La lecture à portée de main
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
Je m'inscrisDécouvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
Je m'inscrisDescription
Sujets
Informations
Publié par | The Books Council of Wales |
Date de parution | 23 mars 2020 |
Nombre de lectures | 0 |
EAN13 | 9781845277543 |
Langue | Welsh |
Poids de l'ouvrage | 1 Mo |
Informations légales : prix de location à la page 0,0300€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.
Extrait
Y Ci a’r Brenin Hywel
Siân Lewis
Gwasg Carreg Gwalch
Argraffiad cyntaf: 2020
h testun: Siân Lewis 2020
Cedwir pob hawl.
Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn,
na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo
mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig,
tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall,
heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr, Gwasg Carreg Gwalch,
12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH.
Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol:
978-1-84527-738-3
Cyhoeddwyd gyda chymorth Cyngor Llyfrau Cymru
Dylunio: Eleri Owen
Cynllun Clawr: Anne Cakebread
Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch,
12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH.
Ffôn: 01492 642031
e-bost: llyfrau@carreg-gwalch.cymru
lle ar y we: www.carreg-gwalch.cymru
Argraffwyd a chyhoeddwyd yng Nghymru
Hywel Dda
Brenin oedd Hywel Dda.
Hywel ap Cadell oedd ei enw go iawn.
Roedd Hywel yn byw dros fil o flynyddoedd yn ôl.
Roedd e’n frenin ar Seisyllwg, Dyfed a Brycheiniog.
Yna, yn y flwyddyn 942, fe gipiodd Gwynedd a Phowys oddi ar blant ei gefnder.
Nawr roedd e’n frenin ar Gymru gyfan, bron iawn.
Felly pam oedd e’n DDA ?
Roedd e’n dda am gadw heddwch.
(Doedd e ddim yn credu mewn ymladd yn erbyn Brenin Lloegr.)
Roedd e’n ARBENNIG O DDA am gadw trefn.
Galwodd Hywel ddynion pwysig o bob rhan o’i deyrnas i’r Tŷ Gwyn ar Daf yn Nyfed.
Gyda’i gilydd fe benderfynon nhw ar reolau ar gyfer y deyrnas gyfan. Cyn hynny, roedd gan bob ardal reolau gwahanol.
Cyfraith Hywel yw enw’r rheolau hyn.
Roedd Cyfraith Hywel mor fanwl ac mor werthfawr, roedd pobl yn dal i’w defnyddio am ganrifoedd wedyn.
Mae hyn yn WIR!
Ydy’r stori sy’n dilyn yn wir bob gair? Wel, falle ...
1
Perygl!
Roedd hi’n ganol nos. Ro’n i’n gorwedd wrth ymyl Nest, yn hanner cysgu, pan grynodd fy nhrwyn. Mewn chwinciad ro’n i allan o’r gwely ac yn hyrddio fy hun at y drws.
Perygl!
Deffrodd Nest mewn braw.
‘Griff!’ galwodd.
Crafais y drws.
‘Shh!’ Cripiodd Nest tuag ata i a thaflu’i braich am fy ngwar. ‘Shhh!’ sibrydodd yn fy nghlust. ‘Beth sy’n bod?’
Perygl!
Daliais ati i grafu.
‘Griff!’ mynnodd Nest. ‘Dere’n ôl i’r gwely.’
Chwyrnais yn groch.
Cydiodd Nest yn dynnach, ond gwingais a strancio. Yn y tywyllwch y tu ôl i ni roedd Gwion a Madyn, ei dau frawd bach, wedi deffro ac yn galw ei henw.
Rhwng y gwingo a’r gweiddi, chlywodd Nest mo’i thad yn nesáu at y tŷ. Ond fe glywais i, a chyn gynted ag yr agorodd e’r drws, neidiais o afael Nest, ac i ffwrdd â fi, heibio coesau Dad, ac anelu fel mellten arian am y lôn y tu draw.
Roedd dau ddyn yn marchogaeth ar hyd y lôn a’u cefnau tuag ata i. Byddwn i wedi cyrraedd y dynion cyn i’r un o’r ddau ’ngweld i, oni bai am Nest. Roedd Nest yn rhedeg ar fy ôl gan weiddi ‘Griff!’ nerth ei phen.
Arafodd y marchogion, a throi tuag ata i a’u hwynebau’n disgleirio dan olau’r lleuad. Agorodd eu cegau fel dwy ogof ddu.
‘Griff!’ sgrechiodd Nest.
Bloeddiodd y dynion, ond fe neidiais yr un fath a phlannu fy nannedd yng nghoes y marchog agosaf. Rhusiodd ei geffyl, ciciodd y marchog, ond daliais fy ngafael yn dynn. Rhusiodd y ceffyl eto a thaflu’r marchog i’r llawr. Rholiodd y dyn ar ei gefn a gweiddi mewn braw wrth weld ci mawr llwydwyn yn sefyll uwch ei ben yn barod i suddo’i ddannedd i groen ei wddw.
‘Griff!’
Disgynnodd pwysau Nest ar fy nghefn. Gafaelodd yn y blew ar fy ngwar a cheisio fy llusgo i ffwrdd. Roedd y marchog wedi codi ei law i amddiffyn ei wddw, ond gwthiais fy nhrwyn yn erbyn ei fysedd.
‘Lladda’r creadur!’ gwaeddodd ar ei ffrind drwy ei fwng o flew brith. ‘Lladda fo!’
Roedd y marchog arall yn dod amdana i ac yn tynnu ei gleddyf. ‘Dos o’r ffordd, blentyn!’ gwaeddodd ar Nest.
Ond symudodd Nest ddim, dim ond gwasgu ei dwylo am fy ngwddw. ‘Gollwng, Griff!’ erfyniodd. ‘Gollwng! Gollwng! Gollwng!’
Roedd hi bron â ’nhagu, felly doedd dim dewis ond gollwng. Ar unwaith pwniodd y marchog fi’n galed yn fy asennau a’m hyrddio tuag at yn ôl. Cyn i fi gael fy ngwynt ata i, roedd Nest yn fy llusgo tuag at y wal bridd uwchlaw’r cwm. Gwthiodd fi dros y wal, ac erbyn i fi lanio ar y llethr islaw, roedd hi wedi neidio ar fy ôl.
‘Rhed, Griff! Rhed i’r afon!’ meddai hi wrtha i.
Sefais yn stond a llygadu’n cartref uwchben. Er ei bod hi’n ganol nos, roedd y lle’n ferw o sŵn.
‘Griff!’ ymbiliodd Nest.
Chwyrnais yn isel.
‘Griff! Gêm!’ meddai Nest. ‘Gêm!’
Gêm? Chwyrnais eto, ond ddim am hir. Roedd chwarae gêm yn fwy o hwyl na chnoi marchog, felly gan ysgwyd fy nghynffon i ffwrdd â fi, gan redeg ar ras drwy’r llwyni.
Erbyn i Nest gyrraedd glan yr afon, ro’n i’n sefyll yn stond yn y dŵr bas a’m llygaid wedi’u hoelio ar ei llaw. Ro’n i’n disgwyl iddi daflu brigyn i lawr yr afon a gweiddi ‘Chwilia!’ Felly pan gododd hi rywbeth o’r llawr, dyma fi’n rhoi naid. Ond ‘Griff!’ gwaeddodd. A’r foment nesaf roedd hi wedi gafael yndda i, ac yn taenu llond dwrn o bridd gwlyb dros fy nhrwyn.
Iych! Cwynais a strancio a thisian. ‘Paid!’ meddai Nest a gafael yn dynnach. ‘Dwi’n trio cuddio dy flew gwyn di.’ Taenodd ragor o bridd dros fy nghôt. Ar yr un pryd cododd garreg sgleiniog a’i lluchio i fyny’r afon.
‘Rhed, Griff! Chwilia!’ sibrydodd.
Sefais yn yr unfan ac ysgwyd fy nghynffon.
Ond ‘Griff! Chwilia!’ mynnodd Nest.
Felly i ffwrdd â fi eto. Rhedeg, a chwilio, ac arogli. Doedd dim sôn am y garreg yn unman.
Trois yn ôl i brotestio. Roedd Nest yn fy nilyn drwy’r afon a’i chefn yn grwm. Rhedais ati, ond ‘Shh!’ meddai, a sbecian dros ei hysgwydd. Roedd rhywrai’n dringo dros y wal bridd a’u traed yn disgyn yn drwm ar y llethr.
‘Dacw’r ci fan acw!’ gwaeddodd llais cras. ‘Dwi’n gweld ei flew gwyn o. Lladdwch o!’
Ar unwaith cododd y blew ar fy nghefn a rhuglodd chwyrniad o ’ngwddw. Ond cyn i fi ruthro i gyfeiriad y llais, cododd Nest fi’n grwn o’r llawr a’m hyrddio i’r llwyni’r ochr draw i’r afon. Disgynnodd hithau ar fy mhen.
Roedd hi’n crynu.
Ro’n innau’n methu anadlu, bron iawn.
Rhois gic iddi o’r diwedd.
‘O, Griff!’ meddai a gorwedd yn fy ymyl a’m dal yn dynn.
Fan’ny fuon ni am hir, yn gwrando ar bobl yn gweiddi a stryffaglian ymhellach i lawr y cwm. Ddaeth neb yn agos aton ni. Aethon nhw’n ôl adre o’r diwedd gan duchan.
Pan aeth pobman yn dawel, cododd Nest yn ofalus. Neidiais innau ar fy nhraed. Ro’n i’n barod i fynd adre hefyd. Ond cydiodd Nest yn fy mlew a’m tynnu i mewn i’r coed.
2.
‘O, Griff!’
Doedd Nest yn methu cysgu. Roedd hi’n noson gynnes ac roedden ni wedi gwneud gwely cysurus ar bentwr o ddail crin, ond roedd hi’n gwingo drwy’r amser, ac yn gafael yn rhy dynn yndda i.
‘O, Griff!’ chwythodd i mewn i ’nghlust. ‘Rwyt ti mewn helynt mawr!’
Ysgydwais fy mhen a llyfu ei gên. Roedd blas chwys arni. Agorais fy ngheg led y pen a chicio fy nghoesau ôl dipyn bach, er mwyn cael lle i anadlu. Cydiodd Nest yn dynnach fyth a chodi ei phen i sbecian.
Allai hi weld dim byd. Roedd hi’n dywyll dan y coed. Allai hi ddim clywed chwaith. Roedd ei chalon yn mynd bwm-bwm-bwm fel y morthwyl yn efail ei thad. Ciciais dipyn bach rhagor, nes iddi orwedd i lawr.
‘Brrrr!’ Roedd ei hanadl yn ôl yn fy nghlust.
‘Mae cŵn yn cael eu cosbi am gnoi, Griff!’
Gwthiais fy nhrwyn yn dynn dan ei gên. Doeddwn i ddim yn hoffi ei llais. Fel arfer, mae hi’n llon ac yn annwyl, hyd yn oed pan mae hi’n rhoi gwers i fi. Dwi wedi dysgu sut i ddod yn ôl pan fydd hi’n galw, sut i eistedd i lawr a pheidio â dwyn bwyd, a phethau felly. Ond nawr roedd ei gwefusau’n crynu, a swniai fel ei brodyr bach pan maen nhw’n cwyno am rywbeth.
‘Brrrr,’ cwynais innau, yn fy llais bach, bach.
‘Ac rwyt ti wedi cnoi marchog! Ffrind i’r Brenin Hywel!’
Hwtiodd tylluan uwch ein pennau a sgrialodd llygoden dan y dail. Chwyrnais ar y ddau, ond ‘Shh!’ meddai Nest a gwasgu ei llaw am fy nhrwyn. ‘Mae’r Brenin Hywel wedi bod yn gweithio’n galed ers wythnosau yn gwneud cyfraith newydd ar gyfer pobl Cymru,’ sibrydodd, ‘ac mae pobl bwysig o bob rhan o’r wlad wedi bod yn ei helpu yn ei lys yn y Tŷ Gwyn. A ti’n gwybod pam y daeth y ddau farchog yna i weld Dad neithiwr?’
Bwm-bwm-bwm-bwm-bwm. Ro’n i eisiau ysgwyd fy nghlustiau eto, ond allwn i ddim.
‘Achos y diwrnod ar ôl fory bydd cloch yn canu ar eglwys y Tŷ Gwyn i gyhoeddi’r newydd da fod y gyfraith wedi ei gorffen. Dad fydd yn gosod y gloch a Mam sy wedi gwneud y rhaff ar ei chyfer. Neithiwr daeth y marchogion i gasglu’r rhaff, Griff, ond nawr …’ Snwffiodd Nest. Ar ganol snwffian, gwichiodd a chodi ei phen. Roedd rhywbeth yn cripian tuag aton ni.
Y llygoden. Ochneidiais a chau fy llygaid.
Gorweddodd Nest i lawr eto, gan ddal i ’ngwasgu.
‘Wyt ti’n gwybod beth yw cyfraith, Griff?’
Symudais i’r un gewyn.
‘Cyfraith yw casgliad o reolau sy’n dweud sut mae pobl i fod i fyw, a beth sy’n digwydd iddyn nhw os byddan nhw’n gwneud rhywbeth drwg. Wyt ti’n gwybod beth sy’n digwydd i gi sy’n cnoi, Griff?’
Arhosais.
Clywais i hi’n tynnu anadl, ond ddywedodd hi ddim byd, chwaith.
Es i i gysgu.
Deffrais yn y bore bach. Roedd ’na wiwer yn agos, ond yn lle mynd ar ei hôl, estynnais fy nhrwyn yn ofalus a llyfu fy nghoes ôl gam.
Pan o’n i ar ganol llyfu, agorodd Nest ei llygaid. Syllodd arna i’n syn, yna neidio i fyny ar ei heistedd a chraffu i’r cysgodion. Codais innau mewn pryd i weld y wiwer yn sboncio i ffwrdd.
Caeodd braich Nest amdana i.
‘O, Griff!’ mwmialodd, a phwyso ei phen ar fy mhen. ‘Dwyt ti erioed wedi cnoi neb o’r blaen. Trio’n gwarchod ni oeddet ti neithiwr, ontefe? Roedd hi’n dywyll, a dim ond lladron sy fel arfer yn dod yn y tywyllwch. Fe ddweda i hynny wrth Dad a bydd e’n siŵr o dy helpu di. Bydd e’n deall yn iawn, achos mae Dad yn ddyn annwyl, ond fe wnaeth e rywbeth drwg unwaith hefyd.’
Sniffiodd Nest.
Disgynnodd rhywbeth gwlyb ar fy nhrwyn.
Edrychais i fyny. Roedd llygaid Nest bron mor fawr â’r broetshys ar diwnig ei mam. Ac roedden nhw’n wlyb!
‘I-ip! I-ip! I-ip!’ Dechreuais gipial fel