Darn Bach o Bapur
75 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
75 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

A novel based on the true story of Eileen and Trefor Beasley who refused to pay their council tax until they received a tax form in the Welsh language from Llanelli Rural Council. Their eight-year stand resulted in great hardship for the family.

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 01 mai 2020
Nombre de lectures 0
EAN13 9781845277659
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 1 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,0300€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

DARN BACH O BAPUR
Nofel am aberth y Beasleys

Angharad Tomos
Darluniau gan Chris Iliff


Gwasg Carreg Gwalch
Argraffiad cyntaf: 2014
Ail argraffiad: Awst 2015

© testun: Angharad Tomos 2014
© darluniau: Chris Iliff 2014


Cedwir pob hawl.
Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr, Gwasg Carreg Gwalch,12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH.


ISBN elyfr: 9781845277659

ISBN clawr meddal: 9781845274931

Cyhoeddwyd gyda chymorth Cyngor Llyfrau Cymru


Dylunio: Elgan Griffiths


Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch,
12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH.
Ffôn: 01492 642031
Ffacs: 01492 642502
e-bost: llyfrau@carreg-gwalch.cymru
lle ar y we: www.carreg-gwalch.cymru

Argraffwyd a chyhoeddwyd yng Nghymru
I Ifanwy a Teresa, chwiorydd yn y chwyldro – heb anghofio Delyth, wrth gwrs!
Gair gan yr awdur

Clec! Clinc! Dwi’n dal i gofio sŵn y ffenest yn torri. Ffenest tŷ haf oedd hi, a honno oedd fy ngweithred gyntaf efo Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Roedden ni’n torri i mewn i dai haf i brotestio yn erbyn y ffaith fod gan rai pobl ddigon o arian i brynu dau dŷ pan na allai rhai fforddio un. Tra oedden ni’n eistedd yn y tŷ, yng nghanol y nos, yn aros i’r heddlu ddod, mi fues i’n siarad efo’r ddwy arall oedd yn gwmni i mi.
“Delyth Beasley wyt ti, ia?” holais yr hynaf, merch â gwallt coch a’i llygaid yn pefrio. Nodiodd.
“Wyt ti’n perthyn i deulu’r Beasleys?” holais. Ro’n i wedi clywed amdanyn nhw mewn cân gan Dafydd Iwan.­­
“Odw, merch iddyn nhw odw i.”
Ro’n i wedi fy synnu. “Felly, ti ydi’r ferch fach yn y lluniau?” holais.
“Ie,” meddai hi.
Ro’n i wedi gweld y llun fwy nag unwaith – y llun o’r wraig ddwys efo’i dau blentyn bach. Eileen Beasley oedd wedi gwrthod talu y bil treth nes y câi fil yn Gymraeg. A dyma fi’n gweithredu rŵan efo’r ferch fach oedd wedi tyfu!
Daeth Eileen Beasley yn arwres i mi. A dwi am rannu ei hanes efo chi yn y llyfr hwn. Falle y bydd yn arwres i chi ar ôl i chi ei ddarllen. Efallai na fyddwch yn cytuno o gwbl â hi. Ond mae un peth yn sicr, byddwch ar y naill ochr neu’r llall.
Doedd hon ddim yn ddynes y gallech ei hanwybyddu – a dyna ddysgodd Cyngor Llanelli hefyd.

Angharad Tomos
Gorffennaf 2014
Y piano


Cyffyrddodd Delyth nodau’r piano – do re mi ffa . Yna’r nodau du. Nodau gwyn, nodau du bob yn ail. Rhyfeddai sut y gallai darnau o ifori wneud sŵn mor swynol.
Daeth Mot y ci i mewn i’r stafell fyw ac eistedd wrth ei hymyl. Gyda’i llaw chwith, mwythodd Delyth ei ben. Edrychai Mot arni fel petai’n deall y cwbl. Doedd dim ots na allai chwarae alaw go iawn.
Roedd Delyth yn berffaith fodlon ei byd. Chwarae’r piano oedd ei hoff beth, a gyda Mot wrth law, roedd ei byd yn gyflawn.
“Delyth!” gwaeddodd ei mam. “Amser mynd i nôl Elidyr o’r ysgol!”
“O’r gorau,” meddai Delyth, a derbyn bod ei hamser wrth y piano wedi dod i ben. “Wy’n dod!”
Gwisgodd ei chôt, ac i ffwrdd â hi gyda’i mam i ddal y bws i Lanelli.
Doedd bywyd yn Llangennech ddim yn fywyd bywiog iawn, yn enwedig i blentyn pedair oed. Dyna feddyliai Delyth wrth syllu drwy ffenest y bws. Yn ystod y dydd, doedd ganddi neb i chwarae â nhw. Dyna pam roedd Mot yn gystal cwmni, a dyna pam roedd wedi gwirioni cymaint efo’r piano. Roedd ei mam gartref, a’i thad yn gweithio yn y pwll glo. Roedd ei brawd, Elidyr, yn yr ysgol drwy’r dydd. Edrychai ymlaen at dri o’r gloch – amser mynd i’w nôl – ac roedd cael teithio gyda’i mam ar y bws i Lanelli yn dipyn o antur.
Gwyliai’r glaw yn rhedeg i lawr y ffenest.
“Pam ry’n ni’n mynd i nôl Elidyr ar y bws, Mam?” holodd.
“Achos taw chwech yw e, ac mae’n rhy ifanc i ddod adre ar ei ben ei hunan,” atebodd ei mam.
“Tase fe’n mynd i’r ysgol yn Llangennech, galle fe gerdded adre,” atebodd Delyth.
“I fan’ny roedd e’n arfer mynd,” meddai ei mam yn swta, “nes i bethau fynd o chwith.”
Roedd hyn yn swnio’n ddiddorol. Eglurodd ei mam fod gwaith y Royal Navy Stores wedi dod i’r pentref, ac roedd llawer o bobl o bant wedi dod i weithio yno. Ar ôl iddyn nhw gwyno bod gormod o Gymraeg yn yr ysgol, roedd y rhan fwyaf o’r gwersi yn Saesneg.
“Felly, er mwyn i Elidyr gael addysg Gymraeg, rhaid iddo fe deithio bum milltir i Lanelli lle mae ysgol Gymraeg wedi’i chodi – y gyntaf yng Nghymru.”
Doedd Delyth ddim yn meddwl bod hyn yn deg. Ond mae’n debyg mai ar y bws y byddai hithau’n mynd pan fyddai’n bump oed. Edrychai ymlaen yn arw, er y byddai’n colli cwmni Mot.
“Mam . . .”
“Ie, Delyth?”
“Ar ôl i Elidyr gwpla yn yr ysgol, fydd e’n mynd yn golier fel Dad?” Glöwr oedd ei thad, ym Mhwll y Morlais yn Llangennech. Cerdded i’w waith fyddai.
“Caiff Elidyr fod yn unrhyw beth mae’n moyn bod,” atebodd ei mam, “a tithe, hefyd.”
Wrth wylio’r dyn yn gyrru’r bws, meddyliodd Delyth y byddai honno’n swydd ddifyr. Ond merch oedd hi, felly châi hi ddim gyrru bysiau. Byddai’n hoffi bod yn bianydd enwog, yn cyfeilio i gorau ac yn difyrru pobl mewn theatrau.
“Athrawes oeddwn i,” meddai ei mam.
Ceisiai Delyth ddychmygu ei mam o flaen dosbarth. Gwenodd a gofyn, “Oedd Mrs Beasley yn athrawes gas?”
“Nage Mrs Beasley o’n i bryd ’ny, ond Miss James. Chaiff merched ddim gweithio fel athrawon yn sir Gaerfyrddin ar ôl iddyn nhw briodi. Dyna pam taw gwraig tŷ ydw i.”
Doedd Delyth ddim eisiau bod yn wraig tŷ. Bywyd diflas iawn fyddai hynny.
“Gaiff merched fod yn ddreifwyr bysys?”
“Os nag y’n nhw’n priodi,” atebodd ei mam.
Eisteddodd Delyth yn ôl yn ei sedd a gwylio’r glaw. Gyrru bws neu briodi, dyna oedd y dewis mae’n amlwg, meddyliodd.
Addysg Saesneg yn Llangennech, neu deithio pum milltir ar y bws i gael addysg Gymraeg. Weithiau, roedd y byd yn lle od iawn.
Wrth yr ysgol gwelodd wyneb ei brawd, a chododd ei chalon. Llamodd ar y bws a dweud hanes y dydd wrthyn nhw. Roedd popeth yn well rywsut unwaith roedd Elidyr yn dod adre.
Convict


Ar ôl yr ysgol, byddai Elidyr a Delyth yn aml yn mynd i chwarae yng nghefn y tŷ. Rhif 2, Yr Allt, oedd enw eu cartref, ac roedd ar gyrion y pentref. Un o’u hoff gêmau oedd llithro ar ddarn o sinc oedd ar ben y Stwmp, a dod i lawr ar wib – roedd cystal â reid ffair bob tamaid. Hen domen lo oedd yn arfer bod yn ym mhen draw Heol y Wagen erstalwm. Byddai plant eraill yr Allt yn hoffi dod i chwarae yno. Roedd gan Elidyr gang hefyd, gang i fechgyn, a fo oedd yr arweinydd. Châi merched ddim bod yn aelodau o’r gang fel arfer, ond fe gâi Delyth fod, gan mai ei brawd oedd y bòs.
Safodd Delyth ar ben y domen ac edrych i lawr ar yr olygfa o’i chwmpas. Dyma’i byd, ac roedd yn lle annwyl iawn iddi. Mae’n bosib iawn fod llefydd harddach na Llangennech, ond iddi hi, roedd yn lle arbennig. Roedd simne fawr y Gwaith y tu ôl iddi, yn drwch o iorwg erbyn hyn ac yn lle gwych i ddringo. Roedd adfeilion eraill hefyd yn fannau bendigedig i chwarae cuddio. Gyda’r coed ifanc a drain yn dechrau tyfu dros bopeth, roedd y lle’n berwi o gwningod, a’r hen hagrwch diwydiannol bron â diflannu’n llwyr.
“’Nhro i nawr!” meddai Ianto.
“Nage ddim, fy nhro i !” gwaeddodd Delyth, ond rhoddodd Ianto hergwd iddi a mynnu ei ffordd. Gan ei fod yn saith, ac yn hwlcyn, gadawodd Delyth iddo fod. Pan ddaeth Elidyr i lawr y llethr, cafodd godwm cas, a rhwygodd ei drowsus yn y mieri.
“Drato,” meddai, “fy nhrowser ysgol i yw hwn. Ro’n i ar ormod o hast i newid. Fydd Mam ddim yn hapus.”
Roedd Owen a Moi yn chwerthin yn harti, ac ymunodd Delyth yn y sbri. Cyn mynd adre, fe gawson gêm o guddio, ond gwaeddodd Ianto a dweud lle roedd ei chuddfan hi.
“Sa i’n ffrindie ’da ti, nawr,” meddai Delyth wrtho ar ei ffordd adre. Roedd wedi difetha’r chwarae.
“Sdim gwahanieth ’da fi, sa i’n moyn bod yn ffrindie ’da merch i convict ’ta beth!”


Wyddai Delyth ddim beth oedd ystyr hynny, a chododd hi mo’r pwnc eto nes ei bod yn amser te.
Roedd Elidyr wedi cael cerydd am chwarae yn ei drowsus ysgol, ac wedi newid bellach i’w ddillad chwarae. Rhoddodd Delyth ddarn o gaws ar ei bara. Fydden nhw byth yn cael bara gwyn gartre, dim ond bara brown. Mynnai ei mam ei fod yn well iddyn nhw.
“Beth yw ‘convict’?” holodd Delyth yn sydyn.
“Dyn sydd yn y jael,” atebodd Elidyr.
Dyna od, meddyliodd Delyth, doedd ei thad hi ddim yn y carchar.
“Pam?” gofynnodd ei mam.
“Ianto Nant y Gro wedodd fod e ddim yn moyn bod yn ffrindie ’da merch i convict ,” atebodd.
“Siarad gyda ti oedd e?”
“Ie, ro’n ni wedi cwympo mas, a waeddodd e ’na wrth i fi gerdded bant.”
Edrychodd Elidyr ar ei fam, “Ody Dad yn mynd i’r jael, ’te?” holodd.
Yfodd ei mam ei phaned. Doedd hi ddim yn edrych fel petai wedi dychryn. Efallai y byddai ei thad yn cael ei anfon i’r carchar am botsio. Roedd o a’i ffrind yn potsio pysgod yn aml, a doedd o ddim i fod i wneud hynny.
“Mae’n well i chi ddweud wrthon ni, Mam, os yw e.”
Ochneidiodd ei mam. “Nage dim ond am dy dad roedd e’n sôn, ond am Dad a finne.”
Tagodd Delyth ar ei the. Roedd ei mam yn wraig mor barchus ac yn athrawes ysgol Sul, a’i thad yn ddyn mor garedig.
“Ti yn convict ?” gofynnodd.
“Nagw. Ond roedd y stori yn siŵr o fynd ar led yn y diwedd. Mae’n dishgwl yn debyg y bydd y ddau ohonon ni’n gorfod wynebu llys barn.”
Rhoddodd Eileen Beasley ei chwpan i lawr ac adrodd y stori. “Pan ddaethon ni i’r tŷ ’ma gynta, roedd yn rhaid inni dalu trethi. Trethi yw arian y mae’n rhaid i bawb ei dalu – am ysgolion, ffyrdd, plismona, glanhau’r strydoedd a phob math o bethau fel’ny. Bydd yr arian hwn yn mynd i bot mawr yn y Cyngor, a dyna’r arian sydd ar gael i dalu am bopeth drwy’r flwyddyn.”
Wrth iddi adrodd yr hanes, daeth yr amser hwnnw yn fyw iawn i gof Eileen Beasley, y diwrnod y cafodd y bil treth cyntaf . . .
Y darn bach cyntaf o bapur


Bwyta eu pryd nos roedd Trefor ac Eileen. Roedd blas da ar y tatws popty, y cig oen a’r bresych. Byddai Trefor wedi blin

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents