Cymru r Gyfraith
120 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
120 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Mae’r gyfrol hon yn gwyntyllu’r cysyniad o hunaniaeth gyfreithiol Gymreig. Bu esblygiad y cysyniad a’i weithredu’n ymarferol yn destun trafod o fewn y gymuned gyfreithiol ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Bathwyd ymadrodd i grisialu’r broses, sef ‘Cymru’r Gyfraith’. Bu Parry yn ystyried ac yn dadansoddi rhai o’r prif bynciau sydd wedi meithrin y syniad o hunaniaeth gyfreithiol Gymreig, a’r ffactorau sydd yn ysgogi ei ddatblygiad.

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 07 janvier 2012
Nombre de lectures 0
EAN13 9780708326282
Langue Welsh

Informations légales : prix de location à la page 0,0650€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

Cymru’r Gyfraith
CYMRU’R GYFRAITH
Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol
R. Gwynedd Parry

GWASG PRIFYSGOL CYMRU mewn cydweithrediad â’r COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL 2012
© R. Gwynedd Parry 2012
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd CF10 4UP.
www.gwasg-prifysgol-cymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-0-7083-2514-8 e-ISBN 978-0-7083-2628-2
Datganwyd gan R. Gwynedd Parry ei hawl foesol i’w gydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.


Ariennir y cyhoeddiad hwn gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cysodwyd gan Wasg Dinefwr, Llandybïe Argraffwyd gan CPI Antony Rowe, Chippenham
Er cof am fy nain a nhaid, yn Nhalysarn ac yn y Bala
Cynnwys


Teitl byr
Teitl
Hawlfraint
Dedication
Bywgraffiad
Rhagymadrodd
1 Y Ddeddfwrfa Gymreig
2 Iaith Cyfiawnder
3 Rheithgorau Dwyieithog – Penbleth Geltaidd?
4 Ysgolheictod Cyfreithiol
5 Yr Awdurdodaeth Gymreig
Nodiadau
Llyfryddiaeth
Bywgraffiad
Mae’r Athro Gwynedd Parry yn Athro Cyfraith a Hanes Cyfreithiol ac yn gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Hywel Dda ym Mhrifysgol Abertawe. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Prifysgol Caerhirfryn, a chwblhaodd ei astudiaethau cyfreithiol proffesiynol yn yr Inns of Court School of Law, Llundain, gan gael ei dderbyn yn fargyfreithiwr o Ysbyty Gray’s yn 1993.
Bu yn ymarfer fel bargyfreithiwr yn Abertawe am rai blynyddoedd cyn ei benodi yn diwtor ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1999. Fe’i penodwyd yn ddarlithydd yn y gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe yn 2001, ei ddyrchafu yn uwch-ddarlithydd yn 2007, a’i benodi i gadair bersonol yn 2011.
Ymysg ei brif gyhoeddiadau y mae David Hughes Parry: A Jurist in Society (Cardiff: University of Wales Press, 2010) a The European Charter for Regional or Minority Languages: Legal Challenges and Opportunities (Strasbourg: Council of Europe Publishing, 2008).
Yn 2010, cafodd ei ethol yn gymrawd o’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol.
Rhagymadrodd
‘Byddwn yn hoffi astudio’r gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg, ond gan nad oes yna lyfrau yn Gymraeg ar y pwnc, dydw i ddim yn meddwl y byddwn yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny.’
Dyma’r ymateb a gefais yn aml wrth i mi geisio dwyn perswâd ar fyfyrwyr Ysgol Cyfraith Prifysgol Abertawe i ymgymryd ag astudiaethau yn y gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg. Dichon mai profiad tebyg a gafodd darlithwyr y prifysgolion eraill wrth iddynt geisio hybu ysgolheictod cyfreithiol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ac eto, nid ymateb afresymol oedd yr ymateb hwn chwaith. Wedi’r cwbl, mae’r llyfrgell cyfraith yn llawn adnoddau a llyfrau ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n astudio pynciau cyfreithiol trwy gyfrwng y Saesneg. Prin iawn yw’r cyfrolau Cymraeg eu hiaith mewn unrhyw bwnc y tu hwnt i’r meysydd traddodiadol Cymreig, megis hanes neu ddiwynyddiaeth. Roedd yn rhaid gwneud rhywbeth.
Roeddwn ers blynyddoedd wedi bod yn ymdrechu i lunio cwrs a oedd â’i fryd ar egluro arwyddocâd cyfreithiol datganoli a thwf y ffenomena cyfreithiol hwnnw, ‘Cymru’r Gyfraith’. Deuthum i’r casgliad mai dim ond trwy fynd ati i ysgrifennu llyfr fy hun y byddai gwerslyfr ar gael, sef testun a fyddai’n rhoi cyflwyniad i’r pwnc ac, felly, yn creu ychydig mwy o awydd ymysg myfyrwyr i roi tro ar astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bûm yn gadeirydd panel rhwydwaith y gyfraith o dan adain Canolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, sef y Coleg Cymraeg Cenedlaethol bellach, am rai blynyddoedd. Yn sgil y trafodaethau a’r sgwrsio a fu rhwng aelodau’r panel, deuthum i sylweddoli bod nifer o academyddion cyfraith eraill trwy Gymru yn cynnig cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg a oedd yn dadansoddi datblygiad Cymru’r Gyfraith. Felly, roedd hi’n amlwg y byddai llyfr ar y pwnc o ddefnydd cyffredinol.
Efallai mai’r angen am lyfr at ddefnydd addysgiadol, yn anad dim, a fu’r ysgogiad gwreiddiol i ysgrifennu’r llyfr hwn. Ei fwriad, felly, yw bod o ddefnydd i’r myfyrwyr prifysgol hynny, israddedigion yn bennaf, sy’n myfyrio ar ddatblygiad Cymru’r Gyfraith. Ond, yn ogystal â’i swyddogaeth addysgiadol, mae’r gyfrol hefyd yn ymgais i gyfrannu at drafodaeth gyhoeddus ar Gymru’r Gyfraith a’i dyfodol.
Y thema ganolog yma yw twf y cysyniad o hunaniaeth gyfreithiol Gymreig. Bu esblygiad y cysyniad yn destun trafod o fewn y gymuned gyfreithiol ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999. Bathwyd ymadrodd i grisialu’r broses, sef Cymru’r Gyfraith. Mae’r gyfrol hon yn ystyried ac yn dadansoddi rhai o’r prif elfennau sydd wedi ysgogi datblygiad hunaniaeth gyfreithiol Gymreig. Rhoddir y datblygiadau diweddar mewn cyd-destun hanesyddol, a cheir ymgais i ddehongli arwyddocâd y drafodaeth trwy ystyried datblygiadau cyffelyb mewn gwledydd eraill, neu trwy gyfeirio at drafodaethau rhyngwladol sy’n berthnasol. Rhennir y testun i bum pennod sy’n canolbwyntio ar bum pwnc penodol sydd, mewn gwahanol ffyrdd, wedi gyrru’r drafodaeth ar ddatblygiad Cymru’r Gyfraith. Yr hyn a geir yma yw ymgais i gostrelu’r dadleuon a’r syniadau a fu’n corddi o fewn y gymuned gyfreithiol ers degawd a rhagor, a’u cyflwyno o fewn cloriau’r gyfrol hon.
Fi yn unig yw’r awdur, wrth gwrs. Mae hyn yn golygumai fy nadansoddiad i a geir yma, fy marn i ar bethau rwyf i’n credu sy’n arwyddocaol ac, efallai yn bwysicach, sy’n ddiddorol. Efallai y bydd darlithwyr eraill am gynnwys agweddau eraill o Gymru’r Gyfraith ar eu cyrsiau, materion nad wyf i wedi sôn llawer amdanynt yn y llyfr hwn. Mae ganddynt pob rhyddid i wneud hynny. Onid dyna beth yw rhyddid academaidd? Er hynny, rwyf yn gobeithio y bydd y llyfr a pheth o’i gynnwys o ryw ddefnydd i ddarlithwyr a myfyrwyr ar hyd a lled Cymru.
Wrth gwrs, rwyf hefyd yn ymwybodol y bydd y llyfr hwn ar gael i’r byd a’r betws, yn eich siop lyfrau lleol, chwedl hwythau. Mae hyn hefyd wedi dylanwadu ychydig ar arddull y llyfr hwn. Daniel Owen, y nofelydd, a ddywedodd mai ‘nid i’r doeth a’r dysgedig yr ysgrifennais, ond i’r dyn cyffredin’. Mae hwnnw’n arwyddair doeth i unrhyw un sy’n ysgrifennu yn Gymraeg, ond yn enwedig llyfr ar y gyfraith. Nid, cofiwch, nad wyf yn ceisio gwneud synnwyr o bethau cymhleth o bryd i’w gilydd o fewn cloriau’r llyfr hwn. Mae yma rai pynciau go ddyrys yr wyf yn ceisio mynd i’r afael â hwy. Ond mae yma hefyd ymdrech i egluro a mynegi’r dadleuon mewn modd diddorol a darllenadwy. Pa ddiben creu testun nad yw’n cyfathrebu yn effeithiol gyda’i ddarllenwyr? Na, does yna ddim rhaid i chi fod yn fargyfreithiwr i fedru darllen y llyfr hwn a dilyn trywydd ei neges.
Gan fod datganoli wedi creu strwythurau democrataidd sy’n galluogi Cymru i sicrhau ei dyfodol cenedlaethol, mae gan y gyfraith a’i sefydliadau swyddogaeth allweddol wrth gynnal bywyd cenedlaethol a democratiaeth yng Nghymru heddiw.

*
Wrth gloi hyn o ragymadrodd, mae’n ddyletswydd arnaf hefyd nodi gair neu ddau o ddiolch. Yn gyntaf, rhaid i mi ddatgan fy nyled i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ariannu cyfnod sabothol a’m galluogodd i fynd ati i ysgrifennu’r llyfr, ac am noddi’r cyhoeddiad printiedig. Mae llwyddiant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hollbwysig i ddyfodol ysgolheictod yn yr iaith Gymraeg. Fel y gwelwch wrth ddarllen y gyfrol hon, rwy’n argyhoeddedig fod gan y Coleg swyddogaeth bwysig yng nghyswllt ysgolheictod cyfreithiol cyfrwng Cymraeg. Fel cyfraniad i’w chenhadaeth y cyflwynir y llyfr hwn i’r darllenydd.
Hoffwn hefyd ddiolch i Wasg Prifysgol Cymru, ein gwasg academaidd genedlaethol, am ei hymroddiad a’i gofal arferol wrth ddwyn y maen i’r wal. Mae fy nyled yn drwm i’r darllenydd, a roddodd sawl awgrym gwerthfawr ar y cynnwys, ac i’r golygyddion, yn enwedig AngharadWatkins, Siân Chapman, Elin Nesta Lewis a Leah Jenkins, am ymdrechu’n wrol i gywiro’r gwallau a’m cynorthwyo i warantu ansawdd y gwaith.
Yn olaf, carwn ddiolch i’m gwraig, Meinir, a’n plant, Ifan a Tomos, fy nheulu a’m cyfeillion am eu cefnogaeth a’u cyngor wrth i mi lunio’r gyfrol. Peth ffôl fyddai i mi geisio rhestru’r holl fân gynghorion ac awgrymiadau a fu’n sail i’r hyn a geir yma. Beth bynnag, mae’r cyfeiriadau a’r nodiadau yn adlewyrchu’r prif ddylanwadau a fu’n ysbrydoli ac yn ysgogi’r gwaith.
Nid ar gyfer ei hun yr ysgrifenna awdur, wrth gwrs. Er mwyn eraill, yn aml y rhai sy’n annwyl iddo, ac er mwyn mynegi ei ddyheadau a’i obeithion ar eu cyfer y mae’n cyflawni ei orchwyl. Ac y mae’n gwneud hynny yn y gobaith y bydd y testun gorffenedig yn deilwng ohonynt.
R. Gwynedd Parry Prifysgol Abertawe Tachwedd 2011
P ENNOD 1
Y Ddeddfwrfa Gymreig
Datganoli, yn anad dim arall, sydd wedi ysbrydoli a gyrru datblygiad a thwf hunaniaeth gyfreithiol y Gymru gyfoes. Y ffaith bod gan Gymru bellach ddeddfwrfa sy’n gwneud cyfreithiau sylfaenol ar gyfer pobl Cymru yw man cychwyn ein dadansoddiad o’r hunaniaeth gyfreithiol Gymreig.
Bydd y bennod agoriadol hon yn ystyried arwyddocâd cyfreithiol datganoli yng Nghymru ac yn egluro pwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gan ddechrau trwy ystyried y cefndir hanesyddol a chymdeithasol, ceir eglurhad o’r hyn a gyflawnodd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 trwy sefydlu’r cynulliad cenedlaethol. Yna, dadansoddir prif ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006, gan ystyried oblygiadau’r pwerau deddfu a ddaeth yn ei sgil i gyfreithwyr, i’r system gyfreithiol ac i’r gymuned gyfreithiol yn gyffredinol yng Nghymru.
Y llwybr i ddatganoli
Ni ellir dirnad natur a phersonoliaeth y cyfansoddiad Cymreig a’r dadeni cyfreithiol a ddaeth yn sgil datganoli, na gwneud synnwyr o bwerau deddfu’r cynulliad cenedlaethol, heb amgyffred peth o’r cefndir hanesyddol. Er nad oes yma ymgais i adrodd yr hanes yn fanwl, rhaid wrth drosolwg bras o’r daith wleidyddol a chymdeithasol a arweiniodd at sefydlu’r cynulliad cenedlaethol. Dim ond trwy werthfawrogi’r hanes

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents