Cymru yn Ewrop GM-08-98-012-2L-C Cymru Cynnwys Cyflwyniad 2 1 | Proffil rhanbarthol 3 • Y Gymraeg 2 | Datblygu cysylltiadau 7 (A) Proses llunio polisïau (B) Ymgynghori a chyfranogi rhanbarthol 3 I Effeithiau polisïau a rhaglenni'r UE 12 (A) Cefnogaeth gy 11 ido I o'r UE (B) Yr UE ar waith yng Nghymru • Helpu busnesau • Effaith ar y gymdeithas • Adfywhau'r cefn gwlad • Annog arloesi • Gwella cysylltiadau cludiant a'r amgylchedd • Hybu twristiaeth • Effaithiau ar ddiwylliant 4 | Cyfleoedd i Gymru yn y dyfodol 27 (A) Helaethu • Cyfleoedd ar gyfer cyllido yn y dyfodol • Diwygio amaethyddiaeth (B) Undeb Economaidd ae Ariannol Cyflwyniad Mae'r Undeb Ewropeaidd yn gweithio'n ddiwyd i gynorthwyo Cymru. Mae'r ffyrdd niferus y mae'r Undeb Ewropeaidd yn gweithio yng Nghymru yn cynnwys: cymorth ar gyfer datblygu rhanbarthol, cefnogaeth ar gyfer hyfforddiant, camau i leihau diweithdra; cefnogaeth ar gyfer gweithgareddau gwledig a busnesau bychain, nawdd ar gyfer ymchwil, rhaglenni cyfnewid i bobl ¡faine, gwella cysylltiadau cludiant a gwarchod yr amgylchedd. Mae'r llyfryn hwn yn rhestru rhai enghreifftiau penodol o'r math o weithgareddau y mae'r Undeb Ewropeaidd yn cynorthwyo i'w cefnogi, nid trwy nawdd yn unig ond yn bwysicach trwy annog partneriaethau, cynorthwyo rhanbarthau i ddysgu oddi wrth eraill (ae i ddangos y ffordd i eraill) a thrwy greu cyfleoedd newydd.