Y Dychymyg Ôl-Fodern
278 pages
Welsh

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Y Dychymyg Ôl-Fodern , livre ebook

-

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
278 pages
Welsh
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Cyfrol arbrofol o feirniadaeth greadigol yw hon, sy’n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor nodedig Mihangel Morgan (1955–). Hon yw’r astudiaeth estynedig gyntaf o’i waith, a rhoddir sylw penodol i’r wyth cyfrol o ffuglen fer a gyhoeddodd rhwng 1992 a 2017 – cyfnod lle gwelwyd datblygiadau arwyddocaol ym maes rhyddiaith Gymraeg. Eir i’r afael â phynciau megis ffurf y stori fer, realaeth, moderniaeth ac ôl-foderniaeth, a thrwy osod gwaith Mihangel Morgan yn ganolbwynt i’r astudiaeth cynigir golwg ehangach ar ddatblygiad a derbyniad ffuglen fer ôl-fodernaidd Gymraeg a’i harwyddocâd i’n diwylliant llenyddol. Arbrofir yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg â beirniadaeth lenyddol ar ffurf ffuglen academaidd er mwyn archwilio’r ffin dybiedig rhwng ‘ffaith’ a ‘ffuglen’. Dilynir hynt a helynt y cymeriad ffuglennol Dr Mari Non yn ei swydd brifysgol, law yn llaw â thrafodaeth ar ddarnau o ffuglen fer Mihangel Morgan, gan agor y drws ar ddeongliadau newydd o waith yr awdur.


Diolchiadau
Rhagair
Rhagymadrodd
1. Dechrau’r Tymor ym Mhrifysgol Caerefydd
2. O’r Merddwr Dychrynus
3. Ar drywydd Hen Lwybr a Storїau Eraill
4. Cynnal Gweithdy: Saith Pechod Marwol
5. Gwthio Ffiniau yn Te Gyda’r Frenhines
6. Pwyllgora a Chystadlu
7. Jean Baudrillard a’r cyflwr ‘hyperreal’
8. Trafod Theori Cadi
9. Agweddau ar Tair Ochr y Geiniog
10. Storïau Ffeithiol
11. Dadadeiladu ‘Recsarseis Bŵc’ yn Cathod a Chŵn
12. Adnabod Awdur?
13. Ymweld ac ailymweld yn Kate Roberts a’r Ystlum a Dirgelion Eraill
14. Crefft y Stori Fer Heddiw
15. Di-ffinio 60
16. Hel Syniadau
Llyfryddiaeth Ddethol

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 01 août 2020
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786835918
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 13 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,1250€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

Y DYCHYMYG
ÔL-FODERN
Agweddau ar ffuglen fer
Mihangel Morgan
i
Y_Dychymyg_Ol_Fodern_216x138mm_BOOK.indd 1 09/07/2020 10:35Cyflwynaf y gyfrol hon i Iwan,
gyda diolch ac edmygedd
ii
Y_Dychymyg_Ol_Fodern_216x138mm_BOOK.indd 2 09/07/2020 10:35Creu Dinasyddiaeth i Gymru
Mewnfudo Rhyngwladol a'r Gymraeg
Y DYCHYMYG
Gwennan Higham
ÔL-FODERN
Agweddau ar ffuglen fer
Mihangel Morgan
RHIANNON MARK S
Gwasg Prifysgol Cymru
2020
iii
Y_Dychymyg_Ol_Fodern_216x138mm_BOOK.indd 3 09/07/2020 10:35000 Prelims Dinasyddiaeth 2020_3_12.indd 3 12-Mar-20 1:42:51 PMHawlfraint © Rhiannon Marks, 2020
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn
na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw
ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo,
recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r
Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78683-590-1
e-ISBN 978-1-78683-591-8
Datganwyd gan Rhiannon Marks ei hawl foesol i’w chydnabod yn awdur
ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint,
Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cydnabyddir cymorth ariannol Prifysgol Caerdydd
ar gyfer y cyhoeddiad hwn.
Cysodwyd gan Gary Evans, Penlanogle, Ciliau Aeron, Llanbedr Pont Steffan
Argraffwyd gan CPI Antony Rowe, Melksham
iv
Y_Dychymyg_Ol_Fodern_216x138mm_BOOK.indd 4 09/07/2020 10:35Cynnwys
Diolchiadau ......................................................................................... vii
Rhagair ..................................................................................................ix
Rhagymadrodd .....................................................................................xi
1. Dechrau’r Tymor ym Mhrifysgol Caerefy d..............................d 1
2. O’r Merddwr Dychrynu ..............................................................s 15
3. Ar drywydd Hen Lwybr a Stoїrau Eraill .................................. 23
4. Cynnal Gweithdy: Saith Pechod Marwol ................................ 45
5. Gwthio Ffiniau yn Te Gyda’r Frenhine s ....................................69
6. Pwyllgora a Chystadlu ..................................................................97
7. Jean Baudrillard a’r cyflwr ‘hyperre al’ 103
8. Trafod Theori Cad .....................................................................i 117
9. Agweddau ar Tair Ochr y Geiniog............................................131
10. Storïau Ffeithi o...........................................................................l 149
11. Dadadeiladu ‘Recsarseis Bŵc’ yn Cathod a Chŵ n.................155
12. Adnabod Awdur .........................................................................? 183
13. Ymweld ac ailymweld yn Kate Roberts a’r Ystlum a
Dirgelion Eraill ...........................................................................191
14. Crefft y Stori Fer Hedd ...........................................................iw 209
15. Di-ffinio 60 .................................................................................215
16. Hel Syniadau ................................................................................227
Llyfryddiaeth Ddeth o......................................................................l 237
Mynegai ..............................................................................................243
v
Y_Dychymyg_Ol_Fodern_216x138mm_BOOK.indd 5 09/07/2020 10:35Mae'r dudalen hon yn fwriadol wagIntroduction
Diolchiadau
Hoffwn ddiolch yn y lle cyntaf i Brifysgol Caerdydd am ddyfarnu
imi gyfnodau ymchwil wedi eu hariannu i ddechrau ac i gwblhau’r
ymchwil a fu’n sail i’r gyfrol hon. Mae fy nyled yn fawr i’m
cydweithwyr hynaws a hoffus yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol
Caerdydd am eu cyfeillgarwch bob amser a’u parodrwydd i wneud
cymwynas. Diolch yn arbennig i’r Dr Dylan Foster Evans am
ddarllen y gwaith yn ei gyfanrwydd ac am ei sylwadau gwerthfawr.
Carwn gydnabod fy niolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am
ariannu fy mhrosiect ‘Crefft y Stori Fer Heddiw’ a ganiataodd
imi gynnal symposiwm ymchwil a chreu adnodd addysgol sy’n
gysylltiedig â’r gyfrol hon. Rhaid diolch o galon i’r dyn ei hun, y
Dr Mihangel Morgan, am gytuno i gael ei gyfweld gennyf ar gyfer
y prosiect hwnnw ac am rannu ei ddysg â mi ar hyd y blynyddoedd
fel darlithydd.
Rwy’n ddiolchgar hefyd i’r rhai a fu mor barod eu sgwrs a’u
cymorth wrth imi ymchwilio: yr Athro Jane Aaron, y Dr Llŷr Gwyn
Lewis, y Dr Stephanie Ward a’r Dr Mark Williams; yn ogystal â’r Dr
Elke D’hoker am fy ngwahodd i Brifysgol KU Leuven fel ysgolhaig
ar ymweliad. Diolch hefyd i aelodau’r European Network for Short
Fiction Research am eu sylwadau ar bapurau ymchwil ac am ysgogi
syniadau newydd.
Hoffwn ddiolch i holl staff Gwasg Prifysgol Cymru am eu gofal
a’u trylwyredd wrth lywio’r gyfrol hon drwy’r wasg. Diolch yn
benodol i’r Dr Llion Wigley am ei gefnogaeth wrth drafod syniadau
cychwynnol, ac i’r Golygydd, y Dr Dafydd Jones.
Yn olaf, diolch i’m teulu a’m ffrindiau am eu cefnogaeth ddiwyro.
Diolch yn arbennig i’m tad, Tom, am fy nghyflwyno i storïau
vii
Y_Dychymyg_Ol_Fodern_216x138mm_BOOK.indd 7 09/07/2020 10:35DIOLCHIADAU
Mihangel Morgan yn y lle cyntaf ac i’m mam, Janet, a’m chwaer,
Eleri, am eu hanogaeth a’u hwyliogrwydd bob amser. Mae fy nyled
bennaf i’r ddau yn ‘62’ am wneud ein cartref yn un llon: diolch o
waelod calon i’r Dr Iwan Wyn Rees, fy ngŵr a’m cydweithiwr, am
ddarllen y deipysgrif â’i lygad barcud; ac i’m hysbrydoliaeth – fy
merch annwyl, Mabli Haf – am wneud imi chwerthin bob dydd.
viii
Y_Dychymyg_Ol_Fodern_216x138mm_BOOK.indd 8 09/07/2020 10:35Rhagair
Awydd i ymdrin â gwaith awdur sy’n destun chwilfrydedd imi
ers blynyddoedd sydd wrth wraidd y gyfrol hon. Drwy ei straeon
byrion y’m cyflwynwyd gyntaf i waith Mihangel Morgan a
hynny ar draeth nid nepell o La Rochelle pan oeddwn tua
deuddeg oed. Cyn ichi gau’r cloriau ar y fath honiad ymhonnus
hoffwn bwysleisio nad oedd yn arfer gennym fel teulu eistedd
yn gwrando ar straeon byrion yn cael eu darllen yn uchel ond
ar y diwrnod penodol hwn roedd fy nhad wedi gwirioni ar
straeon swreal Saith Pechod Marwol ac yn chwerthin cymaint
nes imi fynnu ei fod yn eu rhannu â mi. Gwirionais yn syth ar
y straeon dychmygus a oedd mor wahanol i’r hyn a oedd ar ein
cwricwlwm yn yr ysgol ar y pryd a mynd i chwilio am unrhyw
gyfrol ag enw Mihangel Morgan arni. Buan iawn y creais
arwydd ar ddrws fy ystafell wely yn cynnwys llinell gyntaf
Dirgel Ddyn i gyfiawnhau fy nawn gynhenid o adael blerwch
ar fy ôl – ‘Rhinwedd y cyffredin yw taclusrwydd’. Po fwyaf y
darllenwn ei waith, y mwyaf y cynyddai fy nyhead i gwrdd â’r
dyn ei hun.
O’r diwedd, cefais y cyfle pan ddaeth i Lanymddyfri i siarad â
chriw blynyddoedd 12 ac 13 a oedd yn astudio ei waith ar gyfer
yr arholiadau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch. Roeddwn ar dân
eisiau gofyn iddo am ei waith ac er fy mod wrth reddf yn un
swil rwy’n cofio mynd amdani y diwrnod hwnnw a holi’r awdur
yn dwll. Atebodd rai o’m cwestiynau ond cofiaf deimlo braidd
yn siomedig hefyd wrth iddo ddweud nad ei rôl fel awdur oedd
esbonio ystyr ei waith: ‘y darllenydd sydd i benderfynu’. Wrth
edrych yn ôl, mae’n debyg mai fy null naïf i o ddarllen a oedd ar
fai – disgwyliwn y byddai gweld yr awdur yn datrys y dirgelion
yn ei waith, ond fel y dysgais y diwrnod hwnnw, gêm y mae’n
rhaid i’r darllenydd chwarae rôl weithredol ynddi yw darllen.
ix
Y_Dychymyg_Ol_Fodern_216x138mm_BOOK.indd 9 09/07/2020 10:35RHAGAIR
Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, dyma ddod i adnabod Mihangel
y darlithydd wrth imi astudio am radd BA mewn Cymraeg yn
Aberystwyth. Dilynais ei gwrs Ysgrifennu Creadigol (i fyny’r
grisiau troellog ar fore Llun lle’r oedd ‘vibes Parry-Williams’,
chwedl Mihangel, yn dal i gael eu teimlo drwy’r muriau) ynghyd â
modiwlau’n ymwneud â rhyddiaith amrywiol o wahanol gyfnodau:
o Weledigaethau’r Bardd Cwsg i’r stori fer a chyfraniad Kate Roberts
a John Gwilym Jones i ddatblygiad y ffurf yn ystod yr ugeinfed
ganrif. Bu wedyn yn arholwr PhD arnaf a chefais gryn anogaeth
ganddo i barhau ar drywydd ‘beirniadaeth greadigol’ – er na
wyddai’r pryd hwnnw y byddwn yn troi at astudio’i waith ef maes
o law. Ys dywedodd Gruffudd Gryg un tro, ‘disgybl wyf, ef a’m
dysgawdd’.
A minnau nawr yn dysgu cyrsiau ar Ryddiaith Ddiweddar a Theori
Lenyddol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, cymeraf bob
cyfle posibl i dynnu testunau Mihangel Morgan i’n trafodaethau
dosbarth. Diolch yn arbennig i’r rheini y cefais y pleser o’u
cwmni yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac am y mwynhad pur
a gefais wrth inni ddatgymalu theorïau llenyddol a thestunau
ôl-fodernaidd gyda’n gilydd. Gan hynny, gobeithio y bydd y gyfrol
hon yn gyfraniad bychan tuag at lenwi un o’r bylchau niferus o ran
trafodaethau beirniadol ar lenyddiaeth gyfoes Gymraeg.
x
Y_Dychymyg_Ol_Fodern_216x138mm_BOOK.indd 10 09/07/2020 10:35RHAGYMADRODD
Rhagymadrodd
Sonnir yn aml y dyddiau hyn am y stori fer fel ffurf sy’n prysur
adennill tir wrth iddi gipio gwobrau llenyddol mawr eu bri yng
Nghymru ac yn rhyngwladol. ‘Adfywiad’ oedd y gair mawr ar
achlysur gwobrwyo casgliad o straeon byrion Sonia Edwards,
1Rhannu Ambarél, yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn
22017 – a hynny dair blynedd union ar ôl i Lleucu Roberts
3gyflawni’r un gamp am ei chasgliad hithau, Saith Oes Ef .a Yn yr
un modd yn 2013, pan ddyfarnwyd Gwobr Nobel i Alice Munro
a’r Man Booker International Prize i Lydia Davis am weithiau
o ffuglen fer, dywedodd Sam Baker yn y Telegrap rhai misoedd
yn ddiweddarach – ‘the short story is having “a moment”’, gan
ddadlau i’r ffurf fod yn ‘poor relation of the novel’ am gyfnod
4rhy hir.
Beth sy’n gyfrifol am y ‘foment’ fawr hon? Yn ôl Sonia Edwards,
mae ei hapêl yn ei chrynoder: ‘mae yna le iddi heddiw, yn enwedig
5a ninnau’n byw bywydau mor brysur D.’ ywed Sam B

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents