troi yn broblemau mawr. Fy marn i yw y dylair holl dai cyngor gael eu gwneud. Rydw i yn byw yn Hendra a does dim llawer o arian yn cael ei wario yma  fe allem wneud efo drysau ffrynt a drysau cefn newydd. Fy marn i yw y dylai pawb gael ffenestri a drysau efo gwydr dwbl, oherwydd y drafftiau sydd yma. Fy marn i yw y dylair tai aros dan reolaeth y cyngor ac y dylai hawl i brynu barhau. Dydi pobl ddim eisiau gwario arian ar rhywbeth na allant ei gadw. Rydwin meddwl mai dyletswydd y landlord yw gwneud yn sïwr bod popeth yn iawn yn y tai, y tu mewn ac oddi allan. Nid wyf yn credu bod angen iddynt ail addurno
 
55
Dyfodol Tai Cyngor yng Ngwynedd. Adroddiad gan Gomisiwn Tenantiaid Gwynedd gyda chymorth Ymgynghorwyr PS Awst 2006.    
fflatiau oni bai bod angen gwirioneddol am hynny. Felly does dim gwahaniaeth sut maer addurn cyn belled â bod popeth arall yn gweithio, efallai y dylent ddefnyddior arian i roi cwpwrdd ychwanegol yn y gegin neu fath newydd yn yr ystafell ymolchi ayb. Rydwin meddwl hefyd y dylent wneud ir gerddi edrych yn rhesymol. Hefyd yn fy marn i fe ddylent roi sment yn y tyllau sydd yn y concrid y tu allan ir drysau cefn. Peth arall y dylent ei wneud yw sicrhau bod y fflatiau wedi eu hail weirio i gyrraedd y safonau newydd a bod gwres canolog wedi ei osod ynddynt. Fe ddylent flaenoriaethu cyn gynted ag y bydd fflat yn mynd yn wag, cael plymar i mewn i edrych ar dapiau sydd yn gollwng, toiledau ayb. Ac yna cael trydanwr i weld bod popeth yn iawn ac i fyny âr safon ac os ywr gosodiadau mor hen â fy rhai i, eu newid. Yna edrych ar y drysau a gweld bod popeth i fyny âr gofynion. Pethau sylfaenol yn unig ywr rhain ond maent yn ddigon da cyn belled âu bod yn cael eu cwblhau. Rydwin meddwl ei bod yn gywilyddus bod llawer o bobl fel fi yn byw mewn fflat deulawr gyda theulu o bedwar a dim t ar gael. Rydwin meddwl ei bod yn gywilyddus eich bod yn gorfod disgwyl nes bod eich t  wedi cyrraedd oed penodol cyn y bydd yn cyngor yn gwneud unrhyw waith arno. Roeddwn in meddwl bod pawb yn gyfartal. Rydwin meddwl ei bod yn hanfodol cael gwres canolog a ffenestri dwbl. Fy marn i yw y dylid ei gwneud yn orfodol bod y cyngor yn gofyn barn y tenantiaid ynghylch pob gwelliannau ac addasiadau iw tai. Yn 2003 roedd ein t ni i fod i gael ei foderneiddio  rydym yn bensiynwyr ac wedi bod yn denantiaid ers bron i 20 mlynedd. Cafodd pob cais am ir cyngor anfon rhywun i drafod y cynlluniau yr oedd y syrfewr wedi eu paratoi ei hanwybyddu. I ni, yn 77 mlwydd oed, gallai hynny olygu caledi dianghenraid. Gan nad oedd gennym ddewis, fe wnaethom gais am gael symud i fyngalo, er mwyn osgoi gorfod symud ddwywaith. Yn awr rydym wedi gorfod derbyn fflat a dydy hynny ddim yn ddelfrydol. Oherwydd y boen ar pwysau o ganlyniad i hyn fe gafodd fy ngwr drawiad ar y galon a bu farw. Fy nheimlad i yw y byddain fyw heddiw pe byddai Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn fwy teimladwy tuag at anhenion pobl. Yn fy marn i fe fyddain well pe byddair cyngor yn gwerthur byngalos D.A.P yma i Gymdeithas Tai, fe fyddent hwy yn gallu eu hadnewyddu. Yn fy marn i maen bwysig iawn gweld bod yr holl dai yn cael eu cadw mewn cyflwr da. Byddain syniad da dod âr clerc gwaith yn ôl i archwilior tai i gyd. Rydwin meddwl bod rhai tenantiaid yn cymryd mantais ac yn llwyddo i neidior ciw ar y rhestrau aros am fodurdai ac ynan eu defnyddio fel mannau storio ac yn gadael eu ceir ar y ffordd fawr. Fy marn i yw y dylair holl dai cyngor fod efo gwres canolog yn anad dim, rydych ymhell ar ôl yr oes. Fy marn i yw y dylai pob tenant gael yr un hawliau, waeth pwy maent yn ei adnabod. Fy marn i yw ei bod yn hanfodol bod cynghorau lleol yn parhau yn landlordiaid tai cyngor yng Ngwynedd. Fy marn i yw y dylid gosod gwres canolog yn yr holl dai cyngor. Fy marn i yw y dylai holl aelodaur cyngor fod yn haws mynd atynt ac y dylent gymryd sylw difrifol o broblemau yn ymwneud ag eiddor cyngor Fy marn i yw y dylair cyngor roi drysau a ffenestri dwbl yn y cefn ac yn y ffrynt i bawb, a gwella gerddi ffrynt a chefn pob eiddo. Fy marn i yw y dylair cyngor edrych ar ôl y tai yn well a bod yn fwy parod i wneud gwelliannau. Fy marn i yw y dylair cyngor ddarparu gwell cartrefi fel y mae cynghorau eraill yn ei wneud e.e. gwres canolog, ceginau modern ayb. Fy marn i yw y dylair cyngor gael rhywun i archwilior tai a gweld pa welliannau sydd angen eu gwneud Yn fy marn i fe ddylair cyngor wneud gwelliannau diogelwch fel gosod drysau
 
56
Dyfodol Tai Cyngor yng Ngwynedd. Adroddiad gan Gomisiwn Tenantiaid Gwynedd gyda chymorth Ymgynghorwyr PS Awst 2006.    diogelwch a larymau tân a gwneud y camau hyn yn flaenoriaethau. Rydwi hefyd yn meddwl y dylai tadau sengl fel fi gael mwy o gyfle i gael t , maen annheg bod merched yn cael mwy o gyfle. Rydwi i wedi bod ar y rhestr trosglwyddo ers dwy flynedd, rydwi angen symud er mwyn osgoir holl drafferthion yr wyf yn eu cael. Yn fy marn i mae r fflatiau lle rydwin byw angen eu hadnewyddu. Maer neuadd syn arwain at y fflat angen llawr newydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf nid yw wedi ei adnewyddu ers ir fflatiau gael eu hadeiladu. Maer drysau ar siediau angen eu paentio. Yn fy marn i fe ddylair warden weithio o 9 tan 5 ac nid 15 awr yr wythnos. Yn fy marn i fe ddylent wneud archwiliad i gefndir pobl sydd yn cael tai cyngor, fel na fydd pobl ar gyffuriau yn cael y tai a dylent orfodi pobl i gadw eu gerddin daclus a rhoi rhagor o asbos i gymdogion syn achosi niwsans. Rydw i eisiau aros efo Cyngor Gwynedd. Rydw i wedi cael ffenestri dwbl ond yn dal i ddisgwyl am ddrysau. Mae fy nrws wedi hollti ac mae llawer or gwres yn colli yn y gaeaf. Mi fyddain dda gen i pe byddai gwaith sydd wedi ei ddechrau yn cael ei orffen yn lle ei adael am rhyw ddwy flynedd oherwydd diffyg arian. Fy nymuniad i yw aros yn denant ir cyngor gan fy mod yn deall eu ffyrdd Rydwi yn gweithio llawn amser felly yr unig gyfle fyddaf yn ei gael i ddiweddaru yw trwy lythyrau neu gylchlythyrau. Fyddai byth yn gwybod pa bryd y byddant yn bwriadu dod i wneud gwelliannau er mwyn i mi allu cymryd amser i ffwrdd. Rydwin meddwl ei bod yn hollbwysig gwneud apwyntiadau gyda thenantiaid pan fydd gwaith or fath yn angenrheidiol. Fe hoffwn i weld cae pêl droed ar gyfer y plant. Fe hoffwn i weld marciau ffordd ar gyfer pobl anabl yn cael ei wneud yn gynt. Fe hoffwn i gael ffenestri dwbl a drysau gyda gwydr dwbl Fe hoffwn i gael help ynghylch yr hawl i brynu a sut i gael y pris gorau. Fe hoffwn i gael mwy o fannau parcio ar gyfer pobl anabl sydd yn byw mewn fflatiau gyda wardeniaid ac hefyd gwelliannau ir fflatiau. Fe hoffwn i gael gwelliannau i fy nghegin am ystafell ymolchi a rheiddiaduron gwres canolog newydd. Fe hoffwn i gael to newydd ar fy nh  Fe hoffwn i pe byddai rhywun yn dod i gael golwg ar y mwsogl ar y waliau y tu allan, rydwi wedi cwyno laweroedd o weithiau a hwn ywr tro olaf gan na ydwi yn cael dim llwyddiant. Fe hoffwn i gael gwybod am unrhyw benderfyniadau y bydd y cyngor yn eu gwneud ynghylch perchnogaeth fy nh i. Yn enwedig unrhyw gynlluniau hawl i brynu a allai fod o ddiddordeb i mi. Fe hoffwn i gael ffenestri dwbl. Rwyf bron yn 84 oed ac mae llawer o graciau o gwmpas y silffoedd ffenestri. Fe hoffwn i gael ffenestri a drysau newydd cyn y gaeaf gan fod fy ffenestri wedi pydru ac mewn cyflwr difrifol. Fe hoffwn i gael ffenestri newydd, ar y funud maer llenni yn chwythu i mewn ir ystafell pan fydd yn wyntog ac mae d r yn dod i mewn. Fe hoffwn i gael gwybod i ble maer holl arian rhent yn mynd. Yn amlwg, nid ywn mynd ir lle y dylai sef i gynnal stoc dai y cyngor. Fe hoffwn i gael paentior tu allan i edrych yn ffres a glan. Fe dalais am wneud hyn 3 blynedd yn ôl ond fedrai ddim fforddio i wneud hyn eto. Fe hoffwn i gael cegin go iawn  fe ofynnais am un pan oeddem yn symud i mewn  dim ond uned sinc sydd yma ar cyfan sydd gennyf yw cymysgedd o gypyrddau.! Fuaswn i ddim yn malio talu mwy o rent er mwyn cael t cynnes, cysurus a phreifat gydar holl welliannau wedi eu cwblhau h.y. cegin newydd a gwell trefn cynnal a thrwsio ar gael.
 
57
Dyfodol Tai Cyngor yng Ngwynedd. Adroddiad gan Gomisiwn Tenantiaid Gwynedd gyda chymorth Ymgynghorwyr PS Awst 2006.    Fe fyddain well gen i ir cyngor lleol barhaun berchennog y fflatiau hyn. Fe fyddain well gen i fod yn denant ir cyngor nag i gymdeithas dai. Fe hoffwn brynu fy nh fy hun. Pe byddai Arolygwr neu Ymgynghydd Tenantiaid yn dod o gwmpas ambell dro i weld drostynt eu hunain beth yw cyflwr yr adeiladau y maer tenantiaid yn byw ynddynt. Os na all y cyngor fforddio i brynu drysau a ffenestri newydd, fe ddylent o leiaf drwsior tyllau yn y drysau ar ffenestri presennol. Os na all y cyngor gwrdd âr safonau a osodwyd gan Llywodraeth Cynulliad Cymru dylair tai gael eu trosglwyddo i gymdeithas tai fydd yn gallu cynnig tai o well safon ac ansawdd i ni. Pe na byddair cyngor yn gwastraffu arian, ni fyddain rhaid i ni lenwir ffurflenni hyn. Pe na byddair cyngor wedi gadael iw tai fynd ir fath gyflwr gwael dros nifer o flynyddoedd, fe fyddair gost yn llawer llai, rhwng rwan a 2012. Os byddwn yn ennill gwobr, cadwch hi a rhowch hi tuag at ffenestri dwbl yn y fflatiau yma, gan mai nhw ywr unig rai o holl eiddor cyngor yn Nolgellau sydd heb gael ffenestri newydd. Nid wyf yn hapus efo cyflwr y stad ar y funud; mae yna ormod o bartïon, miwsig uchel a iaith aflan. Fy marn bersonol i yw nad oes neb yn gofalu bod gweithwyr y cyngor yn gwneud eu gwaith yn gyflym, maent yn tueddu i lusgo gyda pob gwaith mor hir ag y gallant. Yn fy nghartref presennol, nid oes dim wedi ei wneud o safbwynt ei addurno ac yn fy marn i fe ddylai hyn fod wedi ei wneud cyn ir eiddo gael ei osod ar rent. Ydyn byngalos ni yn mynd i gael ffenestri dwbl??? Maen bwysig nad ydyn tai ni yn gorfod disgwyl yn rhy hir am welliannau. Rydw i wedi bod yn disgwyl am ddwy flynedd i rywun ddod i blastro fy ystafell wely. Nid ywr deg ein bod ni yn cael ffenestri newydd yn 2012 ac eraill yn cael gwneud eu rhai hwy cyn hynny. Maen hanfodol iawn ein bod yn cael ffenestri dwbl yn fuan, mae ein ffenestri coed wedi pydru ar gwydr sengl yn cracio yn y gwres. Mae Coed Mawr i gyd fel hyn. Mae parcio yn anobeithiol ac yn mynd allan o bob rheolaeth. Mae ein car ni yn cael ei daro gan geir yn troi mewn lle cyfyng (cul de sac). Rydym wedi dioddef bob gaeaf gyda drafftiau drwyr ffenestri ac yn yr haf fedrwn ni ddim eu hagor am eu bod mewn cyflwr mor ddrwg. Fe fyddain fuddiol cael sied yn yr ardd; does dim lle i storio dim yn y tai yma. Fe fyddain fuddiol i denantiaid gael ffens o flaen ei tai i rwystro c n syn cael eu gadael allan dros nôs rhag baeddu yn eu gerddi. Fe fyddain braf pe byddai swyddogion cyngor Gwynedd yn ymweld âr tai yn amlach yn unol âr Ddeddf Anabl er mwyn gwneud yn sïwr bod y tenantiaid anabl yn hapus. Pam na chawn ni fod yr un fath â stadau eraill ym Mangor, does dim llawer o dai fel ein rhai ni ar ôl gyda ffenestri alwminiwm a chegin fach. Pam na allan nhw gael grant fel yn achos Maesgeirchen  maen nhw i weld yn cael popeth. Mae hi yn 2006 rwan  fe ddylair holl denantiaid cyngor fod efo gwres canolog a ffenestri dwbl ond dydyn nhw ddim. Ni ddylai unrhyw eiddo fod yn damp nag wedi llwydo. Fe hoffwn i weld yr holl fflatiau deulawr gyda drysau a ffenestri gwydr dwbl. Diffyg ymateb wrth i ni ofyn am welliannau, gorfod disgwyl yn rhy hir cyn bod neb yn dod i wneud y gwelliannau. Wedi fy ngadael gyda chostau ail addurdno a charpedu fy nghartref wedi ir trydanwyr ar plymwyr nwy adael y lle mewn llanast llwyr, gan achosi i mi fod yn wael yn yr ysbyty am fis gyda bil am £600. Llai o bethau ychwanegol! Mwy o stoc dai. Dylai tai lleol fynd i bob leol sydd eu hangen a dylair cyngor aros yn landlord. The exterior of the house needs painting, it has not been done for years, and fencing
 
58
Dyfodol Tai Cyngor yng Ngwynedd. Adroddiad gan Gomisiwn Tenantiaid Gwynedd gyda chymorth Ymgynghorwyr PS Awst 2006.    
too. The state of the sheds is disgusting, I am not satisfied with the standard of the new doors that have been fitted and I was not satisfied with the way my house was renovated. We have an economy 7 heating system and we are very pleased with it. I am happy here although the house is old and rather damp  I know that we would not get   anywhere better for a rent of £46.02 per week. Tai ir henoed yw Maes y Garnedd. Maent wirioneddol angen ffenestri newydd. Mae Adwyr Nant ar eu hail set o ffenestri dwbl. Felly byddwch cystal â meddwl am y bobl h n. Maer gwasanaeth cynnal yn wael iawn. Byddai cynnal eich eiddo yn rheolaidd yn cadw costau cynnal i lawr yn y tymor hir. Maer llwybr yn y cefn yn cracio  mae gwrych y ffermwr cyfagos yn tyfu ir ffordd gan sgriffio ceir y tenantiaid. Pan gafodd hyn sylw gadawyd toriadau coed ar y ffordd gan achosi niwed i deiars ceir y tenantiaid. Buaswn i a holl denantiaid lleol yn hoffi cael camera ar waelod Lon Cefn Du. Mae llawer wedi ei addo ond dim wedi ei gyflawni. Mwy o ddiddordeb yn anghenion tai cysgodol. Mae angen gwneud rhagor dros yn anabl yn lleol. Nid oes digon o adnoddau parcio ar gyfer yr anabl yma ac mae pobl nad ydynt yn denantiaid yn y bloc yn ei ddefnyddio fel pe byddair stryd yn eiddo iddynt hwy. . Mae rhagor o fannau parcio yn hanfodol. Dylid gwneud rhagor i bobl sydd yn byw mewn lle rhy fach h.y. tai un ystafell wely, 3 o bobl yn byw mewn un ystafell a phobl sydd eisoes mewn tai 3 ystafell wely yn cael tai newydd. Fel arall y dylai fod. More should be done to stop vandalism, anti social behaviour and also disturbances involving cars etc. in Maen Hyfnyd, Carmel, Caernarfon Nid yw fy ngwres canolog erioed wedi gweithio. Mae gen i sinc yn y gegin a dim arall, dim lle i storio dim. Fy mhryder mawr i yw diffyg diddordeb gan y cyngor mewn safonau gofal ar gyfer yr henoed sydd yn ei chael yn anodd iawn cael neb iw helpu gydau hanghenion. O.N o ble maer arian yn dod ar gyfer y wobr? Mae fy merch i wedi bod ar y rhestr am wyth mlynedd a bob tro yn bydd yn ffonior cyngor maent yn anghwrtais tuag ati a dim amser iddi. Buaswn yn hoffi i rywun roi sylw i hyn. Rydw i wedi bod yn denant ir cyngor am 15 mlynedd heb unrhyw broblemau. Mae fy fflat i wedi ei adeiladu ers 15 mlynedd. Nid ywr coridor cymunedol wedi ei baentio ers hynny  mae ei gyflwr yn rhoi argraff ddrwg am y fflatiau yn gyffredinol. Mae fy fflat i angen ei ail baentio. Fe ddywedodd y cyngor y byddent yn gwneud y gwaith cynnal ond nid ydynt yn fodlon talu am y llafur. Mae fy ngardd i yn tyfun wyllt; mae wedi cyrraedd y pwynt lle bydd arnaf angen help i dorrir gwellt. Rydwi wedi sgwennu at y cyngor yn gofyn am help ac yn disgwyl ateb ganddynt. Dylair cyngor wneud yn sïwr bod pob eiddo yn ddiogel ac yn addas iw ddefnyddio cyn i denantiaid symud i mewn. Does dim gwaith wedi ei wneud ar fy nghartref i ers iddo gael ei adeiladu. Maer ffenestri yn pydru, maer eiddo yn damp, dim gwres nag insiwleiddiad ac mae gen i ddau o blant bach. Credaf y dylair cyngor flaenoriaethu a pheidio ag ail wneud pethau sydd eisoes wedi eu hail wneud. Nid oes ffens o gwmpas fy nghartref i. Maen agored ac mae llawer o draffig ac nid ywr cyngor yn fodlon gosod rhoi ffens i mi. Mae gen i fab 5 oed ac rydwin meddwl bod hyn yn warthus. Mae fy nghartref i mewn cyflwr da er y gallai wneud efo cael ei baentio oddi allan. Mae fy nghartref i mewn cyflwr da gan ei fod wedi cael cegin, ystafell ymolchi, gwres
 
59
Dyfodol Tai Cyngor yng Ngwynedd. Adroddiad gan Gomisiwn Tenantiaid Gwynedd gyda chymorth Ymgynghorwyr PS Awst 2006.    canolog a ffenestri dwbl yn ddiweddar. Mae hefyd mewn ardal dda ac rydwin hapus efo fy nh  Mae angen grisiau newydd yn fy nh  i, maer ffenestri wedi eu gosod yn anghywir. Pan fydd yn bwrw glaw bydd pwll y tu allan ir drws cefn. Mae mwyafrif y droriau ar cypyrddau yn y gegein yn wlyb ac maer toiled yn gostwng wrth ir llawr gael ei fwyta gan bydredd. Gallwn ddweud llawer mwy Mae fy ngwraig a finnau yn ein 80au ac wedi byw yn y cyfeiriad hwn ers 41 blynedd ac wedi derbyn gwasanaeth da gan y cyngor. Mae angen trefn well ar gyfer tai ayb. Angen peiriant golchi a sychwr i fyny grisiau, maen anodd mynd i fyny ac i lawr y grisiau efor dillad, gallwn syrthio. Dylid symud cymdogion nad ydynt yn edrych ar ôl eu heiddo. Rydym angen cegin a ffitiadau ystafell ymolchi or newydd. Maer sied angen sylw hefyd Drws ffrynt a drws cefn newydd. Mae drysau ar y stad yma yn dda i ddim  fe fedrwch wrthio gwaelod y drws a gallai unrhyw un fynd i mewn. Wedi cael addewid am ffenestri newydd ers 7 mlynedd ac yn dal i ddisgwyl. Ni fydd y Cyngor byth yn ymgynghori â ni. Mae oriaur warden wedi eu gostwng o 35 awr yr wythnos i 15. Mae gwasanaeth cynnal a thrwsio yn wael ac yn rhy araf. Cynnydd arfaethedig yng nghostau warden o Ebrill 2007 AAP: 128% yr wythnos. Cynnydd mewn rhent/treth ar gyfartaledd 5% P.A / dwywaith graddfa chwyddiant Ni wnaed unrhyw welliannau ers 16 mlynedd. Rwyf angen cegin ac ystafell ymolchi newydd. Na, dim o gwbl diolch! Dioch am ddim byd!!! Dylid ymdrin â chymdogion swnllyd a ch n ar fyrder ac yn fwy effeithlon. Mae gennyf ystafell wely damp ers 15 mlynedd a mwy,ac nid oes unrhyw beth wedi cael ei wneud i wellar sefyllfa. Dim wedi ei wneud i du mewn fy nghartref ac yn dal i ddisgwyl am ddrysau PVC gyda chloeau diogelwch. Maer uned sinc yr un a osodwyd gennym ni pan oeddym yn symud i mewn. Dim lle yn y gegin. Mae ein t ni wirioneddol angen ei adnewyddu, yn enwedig y gegin ar lolfa. Mae ein t ni angen cegin newydd a drws ffrynt a drws cefn newydd hefyd. Mae ein cegin ni y fwyaf anhwylus bosibl am barn i yw y dylair Cyngor osod un newydd yma. Ychydig iawn o le i storio sydd ynddi ac maen anodd iawn cogionio ynddi. Mae ein cegin ni t  ni wirioneddol angen ei hadnewyddu, maen fach iawn, dim cypyrddau ac maer stôf yn agos iawn at y sinc. Mae ein ffenestri yn pydru ac fe fyddant wedi syrthio allan un or dyddiau yma. Mae tu allan y byngalos angen eu trwsio au paentio. Mae treth y cyngor yn llawer rhy uchel. Mae gwaith y tu allan, fel paentio drysau a ffenestri angen sylw ar frys, ac felly hefyd y landerydd ar siediau oddi allan. Drwyddo draw mae system tai y cyngor yn ddull o ddarparu tai rhesymol. Maer hawl i brynu yn golygu bod llai o dai ar gael ir teuluoedd tlotaf. Y rheswm gwreiddiol dros gael tai cyngor yn y lle cyntaf? Dim y cam cyntaf ar y grisiau i brynu eiddo!! Mae parcio yn Bron Bethel Rachub yn broblem a gellid ei datrys. Maer llwybrau o amgylchy byngalos pensiynwyr angen sylw. Gan ein bod yn bobl h n, maen hawdd iawn i ni faglu. Fe ddylid rhoi mwy o flaenoriaeth ir bobl syn byw yn ardal Gwynedd nag ir bobl or tu allan. A fyddain bosibl rhoi mwy o sylw i lanhau grisiau a choridorau yn gyffredinol ym Mro Llewelyn gan fod hwn yn adeilad sydd wedi ei anwybyddu yn llwyr? Hefyd glanhau ochr allan y ffenestri.
 
60
Dyfodol Tai Cyngor yng Ngwynedd. Adroddiad gan Gomisiwn Tenantiaid Gwynedd gyda chymorth Ymgynghorwyr PS Awst 2006.    
Cael gwybod ymlaen llaw pan fydd gweithwyr yn dod. Dylid glanhau ochr allan y ffenestri yn amlach nag unwaith y flwyddyn. Nid yw Cwestiwn 7 yn un teg, cyfunor ddau! Yn fy marn i dylai CG ddatganoli ac wedyn efallai y bydd De Meirionnydd yn derbyn rhywfaint o sylw. C5. Parch gan staff swyddfeydd y cyngor/staff gwaith y cyngor. O safbwynt ceisiadau am drwsio, nid ydynt yn cymryd ceisiadau gan denantiaid o ddifrif. Nid yw ansawdd y gwaith yn dda o gwbl, ac nid ydynt yn malio. C5. Cyfle i denantiaid? Nag oes. Maen hawdd iawn gwario arian pobl eraill, C6. Ffensio h.y. o gwmpas y lein ddillad. C6. Bocs llinell felen ar gyfer y gwasanaethau argyfwng. Llinell wen i nodi mannau parcio tenantiaid. C8. Mae cyfarfodydd cyhoeddus a sioeau teithiol yn dod âr cwynwyr allan ond nid y rhai syn gallu helpu eu hunain au cymdogion. Gallai gwario £100 heddiw ar drwsio cyffredinol a phaentio arbed £1000 mewn costau trwsio ymhen blynyddoedd h.y. nid yw rhai drysau a ffenestri wedi eu paentio ers 7 mlynedd a mwy. C7. Gobeithion fawr nad ywn adlewyrchu ar bolisir cyngor o safbwynt trosglwyddor stoc dai. Gallair cyngor wneud mwy o waith adnewyddu ar gyfer yr henoed / yr anabl o fewn y terfyn amser a pheidio â gwario ar ail wneud ac ail wneud oherwydd nad ywr gwaith yn cael ei wneud yn iawn yn yn lle cyntaf. Dylair cyngor hefyd atal tenantiaid rhag cael tai yn hytrach na fflatiau. Mae Cwestiwn 7 braidd yn anhyblyg. Er fy mod yn cymryd y gall cymdeithas dai gael arian ar gyfer trwsio/gwelliannau hanfodol, nid ywn dilyn mai felly y bydd pethau. Felly, pam na all y Canghellor ariannu pwy bynnag y maer tenantiaid am ei gael yn landlord iddynt? Ymddengys i mi bod y sefyllfa bresennol yn achos o ddim dewis o gwbl o dan bolisi presennol y llywodraeth. Yn ddiweddar cafodd y systemau larymau tân eu newid ar gwaith weirio ei adnewyddu. Mae nifer o dyllau a mannau hyll yn dal ar ôl. Rhwystro parcio anghyfreithiol ar linellau melyn dwbl yn Stryd Wesley. Mae rhenti wedi codi ychydig ond maer gwaith cynnal wedi gwella. Mae gwaith trwsio a chynnal yn warthus ar y funud. Rydym wedi bod yn disgwyl ers 20 mis yn awr am i lawr yr ystafell ymolchi gael ei drwsio. Gwneud gwaith trwsio yn gynt. Gwneud gwaith trwsio yn syth yn lle bod angen disgwyl 6-12 mis cyn y caiff ei wneud. Dylai parcio ar gyfer preswylwyr fod yn fater hanfodol. Dylid rhwystro talfu gwastraff domestig yn y Cul-de-Sacs. I am 78 years old and living in a flat in lelyn. I have two cats and I am finding it difficult to look after them. I cannot afford to pay anyone to cut the grass. I would like to have some help with these matters. Dylem gael hawl i baentio ein tai ein hunain, dylair cyngor wneud rhywbeth ynghylch y gorlifo yn y gerddi. Fe ddylai bod rhagor o dai/fflatiau fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc gan ei bod yn amhosibl prynu eiddo oherwydd bod prisiaur farchnad mor uchel, hefyd mae cyflogau yn isel yn yr ardal hon. Dylai swyddogion alw heibio unwaith y flwyddyn i weld os yw pobl angen gwneud rhywbeth iw tai yn lle galw a gwneud dim. Tynnwch eich bysedd allan a bydd pobl yn eich gwerthfawrogi yn well. Oni ddylid bod yn edrych ar gyflwr y tai (bob 2 flynedd). Pa mor hir y maen rhaid bod yn denant cyn bod gennych yr hawl i brynur eiddo? Rydwin disgwyl am gael gwelliannau ir toiled allan, y sied a rhagor, ers i mi symud i mewn naw mlynedd yn ôl. Rwyf hefyd angen ffenestri newydd, gan eu bod yn rhydd ac yn gollwng pan fydd yn bwrw glaw. Ers pan ydwin byw yma rydwi wedi bod yn gofyn am ffenestri dwbl. Mae llwydni o gwmpas pob ffenestr yn y t ac maen achosi problem gan fod fy nodrefn yn difetha
 
61
Dyfodol Tai Cyngor yng Ngwynedd. Adroddiad gan Gomisiwn Tenantiaid Gwynedd gyda chymorth Ymgynghorwyr PS Awst 2006.    
oi achos. Mae rhai or tai cyngor yng Ngwynedd mewn cyflwr drwg iawn gan eu bod wedi eu hadeiladu lawer o flynyddoedd yn ôl ac angen gwelliannau erbyn hyn. Y rhai y mae pobl yn byw ynddynt sydd dan sylw gennyf. Gadewch i ni roi sylw ir rhai hynny yn gyntaf gan fod arian yn broblem, a rhoi sylw i ffensus a chaeau chwarae ayb ymhellach ymlaen  hynny yw, rhoi sylw i faterion sydd yn effeithio ar iechyd pobl yn   gyntaf. Maen anodd derbyn y gosodiadau ynghylch problemau ariannu wrth drafod gwelliannau i eiddor cyngor pan fo arian mawr yn cael ei wario mewn rhai mannau. Rwyf yn cyfeirio yn benodol at osod ffenestri dwbl mewn siediau ym Mro Silyn, tra bod tai a byngalos eraill yn dioddef gyda ffenestri coed ar rheini yn wydr sengl ac yn aml yn pydru  sut y gellir cyfiawnhau hyn? Hefyd o safbwynt Gloddfa Glai, dylid cwestiynur holl waith cynllunio ar y safle hwn. Mae angen sylw arbennig i dai ar gyfer yr anabl ar henoed. Mae gosod llwybr cyhoeddus o gwmpas y rhes gyfan, ou blaenau ar tu cefn iddynt, yn ddisynnwyr. Mae plant y pentref yn dychryn y preswylwyr trwy daflu pethau i gefn yr eiddo a gwrthio pethau drwyr ffens. Caiff peli eu taflu yn gyson yn erbyn talcen y byngalos ac mae tyllau yn y ffens yn gwneud cefnaur byngalos yn agored i bawb weld i mewn ac maer cynllun agored yn golygu bod byw ynddynt fel byw mewn sw  dim preifatrwydd yn y ffrynt nac yn y cefn. Dim gwres canolog na ffenestri dwbl byth Dal i ddisgwyl am gael paentio tu allan y t , flwyddyn yn ddiweddarach. Dylai goleuadau ar y stryd fod yn llawer mwy disglaer. Mynd ir afael â throsedd ac ymddygiad gwrth gymdeithasol. Dylai tenantiaid geisio gwella eu cartrefi eu hunain gymaint ag a allant. Maer ardal o gwmpas y fflatiau yn cael ei hanwybyddu. Gellid agor y drws cefn yn hawdd iawn trwy ei wthio ac nid ydym yn teimlon ddiogel yma. Nid oes lle iawn i blant chwarae ar y stad yma e.e sleid, ffram ddringo a rhagor. Maent yn chwarae o gwmpas ceir o flaen y tai ac yn gwneud difrod iddynt. Ystyriwch adeiladu parc ir plant hyn au cadw oddi ar y ffordd fawr!!! Mae cyflwr y ffenestri ar drysau angen sylw. Mae pris tanwydd yn destun pryder, mae bag yn costio £13.00. Maer cyngor ym Mangor o hyd yn dweud nad oes ganddynt yr arian i wneud gwelliannau. Pam? Maen fwy na Môn ond mae Môn yn gallu gwneud gwelliannau ac yn fodlon eu gwneud. Rydych yn cael y teimlad eich bod y poeni staff y cyngor a does ganddynt ddim diddordeb ynoch. Pan fyddwch yn ffonior cyngor mae fel pe byddech yn eu deffro ou cwsg  does ganddynt ddim diddordeb. A phan fyddwch yn cael gair efo rhywun uwch yr unig beth maent yn ei ddweud yw nad ydym yn gwneud hynna mwyach, mae yn ormod o waith ac os ydych eisiau rhagor o wybodaeth dewch i gysylltiad. Dynar math o addewid a gefais i pan symudais i mewn ac maer addewid wedi ei thorri. Fe ddylair cyngor ateb pob galwad am waith trwsio achos rydwi wedi gwneud cwynion a cheisiadau or blaen ond does neb yn rhoi sylw iddynt. Dylair cyngor fynnu bod pobl syn byw mewn tai cyngor yn torri eu gwrychoedd gan fod rhai gwrychoedd mor uchel â choed. Dylair cyngor wneud rhagor o waith trwsio. Dylair cyngor roi mwy o sylw i broblem cymdogion swnllyd ac ymddygiad gwrth gymdeithasol. Dylair cyngor hefyd roi sylw i gyflwr y tai ar gerddi. Dylair cyngor wneud pob ymdrech i gyflenwi ffenestri a drysau gwydr dwbl. Dylair cyngor wneud yn sïwr bod y tenantiaid sydd yn gwneud difrod ac yn gadael sbwriel yn talu neu yn cael eu symud. Rydym hefyd angen wardeniaid traffig ar y stryd. Maer cypyrddau yn ein cegin ni yn hen iawn, fe ddaeth rhywun i gael golwg arnynt a
 
62
  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents