Revised Audit Code Bulletin NC-WELSH2
5 pages
Welsh

Revised Audit Code Bulletin NC-WELSH2

-

Le téléchargement nécessite un accès à la bibliothèque YouScribe
Tout savoir sur nos offres
5 pages
Welsh
Le téléchargement nécessite un accès à la bibliothèque YouScribe
Tout savoir sur nos offres

Description

Y Cyngor Cenedlaethol – ELWa Côd Ymarfer Archwilio - Diwygiad At: Penaethiaid sefydliadau addysg bellach yng Nghymru Crynodeb: Pwrpas y Llythyr Perthynol i Archwilio hwn yw ychwanegu at y Côd Ymarfer Archwilio Presennol er mwyn adlewyrchu newidiadau statudol a datblygiadau mewn llywodraethu corfforaethol. Cyfeirnod: ARL/FE/11 Dyddiad Cyhoeddi: 29 Tachwedd 2002 Gwybodaeth Bellach: Rob Rogers e-bost: rogersr@elwa.org.uk Teleffon: 01443 663710 Cyfeiriad: ELWa De-ddwyrain Cymru Ty’r Afon Ffordd Bedwas Bedwas Caerffili CF83 8WT 1 Cefndir 1.1 Mae memoranda ariannol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) gyda'r sefydliadau addysg bellach yn mynnu bod y sefydliadau yn sefydlu trefniadau archwilio yn unol â Chôd Ymarfer Archwilio (y Côd). Er pan ffurfiwyd y Cyngor, mae'r ymrwymiad hwn wedi ei fodloni trwy barhau i weithredu gofynion Côd CCABC a gyhoeddwyd ym 1999. 1.2 Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor ar ganol datblygu system gynllunio a chyllido newydd ar gyfer dysgu ôl-16 (gan eithrio addysg uwch) yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys adolygu'r trefniadau sy'n ofynnol i gyflawni cyfrifoldeb y Cyngor dros sicrhau gwerth am arian, o fewn fframwaith o ymarfer gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb. 1.3 Digwyddodd nifer o newidiadau yn y darpariaethau statudol ac mewn arferion archwilio er pan gyhoeddwyd y Côd. Bydd angen i'r sefydliadau gymryd y rhain i ystyriaeth yn y cyfamser, cyn sefydlu'r system gynllunio a ...

Informations

Publié par
Nombre de lectures 39
Langue Welsh

Extrait

Y Cyngor Cenedlaethol – ELWa
Côd Ymarfer Archwilio - Diwygiad
At:
Penaethiaid sefydliadau addysg
bellach yng Nghymru
Crynodeb:
Pwrpas y Llythyr Perthynol i
Archwilio hwn yw ychwanegu at y
Côd Ymarfer Archwilio Presennol er
mwyn adlewyrchu newidiadau
statudol a datblygiadau mewn
llywodraethu corfforaethol.
Cyfeirnod:
ARL/FE/11
Dyddiad Cyhoeddi:
29 Tachwedd 2002
Gwybodaeth Bellach:
Rob Rogers
e-bost:
rogersr@elwa.org.uk
Teleffon: 01443 663710
Cyfeiriad:
ELWa
De-ddwyrain Cymru
Ty’r Afon
Ffordd Bedwas
Bedwas
Caerffili
CF83
8WT
1
Cefndir
1.1
Mae memoranda ariannol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) gyda'r sefydliadau addysg
bellach yn mynnu bod y sefydliadau yn sefydlu trefniadau archwilio yn unol â Chôd Ymarfer
Archwilio (y Côd).
Er pan ffurfiwyd y Cyngor, mae'r ymrwymiad hwn wedi ei fodloni trwy barhau i
weithredu gofynion Côd CCABC a gyhoeddwyd ym 1999.
1.2 Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor ar ganol datblygu system gynllunio a chyllido newydd ar
gyfer dysgu
ôl-16 (gan eithrio addysg uwch) yng Nghymru.
Bydd hyn yn cynnwys adolygu'r trefniadau sy'n
ofynnol i gyflawni cyfrifoldeb y Cyngor dros sicrhau gwerth am arian, o fewn fframwaith o ymarfer
gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb.
1.3
Digwyddodd nifer o newidiadau yn y darpariaethau statudol ac mewn arferion archwilio er pan
gyhoeddwyd y Côd.
Bydd angen i'r sefydliadau gymryd y rhain i ystyriaeth yn y cyfamser, cyn
sefydlu'r system gynllunio a chyllido newydd.
2
Cyflwyniad
2.1
Digwyddodd y newidiadau allweddol canlynol:
a) diwygiadau a wnaed ym Medi 1999 yn Offeryn ac Erthyglau'r Sefydliadau;
b) datblygiadau yn arferion archwilio'r sector cyhoeddus o ganlyniad i adroddiad Turnbull a
diwygiadau yn Safonau Trysorlys EM ar gyfer archwilio mewnol;
ac
c) diwygiadau yn y gofynion adrodd a bennir yng Nghyfarwyddiadau Cyfrifon y Cyngor.
2.2
Pwrpas y Llythyr Perthynol i Archwilio (LlPA) hwn yw nodi gofynion y Cyngor mewn perthynas ag
archwilio, sy'n tarddu o'r newidiadau hyn.
3
Cyflawni
3.1
Dylai'r sefydliadau fabwysiadu darpariaethau'r LlPA hwn ar unwaith, yn amodol ar eu cylchoedd ar
gyfer cynllunio ac adrodd am archwiliadau.
3.2
Mae'r gofynion sydd yn y LlPA hwn mewn perthynas â swyddogaeth a chwmpas y pwyllgor
archwilio, a chydymffurfiaeth archwilwyr mewnol â Safonau Archwilio Mewnol y Llywodraeth
(SAMLl), yn rhai gorfodol.
Bydd y sicrwydd a ddarperir gan y prosesau archwilio a seilier ar y
gofynion hyn, yn sylfaen i ddatganiadau llywodraethu corfforaethol y sefydliad yn ei gyfrifon
statudol.
4
Pwyllgorau Archwilio
Swyddogaeth a Chylch Gwaith
4.1
Corff Ymgynghorol yw'r Pwyllgor Archwilio, a sefydlwyd i gynghori'r Corff Llywodraethu ar
effeithiolrwydd trefniadau archwilio'r sefydliad.
Dylid newid cylch gorchwyl y Pwyllgor i gynnwys:
a) adolygu mecanweithiau'r sefydliad ar gyfer asesu a rheoli risgiau;
a
b) adolygu'r mecanweithiau sicrwydd sy'n sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion llywodraethu
corfforaethol y sefydliad.
Aelodaeth
4.2
Mae'r darpariaethau mewn perthynas ag aelodaeth o'r Pwyllgor Archwilio, a nodir yn y Côd
presennol, yn parhau'n berthnasol.
Yn Erthyglau Llywodraethu diwygiedig y sefydliadau caniateir
cynnwys yn yr aelodaeth gweithwyr cyflogedig y gorfforaeth, ac eithrio deiliaid uwch swyddi.
4.3
Fodd bynnag, mater i'w benderfynu gan y Cyrff Llywodraethu yw hwn, gan roi sylw i unrhyw
wrthdrawiad buddiannau a allai ddigwydd.
Os penodir cyflogeion yn aelodau, rhaid sefydlu
mecanwaith eglur i ymdrin ag unrhyw wrthdrawiadau buddiannau wrth iddynt ymddangos.
Adrodd
4.4
Dylai adroddiad blynyddol y Pwyllgor Archwilio i'r Corff Llywodraethu adlewyrchu'r dyletswyddau
ychwanegol hyn. Dylai gasglu at ei gilydd waith yr archwilwyr mewnol ac allanol, ac unrhyw waith
arall a wnaed yn ystod y flwyddyn, er mwyn datgan barn ar ba mor bell y gall y Corff Llywodraethu,
wrth ymgymryd â'i gyfrifoldebau, ddibynnu ar drefniadau'r sefydliad ar gyfer rheoli, defnyddio
rheolaethau a llywodraethu mewn perthynas â risg.
4.5
Mae'n ofynnol i sefydliadau gynnwys datganiad llywodraethu corfforaethol llawn yn eu cyfrifon
statudol am 2002/03.
Bydd adroddiad blynyddol y Pwyllgor Archwilio yn arbennig o berthnasol ar
gyfer cwblhau'r datganiad hwnnw, ac felly dylid ei gyflwyno i'r Corff Llywodraethu cyn ei lofnodi'n
derfynol.
5
Archwilio Mewnol
Swyddogaeth a Chylch Gwaith
5.1
Mae'r Côd presennol yn mynnu bod archwilwyr mewnol yn cydymffurfio â Llawlyfr Archwilio Mewnol
y Llywodraeth a gyhoeddir gan Drysorlys EM.
Ym mis Gorffennaf 2001, cyhoeddodd Trysorlys EM
gyfres o Safonau Archwilio Mewnol y Llywodraeth.
Dylai archwilwyr mewnol gyflawni eu gwaith yn
unol â'r safonau hyn.
5.2
Dylai cylch gwaith y gwasanaeth archwilio mewnol gwmpasu holl brosesau'r sefydliad ar gyfer
rheoli, gweithredu rheolaethau a llywodraethu mewn perthynas â risg, yn holl weithgareddau'r
sefydliad, gan gynnwys y prosesau na chyllidir gan y Cyngor Cenedlaethol - ELWa.
5.3
Prif gyfrifoldeb y gwasanaeth archwilio mewnol yw darparu sicrwydd i Ddeiliad Swydd Dynodedig y
Sefydliad ac i'r Corff Llywodraethu, ynghylch y prosesau a weithredir yn y sefydliad ar gyfer rheoli,
gweithredu rheolaethau a llywodraethu mewn perthynas â risg.
Twyll ac Afreoleidd-dra
5.4
Dylai arolygwyr mewnol, yn eu holl waith, fod yn effro i'r risgiau a'r cyfleoedd a allai achosi
afreoleidd-dra, twyll a llygredd.
Y rheolwyr sy'n bennaf cyfrifol am atal a darganfod, a dylent sefydlu
systemau digonol ac effeithiol ar gyfer rheoli, gweithredu rheolaethau a llywodraethu mewn
perthynas â risg.
Dylid rhoi gwybod i'r archwilydd mewnol am bob twyll a amheuir neu a ganfyddir,
fel y gellir ystyried digonolrwydd y rheolaethau perthnasol, ac unrhyw effaith ar y farn a fynegir
ynghylch rheoli, gweithredu rheolaethau a llywodraethu mewn perthynas â risg.
Y Dull o Weithredu
5.5
Fel rheol, dylai'r gwasanaeth archwilio mewnol fabwysiadu dull systematig sy'n seiliedig ar risg.
5.6
Prif amcan yr archwilio yw gwerthuso pa mor effeithiol y rheolir risgiau, datgelu unrhyw wendidau ac
aneffeithiolrwydd, gan gynnwys enghreifftiau posibl o reolaethau gormodol neu werth isel am arian.
Er mwyn cyflawni hyn, dylai'r archwilydd mewnol:
a) nodi a chofnodi amcanion, risgiau a rheolaethau;
b) sicrhau bod cyfatebiaeth rhwng yr amcanion a'r amcanion corfforaethol lefel-uwch;
c) gwerthuso dadansoddiad y rheolwyr o'r risgiau, gan ystyried eu parodrwydd i dderbyn risgiau
penodol;
d) gwerthuso'r rheolaethau o safbwynt egwyddor, er mwyn penderfynu a ydynt yn briodol ai peidio,
ac a yw'n rhesymol dibynnu arnynt i gyflawni eu pwrpas;
e) nodi unrhyw enghreifftiau o reolaethau gormodol;
f)
gwerthuso effaith unrhyw benderfyniad gan y rheolwyr i dderbyn risgiau yn hytrach na'u
trosglwyddo neu eu trin;
g) penderfynu ar strategaeth briodol i brofi effeithiolrwydd y modd y rheolir risg, a'r rheolaethau a
ddefnyddir;
h) cyrraedd casgliadau ac adrodd, gan wneud argymhellion fel y bo angen, a datgan barn ar y
modd y rheolir risgiau ac ar y rheolaethau yn y maes a archwilir.
5.7
Trwy'r dull hwn o weithredu, gall yr archwilydd mewnol gyrraedd y casgliadau sy'n angenrheidiol i
ffurfio barn am ddigonoldeb ac effeithiolrwydd y prosesau ar gyfer rheoli, defnyddio rheolaethau a
llywodraethu mewn perthynas â risg o fewn y sefydliad.
Dylai'r rheolaethau a defnyddir fod yn
gymesur â'r risgiau sy'n oblygedig; a chyfrifoldeb y rheolwyr, o dan oruchwyliaeth y Corff
Llywodraethu, yw dyfarnu ar y cydbwysedd priodol rhwng y risgiau a'r rheolaethau.
Cynllunio
5.8
Dylai gwaith yr archwilydd mewnol, ar bob lefel o weithredu, fod wedi ei gynllunio, ac yn seiliedig ar
y cylch gorchwyl a gytunwyd.
5.9
Dylid cychwyn pob cylch o archwilio mewnol trwy gynnal asesiad ffurfiol o anghenion archwilio'r
sefydliad, ar ffurf strategaeth archwilio a baratoir gan yr archwilydd mewnol.
Dylai'r strategaeth
gynnwys:
a) nodi pob un o'r meysydd sydd i'w hadolygu, gan ddefnyddio amcanion ac asesiad risg y
sefydliad fel y prif adnodd. Dylai'r strategaeth gynnwys unrhyw risg a ystyrir gan yr archwilydd
mewnol yn berthnasol i'r modd y mae'r sefydliad yn rheoli, yn defnyddio rheolaethau ac yn
llywodraethu mewn perthynas â risgiau, hyd yn oed os na chynhwysir hi gan y rheolwyr yn eu
blaenoriaethau risg;
b) darpariaeth ar gyfer adolygu yn systematig y modd y mae'r sefydliad yn rheoli ei risgiau trwy
gyfrwng ei bolisïau, ei weithdrefnau a'i weithrediadau;
c) penderfynu ar yr adnoddau a'r sgiliau a fydd yn ofynnol ar gyfer cyflawni'r strategaeth archwilio;
d) nodi'r detholiad o dechnegau archwilio mwyaf effeithiol ar gyfer cyflawni amcanion yr archwiliad;
ac
e) darparu ar gyfer ystyried, o leiaf yn flynyddol, asesiad risg y sefydliad.
Dylai'r archwilydd mewnol ymgynghori â'r archwilydd allanol yn ystod y cyfnod cynllunio, rhag
dyblygu gwaith.
5.10 Dylai'r gwasanaeth archwilio mewnol baratoi cynlluniau gwaith cyfnodol ar gyfer cyflawni'r
strategaeth archwilio.
Dylai'r cynlluniau hyn bennu pa aseiniadau sydd i'w cwblhau o fewn y
cyfnod, nodi yn fras y gofynion o ran adnoddau a sgiliau a phennu blaenoriaethau cymharol ar gyfer
pob aseiniad.
5.11 Cyfrifoldeb y Pwyllgor Archwilio, gyda chyngor gan yr archwilydd mewnol, yw gwneud argymhellion
i'r Corff Llywodraethu yngly^n â lefel y gwaith archwilio a'r gwariant cyfatebol ar archwilio mewnol,
gan roi sylw i'r asesiad o'r risg archwiliadol.
5.12
Rhaid i'r strategaeth archwilio a'r cynlluniau gwaith cyfnodol gael eu cymeradwyo gan y Corff
Llywodraethu, ar argymhelliad y Pwyllgor Archwilio.
Dylai unrhyw gyfyngu sylweddol ar lefel y
gwaith archwilio, a'r risg sy'n gysylltiedig â hynny, gael eu cyfeirio i sylw'r Deiliad Swydd Dynodedig
a'r Corff Llywodraethu.
Adrodd
5.13
Y Corff Llywodraethu, gyda chyngor gan ei Bwyllgor Archwilio, a ddylai benderfynu ar y trefniadau ar
gyfer adroddiadau'r archwiliad mewnol. Dylai hefyd ddiogelu annibyniaeth a gwrthrychedd yr
archwilydd mewnol.
5.14
Ar ddiwedd pob aseiniad archwilio, dylai'r archwilydd mewnol ddarparu adroddiad i'r rheolwyr.
Dylai'r adroddiad nodi'r canfyddiadau a'r argymhellion sy'n codi ac, ar gyfer pob archwiliad sy'n
seiliedig ar risg, dylai ddatgan barn ar ddigonoldeb ac effeithiolrwydd y dull o reoli, defnyddio
rheolaethau a llywodraethu mewn perthynas a risg yn y maes a archwiliwyd.
5.15
Mae'n rhaid i'r archwilydd mewnol baratoi adroddiad blynyddol.
Dylai'r adroddiad gwmpasu cyfnod
cyfrifo'r sefydliad, a dylid ei gyflwyno mewn pryd i oleuo'r gwaith o baratoi adroddiad blynyddol y
Pwyllgor Archwilio a datganiad llywodraethu corfforaethol y Corff Llywodraethu.
5.16 Rhaid cyfeirio'r adroddiad i'r Deiliad Swydd Dynodedig a'r Corff Llywodraethu, a rhaid iddo gael ei
ystyried gan y Pwyllgor Archwilio.
Fel lleiafswm, rhaid iddo gynnwys asesiad y gwasanaeth
archwilio mewnol o ddigonoldeb ac effeithiolrwydd prosesau'r sefydliad ar gyfer rheoli, defnyddio
rheolaethau a llywodraethu mewn perthynas â risg.
Dylid gosod y farn hon yn ei chyd-destun
priodol, h.y. fod y gwaith a wnaed yn seiliedig ar y strategaeth archwilio a'r gwaith a gyflawnwyd yn
ystod y flwyddyn, yn ogystal â gwybodaeth o archwiliadau yn y blynyddoedd blaenorol (gan
gynnwys rhai gan archwilydd blaenorol).
5.17 Dylai'r adroddiad nodi'r canlynol:
a) y cwmpas a gyrhaeddwyd o gymharu â'r cynlluniau archwilio;
b) unrhyw faterion y mae'r archwilydd mewnol yn tybio sy'n arbennig o berthnasol i baratoi'r
datganiad llywodraethu corfforaethol;
c) mesurau perfformiad yr archwiliad mewnol;
d) unrhyw argymhellion archwiliad arwyddocaol y tybia'r gwasanaeth archwilio mewnol na
chawsant sylw digonol gan y rheolwyr.
Cylch Gorchwyl
5.18
Dylai'r newidiadau i'r drefn archwilio mewnol gael eu cynnwys yng Nghylch Gorchwyl yr archwilydd,
ac yn y llythyr penodi, lle y darperir y gwasanaeth yn allanol.
Mae'r gofyniad hwn yn ddiweddariad
i'r Model Cylch Gorchwyl yn Atodiad C y Côd.
6
Archwilio Allanol
Adrodd
6.1
Mae'r Cyfarwyddyd Cyfrifon NC/C/02/14FR yn pennu gofynion y Cyngor mewn perthynas ag
archwilio allanol.
Dylai'r sefydliadau sicrhau y cynhwysir y gofynion hyn yn llythyr penodi eu
harchwilwyr allanol.
6.2
Mae'r Cyfarwyddyd cyfrifon yn cynnwys enghraifft o farn archwilydd allanol.
Mae’r enghraifft hon yn
cymryd lle'r geiriad a awgrymir yn Atodiad G y Côd.
6.3
Gall Cyrff Llywodraethu hefyd ofyn i'r archwilydd allanol ymgymryd â gwaith i gefnogi 'r datganiad
llywodraethu corfforaethol. Pan wneir hyn, dylai'r sefydliadau wneud yn sicr y pennir y gwaith hwn
yn eglur yn y llythyr penodi, a bod barn yr archwilydd allanol yn nodi cwmpas y gwaith a
ymgymerwyd.
  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents