Hanes Cymry
539 pages
Welsh

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
539 pages
Welsh
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Mae’r gyfrol arloesol hon yn cyflawni dau amcan. Yn gyntaf, mae’n cynnwys, am y tro cyntaf, hanes lleiafrifoedd ethnig oddi mewn i’r diwylliant Cymraeg, a hynny o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw. Yn ail, mae’n dehongli amlethnigrwydd o safbwynt Cymraeg yn hytrach na Saesneg, sy’n arwain at y cwestiwn, ‘Pwy yw’r Cymry?’



Yn ogystal â’r hanes cyffredinol, ceir penodau am Gymry du, y Sipsiwn Cymreig, Gwyddelod ac Iddewon yng Nghymru, amlethnigrwydd cefn gwlad, a’r Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr.



O ran ei syniadaeth, trafodir pethau mor amrywiol â pherthynas y Cymry â threfedigaethedd a chaethwasiaeth, hybridedd grwpiau lleiafrifol, Saeson Cymraeg, a chenedlaetholdeb a hil. Wrth gloi, gofynnir ai’r Cymry yw pobl frodorol Ynys Prydain.


Rhestr Luniau
Rhagair
Diolchiadau
1. Cyflwyniad
2. Beth sy’n bod ar amlddiwylliannedd Eingl-Americanaidd unigolyddol?
3. Hanes Cymry – lleiafrifoedd ethnig yn yr archif Gymraeg
4. Amlddiwylliannedd Cymraeg
5. Hybridedd lleiafrifol
6. Pwy yw’r Cymry?
i. Pa mor amlethnig yw’r Fro Gymraeg wledig? Gweler Llŷn ac Eifionydd
ii. Ystyr y gair ‘Cymry’: llenorion Cymraeg o gefndir lleiafrifol ethnig
iii. Y Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr: lleiafrif heb ei gydnabod
7. Mae ’na Wyddel yn y dre – dinasyddiaeth Gymraeg a thair ideoleg: rhyddfrydiaeth, sosialaeth a chenedlaetholdeb
8. Ydy’r Cymry’n ddu? – trefedigaethwyr a threfedigaethedig
9. Y Sipsiwn Cymreig – un o ddwy bobl frodorol y Fro Gymraeg
10. Diweddglo – brodorion amlethnig Ynys Prydain
Llyfryddiaeth
Nodiadau

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 juin 2021
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786836434
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 13 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,1250€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

Hanes c ymry
00 Prelims 2021_5_16.indd 1 16-May-21 4:06:16 PMHanes Cymry
Lleiafrifoedd Ethnig yn y
Gwareiddiad cymraeg
Simon Brooks
Gwasg Prifysgol cymru
2021
00 Prelims 2021_5_16.indd 3 16-May-21 4:06:16 PMCyfwynedig i
ail genhedlaeth Gymreig Llundain,
ac i griw'r wythdegau yn enwedig
00 Prelims 2021_5_16.indd 4 16-May-21 4:06:16 PMOnd beth yw'r Bruttaniaid mwy nag eraill?
Morgan Llwyd
00 Prelims 2021_5_16.indd 5 16-May-21 4:06:16 PMHawlfraint © Simon Brooks, 2021
cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn
na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw
ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo,
recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol cymru,
cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, caerdydd cF10 3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78683-642-7
e-ISBN 978-1-78683-643-4
Datganwyd gan Simon Brooks ei hawl foesol i’w gydnabod yn
awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf
Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
cydnabyddir cymorth ariannol Prifysgol Abertawe ar gyfer y
cyhoeddiad hwn.
cysodwyd gan Eira Fenn Gaunt, Pentyrch, caerdydd, cymru
Argraffwyd gan cPI Antony Rowe, Melksham, Y Deyrnas Gyfunol
00 Prelims 2021_5_16.indd 6 16-May-21 4:06:16 PMCynnwys
Rhestr luniau ix
Rhagair xi
Diolchiadauxv
cyfwyniad1
1 Beth sy’n bod ar amlddiwylliannedd Eingl-Americanaidd 19
unigolyddol?
2 Hanes cymry – hanes lleiafrifoedd ethnig yn y Gymru 41
Gymraeg
3 Disgrifo amlddiwylliannedd cymraeg 117
4 Hybridedd lleiafrifol 133
5 Pwy yw’r cymry? 145
i. Pa mor amlethnig yw’r Fro Gymraeg wledig?
Gweler Ll}n ac Eifonydd
ii. Ystyr y gair ‘cymry’: llenorion cymraeg o
gefndir ethnig lleiafrifol
iii. Y cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr: lleiafrif
heb ei gydnabod
6 Mae ’na Wyddel ac Iddew yn y dre – dinasyddiaeth 191
Gymraeg a thair ideoleg: rhyddfrydiaeth, sosialaeth
a chenedlaetholdeb
00 Prelims 2021_5_16.indd 7 16-May-21 4:06:16 PMCynnwys
7 Ydy’r cymry’n ddu? – trefedigaethwyr a’r 231
trefedigaethedig
i. caethwasiaeth, trefedigaethedd a’r
genhadaeth Gymreig
ii. Mathau o orthrwm
8 Y Sipsiwn cymreig – un o ddwy bobl frodorol 291
y Fro Gymraeg
Diweddglo – brodorion amlethnig Ynys Prydain 331
Nodiadau 337
Llyfryddiaeth Ddethol 443
Mynegai487
viii
00 Prelims 2021_5_16.indd 8 16-May-21 4:06:16 PMrHestr Luniau
Lluniau gan Geoff charles, trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol
cymru.
1 Sioni Winwns ym Mhorthmadog (1958).
2 Vivienne Hughes a Doris chung, caernarfon (1969).
3 Gwyddelod yn dathlu g{yl San Padrig ym Mlaenau
Ffestiniog (1960).
4 Freddie Grant, seren fflm Yr Etifeddiaeth, yn oedolyn yn
Lerpwl (1961).
5 Hywel Wood yn paratoi cyn clocsio (1958).
00 Prelims 2021_5_16.indd 9 16-May-21 4:06:16 PMrHagair
Yn y llyfr hwn, dwi’n mynd yn ôl i ddyddiau maboed. Wedi fy
ngeni yn Isleworth ger Hounslow yn Llundain, a’m magu yno ac
yn Walton yn ymyl Kingston, rwy’n Gymro yn yr ystyr a arddelid
yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond nid ysywaeth yn yr unfed
ganrif ar hugain. Rwy’n Gymraeg, ond nid wyf o Gymru. Aelod
o gr{p iaith ydw i, ond am fod hwnnw y tu allan i Gymru, daeth
yn lleiafrif ethnig hefyd, ac ymwybyddiaeth, a phrofad, o hynny
sydd wedi llywio cwrs fy mywyd.
Mae’n anodd datgysylltu gwaith, gan gynnwys gwaith
academaidd, oddi wrth ei awdur. Rydym oll yn meddu ar oddrycholdeb,
‘subjectivity’, y nod weddion arnom sydd i raddau helaeth yn llunio
amodau ein golwg ar y byd. Yn fy achos i, magwraeth mewn teulu
cymreig ar aelwyd ddwyieithog yn Lloegr, a bywyd maestref
Middlesex, gogledd eithaf Surrey a de-orllewin Llundain sy’n
ffurfiannol. Ynghlwm wrth hynny, y cysylltiadau llac rhwng unigolion,
teuluoedd a sefydliadau cymreig Llundain a’r ardal o’i chwmpas,
a’m sylweddoliad yn y chweched dosbarth nad oeddwn yn ‘Welsh’
o gwbl, fel yr oeddwn wedi tybio ar hyd fy oes, ond yn perthyn yn
hytrach i endid lawer mwy anniffniedig, sef strata ethnig gr{p
cymreig lleiafrifol ac anghydnabyddedig Llundain a de-ddwyrain
Lloegr.
Wrth nesáu at yr hanner cant, rwy’n ‘gweld yn lled glir’ fel Gwenallt
fod profadau plentyndod yn bwysig. Fy rhieni a’m chwiorydd a
dwy iaith y teulu. Fy nghefndryd cymreig yn Berkshire, fy wncwl
a modryb cymraeg yn swydd Gaint, teuluoedd Eingl-Gymreig
Middlesex, cymry dosbarth gweithiol wedi mynd yn ddosbarth
00 Prelims 2021_5_16.indd 11 16-May-21 4:06:16 PMRhagair
canol. Ac ar ôl dod yn ddigon hen i grwydro Llundain:
gweithgarwch cymdeithas yr Iaith, diwylliant ieuenctid cymraeg Llundain,
festrïoedd capeli a chymdeithasau llenyddol, c anolfan c ymry
Llundain. Fy ffrindiau, llawer ohonynt o Gymru a rhai o’r ail
genhedlaeth. Roeddwn yn adnabod yr ail genhedlaeth fel arweinwyr
ac aelodau cymdeithas yr Iaith. Radicaliaid oeddent hwy o faestref
pellennig cyrion Llundain. Ond roedd Dafydd, fy ffrind gorau o’r
ail genhedlaeth, yn Gymro o Lerpwl.
Dim ond yn lled ddiweddar y bu i mi sylweddoli fod dylanwad
hyn ar fy ngwaith academaidd mor drwm. Daw cyfeoedd eraill,
gobeithio, i mi ysgrifennu am gymdeithas Gymraeg Llundain y
1980au. Yma, rwyf am gyfyngu fy sylwadau i’r cylch deallusol, a
sut mae magwraeth wedi siapio fy ymateb i’r pwnc sy’n ganolog i’r
llyfr hwn. Mae pwysigrwydd ethnigrwydd fel cysyniad yn fy ngwaith
yn deillio o’r ffaith imi gael fy magu’n aelod o gr{p lleiafrifol yr
oedd ei ethnigrwydd yn cael ei ddiystyru. Hynny yw, cefais fy magu
y tu allan i Gymru yn aelod o gymuned na sylwai neb arni, ac o
ganlyniad nid oedd cefnogaeth y wladwriaeth ar gael. Nid wyf am
wneud cymhariaeth uniongyrchol â’r grwpiau yng Nghymru a
drafodir yn y llyfr hwn – mae pob lleiafrif yn wahanol – ond roedd
rhwydwaith ac ymwybyddiaeth lleiafrifoedd ethnig yn greiddiol
i’m hieuenctid.
Mae fy amheuaeth ddofn o’r math o wleidyddiaeth sifg sy’n
gwadu ethnigrwydd yn deillio o hyn. Nid oedd ganddi ddim
diddor deb ynom ni a oedd yn lleiafrif cymreig yn Lloegr. Pan
symudais i Gymru, sylweddolais nad oedd ganddi fawr o ddiddordeb
mewn cymunedau cymraeg ychwaith. Problem y genedl sifg yn
ei pherth ynas â lleiafrifoedd yw, nid cymaint â’i bod yn
camwahaniaethu yn eu herbyn, ond ei bod mewn gwladwriaethau
rhyddfrydol yn haeru nad ydynt hwy yno. c efais wersi chwerw ar hynny
yn Llundain.
Yn fy arddegau hwyr, roeddwn yn ymgyrchydd lleiafrifoedd
ethnig. Roedd cysylltiadau’r gymuned Gymreig â’r gymuned
Wyddelig yn neilltuol agos, yn enwedig ym maes addysg. Byddwn yn
mynychu cyfarfodydd o’r London Association for Celtic Education
(LAcE) a oedd yn cael ei arwain gan ail genhedlaeth Wyddelig y
ddinas. Roedd y cymry’n debyg i’r Gwyddel od am ein bod yn ddau
xii
00 Prelims 2021_5_16.indd 12 16-May-21 4:06:16 PMRhagair
leiafrif ‘gwyn’ o ‘ynysoedd Prydain’ ac yn wynebu rhai o’r un
problemau. Y pennaf ohonynt oedd amheuaeth a oeddem yn
lleiafrif oedd ethnig o gwbl. O ganlyniad, roeddwn yn bleidiol yn gyntaf
i gyd nabyddiaeth i’r lleiafrif cymreig; ochr-yn-ochr â lleiafrif oedd
eraill wrth gwrs. Nid oedd sefydliad amlddiwylliannol Llundain yn
awyddus iawn fod hyn yn digwydd. Rwy’n cofo cael cerydd gan
Saesneg adain chwith mewn cyfarfod a drefnwyd i gefnogi
lleiafrifoedd ethnig. Nid oeddwn, meddai hi, yn ddim ond Sais gwyn.
Ar y pryd, bu i agweddau fel hyn, a oedd yn gyffredin iawn ac
yn cael eu hadrodd yn aml (gweler nofel Ifor ap Glyn am Gymry
Llundain, Tra Bo Dau, sy’n hynod gywir yn ei disgrifad o’r pwysau
seicolegol ar yr ail genhed laeth Gymraeg), beri loes aruthrol i mi.
Pe na bawn yn Gymro, sut gallwn i barhau’n aelod o’r gymuned
Gymreig? Os nad oedd y gymuned Gymreig yn lleiafrif ethnig dilys,
sut gallai hi gael y gefnogaeth angenrheidiol i gynnal ein diwylliant?
Nid oedd yn hawdd i hogyn yn ei arddegau ddelio gyda theimladau
fel hyn. Yn araf deg, dechreuais ddeall fy mod i’n perthyn i gr{p
nad oedd y byd Saesneg am ei gydnabod. Mi ddatrysais y pos drwy
symud i Gymru ond mae’r diffyg cydnabyddiaeth wedi fy mhoeni
ar hyd fy oes.
Yng Nghymru, mae fy mywyd yn wahanol iawn i’r hyn ydoedd
pan oeddwn yn blentyn yng nghyffniau Llundain, a gwn fod llawer
yn methu deall pam fy mod yn teimlo mor eithriadol o gryf fy mod
yn aelod o leiafrif, a fnnau’n Gymro gwyn yng Nghymru. Rwy’n
byw mewn cymuned Gymraeg, ac yn rhan integreiddiedig ohoni,
yn gwasanaethu ar ei chyngor tref ac yn rhan o’i bywyd sifg. Go
brin fy mod yn aelod o leiafrif ethnig, meddan nhw, ac maen nhw’n
iawn: yng Nghymru, dydw i ddim. Dyn gwyn, hetero rywiol, cymreig,
canol oed a dosbarth canol ydw i, ac yn ymgorfforiad gan hynny o
safbwyntiau mwyaf normadol a phwerus y gymdeithas.
Ond yn fy mywyd mewnol, preifat, ac yn fy ymateb seicolegol,
emosiynol a syniadol i’r drafodaeth gyfoes am wleidyddiaeth,
hunaniaeth ac ethnigrwydd, ni fedraf ddianc rhag profadau ffurfannol.
Rwy’n aelod bore oes y diaspora, yn hanu o leiafrif, yn meddu ar
ymdeimlad o wahanrwydd ethnig oherwydd hynny, yn fab
ymfudwyr, yn perthyn i ail genhedlaeth, yn medru iaith na dderbyniais
i addysg ynddi.
xiii
00 Prelims 2021_5_16.indd 13 16-May-21 4:06:16 PMRhagair
Mae’n bwysig wrth gwrs i mi nodi nad oeddwn yn perthyn i
leiafrif o ran hil yn Llundain. Rwy’n ddyn gwyn. Nid yr un oedd
profadau trigolion cymreig gwyn y ddinas a phrofadau’r boblogaeth
ddu. Ni wynebais i hiliaeth ar sail lliw croen erioed. Nid fy lle i fel
cymro gwyn o Loegr yw llefaru ar ran cymry du, nac ar ran unrhyw
leiafrif ethnig nad wyf yn aelod ohono.
Er hynny, fy mhrofadau yn Llundain a’r cylch sy’n ffurfannol.
Maent yn eglurhau i raddau helaeth fy mrwdfrydedd dros y Gymraeg,
a hefyd dros gymunedau cymraeg fel llefydd diogel. Maent yn
esbonio fy niddordeb yn hanes lleiafrifoedd ethnig, a strwythur a
hanes rhagfarnau gwrth-Gymraeg, a chyswllt y gymuned Gymraeg
â’r Arall, a’r Arall gyda hi.
Nid oedd fy mhrofadau yn Llundain yn rhai dymunol iawn.
Teimlwn

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents