Trysorau: Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
238 pages
Welsh

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Trysorau: Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant , livre ebook

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
238 pages
Welsh
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Sefydlwyd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn wreiddiol yn 1822 dan yr enw Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, a dyma’r sefydliad colegol addysg uwch hynaf yng Nghymru. Yn ystod dau gan mlynedd ei hanes, mae wedi derbyn nifer o lawysgrifau hynod a phrin, llyfrau printiedig cynnar, cyfrolau llawn darluniau, ac enghreifftiau anarferol o daflenni i gyfnodolion – y rhan fwyaf drwy roddion hael nifer o gymwynaswyr, yn cynnwys sylfaenydd y sefydliad, yr Esgob Thomas Burgess o Dyddewi. Cedwir y casgliad heddiw yn Llyfrgell Roderic Bowen ar gampws y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan, yn adnodd cyfoethog i ysgolheigion ac ymchwilwyr ledled y byd.
Mae’r gyfrol lawn darluniau hon yn cyflwyno detholiad o blith y miloedd o drysorau sydd yn y casgliad, yn rhychwantu dros saith can mlynedd. Ceir ysgrif fer i gyd-fynd â phob darlun, pob un wedi’i hysgrifennu gan ysgolhaig sydd â gwybodaeth a gwerthfawrogiad dihafal o’r gwaith dan sylw. Bydd y gyfrol o ddiddordeb eang, ac yn dyst i’r cyfoeth a geir yn yr hyn a alwyd unwaith yn ‘llyfrgell fach fwyaf Cymru’.
Cynnwys
Cydnabyddiaethau
Cyfranwyr
1 Rhagymadrodd: Hanes y Coleg a’i Lyfrgell
2 Siarter Brenhinol 1828
3 Charles Robert Cockerell, Pensaer Coleg Dewi Sant
4 Darlun David Cox o Goleg Dewi Sant
5 Pedr o Capua a Distinctiones theologicae
6 Beibl Llanbedr Pont Steffan
7 Llyfr Oriau Boddam
8 Giovanni Boccaccio a Genealogia deorum gentilium
9 Jacobus a Voragine a The Golden Legend (Legenda auria)
10 Llyfr Offeren Schoffer, 1499
11 Llyfr Offeren ‘Caersallog’ Hopyl, 1511
12 Conrad Gessner a’r Historia animalium
13 Abraham Ortelius a Theatrum orbis terrarum
14 Walter Ralegh a The History of the World
15 Gerhard Mercator a’r Atlas
16 Nehemiah Grew a The Anatomy of Plants
17 George Hickes yr Annhyngwr a Llawysgrif Llanbedr Pont Steffan T512a
18 ‘Isaac Bickerstaff’ a Predictions for the Year 1708
19 Rhifyn ‘Coll’ Review Daniel Defoe
20 Maria Sibylla Merian a Der Rupsen begin, voedzel, en wonderbaare verandering
21 Dychan a Hiwmor yn Bowdler T269
22 William Chambers a Desseins des edifices, meubles, habits, machines, et ustenciles des chinois
23 Llyfr Lòg HMS Elizabeth, 1759–61
24 Thomas Pennant a The British Zoology
25 Siartiau, Cynlluniau a Golygfeydd Alexander Dalrymple
26 Mordeithiau o’r Iseldiroedd i’r Môr Tawel
27 Sydney Parkinson ac A journal of a voyage to the South Seas
28 Jean-Nicolas Jadelot a Cours complet d’anatomie
29 Robert Adam a Ruins of the Palace of the Emperor Diocletian
30 L’ami de l’adolescence, Arnaud Berquin
31 John White a Journal of a Voyage to New South Wales
32 William Blake a gwaith darlunio The Complaint, and the Consolation gan Edward Young
33 Robert John Thornton ac A New Illustration of the Sexual System of Linnæus
34 William Alexander ac The Costume of China
35 Hannah More a Cœlebs in Search of a Wife
36 John Smeaton ac A Narrative of the Building and a Description of the Construction of the Edystone Lighthouse
37 Edward Pugh a Cambria depicta
38 John Ross ac A voyage of discovery
39 John Frederick Lewis a Lewis’s Sketches and Drawings of the Alhambra
40 John C. Bourne a Drawings of the London and Birmingham Railway
41 John Richard Coke Smyth a Sketches in the Canadas
42 Epilog: Dyfodol y Casgliadau Arbennig ac Archifau
Llyfryddiaeth
Mynegai

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 juillet 2022
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786839268
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 20 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,1074€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

trysorau        
trysorau        
Hawlfraint © Y Cyfranwyr, 2022
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN: 978-1-78683-925-1 eISBN:978-1-78683-926-8
Datganwyd gan y Cyfranwyr eu hawl i’w cydnabod yn awduron ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Clawr blaenPriythyren o Feibl Llanbedr Pont Steffan
Clawr cefn Sarah Stone,Superb Warblers, 1789, o John White,Journal of a voyage to New South Wales with sixty-îve plates of non descript animals, birds, lizards, serpents, curious cones of trees and other natural productions
Tudalen hanner teitl Peter Charles Henderson,The Quadrangular Passion-ower,1802, ysgythrwyd gan J. Hopwood yr hynaf, o R. J. Thornton,A new illustration of the sexual system of Linnæus
Wynebddarlun John Frederick Lewis,Door of the Hall of Ambassadors, 1835, ysgythrwyd gan W. Gauci, o J. F. Lewis, Lewis’s sketches and drawings of the Alhambra, made during a residence in Granada in the years 1833–4
Yn wynebu’r dudalen gynnwys O Maria Sibylla Merian,Der rupsen begin, voedzel, en wonderbaare verandering, 1714
Yn wynebu tudalen y cyfranwyr O Lyfr Oriau Boddam
Yn wynebu tudalen 1 Cynllun a gweddlun a awgrymwyd ar gyfer y coleg, gan C. R. Cockerell
Oni nodir fel arall, daw pob delwedd o gasgliadau Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen
60
xi
44
Charles Robert Cockerell, Pensaer Coleg Dewi Sant
George Hickes yr Annhyngwr a Llawysgrif Llanbedr Pont Steffan T512a
96
92
104 Dychan a Hiwmor yn Bowdler T269
Rhifyn ‘Coll’ReviewDaniel Defoe
100 Maria Sibylla Merian aDer Rupsen begin, voedzel, en wonderbaare verandering
88
108 William Chambers aDesseins des ediIces, meubles, habits, machines, et ustenciles des chinois
Cyfranwyr
32
Rhagymadrodd: Hanes y Coleg a’i Lyfrgell
28
1
24
84
Nehemiah Grew aThe anatomy of plants
Gerhard Mercator a’rAtlas
70
Walter Ralegh aThe History of the World
74
Conrad Gessner a’rHistoria animalium
78
64
Abraham Ortelius aTheatrum orbis terrarum
Siarter Brenhinol 1828
40
36
48
Jacobus a Voragine aThe Golden Legend(Legenda aurea)
y
s
n
w
56
52
C
viii Cydnabyddiaethau
y
n
Llyfr Offeren Schöffer, 1499
Darlun David Cox o Goleg Dewi Sant
Llyfr Oriau Boddam
Llyfr Offeren ‘Caersallog’ Hopyl, 1511
Giovanni Boccaccio aGenealogia deorum gentilium
Beibl Llanbedr Pont Steffan
Pedr o Capua aDistinctiones theologicae
‘Isaac Bickerstaff’ aPredictions for the year 1708
112 Llyfr Lòg HMSElizabeth, 1759–61
116 Thomas Pennant aThe British zoology
122 Siartiau, Cynlluniau a Golygfeydd Alexander Dalrymple
126 AlexanderDalrymple acAn historical collection of the several voyages and discoveries in the South PaciIc Ocean
130 Sydney Parkinson acA journal of a voyage to the South Seas
136 Jean-Nicolas Jadelot aCours complet d’anatomie
142 Robert Adam aRuins of the Palace of the Emperor Diocletian
146L’ami de l’adolescence,Arnaud Berquin
150 John White aJournal of a voyage to New South Wales
154 William Blake a gwaith darlunioThe complaint, and the consolation gan Edward Young
160 Robert John Thornton acA new illustration of the sexual system of Linnæus
164 William Alexander acThe costume of China
170 Hannah More aCœlebs in search of a wife
174 John Smeaton acA Narrative of the Building and a Description of the Construction of the Edystone Lighthouse
180 Edward Pugh aCambria depicta
186 John RossacA voyage of discovery
192 John Frederick Lewis aLewis’s sketches and drawings of the Alhambra
196 John C. Bourne aDrawings of the London and Birmingham railway
200 John Richard Coke Smyth aSketches in the Canadas
205 Epilog: Dyfodol y Casgliadau Arbennig ac Archifau
212 Llyfryddiaeth
217 Mynegai
Cydnabyddiaethau
Er mai fy enw i sy’n ymddangos ar dudalen deitl y llyfr hwn, yn sicr nid fy ngwaith fy hun yw’r cwbl, a daw hynny’n amlwg i’r darllenydd ar unwaith. Heb gydweithrediad parod a brwdfrydig fy nghyd-weithwyr yn y brifysgol, ni fyddaiTrysorau Casgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Santfyth wedi gweld golau dydd. Rhaid diolch yn arbennig i’m cyd-weithwyr yn Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen, y Llyfr-gellydd Casgliadau Arbennig Ruth Gooding a’r Archifydd Casgliadau Arbennig, Nicky Hammond – y ddau ohonynt wedi cyfrannu at y llyfr hwn – am eu gwybodaeth am ein casgliadau rhagorol, a’u parodrwydd i ddefnyddio’r wybodaeth honno fel y gellir gwneud detholiad hynod ddiddorol a chyfoethog o’nTrysorau.
Yna mae’r cyfranwyr o blith aelodau blaenorol a phresennol staff academaidd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yma ar gampws Llanbedr Pont Steffan: Yr Athro Janet Burton, Dr William Marx, Dr Harriett Webster a Dr Peter Mitchell, y mae arbenigedd pob un ohonynt wedi bod ar gael i mi, yn yr un modd â Dr Allan Barton, a’m holynodd fel caplan ar gampws Llanbedr Pont Steffan, ac a ganiataodd imi gywain o ffrwyth ei ymchwil yma yn y llyfrgell ar ddau o’n llyfrau litwrgaidd print cynnar. Cywynwyd y cyfraniadau i gyd o fewn y terfyn amser caeth a osodais ar eu cyfer, ac, er mawr lawenydd a rhyddhad imi, fe wnaed hynny â’r anogaeth ysgafnaf yn unig. Weithiau gall ymchwil fod yn weithgaredd unig ond anaml y mae’n ynysig; mae angen cymorth eraill yn amlach na pheidio, ac yma yr wyf am gydnabod cymorth Dr Philip Gooding am ddarganfod a sganio deunydd sydd ar gael yn haws ym Montréal nag yn y Deyrnas Unedig.
Mewn sawl ffordd mae llyfr fel hwn yn llwyddo neu’n methu nid yn unig ar awdurdod a hygyrchedd ei destun, ond hefyd ar ei ddyluniad a’i ddarluniau. Yma bûm yn hynod ffodus o allu gweithio gyda’r ffotograffydd, y dylunydd a’r artist rhagorol Dr Martin Crampin, ffrind a chyd-weithiwr am dros ugain mlynedd. Ac yntau’n ysgolhaig a hanesydd celf yn ei hawl ei hun, mae ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth o’r hyn oedd ei angen i ddod â thestun a darluniau ynghyd wedi bod o fudd enfawr.
Gwnaed y penderfyniad ar y cychwyn cyntaf y dylid cyhoeddi’r llyfr hwn, gan ei fod wedi’i seilio ar gasgliadau llyfrgell prifysgol sydd wedi’i lleoli yng nghanol Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gydweithrediad a chefnogaeth yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth (lle bûm yn Gymrawd Ymchwil yn y gorffennol
am dair blynedd gyfoethog a hapus) a sgiliau ac ymroddiad y cyîeithwyr, CatrinBeard, Gwenllïan Dafydd, George Jones, Osian Rhys a Lowri Schiavone.
Tasg Gwasg Prifysgol Cymru oedd dod â’r holl waith hwn at ei gilydd yn ei ffurf derfynol, ac yma bûm yn ffodus i weithio gyda thîm amyneddgar a brwdfrydig, gan gynnwys Sarah Lewis, Pennaeth Comisiynu; Steven Goundrey, Rheolwr Cynhyrchu; a Natalie Williams, Cyfarwyddwr y Wasg. Cyawnwyd y gwaith golygu copi gan Marian Beech Hughes a Mike J. Gooding a’r mynegai gan Ruth Gooding.
Un fantais o gael cysylltiad â sefydliad sy’n ymestyn yn ôl dros nifer o ynyddoedd yw’r cye i weithio gyda chyd-weithwyr y mae eu meysydd astudio a’u harbenigedd yn ein cyfoethogi, a dysgu oddi wrthynt. Y lle cyntaf y dylai unrhyw un sy’n ymchwilio i hanes deucan mlynedd Coleg Dewi Sant droi yw at y ddwy gyfrolHistorygan y Canon Ddr William Price. Rwyf wedi bod yn ffodus o gael adnabod William ers dros hanner can mlynedd, gan ei olynu yma fel Archifydd y Brifysgol, a bydd yn gweld o dudalennau’r llyfr hwn gymaint yr wyf fel golygydd wedi dibynnu ar ei ymchwil. O’r rhai a fu’n gweithio gyda’n Casgliadau Arbennig, rwy’n cydnabod gyda diolch gyfran-iadau at fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth ohonynt gan y diweddar Robin Rider, y Parchedig Ddr David Selwyn (a oruchwyliodd fy ymchwil doethuriaeth hefyd), Peter Hopkins a Sarah Roberts.
Mae prosiect fel hwn hefyd yn dibynnu ar gefnogaeth llawer o rai eraill sy’n rhan o’r ‘coleg’, ac yma yr wyf am gydnabod yn arbennig gymorth a chefnogaeth Pennaeth Gweithredol y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu, Alison Harding – sydd ei hun wedi cyfrannu at y gyfrol hon – a’r Is-ganghellor, yr Athro Medwin Hughes, a’i Bennaeth Staff, Shone Hughes. Yn olaf, ar lefel bersonol, mae fy niolch yn ddyledus i’m gwraig, Valerie – hithau wedi graddio ddwywaith o’r sefydliad parchus hwn – am annog yn amyneddgar ac am oddef cael gŵr yr oedd ei feddwl a’i egni mor aml yn edrych tua’r gorffennol.
Fy ngobaith yw fod y gyfrol hon yn cyawni’r bwriad yn ddigonol, sef dod â rhywfaint o ddealltwriaeth i’r darllenydd am ddaliadau cyfoethog Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen o fewn Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, a thrwy wneud hynny gyfrannu mewn ffordd fechan at goffáu ei hanes deucan mlynedd.
John Morgan-Guy Chwefror 2022
  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents