Iaith Oleulawn
192 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
192 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description


Gwaith Iolo Goch. (1988)


Canu Maswedd yr Oesoedd Canol (1991)


The Complete Poems of Idris Davies (1994)


Gwaith Lewys Glyn Cothi (1995)


 Llenyddiaeth Cymru: Llyfr Poced (1998)


Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300–1525 (2005)


Cerddi Dafydd ap Gwilym (2010)


The Literature of Wales (2017)


 




Dyma’r astudiaeth gyflawn gyntaf o eirfa Dafydd ap Gwilym. Dangosir ynddi sut y creodd Dafydd farddoniaeth gyfoethog ac amlweddog trwy gyfuno ieithwedd hen a newydd, llenyddol a llafar, brodorol ac estron. Trafodir y geiriau a gofnodwyd am y tro olaf yn ei waith, a’r nifer fawr a welir am y tro cyntaf, y benthyciadau o ieithoedd eraill, ei ddulliau o ffurfio geiriau cyfansawdd, a geirfa arbenigol amryw feysydd fel crefydd, y gyfraith, masnach a’r meddwl dynol. Roedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yn gyfnod o newid mawr yn yr iaith Gymraeg yn sgil datblygiadau cymdeithasol a dylanwadau gan ieithoedd eraill, a manteisiodd Dafydd ar yr ansefydlogrwydd i greu amwysedd cyfrwys. Trwy sylwi’n fanwl ar y defnydd o eiriau gan Ddafydd a’i gyfoeswyr, datgelir haenau newydd o ystyr sy’n cyfoethogi ein dealltwriaeth o waith un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg.


Diolchiadau
Rhagymadrodd
Pennod 1 Y Bardd a’i Gefndir
Pennod 2 Crefft Cerdd Dafod
Pennod 3 Geirfa Hynafol
Pennod 4 Geirfa Newydd
Pennod 5 Geiriau Benthyg
Pennod 6 Ffurfiant Geiriau
Pennod 7 Geiriau Cyfansawdd
Pennod 8 Meysydd
Pennod 9 Y Synhwyrau a’r Meddwl
Pennod 10 Amwysedd
Pennod 11 Casgliadau
Llyfryddiaeth
Byrfoddau
Mynegai

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 01 juin 2020
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786835697
Langue Welsh

Informations légales : prix de location à la page 0,1500€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

‘I AITH O LEULAWN ’
‘Iaith Oleulawn’
Geirfa Dafydd ap Gwilym
Dafydd Johnston
Hawlfraint © Dafydd Johnston, 2020
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN  978-1-78683-567-3
eISBN  978-1-78683-569-7
Datganwyd gan Dafydd Johnston ei hawl foesol i’w gydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cydnabyddir cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer cyhoeddi’r llyfr hwn.
Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau’n gywir neu’n addas.
Priflythyren yr archoll yn ystlys Crist, o Lyfr Oriau ‘De Gray’ (NLW MS 15537C f105v), canol y 15fed ganrif. Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
C YNNWYS
Diolchiadau
Byrfoddau
Rhagymadrodd
1 Y Bardd a’i Gefndir
2 Crefft Cerdd Dafod
3 Geirfa Hynafol
4 Geirfa Newydd
5 Geiriau Benthyg
6 Ffurfiant Geiriau
7 Geiriau Cyfansawdd
8 Meysydd
9 Y Synhwyrau a’r Meddwl
10 Amwysedd
11 Casgliadau
Nodiadau
Llyfryddiaeth
D IOLCHIADAU
Mae’r astudiaeth hon yn ffrwyth dros ddeugain mlynedd o ymwneud â barddoniaeth Dafydd ap Gwilym, ac elwais ar gyngor a chymorth amryw ysgolheigion yn ystod y cyfnod hwnnw. Carwn ddiolch yn arbennig i’m tiwtor cyntaf ym Mhrifysgol Caer-grawnt, Patrick Sims-Williams, i’r diweddar J. E. Caerwyn Williams, y diweddar D. J. Bowen, y diweddar R. Geraint Gruffydd a Marged Haycock yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, i’r diweddar Gilbert Ruddock a Sioned Davies yn Adran y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, i’m cydweithwyr ar y prosiect a gynhyrchodd olygiad newydd o’r cerddi pan fûm yn Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe, A. Cynfael Lake, Sara Elin Roberts, Elisa Moras ac Ifor ap Dafydd, Huw Meirion Edwards o Brifysgol Aberystwyth a Dylan Foster Evans o Brifysgol Caerdydd, ac i’m cydweithwyr presennol yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Ann Parry owen, Andrew Hawke, Jenny Day a staff eraill Uned Geiriadur Prifysgol Cymru, John Koch a Daniel Huws. Rwy’n ddiolchgar i ddarllenydd dienw Gwasg Prifysgol Cymru am awgrymiadau gwerthfawr, i Elin Lewis am ei llygad craff, ac i Llion Wigley a staff eraill y wasg am eu cymorth a’u gwaith effeithlon. Ni allwn fod wedi cyflawni’r gwaith hwn heb gefnogaeth gariadus fy ngwraig Celia, a chyflwynir y gyfrol iddi hi gyda diolch o’r galon.
B YRFODDAU
B
Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd
BD
Buched Dewi
BDG
Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym
CA
Canu Aneirin
CBT I
Gwaith Meilyr Brydydd a’i Ddisgynyddion
CBT II
Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill
CBT III
Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr I
CBT IV
Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr II
CBT V
Gwaith Llywarch ap Llywelyn ‘Prydydd y Moch’
CBT VI
Gwaith Dafydd Benfras ac Eraill
CBT VII
Gwaith Bleddyn Fardd a Beirdd Eraill
CDG
Cerddi Dafydd ap Gwilym
CLlH
Canu Llywarch Hen
CMCS
Cambridge/Cambrian Medieval Celtic Studies
CMOC
Canu Maswedd yr Oesoedd Canol
DG.net
Dafydd ap Gwilym.net
GBDd
Gwaith Bleddyn Ddu
GC
Gwaith Casnodyn
GDBMW
Gwaith Dafydd Bach ap Madog Wladaidd
GDC
Gwaith Dafydd y Coed
GDE
Gwaith Dafydd ab Edmwnd
GDG
Gwaith Dafydd ap Gwilym
GDLl
Gwaith Dafydd Llwyd o Fathafarn
GEO
Gwaith Einion Offeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug
GG.net
Guto’r Glyn.net
GGDT
Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur
GGGr
Gwaith Gruffudd Gryg
GGLl
Gwaith Gruffudd Llwyd a’r Llygliwiaid Eraill
GGM II
Gwaith Gruffudd ap Maredudd II
GGM III
Gwaith Gruffudd ap Maredudd III
GGrG
Gwaith Gronw Gyriog
GHDaf
Gwaith Hywel Dafi
GIF
Gwaith Iorwerth Fynglwyd
GIG
Gwaith Iolo Goch
GLGC
Gwaith Lewys Glyn Cothi
GLlBH
Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant
GLlGMH
Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen
GMBen
Gwaith Madog Benfras
GMD
Gwaith Madog Dwygraig
GMW
Evans, A Grammar of Middle Welsh
GP
Gramadegau’r Penceirddiaid
GPB
Gwaith Prydydd Breuan a Cherddi Dychan Eraill o Lyfr Coch Hergest
GPC
Geiriadur Prifysgol Cymru
GTA
Gwaith Tudur Aled
IGE
Cywyddau Iolo Goch ac Eraill
LPBT
Legendary Poems from the Book of Taliesin
LlA
The Elucidarium and other tracts in Welsh from Llyvyr Agkyr Llandewivrevi
LlB
Llyfr Blegywyryd
LlDC
Llyfr Du Caerfyrddin
LlI
Llyfr Iorwerth
LlU
Johnston, Llên yr Uchelwyr
MED
Middle English Dictionary
ML
The Letters of Lewis, Richard, William and John Morris
OBWV
The Oxford Book of Welsh Verse
OED
The Oxford English Dictionary
Pen
llawysgrif yng nghasgliad Peniarth
PKM
Pedeir Keinc y Mabinogi
RM
The Text of the Mabinogion from the Red Book of Hergest
TYP
Trioedd Ynys Prydein
WG
Morris-Jones, A Welsh Grammar
YBH
Ystorya Bown De Hamtwn
YCM
Ystorya De Carolo Magno
Rhagymadrodd
Ystyrir Dafydd ap Gwilym yn un o feirdd mwyaf yr iaith Gymraeg, ar gyfrif ei ddychymyg llachar, ei hiwmor cyfrwys a dwyster ei weledigaeth ar fywyd, ymhlith nifer o resymau eraill. Ond y wedd ar ei waith sy’n hanfodol i’r astudiaeth hon yw ei ddawn trin geiriau. Er bod ‘amlder Cymraeg’ yn elfen anhepgor yn hyfforddiant pob bardd yng Nghymru’r Oesoedd Canol, ni fu neb cyffelyb i Ddafydd ap Gwilym na chynt na chwedyn o ran creadigrwydd egnïol ei ddefnydd o holl adnoddau’r iaith, o’r cyffredin sathredig i’r diarffordd ddysgedig. Mae’r ymhyfrydu mewn geiriau, eu sŵn, eu synnwyr a’u blas, yn beth amlwg yn ei holl gerddi, ac mae’n rhan o hunanddelwedd y bardd. Wrth atgoffa merch fod ei fawl iddi’n haeddu tâl cyfeiriodd at ei farddoniaeth ei hun fel iaith oleulawn , disgrifiad a wireddir gan helaethder geiriol disglair y frawddeg estynedig:

‘Yr adlaesferch*, wawr dlosfain,
*merch wylaidd
Wrm* ael, a wisg aur a main,
*tywyll
Ystyr, Eigr, ystôr awgrym*,
*cerrig rhifo
Is dail aur, a oes dâl ym,
Ymliw* glân o amlwg lais,
*cerydd
Em o bryd, am a brydais
I’th loywliw, iaith oleulawn,
A’th lun gwych, wyth liwne gwawn.’ (72.1–8)
Ac mewn cerdd am effaith andwyol siomedigaethau serch arno mae Dafydd yn darlunio ei gyflwr cynt fel hyn:

Gynt yr oeddwn, gwn ganclwyf,
Yn oed ieuenctyd a nwyf …
Yn lluniwr berw oferwaith,
Yn llawen iawn, yn llawn iaith. (82.3–4, 9–10)
Defnyddir y gair berw gan Ddafydd yng nghyswllt y weithred o gyfansoddi neu ganu cân, 1 ac yma ynghyd â llawn iaith mae’n cyfleu argraff o fwrlwm sy’n gorlifo ohono’i hun yn fynegiant cyforiog o lawenydd. Y brwdfrydedd ieithyddol hwn yw un o’r pethau mwyaf apelgar am farddoniaeth Dafydd ap Gwilym.
Yn sgil poblogrwydd cerddi Dafydd ap Gwilym gan ddatgeiniaid a chopïwyr llawysgrifau, diogelwyd dros saith mil o linellau o’i farddoniaeth, corff o waith sy’n cynnig cyfle i archwilio holl ystod yr iaith dan ei ddwylo ac i dynnu casgliadau am hanes y Gymraeg yn ei gyfnod. 2 Mae’r corff hwn yn fwy o lawer na’r hyn a oroesodd o waith unrhyw un o’i gyfoeswyr, ac yn sgil hynny mae tuedd i orbwysleisio rhagoriaeth Dafydd am fod cymaint mwy o dystiolaeth i’w chael. Y gwir amdani yw bod beirdd fel Casnodyn, Madog Benfras, Gruffudd Gryg, Llywelyn Goch ap Meurig Hen a Iolo Goch yn arddangos rhai o’r un doniau barddol a’r un math o greadigrwydd ieithyddol, er ar raddfa lai.
Mae’r cynnydd diweddar yn ysgolheictod y Gymraeg wedi darparu nifer o adnoddau testunol sy’n caniatáu inni gael golwg weddol lawn ar gyd-destun ieithyddol Dafydd ap Gwilym am y tro cyntaf. Ar gyfer y farddoniaeth cynhyrchodd dau o brosiectau Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru olygiadau safonol o ganu rhagflaenwyr a chyfoeswyr Dafydd, sef Cyfres Beirdd y Tywysogion a Chyfres Beirdd yr Uchelwyr. O ran y rhyddiaith, mae nifer o olygiadau o destunau unigol i’w cael erbyn hyn, ond yr adnodd mwyaf defnyddiol yw’r cronfeydd data a gynhyrchwyd gan adrannau Cymraeg Prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd sy’n cynnwys testunau llawysgrif y cyfnod 1250–1425 mewn ffurf chwiliadwy. 3 Cwblhawyd argraffiad cyntaf Geiriadur Prifysgol Cymru yn 2002, ac mae’n ganllaw cwbl anhepgor ar gyfer olrhain hanes geiriau. 4 Ac yn 2007, yn sgil prosiect a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, cyhoeddwyd golygiad newydd o holl gerddi Dafydd ap Gwilym ei hun ar ffurf ddigidol, gan gynnwys mynegair llawn. 5 Rhwng yr holl adnoddau hyn, felly, mae cyfle yn awr i astudio geirfa Dafydd ap Gwilym mewn modd cyflawnach nag y gellid erioed o’r blaen.
Yr oedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yn gyfnod o ansefydlogrwydd mawr yn hanes yr iaith Gymraeg a achoswyd gan y newidiadau cymdeithasol a’r dylanwadau ieithyddol newydd a ddaeth yn sgil y Goncwest Edwardaidd. Cafodd cydgyffwrdd rhwng ieithoedd gryn sylw gan ieithegwyr yn ddiweddar fel sbardun i newid ieithyddol, 6 a bu’n ffactor bwysig yn hanes y Gymraeg ers y cyfnod cynharaf, fel y gwelir wrth drafod geiriau benthyg ym mhennod 5. Roedd ardaloedd y Mers yn y de a’r dwyrain wedi bod yn amlieithog ers dyfodiad y Normaniaid yn yr unfed ganrif ar ddeg, a gyda datblygiad y trefi yn ganolfannau milwrol a masnachol a’r mewnfudo a gafwyd o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg ymlaen, ynghyd â gwaith yr uchelwyr fel swyddogion llywodraeth leol, daeth amlieithrwydd yn fwyfwy cyffredin drwy Gymru gyfan. Y tebyg yw bod Dafydd a llawer o’i gyfoeswyr ymhlith yr uchelwyr a’r dosbarth bwrgeisiol yn medru dwy neu dair iaith rhwng y Gymraeg, Ffrangeg neu Eingl-Normaneg, a Saesneg yn ogystal â Lladin fel iaith ddysg. 7 Mae amlieithrwydd yn beth canmoladwy yng ngherddi Dafydd: defnyddir y term ieithydd am Lywelyn ap Gwilym a Rhydderch ab Ieuan Llwyd ac am y ceiliog bronfraith (6.12, 10.39, 49.14), a meddir yn ormodieithol am yr aderyn

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents