Gwaith Mynyddog. Cyfrol II, by Mynyddog The Project Gutenberg eBook, Gwaith Mynyddog. Cyfrol II, by Mynyddog, Edited by Owen M. Edwards This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included with this eBook or online at www.gutenberg.net Title: Gwaith Mynyddog. Cyfrol II Author: Mynyddog Release Date: December 31, 2004 [eBook #14547] Language: Welsh Character set encoding: ISO-646-US (US-ASCII) ***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II*** Transcribed from the 1915 Ab Owen edition by David Price, email ccx074@coventry.ac.uk GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II. RHAGAIR. Ail gyfrol yw hon o’r caneuon ganai Mynyddog heb feddwl eu cyhoeddi hwyrach. Canodd hwy fel y cân aderyn. Y maent yn aros yng nghof pawb a’u clywodd, er hynny. Ac oni ddylai pobl ieuainc na chlywsant Fynyddog eu cael? Oni ddylent redeg drwy fywyd ein cenedl fel y rhêd aber y mynydd trwy’n cymoedd? Oherwydd, yn un peth, y maent yn ganeuon cyfeillgarwch a chymdeithas fwyn. Y mae i gwmniaeth, yn gystal ag unigedd, ei le ym mywyd ein henaid. O’r aelwyd i’r Eisteddfod hoffai Mynyddog ei bobl,— “Rwy’n caru hen wlad fy nhadau Gyda’i thelyn, ei henglyn, a’i hwyl, Rwy’n caru cael bechgyn y bryniau Gyda thân yn y gân yn eu gwyl.” Cadwant, hefyd, naturioldeb ieuenctid gyda doethineb profiad. Dyna nerth Mynyddog. Y mae gwythien o synwyr cyffredin cryf yn ...
The Project Gutenberg eBook, Gwaith Mynyddog. Cyfrol II, by Mynyddog, Edited by Owen M. Edwards
This eBook is for the use of anyone anywhere at no cost and with almost no restrictions whatsoever. You may copy it, give it away or re-use it under the terms of the Project Gutenberg License included with this eBook or online at www.gutenberg.net
Title: Gwaith Mynyddog. Cyfrol II Author: Mynyddog Release Date: December 31, 2004 [eBook #14547] Language: Welsh Character set encoding: ISO-646-US (US-ASCII)
***START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II*** Transcribed from the 1915 Ab Owen edition by David Price, email ccx074@coventry.ac.uk
GWAITH MYNYDDOG. CYFROL II.
RHAGAIR.
Ail gyfrol yw hon o’r caneuon ganai Mynyddog heb feddwl eu cyhoeddi hwyrach. Canodd hwy fel y cân aderyn. Y maent yn aros yng nghof pawb a’u clywodd, er hynny. Aconi ddylai pobl ieuainc na chlywsant Fynyddog eu cael? Oni ddylent redeg drwy fywyd ein cenedl fel y rhêd aber y mynydd trwy’n cymoedd? Oherwydd, yn un peth, y maent yn ganeuon cyfeillgarwch a chymdeithas fwyn. Y mae i gwmniaeth, yn gystal ag unigedd, ei le ym mywyd ein henaid. O’r aelwyd i’r Eisteddfod hoffai Mynyddog ei bobl,— “Rwy’n caru hen wlad fy nhadau Gyda’i thelyn, ei henglyn, a’i hwyl, Rwy’n caru cael bechgyn y bryniau Gyda thân yn y gân yn eu gwyl.” Cadwant, hefyd, naturioldeb ieuenctid gyda doethineb profiad. Dyna nerth Mynyddog. Y mae gwythien o synwyr cyffredin cryf yn rhedeg trwy ei holl ganeuon. Y mae hon yn rhoi gwerth arhosol ar y gân ysgafnaf fedd. Hyd yn oed wrth ddarlunio carwriaeth rhydd ergyd na roddodd yr un pulpud ei grymusach. Y mae’r synwyr cyffredin hwn yn gwneud ei hynawsedd mor ddoeth, ei ddigrifwch mor naturiol, ei bartiaeth mor henffel, fel y tybiwn ei fod yn codi uwchlaw ymrysonau ei ddydd, ac yn aros gyda’i genedl, gan dyfu gyda hi. A hawdd i genedl hoffus ddarllen ei meddwl i ganeuon Mynyddog, fel y derllyn tad ei feddyliau dyfnaf i afiaith parablus ei blentyn. Nid direidi a mwyniant yn unig sydd yng nghân Mynyddog. Y mae islais o brudd-der ynddi, oherwydd fod hynny yn y natur ddynol hefyd. Y mae ei wladgarwch, hefyd, yn ddoeth ac yn angerddol ar yr un pryd. Carodd fynyddoedd a nentydd ei wlad heb eu hysbrydoli fel Islwyn, carodd hwynt er eu mwyn eu hunain. Ac uwchlaw popeth, canodd mor glir oherwydd ei fod mor anhunanol. Canodd, nid gan feddwl am dano ei hun, ei gelfyddyd a’i ddelfrydau, ei uchelgais a’i anfarwoldeb, ond am y bobl yr oedd yn canu iddynt. Angylion gwasanaethgar iddo ef oedd ffurf ac athroniaeth. Acnid oes yng Nghymru heddyw fardd a’i arddull mor gain, a’i feddwl mor ddwfn, na wna les iddo efrydu symlder Mynyddog, ac achos y symlder hwnnw. OWEN M. EDWARDS. Llanuwchllyn.
DARLUNIAU.
Y mae y darluniau oll, ond y darlun o ôf Dinas Mawddwy, o waith y diweddar John Thomas, Cambrian Gallery, Liverpool. MYNYDDOG PEN Y MYNYDD “O dewch tua’r moelydd, Lle mae grug y mynydd Yn gwenu yn ei ddillad newydd grai.” Y MELINYDD. “’Rwy’n caru sŵn yr olwyn ddŵr A droir gan ffrwd y nant ” . MYNWENT EGLWYS LLANBRYNMAIR. Y GÔF. “Yng nghanol haearn, mŵg, a thân, Mae’r gôf yn gwneud ei waith, Ar hyd y dydd, gan ganu cân O fawl i’w wlad a’i iaith ” . AWEL Y BORE. “A charu ’r wyf yr awel wynt A hed dros Gymru gu.” HEN GAPEL LLANBRYNMAIR. “Bydd llygaid engyl gyda llygaid mam Draw’n gwylio dros dy hun rhag it’ gael cam.”
HEN ADGOFION. O na chawn fynd yn ol ar hynt Drwy’r adeg ddedwydd, iach, I brofi y breuddwydion gynt Pan oeddwn blentyn bach; Cawn syllu eilwaith oriau hir Ar flodau gwanwyn oes, Ac ail fwynhau ei awyr glir Heb gwmwl du na loes. O na chawn dreulio eto’n llawn Yr adeg lon, ddi-gur, Pan gylch fy llwybrau fore a nawn ’Roedd blodau cariad pur; Nid yw ond megis ddoe o’r bron Im gofio ienctid ffol; Ond dyma sydd yn rhwygo ’mron, Ddaw’r adeg byth yn ol. CHWI FEIBION DEWRION. (Geiriaui’r“Marseillaise.”) Chwi feibion dewrion gwlad y bryniau, Clywch, clywch yr udgorn croch o draw, Llywelyn sydd yn chwifio’i ddreigiau A’i gleddyf gloew yn ei law; Mae dagrau baban gwan a’r weddw Yn gwaeddi’n uwch na chorn y gâd, Fod rhyddid hoff ein hanwyl wlad O dan ei chlwyf ymron a marw; Ymlaen! ymlaen i’r gâd, Dadweinied pawb ei gledd, Ni awn, ni awn dros freiniau’n gwlad I ryddid neu i’r bedd! Ystormydd rhyfel sy’n ymruo, Yr holl awyrgylch sydd yn ddu, Mae cledd dialedd wedi deffro, Gwae, gwae i’r holl elynol lu; Ni allwn edrych ar gelanedd Estroniaid yn arteithio’n gwlad, Gan ddwyn aneddau’n mam a’n tad A gwneud ein gwlad i gyd yn garnedd; Ymlaen!
MYNYDDOG.
Deffroed ysbryd hŷf ein teidiau I danio mynwes ddewr pob dyn, Mae’r ddraig yn edrych lawr o’r bryniau Gan ddisgwyl gweled Cymru’n un; Bu’n gwlad am oesau’n araf waedu, Ond sych dy ddagrau, Walia Wen, Mae seren gobaith uwch dy ben, Daeth cledd Llywelyn i’th waredu. Ymlaen!
CYMRU, GWLAD Y GAN.
Pa beth sy’n Nghymru, gwlad y gân,— Ai diliau glwys, ai dolydd glân, Ai gwastad diroedd heb eu hail, Yn dwyn eu blodau têg a’u dail? Na, na, nid dyna’r harddwch sydd Yn têg addurno Gwalia rydd. Pa beth sy’n Nghymru, gwlad y gân? Rhaeadrau gwyllt a nentydd glân, Clogwyni serth a chreigiau ban, A harddwch. Eden ym mhob man! Ac O! mae yno fwthyn cu Sy’n werth palasau’r byd i mi. Mae tyrrau cestyll Gwalia Wen Yn pwyntio i fyny tua’r nen, Gan ddweyd mai anfarwoldeb sydd Yn eiddo dewrion Cymru rydd; O boed i mi gael byw yn hon, A beddrod yn ei thyner fron. Mae adsain bloedd y dewrion fu, Heb farw rhwng ein bryniau cu, Ac ysbryd ym mhob awel wynt Yn adrodd hanes Cymru gynt; O boed i mi gael byw yn hon, A beddrod yn ei thyner fron.
SIOM SERCH.
Daeth ef i geisio denu’r ferch, A phlannu’i galon yn ei bron; Cyn iddi ddysgu pwyso serch, Fe ddysgodd garu’r llencyn llon; Aeth ef a’r lili dyner, wen, Oedd ar ei bron, angyles ne, A phlannai’n ol ar galon Gwen Hardd rosyn cariad yn ei lle. Rhodd iddo’r cyfan feddai’n awr, Ei geiriau mêl a’i gwenau drud, Rhodd iddo hefyd galon fawr Yn llawn o gariad byw i gyd; Cydwylai hi fel gwlith y nef Pan wylai ef o dan ryw gur, A chwarddai pan y chwarddai ef, A r cyfan er mwyn cariad pur. ’ Ond oerodd bron y llanc cyn hir, Ac ymaith aeth gan adael hon, Heb feddwl fawr fel treiddiai cur Fel saeth i lawr i’w gwaedlyd fron; Diangai gobaith têg ei wawr ’Run fath a’r lili oddiar y ferch, Gan adael iddi hi yn awr Wywedig ros twyllodrus serch.
TARO YR HOEL AR EI PHEN.
Mae ambell i saer gyda’i forthwyl Yn taro yr hoelen yn gam,
Ac ambell i un sydd mor drwsgwl A phe bai’n rhoi’r morthwyl i’w fam; Ond hyn sydd yn iawn a dymunol, Pan godi dy forthwyl i’r nen, Gofala wrth daro, ’n wastadol, I daro yr hoel ar ei phen. Mae llawer areithiwr go ddoniol, ’Nol dodi y testyn i lawr, Yn dwedyd pob peth amgylchiadol, Heb son am ei destyn am awr; Siarada mor ddiflas a phlentyn, A thry wyn ei lygaid i’r nen, Paham nad ai’r dyn at ei destyn, A tharo yr hoel ar ei phen? Aeth bardd i wneud pryddest anghomon, A’r testyn oedd ci Ty’n y March, Dechreuodd yng nghwymp yr angylion, A’r cŵn aeth at Noah i’r arch; ’Rol canu pum mil o linellau, Gwnaeth bennill i’r ci yn y pen; Paham na bae beirdd y pryddestau Yn taro yr hoel ar ei phen? Aeth llencyn am dro gyda’i gariad, A soniai mor braf oedd yr hin, A’i bod hi mor bethma yn wastad Os na fyddai’r tywydd yn flin; Pam na fuasai’r llelo anghelfydd Yn gofyn addewid gan Gwen, A siarad am fodrwy lle’r tywydd, A tharo yr hoel ar ei phen? Ebrill19, ’75.
CYMRU FU, A CHYMRU FYDD.
“I’r gâd!” “I’r gâd!” ddaw gyda’r gwynt O faesydd gwaedlyd Cymru gynt, I’r gâd i gyd, i’r gâd ar goedd, Ar creigiau’n clecian gan y floedd; Er treiglo am fil o oesau chwith, Mae’r floedd “I’r gâd” heb farw byth; Mae fel yn adsain nos a dydd, Mai “Cymru fu a Chymru fydd.” Ar faesydd gwaedlyd Cymru fu Fe dyfa blodau cariad cu; “I’r gâd” yn awr heb saeth na chledd, “I’r gâd” dan faner glaerwen hedd; Mae’r cleddyf dur mewn hûn di-fraw, Ac arfau rhinwedd ar bob llaw; Pelydra heulwen hanner dydd Ar Gymru fu a Chymru fydd.
PERTHYNASAU’R WRAIG.
Mi wnes beth unwaith yn fy oes Na wnaf mo hono mwy, Priodais gyda geneth lân, Y lanaf yn y plwy; Mi wyddwn eisoes fod gan hon Berthnasau yn y byd, Ond chydig a feddyliais am Briodi’r rhain i gyd; Dyna’i hewyrth, dyna’i modryb, &c., &c. Pan b’wyf yn gofyn i ryw ffrynd I droi i mewn i’r tŷ, I gael ymgom am hanner awr O hanes dyddiau fu, Cyn dechreu siarad gylch y tân,
Na phrofi unrhyw saig, Fe gymer imi hanner awr I introdiwsio’r wraig. Dyna’i hewyrth, &c. Mi eis i’r dref yn fore ddoe Yng nghwmni Sion y Graig, A dyma’m hunig neges i Oedd prynnuwatchi’r wraig; Pan rois yr oriawr yn ei llaw, Dywedai ’mhen rhyw hyd,— “A brynsoch chwi ddim pob ’iwatch I’m perthynasau i gyd?” Prynnuwatchi’r lot i gyd? Wrth weld fod pethau’n troi fel hyn, Dechreuais fynd o ’ngho’, A dywedais yn fy natur ddrwg Na wnai hi byth mo’r tro; Dechreuai ’i thafod hithau fynd I drin a hel o hyd, Ac nid yn unig hi ei hun, Ond unai’r lleill i gyd. “Peidiwch byth rhoi y goreu iddo,” meddai ei thad, &c., &c. Medi13, ’75.
GORNANT FECHAN.
(Goethe). Gornant fechan, loew, dlôs, Treiglo’r wyt y dydd a’r nos; Beth yw’th neges? Beth yw’th nôd? I ble yn mynd?—O ble yn dod? “’Rwy’n dod dros greigiau erchyll draw, ’Rwy’n gadael dolydd ar bob llaw, Gan dynnu darlun ar fy mron O’r cwmwl gwyn a’r nefoedd lon. “Yn llawn plentynaidd ffydd ’rwy’n mynd, Ond i ba le, nis gwn, fy ffrynd; Yr Hwn rodd fod i’m dafnau llaith Yw’r Hwn a’m harwain hyd fy nhaith. Mai18, 1877.
Y DERYN YSGAFNAF YN UCHAF.
Mae ambell aderyn lled fychan, Mae ambell aderyn lled fawr, Mae rhai yn ehedeg yn uchel, Ac ereill yn ymyl y llawr; Ceir rhai ddigon ysgafn i hedeg I ymyl y lleuad mor llon, A’r lleill sydd yn llawer rhy drymion I hedeg ’run dwylath o’r bron; Ond dyma’r gwirionedd yn hanes y byd, Mai’r deryn ysgafnaf yw’r uchaf o hyd. Os gwelwch ysgogyn go wyntog Yn chwyddo’n anferthol o fawr, O’r braidd y mae gan ei ysgafnder Yn cyffwrdd ei draed yn y llawr; ’Does ryfedd ei fod yn ymgodi I fyny fel pluen i’r nen, ’Does ganddo ddim pwysau’n ei boced, Na gronyn o bwysau’n ei ben. Ond dyma’r gwirionedd, &c. Ceir ambell i eneth benchwiban Yn gwerthu gwyleidd-dra a moes, Ysgafnder yw nodwedd ei meddwl,
Ysgafnder yw nodwedd ei hoes; Nid rhaid iddi bluo ei bonnet, Na llenwi ei gwallt gyda charth, Mae digon o bluf yn ei henaid I’w chario i amharch a gwarth. Ond dyma’r gwirionedd, &c. Edrychwch i’r ffair ac i’r farchnad, Ysgafnder sydd yno’n mhob man, Ynghanol brefiadau y lloiau Mae’n codi yr uchaf i’r lan; Mae Satan yn pluo adenydd Rhai dynion i’w codi am awr; Ond cofiwch mai eu codi mae Satan Er mwyn cael eu taro i lawr. Ond dyma’r gwirionedd, &c. Medi24, ’75.
PURDEB.
.
(ArddullT.Carew) Y sawl a fynn y rudd sydd goch A gwefus gwrel, llygad du, Y gwddw gwyn, y rhosawg foch I gynneu fflam ei gariad cu — , Daw amser hen i wywo’r gruddiau, A diffydd fflam ei lygad yntau. Ond y meddwl tawel, pur, Gyda ffyddlon dwyfron lân, Calon gara fel y dur, Hyn sy’n cynneu bythol dân; Lle na cheir hyn, peth eithaf annghall Yw caru llygad, boch, na grudd, nac arall.
DDAW HI DDIM.
Yr o’wn i ’n hogyn gwirion gynt, Yn destyn gwawd y plwy, Awn gyda phawb yn llon fy hyttt, Pwy bynnag fyddent hwy; Ond os ceisia dyn fy nhwyllo’n awr, ’Rwy’n edrych llawn mor llym, A rhoddaf daw ar fach a mawr Wrth ateb,—“Ddaw hi ddim ” . ’Rwy’n adwaen ffrynd, a’i arfer yw Benthyca pres yn ffôl; Ond dyna’r drwg, ’dyw’r llencyn gwiw Ddim byth yn talu’n ol; Ryw dridiau’n ol, mi cwrddais ef Wrth fyned tua’r ffair, Gofynnodd im’ cyn mynd i’r dref Am fenthyg tri a thair. Ond os ceisia dyn, &c. Fe ddwedodd cyfaill wrthyf fi Y gwyddai hanes merch, A wnaethai’r tro i’r dim i mi I fod yn wrthrych serch; Gwraig weddw oedd, yn berchen stor O bopeth, heb ddim plant, A chanddi arian lond dwy drôr, Ac yn ddim ond hanner cant. Ond os ceisia dyn, &c. Bum i ryw dro ers blwydd neu ddwy, Ar bwynt priodi un; Cyn mynd at allor llan y plwy, Fel hyn gofynnai’r fun,— “Mae gennyf fam a phedair chwaer S ’n anw l iawn en i,
A gaiff y rhain, wrth fegio’n daer, I gyd fyw gyda ni?” Ond os ceisia dyn, &c.
AWN, AWN I’R GAD.
.
(CanigganGwilymGwent) Awn, awn i’r gâd, Awn, awn yn awr; Awn dros ein gwlad, Awn, awn yn awr; Calon y dewr Gura yn gynt, Baner a chledd Sy’n chwyfio yn y gwynt; Blaenor y llu Sy’n arwain i glôd, A geiriau o dân O’i enau yn dod. Seren y goncwest sy’n gwenu fry Dros ein hanwyl wlad; Cael tynnu’r cledd sydd wledd i ni. EISTEDD MEWN BERFA.
Tra’r oeddwn yn rhodio un diwrnod, A’r haul yn tywynnu mor llon, Mi ddaethum ’nol hir bererindod I bentref ar ochr y fron; A gwelwn ryw hogyn segurllyd Yn eistedd mewn berfa fel dyn, Gan wneud pob ymdrechion a allai Ar ferfa i yrru ei hun; Fel hwnnw yn union mae ambell i ddyn Yn eistedd mewn berfa i yrru ei hun. Os gwelwch chwi grefftwr go gywrain Yn gadael ei fwyall neu’i ordd, I sefyll tu allan i’w weithdy I siarad â phawb ar y ffordd; Neu holi am weithdai’r gymdogaeth A hanes y gweithwyr bob un, Heb feddwl am weithio ei hunan Y gwaith sy’n ei weithdy ei hun; Mae hwnnw’n lled debyg bob amser i ddyn Sy’n eistedd mewn berfa i yrru ei hun. Ceir ambell amaethwr dioglyd Na welwyd erioed arno frys, Mae’n well ganddo orwedd pythefnos Na cholli dyferyn o chwys; Ni chreda mewn cael ei gynhaeaf Tra’r haul yn tywynnu ar fryn, Ond creda mewn gadael ei feusydd I ofal y gweision a’r chwyn; Mae ffarmwr fel yna bob amser yn ddyn Sy’n eistedd mewn berfa i yrru ei hun. Pan welir masnachydd neu siopwr Yn gadael eu masnach trwy’r dydd, I ofal prentisiaid a chlercod, Nid ’chydig y difrod a fydd; Ond odid na chlywir yn fuan Am feili yn dod i roi stop, A’rwritmae’n ei roi i’r perchennog Sy’n dweyd, “Aeth yr hwch trwy y siop;” Mae siopwr fel yna bob amser yn ddyn Sy’n eistedd mewn berfa i yrru ei hun. Mawrth2, ’76.
Y FRWYDR.
Clywch, clywch Y fyddin yn dod i’r gâd, Uwch, uwch Y cenir i gledd ein gwlad; Calon a chleddyf i gyd yn ddur, Rhyddid yn rhoi Gelynion i ffoi O flaen ein gwŷr. Clywch y tabwrdd yn awr Yn adseinio sydd, Clywch floedd fychan a mawr Wedi cael y dydd; Mae gwawr eto’n dod yn y dwyrain dir, Daw haul ar ein gwlad Mewn hwyl a mwynhad, Cawn heddwch cyn hir.
ENWAU.
Mi ganaf gân mewn cywair llon, Os gwrendy pawb yr un, Rhyw gân ar enwau ydyw hon, Ond heb gael enw ei hun; Mae rhai’n rhoi enwau mawrion, hir, Ar hogiau bychain, mân, Ond dyma’r enwau sy’n mhob sir Trwy Gymru yw Sion a Sian,— Sian Jones, &c. Mae’r Sais yn chwerthin am ein pen Fod Taffy i’rbackbones, Am alw plant hen Gymru wen Yn John a Jenny Jones; Mae Smith a Brown a John a Jane Yn Lloegr bron mor llawn, Ac O! mae enwau’r Saeson glân Ag ystyr ryfedd iawn. ’Roedd Mr. Woodside gynt yn byw Yn High Street Number Ten, Cyfieithwch hynny i’r Gymraeg Mae’n Meistar Ochor Pren; ’Roedd Squiar Woodall gynt yn byw Ym mhalas Glan y Rhyd, Os trowch chwi hynny i’r Gymraeg, Mae’n Sgwiar Pren i Gyd. ’Dwy’n hoffi dim o’r arfer hon A geir yng Nghymru iach, Rhoi’r taid yn Sion a’r tad yn John, A’r ŵyr yn Johnny bach; A galw mam y wraig yn Sian, A’r wraig yn Jeanny ni, A galw’r wyres fechan, lân, Yn Jeanny No. 3. Sian Jones, &c. Chwef10, ’74.
YR HEULWEN.
(YGerddoriaethganD.EmlynEvans) Daw yr heulwen a’i gusanau, Iechyd chwardda yn y gwynt, Cymyl sydd fel heirdd lumanau Bron a sefyll ar eu hynt; Gawn ni fynd a’r haf o’r gweunydd, Dwyn cusanau’r haul yn llu, Ar ein bochau gwridog beunydd,
.
I addurno cartref cu? Dringwn fry i gartre’r hedydd, Chwarddwn, neidiwn megis plant, Lle mae’r cwmwl yn cael bedydd Yng ngrisialaidd ddwfr y nant; Canwn gerddi a dyrïau, Casglwn flodau gwyllt y wlad, Ac mi gadwn y pwysïau Harddaf oll i’n mam a’n tad. FFUGENWAU. Ceir llawer i glefyd ar hyd ein hen wlad, Rhai’n berygl ryfeddol a hir eu parhad; Mae clefyd Eisteddfod yn dod yn ei dro, A chlefydexcursionsachanu Soh, Doh; Ond clefyd ffugenwau yw’r gwaethaf a gaed, Mae’n drymach na chlefyd y genau a’r traed. Mae Eos y Weirglodd ac Eos y Bryn, Ac Eos yr Afon, ac Eos y Llyn, A llewod ac arthod, eryrod a brain, Ac ambell i fwnci ynghanol y rhain. Os digwydd i hogyn wneud pennill o gân, A’i anfon i’r print ac oddiyno i’r tân, Dechreua droi gwyn ei ddau lygad i’r nen, A’i fam yn ochneidio dan ysgwyd ei phen; Rhaid ei gipio i’r orsedd pe bai yn ei glocs, A’i blastro âg enw fel label ar focs. Mae Eos y Weirglodd, &c. Rhaid gwneud dyn yn bencerdd os gwelodd o dôn, Mae Pencerdd Sir Benfro a Phencerdd Sir Fôn, Os delir i urddo fel hyn ym mhob sir, Cawn afael ar Bencerdd Caergwydion cyn hir; ’Rwy’n cynnyg cael urddo hen geiliog fy nhad, A’i alw yn bencerdd ceiliogod y wlad. Mae Eos y Weirglodd, &c. Y ffasiwn ddiweddaf a ddaeth fel mae sôn, Dweyd enw a ffugenw a’rsurnameyn y bôn, Dweyd John Arfon Jones a dweyd Rhys Meirion Rhys, A Lloyd Maldwyn Lloyd, gyda Prys Teifi Prys, A chyda’r rhai yna daw Morris— Llanfairmathafarn eithaf Rhosllanerchrugog, Llanrhaiadr Mochnant, Hugh, A William Carey Williams a Dafydd— Llanfairpwllgwyngyll gogerychwyrndrobwll Dysilio gogo goch Pugh. Ebrill29, ’76. FY NGHALON FACH. Fy nghalon fach, paham mae’r wawr I’w gweld fel hwyr y dydd, A’r hedydd llon uwchben y llawr, A’i gân mewn sain mor brudd? Ateba fy chwyddedig fron, — Mae rhywun ffwrdd tudraw i’r donn. Fy nghalon lawn, mae’r rhod yn troi, A’r rhew a’r eira’n dod, Er hyn mae gŵg y gaea’n ffoi Er oered yw yr ôd; Mae’r gwynt yn sibrwd dros y ddôl Fod rhywun hoff yn dod yn ol.
TYSTEBAU.
Fu ’rioed y fath oes yn yr oesau, A’r oes ’rydym ynddi yn byw, Fe’i gelwir yn oes y peiriannau, Ac oes rhoddi’r mellt dan y sgriw; Mae’n oes i roi tanllyd gerbydau I chwiban dan fynydd a bryn, ’Rwy’n meddwl mai oes y tystebau Y dylid ei galw er hyn. Os bydd dyn yn myned o’i ardal, Rhaid rhoi iddo dysteb lled fawr, Neu’n aros,—rhaid gwneud un llawn cystal I rwymo ei draed wrth y llawr; Rhoir tysteb am waith ac am ddiogi, Rhoir tysteb i’r du ac i’r gwyn, Ceir tysteb am gysgu’n y gwely, Os pery tystebau fel hyn. Gwneud tysteb o nôd genedlaethol A wneir i bob crwtyn yn awr, Argreffir colofnau i’w ganmol, A’i godi’n anferthol o fawr; Mae’r gair cenedlaethol yn barod,— A helpo y genedl, a’r gair, Er mwyn cael cyfodi corachod A llenwi eu llogell âg aur. Mae mul yn hen felin Llanodol, ’Rwy’n cynnyg cael tysteb i hwn, A honno’n un wir genedlaethol, Am gario ar ei gefn lawer pwn; Paham na chai dysteb ragorol I’w rwystro am byth gadw nâd? Mae’r mul yn hen ful cenedlaethol, A haedda ei weld gan y wlad. Mae’n cario yr ŷd mor ddigyffro Dros fynydd, a dyffryn, a dôl, Ac wedyn caiff eisin i’w ginio I aros i’r blawd fynd yn ol; Rhag c’wilydd i genedl y Cymry Am fod eu syniadau mor gul, Fe ddylid gwneud ymdrech o ddifri I gychwyn y dysteb i’r mul. Mae’i glustiau’n mynd lawr dros ei lygaid, O! clywch ef yn codi ei gri, Mae’n g’wilydd fod tad y ffyddloniaid Heb dysteb pryd hyn ddyliwn i; Oferedd im’ fyddai ei ganmol, Mae gweithio i’w wlad bron a’i ladd, Rhowch dysteb i’r mul cenedlaethol — , Nid ef fydd y cyntaf a’i ca’dd. Ebrill29, ’76.
RHOWCH BROC I’R TAN.
Ar ol bod trwy’r dydd yn llafurio A’r morthwyl, y trosol, neu’r rhaw, A dioddef eich gwlychu a’ch curo Gan genllysg a gwyntoedd a gwlaw; ’Rol cyrraedd eich bwthyn eich hunan, Mor ddifyr fydd cau’r drws yn hy, A’r oerfel a’r t’w’llwch tu allan, A’r cariad a’r tân yn y tŷ; Rhowch broc i’r tân, A chanwch gân, I gadw cwerylon o’r aelwyd lân. Pan fyddo y gŵr wedi monni, A’i weflau’n lled li a i lawr,