Twm Bach ar y Mimosa
80 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Twm Bach ar y Mimosa , livre ebook

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
80 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

A children''s story about a 10 year old boy travelling from Aberdare to Patagonia. Daniel, who records events on the journey, hopes to share his experiences with his best friend Twm, one day.

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 01 mai 2020
Nombre de lectures 1
EAN13 9781845277666
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 2 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,0300€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

Twm Bach ar y Mimosa

Siân Lewis
Darluniau gan Chris Iliff


Gwasg Carreg Gwalch
Argraffiad cyntaf: 2015
© testun: Siân Lewis 2015
© darluniau: Chris Iliff 2015

Cedwir pob hawl.
Ni chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn, na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy, na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng, electronig, electrostatig, tâp magnetig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan y cyhoeddwyr, Gwasg Carreg Gwalch, 12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH.

ISBN elyfr: 9781845277666

ISBN clawr meddal: 978-1-84527-521-1

Cyhoeddwyd gyda chymorth Cyngor Llyfrau Cymru

Cynllun clawr: Eleri Owen

Cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch, 12 Iard yr Orsaf, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cymru LL26 0EH
Ffôn: 01492 642031 | Ffacs: 01492 642502
e-bost: llyfrau@carreg-gwalch.cymru
lle ar y we: www.carreg-gwalch.cymru

Argraffwyd a chyhoeddwyd yng Nghymru
Nodyn

Er bod nifer o gymeriadau a digwyddiadau’r stori hon yn rhai go iawn, dychmygol yw’r teulu Roberts, prif gymeriadau’r stori hon, felly dychmygol yw eu perthynas â Seth Jones, a gweddill teithwyr y Mimosa .
Awst 1869
Dyffryn Camwy, Patagonia

‘Daniel Roberts ydw i, a dwi’n bedair ar ddeg oed. Ces fy ngeni yn Aberdâr, de Cymru.
Bedair blynedd yn ôl, ym mis Ebrill 1865, es i, Mam, Dad, a Leisa fy chwaer, i Lerpwl i ddal llong fyddai’n ein cludo ar daith o saith mil o filltiroedd i Batagonia, De America.
Aeth dros gant a hanner o Gymry i Batagonia gyda ni. Roedden ni’n mynd i sefydlu Gwladfa Gymreig, sef gwlad newydd sbon lle bydden ni’r Cymry’n rheoli a phawb yn siarad Cymraeg.
Cyn gadael Aberdâr, ces anrheg gan Twm Hopcyn, fy ffrind gorau. Allai Twm ddim dod i Batagonia gyda fi, felly fe anfonodd fachgen bach pren o’r enw ‘Twm Bach’ yn ei le. Addewais innau yrru hanes anturiaethau Twm Bach yn ôl i Gymru.
Heddiw, o’r diwedd, dwi am gadw fy addewid. I ti mae’r hanes hwn, Twm Hopcyn. Rwyt ti wedi disgwyl yn hir amdano. Pan ddarlleni di’r stori i gyd, fe fyddi di’n deall pam.’

Dan
Yr Hanes

Pennod 1
Lerpwl


Dwi’n mynd i ddechrau’r hanes hwn yn Lerpwl. Dinas fawr yng ngogledd-orllewin Lloegr yw Lerpwl, ac mae afon fawr yn llifo drwyddi. Merswy yw enw’r afon, ac mae ceg yr afon yn fwrlwm o longau sy’n cludo teithwyr a nwyddau yn ôl ac ymlaen ar draws y byd.
Pan es i, Mam a Dad, Leisa fy chwaer, a chant a hanner o Gymry eraill, i Lerpwl ym mis Ebrill 1865, roedden ni’n disgwyl byrddio llong o’r enw Halton Castle a hwylio ar ein hunion i Batagonia. Ond roedd yr Halton Castle yn dal ar y môr mawr. Felly doedd gyda ni ddim dewis ond aros yn y ddinas nes bod llong arall o’r enw Mimosa yn cael ei pharatoi ar ein cyfer.
Dair wythnos yn ddiweddarach, roedden ni’n dal i aros. Doedd gyda ni ddim arian ar ôl, felly roedd Dad wedi cael ychydig oriau o waith yn y dociau.
Ar brynhawn dydd Llun, 15 Mai, ro’n i ar lan afon Merswy’n disgwyl am Dad ac yn gwylio dynion yn dadlwytho cliper tua chanllath i ffwrdd. Ro’n i wedi tynnu Twm Bach o ’mhoced, ac yn esgus mai’r Twm go iawn oedd e.
‘Edrych ar y gist fawr ’na,’ dwedais, a chodi Twm Bach i’r awyr i ddangos cist oedd yn hongian oddi ar winsh enfawr. Yr union eiliad honno sleifiodd yr haul o’r tu ôl i gwmwl a disgleirio ar y winsh. Tasgodd y pelydrau tuag ata i, ac wrth i fi gau fy llygaid, dihangodd Twm Bach o ’ngafael, a phowlio tuag at yr afon.
Gwaeddais a neidio ar ei ôl heb edrych i’r chwith nac i’r dde. Yr eiliad nesa ro’n i’n fflat ar lawr a phoen yn gwibio drwy fy nghoes. Ond doedd dim ots. Â blaenau fy mysedd, ro’n i wedi dal Twm Bach.
Cydiais ynddo’n dynn a rholio ar fy nghefn, a’m hanadl yn codi’n niwl uwch fy mhen. Drwy’r niwl gwibiodd dau wyneb coch. Roedd gŵr a gwraig yn plygu drosta i, yn gweiddi’n gas yn Saesneg.
‘Th ... thank you,’ dwedais wrthyn nhw. Wyddwn i ddim beth arall i’w ddweud.
‘Thank you!’ Gwylltiodd y ddau yn waeth fyth. Cydiodd y dyn yn fy mraich a’m llusgo ar fy nhraed. Pwyntiodd at gert fach oedd yn sefyll gerllaw ac ar y bocs oedd yn gorwedd yn ei hymyl. Roedd cornel y bocs wedi hollti a dŵr llwydaidd yn diferu drwy’r crac.
‘Wel?’ gwaeddodd y dyn, ymysg pethau eraill. ‘Wel?’
Deallais mai’r gert oedd wedi ’nharo i’r llawr. Roedd wedi colli’i llwyth, ac arna i roedd y bai. Ond beth allwn i ei wneud? Roedd yr ychydig eiriau o Saesneg yn fy mhen wedi diflannu’n llwyr.
‘Dwi ddim yn gallu siarad Saesneg,’ dwedais.
‘Y?’ Rhythodd y dyn, a rhoi ysgytwad ffyrnig i fi.
Edrychais mewn panig i gyfeiriad y doc. Doedd dim sôn am Dad. Welwn i ddim byd ond pobl yn gwgu arna i. Roedd llaw’r dyn yn gwasgu ’mraich yn dynnach. Beth petai’n fy llusgo i ffwrdd cyn i Dad ddod?


‘Father. Dad come …’ griddfanais.
‘Your father?’ Llaciodd ei afael ryw fymryn, a rhythu i gyfeiriad dyn ifanc oedd yn brysio tuag aton ni.
Seth Jones oedd e! Ro’n i mor falch o’i weld. Roedd Seth yn Gymro fel fi ac yn un o’r rhai oedd yn mynd i ymfudo i Batagonia.
Chwyddodd y certiwr ei frest a phoeri llif o Saesneg i gyfeiriad Seth. Gwibiodd llygaid Seth tuag at y bocs a’r gert, yna, gan roi winc fach gynnil i fi, atebodd yn fwyn yn yr iaith fain. Camodd gwraig y certiwr tuag ato a gweiddi mor groch â’i gŵr. Nodiodd Seth ac estyn i’w boced am ddarn o arian. Dododd yr arian yn llaw’r wraig a chau’i bysedd amdano.
Trodd y gweiddi’n snwffian grwgnachlyd. Gollyngodd y certiwr fi’n rhydd, a chyda help Seth fe gododd y bocs i’r gert. Yna fe gydiodd ym mreichiau’r gert, a chan anelu un edrychiad surbwch ata i, symudodd i ffwrdd, a’i wraig wrth ei ochr.
Pan oedden nhw wedi diflannu i ganol y dorf, trois at Seth.
‘Wel?’ meddai hwnnw â gwên fach ddireidus ar ei wyneb. ‘Be ddigwyddodd? Ti ddaru daro’r gert, neu’r gert oedd ar fai?’
‘Fi,’ cyfaddefais.
‘Sut?’
‘Ro’n i’n trio dal Twm Bach.’
‘Twm?’
‘Dihangodd e.’
‘Rargian!’ Diflannodd gwên Seth mewn chwinciad. Edrychodd i gyfeiriad yr afon, a’i ben yn troi fel ceiliog gwynt. ‘Ble mae o?’ meddai’n ofidus. ‘Ble …?’
‘Mae’n iawn.’ Roedd Seth wedi camddeall, ac yn meddwl mai plentyn oedd Twm Bach. Cydiais yn ei fraich a gwthio fy llaw o dan ei drwyn. ‘Hwn yw Twm Bach.’
Syllodd Seth yn syn ar y bachgen bach pren. ‘O,’ meddai o’r diwedd ac edrych i fyw fy llygaid. ‘Tegan ydy o.’
‘Nage!’ Collais fy nhymer mewn eiliad a chau fy mysedd am Twm Bach. ‘Nid tegan yw e!’
Roedd dagrau’n llosgi yn fy llygaid. Dwi byth yn crio. Do’n i ddim wedi crio pan adawon ni Aberdâr, a fyddwn i ddim wedi crio un deigryn y diwrnod hwnnw chwaith, oni bai fod ’na bigau o boen yn fy mraich yn ogystal â ’nghoes erbyn hyn.
‘Ty’d,’ meddai Seth.
Tynnodd becyn o losin coch o’i boced a thra o’n i’n dal i flincian a snwffian, gwthiodd un i ’ngheg. Roedd darn bach o bapur yn sownd wrth y losin ac mi lyncais y papur yn grwn, wrth snwffian. Dododd Seth losinen yn ei geg ei hun. Sugnodd yn swnllyd a’i fochau’n chwyddo am yn ail, gan esgus cymryd diddordeb mawr ym mhrysurdeb y porthladd, tra o’n i’n cael cyfle i ddod ataf fy hun.
Sugnais innau’n chwyrn nes i arogl poeth, sbeislyd y losinen godi i ’nhrwyn. Wedyn fe bwysais ar y wal a sugno mewn tawelwch wrth i mi wylio’r llongau, y bobl, a’r adeiladau mawrion, a gweld afon Merswy yn prysuro ar ei thaith tua’r gorllewin.
Ar ôl i’r diferyn ola o’r sudd lithro i lawr fy nghorn gwddw, pesychais a diolch yn gynnes i Seth am ei help. Wedyn, es ati i adrodd hanes Twm Bach.
Pennod 2
Stori Twm a Twm


Mae ’na ddau Dwm. Twm Bach y bachgen pren, a Twm Hopcyn, y bachgen go iawn o gig a gwaed, sy’n byw yn Aberdâr.
Pan gafodd Twm Hopcyn ei eni, bymtheg mlynedd yn ôl erbyn hyn, yn y stryd y tu ôl i’n tŷ ni, roedd Mam yno. Fe welodd hi Twm yn cael ei eni, ac fe fuodd hi’n helpu i edrych ar ei ôl, pan oedd ei fam yn sâl. Dyna pam, meddai hi, roedd e fel brawd i fi, ac yn treulio cymaint o amser yn ein tŷ ni.
Ond doedden ni ddim yn frodyr go iawn. Petai e’n frawd go iawn, fe fyddai wedi bod yn Lerpwl gyda fi’r diwrnod hwnnw.
Un main yw Twm Aberdâr. Mae ei wallt yn ysgafn fel gwe corryn ac mae ei lygaid wastad yn fywiog a disglair. Dwi, ar y llaw arall, yn sgwâr ac yn fochgoch gyda gwallt brown pigog, ’run fath â Dad, ond pan dwi’n crychu fy nhalcen, dwi’n edrych yn debyg i Mam.
Jên Roberts yw fy mam, Wil Roberts yw fy nhad a Leisa Roberts yw fy chwaer fach. Dad yw’r unig un o’n teulu ni na chafodd ei eni yn Aberdâr. Ffermwr yn Sir Aberteifi oedd Dad, cyn dod i weithio yn y pwll glo. Ffermio oedd y gwaith gorau yn y byd, meddai Dad, ond yn Sir Aberteifi roedd y tir yn wael a’r rhent yn uchel. Doedd dim gobaith i ddyn tlawd wneud bywoliaeth. Serch hynny, roedd Dad yn dal i obeithio.
Un prynhawn, pan o’n i tua wyth oed a Leisa’n bedair, roedden ni’n chwarae gyda Twm yn yr iard, pan glywson ni Dad yn carlamu at y tŷ gan weiddi ‘Drycha, Jên! Drycha, Jên!’ Rhedon ni i’r gegin mewn cyffro. Fan’ny roedd Mam yn pwyso ar ei brwsh a Dad yn chwifio copi o’r Gwladgarwr dan ei thrwyn. Papur newydd Aberdâr oedd Y Gwladgarwr .
‘Drycha, Jên!’ gwaeddodd Dad eto.
‘Sut galla i edrych a tithe’n neidio fel jac y jymper?’ meddai Mam yn swta. Dododd Dad ei freichiau am ei chanol, pwyso’i ên ar ei hysgwydd, a dal y papur o’i blaen. Rhedais i, Twm a Leisa bob ochr iddyn nhw a sbecian ar ddarn o brint a llun yn ei ganol. Roedd bys Dad yn pwyntio at y llun.
‘Llong,’ meddai Leisa.
‘Llong sy’n mynd i America,’ meddai Dad, a’i anadl yn ysgwyd y papur. ‘Mae llongau fel hon yn hwylio i America bob wythnos o’r flwyddyn. Mae ’na erwau o dir gwag yn America yn disgwyl am bobl fel ni. Maen nhw eisiau ffermwyr yn America. Mae digonedd o dir i bawb.’ Gollyngodd Dad ei afael ar Mam, troi at Leisa, Twm a fi a thaflu’i freichiau ar led. ‘Pwy sy am ddod gyda fi i America?’ gwaeddodd.
‘Fi!’ meddai Leisa. Wrth gwrs, doedd hi’n deall dim.
‘Fi!’ meddai Twm, gan anghofio mai ffrind oedd e, nid brawd.
Edrychais ar Mam, a gweld bod ei gwefusau’n un llinell dynn.
‘Sh nawr, Wil,’ medda

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents