Lewis Edwards
224 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
224 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

A comprehensive study of the work of Lewis Edwards (1809-87), Wales's foremost scholar of the nineteenth century, and one who raised the standard of Nonconformist Wales erudition. A Calvinistic Methodist in his upbringing and through conviction, he was a pious man belonging to his era.

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 01 juillet 2009
Nombre de lectures 0
EAN13 9781783165933
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 8 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,0500€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

D AWN D WEUD
Golygydd Cyffredinol: Branwen Jarvis
Hen gwestiwn mewn beirniadaeth lenyddol yw mater annibyniaeth y gwaith a ddarllenir; ai creadigaeth unigryw yw cerdd neu ysgrif neu nofel, i’w dehongli o’r newydd gan bob darllenydd; neu i ba raddau mae’n gynnyrch awdur unigol ar adeg arbennig yn ei fywyd ac yn aelod o’r gymdeithas y mae’n byw ynddi? Yn y pen draw diau fod gweithiau llenyddol yn sefyll neu’n cwympo yn ôl yr hyn a gaiff darllenwyr unigol ohonynt, ond aelodau o’u cymdeithas ac o’u hoes yw’r darllenwyr hwythau, a’r gweithiau a brisir uchaf yw’r rheini y gellir ymateb iddynt a thynnu maeth ohonynt ymhob cenhedlaeth gyfnewidiol am fod yr oes yn clywed ei llais ynddynt. Ni all y darllenydd na’r awdur ymryddhau’n llwyr o amgylchiadau’r dydd.
Yn y gyfres hon o fywgraffiadau llenyddol yr hyn a geisir yw cyflwyno ymdriniaeth feirniadol o waith awdur nid yn unig o fewn fframwaith cronolegol ond gan ystyried yn arbennig ei bersonoliaeth, ei yrfa a hynt a helynt ei fywyd a’i ymateb i’r byd o’i gwmpas. Y bwriad, felly, yw dyfnhau dealltwriaeth y darllenydd o amgylchiadau creu gwaith llenyddol heb ymhonni fod hynny’n agos at ei esbonio’n llwyr.
Dyma’r gyfrol unfed ar ddeg yn y gyfres. Y gyfrol nesaf i ymddangos fydd bywgraffiad llenyddol o John Morris-Jones.
D AWN D WEUD W. J. Gruffydd gan T. Robin Chapman W. Ambrose Bebb gan T. Robin Chapman R. Williams Parry gan Bedwyr Lewis Jones, golygwyd a chwblhawyd gan Gwyn Thomas T. H. Parry-Williams gan R. Gerallt Jones ‘Doc Tom’; Thomas Richards gan Geraint H. Jenkins Talhaiarn gan Dewi M. Lloyd Daniel Owen gan Robert Rhys Islwyn gan Glyn Tegai Hughes Pennar Davies gan D. Densil Morgan Lewis Morris gan Alun R. Jones
D AWN D WEUD
Lewis Edwards
gan D. Densil Morgan
© D. Densil Morgan ⓗ 2009
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd, CF10 5UP. Gwefan: www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-0-7083-2194-2 e-ISBN 978-1-78316-593-3
Hoffai’r cyhoeddwyr gydnabod cymorth ariannol Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru tuag at gyhoeddi’r gyfrol hon.
Datganwyd gan D. Densil Morgan ei hawl foesol i gael ei gydnabod yn awdur y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77, 78 a 79 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
I Derec a Jane
Cynnwys
Rhagair
  1 O Ben-llwyn i Sasiwn Wystog, 1809–1830
  2 O Lundain i Dalacharn, 1830–1833
  3 Prifysgol Caeredin, 1833–1836
  4 Blynyddoedd Cyntaf y Bala, 1837–1842
  5 Tuag at Y Traethodydd , 1842–1845
  6 Rhwng Y Traethodydd ac Athrawiaeth yr Iawn I , 1845–1860
  7 Rhwng Y Traethodydd ac Athrawiaeth yr Iawn II , 1845–1860
  8 Y Gymanfa Gyffredinol, y Fugeiliaeth a’r Etholiad Mawr, 1860–1870
  9 Blynyddoedd y Machlud, 1870–1887
10 Lewis Edwards, ei Edmygwyr a’i Feirniaid
Nodiadau
Atodiad
Rhagair
Ymhlith fy nhasgau yn ystod y blynyddoedd diwethaf fu ymchwilio i agweddau ar hanes y meddwl Cymreig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, canrif y dysgodd yr Athro Hywel Teifi Edwards ni i’w hystyried fel ‘y ganrif fawr’. Cefais gyfle i ddweud rhywbeth eisoes am Owen Thomas, Lerpwl, Llewelyn Ioan Evans, R. S. Thomas, Abercynon, ac eraill, ond nid oedd neb mwy na gwrthrych y gyfrol hon. Roedd Lewis Edwards yn rhannu holl fawredd a gwendidau Oes Victoria, ond nid oes modd deall hanes diwylliant, crefydd a dysg y cyfnod heb ddod yn gyfarwydd â’i waith. Ymgais i dafoli ei gyfraniad, ar achlysur daucanmlwyddiant ei eni, yw’r llyfr hwn.
Hoffwn ddiolch i’r Athro Branwen Jarvis, golygydd y gyfres Dawn Dweud, am fy ngwahodd i ymgymryd â’r dasg, ac am ei gofal wrth ddarllen a chywiro y deipysgrif. Fe’i darllenwyd gan fy nghyfaill a’m cydweithiwr Dr Robert Pope yn ogystal, ac mae’r awgrymiadau gwerthfawr a wnaed gan y ddau ohonynt wedi eu cynnwys yn y fersiwn brint. Pwysais hefyd ar wybodaeth helaeth Mr Einion Wyn Thomas o wasanaeth Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor ynghylch hanes gwleidyddol Meirionnydd a chyfraniad Lewis Edwards iddo. Dangosodd Dr Huw Walters o’r Llyfrgell Genedlaethol ei garedigrwydd arferol wrth fy nghynorthwyo i olrhain ambell drywydd, ac rwy’n ddyledus i’r Athro Thomas Charles-Edwards, athro Celteg Coleg Iesu, Rhydychen, am rannu gwybodaeth deuluol ynghylch ei hen, hen dadcu. Cefais oleuni gan yr Athro Ceri Davies o Brifysgol Abertawe ynghylch sut orau i sillafu rhai termau Lladin. Roedd staff y Llyfrgell Genedlaethol, Archifau Prifysgol Bangor a llyfrgell y Coleg Newydd, Caeredin, yn siriol ac amyneddgar tra bu Ennis Akpinar ac Elin Nesta Lewis o Wasg Prifysgol Cymru yn gymwynasgar, yn ofalus ac yn dra phroffesiynol trwy gydol y broses cyhoeddi.
Ymhlith y rhai a ysbardunodd fy niddordeb cynnar ym meddwl a dychymyg y Methodistiaid oedd un o’r mwyaf o’n hysgolheigion, sef yr Athro Derec Llwyd Morgan. Cefais fudd aruthrol o berthyn i’w ddosbarth ar lenyddiaeth y Diwygiad Mawr yn Adran y Gymraeg ym Mangor yn y 1970au, ac elwais ar bopeth a ysgrifennodd wedyn ar y pwnc. Bu’n hynod ei gefnogaeth i mi ar hyd y blynyddoedd, ac mae ei gyfeillgarwch, ac eiddo Jane Edwards, ei wraig, yn ysbrydiaeth barhaus. Pleser amheuthun yw cyflwyno’r gyfrol hon i’r ddau ohonynt.
D. Densil Morgan Bangor Mai 2009
1 O Ben-llwyn i Sasiwn Wystog, 1809–1830
‘L ewis, the son of Lewis and Margaret Edward, was born at Pwllcenawon in the parish of Llanbadarnfawr in the county of Cardigan the 27 day of October, 1809 at 2 o’clock afternoon.’ Felly y cofnoda Beibl y teulu, a’r cofnod yn llaw Lewis Edward, y tad, 1 er bod peth amheuaeth ynghylch y ffeithiau, ac i Lewis Edwards, y mab, dybied mai yn Rhiwarthen, y tyddyn a ffiniai ar Bwllcenawon gerllaw pentref Pen-llwyn ar y ffordd rhwng Ponterwyd a Llanbadarn, y cafodd ei eni. 2 Os yw cofrestr y plwyf yn gywir, yn eglwys Llanbadarn y bedyddiwyd ef ddiwrnod yn ddiweddarach, ond tybir mai camgymeriad yw hynny, yn enwedig am i’w dad ysgrifennu ‘Lewis was baptized by the curate of Llanbadarnfawr and registered at Llanbadarnfawr’, gan awgrymu i’r ddeubeth ddigwydd ar wahân. Efallai fod rhywfaint o frys ynghylch ei fedydd, ond ni nodir hynny yng nghofnodion y teulu. ‘Ymddengys yn debygol, gan hynny’, meddai ei gofiannydd, ei fab hynaf Thomas Charles Edwards, ‘mai yn y tŷ y bedyddiwyd ef, ac i’r curad gofrestru’r peth yn y cofrestr’. 3 Beth bynnag am y manylion, erbyn diwedd Hydref 1809 roedd cyntafanedig Lewis a Margaret Edward wedi dod i’r byd.
Y Dechreuadau
Mae’n debyg mai brodor o blwyf Llanbadarn Fawr oedd Lewis Edward yr hynaf (1783–1852), ac yn ôl Thomas Edwards, ei fab yntau, ‘tynerwch duwiol ac arafwch doethineb a’i nodweddai’. 4 Ffermio tyddyn Pwllcenawon ar lannau Afon Rheidol a wnâi, a’i dŷ yn adeilad muriau pridd 30 troedfedd o hyd, 15 troedfedd o led a 12 troedfedd o’r llawr i’w fargod. Mae’r ffaith mai un brif ystafell, sef cegin, ‘gyda simnai eang y gallech weled y sêr drwyddi’, 5 ac yna ystafell wely fechan ar gyfer gŵr y tŷ a’i wraig, ac ar y lloft ddwy ystafell arall, un yn ddiffenestr oherwydd treth y goleuni, sef y dreth annynol ar ffenestri a barhaodd mewn grym tan 1851, lle cysgai’r bechgyn, ac un ystafell wely arall ar gyfer y merched a oedd yn y tŷ, yn arwyddo nad cyfoethogion o fath yn y byd oedd teulu Pwllcenawon, ond pobl ddigon llwm eu hamgylchiadau. Roedd un ystafell fechan ychwanegol a ddefnyddid i letya pregethwyr a ddeuai i wasanaethu yng nghapel Pen-llwyn. Enw gwraig Lewis Edward oedd Margaret (1785–1854), ac iddi hi, o ran pryd a gwedd, yr ymdebygai Lewis y mab fwyaf. ‘Cydwybodol a gwirioneddol gyda chrefydd’ ydoedd yn ôl Thomas, ei mab, ‘dyfal a chyson gyda phob moddion o ras, haelionus i’r tlodion, a hynod o ffyddlon yn ôl ei gallu gydag achos Duw yn ei holl rannau’. 6 Roedd y ddau yn aelodau gyda’r Methodistiaid Calfinaidd, a Lewis Edward yn flaenor yng nghapel Pen-llwyn am ran helaeth o’i oes.
Ar eu haelwyd fodlon os llwm ym Mhwllcenawon y ganed wyth o blant: Lewis, yr hynaf a aned, fel y nodwyd, yn 1809; Thomas (1812– 1871) a ddaeth, fel ei frawd, yn bregethwr Methodist a ddefnyddiwyd yn helaeth yn sgil Diwygiad 1859; John (1815–24), a fu farw yn blentyn; James (1817–72), a oedd yn ddibriod ac a ofalai am y ffarm ynghyd â’i dad; Eliza (1819–94); Dafydd (1822–80) a arhosodd hefyd yn ddibriod; Margaret (1824–87) a briododd â William James, Penbryn oddi mewn i’r un plwyf; a Mary (1828–33), a fu hithau farw’n ifanc. ‘Eu hymborth yn gyffredin oedd bara haidd, bara ceirch, caws cartref, ymenyn, llaeth a maidd … I ginio ceid digon o fwrdram, neu o gawl cenin, wedi ei ferwi yn y crochan mawr oedd yn crogi wrth gadwen oddi wrth y trawst yn y simnai … Gyda’r hwyr rhoddid i bawb bryd o lymru, a digonedd o fara a chaws.’ 7 Os oedd yn ddigonol, plaen oedd yr ymborth hwn, ac yn arwyddo eto fod y teulu yn gorfod gweithio’n galed er mwyn sicrhau rheidiau mwyaf sylfaenol bywyd. Er hynny, ymddengys eu bod yn ddedwydd ac yn fodlon eu byd.
Duwioldeb y Diwygiad Efengylaidd a nodweddai fywyd Lewis Edward yr hynaf a Margaret ei wraig, ac yn unol â gofynion manylaf y ffydd Galfinaidd y magent eu plant. Yn neau Ceredigion y cydiodd y diwygiad gyntaf, a gweinidogaeth eirias Daniel Rowland yn ysbardun iddo. O 1735 ymlaen, ac yn fwy eto ar ôl ‘Diwygiad Llangeitho’ yn 1762, pentref Llangeitho a’i heglwys blwyf a fu’n ganolbwynt i’r cynyrfiadau diwygiadol oddi mewn i’r sir, 8 ond yn araf y bu i’r mudiad ymwreiddio tua’r gogledd. Symudiad adnewyddol oddi mewn i’r gyfundrefn Anglicanaidd oedd y diwygiad yn y cyfnod hwn heb fod ynddo nemor ddim tuedd at ymwahanu oddi wrth yr eglwys sefydledig. ‘One gains the impression’, meddai Geraint H. Jenkins, ‘that at least in Cardiganshire, Methodism was viewed as an organic part of the established Church rather than some sort of Trojan horse.’ 9 Roedd pwysau’r sefydliad i’w teimlo’n fwy fy

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents