PWYLLGOR ARCHWILIO 05.10.05 PWYLLGOR ARCHWILIO 05.10.05 Yn bresennol: Y Cynghorydd Brian Jones (Cadeirydd) Y Cynghorydd Godfrey Northam (Is-gadeirydd) Y Cynghorwyr Thomas G. Ellis, Selwyn Griffiths, Huw Price Hughes, Robert J. Hughes, Charles W. Jones; Henry Jones a Michael Sol Owen. Hefyd yn Bresennol: Harry Thomas (Prif Weithredwr) (ar gyfer eitemau 3 a 4), Dafydd L. Edwards (Pennaeth Cyllid), Dilys A Phillips (Pennaeth Gweinyddol a Gwarchod y Cyhoedd, Dewi Morgan (Rheolwr Archwilio a Risg), William E. Jones (Uwch Reolwr Cyllid, Cyfadran Adnoddau) (ar gyfer eitem 3a(i)), Rhys Thomas (Rheolwr Tai Sector Breifat) (ar gyfer eitem 3a(ii)), W. Martin (Rheolwr Gwasanaeth Plant yn Derbyn Gofal) (ar gyfer eitem 3a(iii)) a Carys Hughes-Jones (Swyddog Pwyllgor). Ymddiheuriadau: Y Cynghorwyr Dylan Edwards, Mair Ellis, Edward T. Dogan a Dewi Lewis. 1. GWELLHAD BUAN Nodwyd fod y Cynghorydd Mair Ellis yn parhau i dderbyn triniaeth ysbyty a dymunwyd gwellhad buan iddi. 2. COFNODION Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2005 fel rhai cywir. 3. CYNNYRCH YR ADAIN ARCHWILIO FEWNOL a) Adroddiadau i’w hystyried ar gais y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd Adroddodd y Rheolwr Archwilio a Risg i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor wneud cais i swyddogion o’r gwasanaethau perthnasol fynychu’r cyfarfod i ateb unrhyw gwestiynau a godir o’r archwiliadau mewnol canlynol: ...