Cerddi Dafydd ap Gwilym
583 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Cerddi Dafydd ap Gwilym , livre ebook

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
583 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Dafydd ap Gwilym is the most renowned and original of Wales' medieval poets, and is considered by many to be the greatest Welsh poet ever. His main topics were love and nature, and his poems express an individual response that combines mischievous humour and intense feeling. He was a poetic pioneer who pushed the boundaries of the Welsh language and the craft of Welsh poesy. In this volume the versions in modern Welsh and the notes are an essential aid to allow the reader to appreciate the rich poetry of the original texts.

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 01 juin 2010
Nombre de lectures 0
EAN13 9781783165957
Langue Welsh

Informations légales : prix de location à la page 0,1250€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

CERDDI DAFYDD AP GWILYM
CERDDI DAFYDD ap GWILYM
GOLYGWYD GAN DAFYDD JOHNSTON HUW MEIRION EDWARDS DYLAN FOSTER EVANS A. CYNFAEL LAKE ELISA MORAS A SARA ELIN ROBERTS
Hawlfraint © Y Cyfranwyr, 2010
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r llyfr hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio nac fel arall heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd, CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r llyfr hwn ar gael yn y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN
978-0-7083-2294-9
e-ISBN
978-1-78316-595-7
Datganwyd gan y Cyfranwyr eu hawl moesol i gael eu cydnabod yn awduron y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77, 78 a 79 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau’n gywir neu’n addas.
Cynnwys
Rhagair
Rhagymadrodd
Byrfoddau
Rhestr o’r Cerddi
Y Cerddi a’r Aralleiriadau
Nodiadau
Mynegai i’r Teitlau
Mynegai i’r Llinellau Cyntaf
Rhagair
Fersiwn print o’r golygiad electronig a geir ar wefan Dafydd ap Gwilym.net yw’r gyfrol hon. 1 Ceir llawer mwy o adnoddau yn y golygiad electronig, gan gynnwys y ffynonellau llawysgrif cynharaf ynghyd â lluniau digidol ohonynt. Mae’r nodiadau ar y cerddi yn y gyfrol hon yn rhai cryno sy’n cynnwys y wybodaeth angenrheidiol i ddeall y cerddi, gan hepgor y nodiadau testunol ac ieithyddol manwl a geir ar y wefan. Dylai’r sawl sy’n ymddiddori yn hanes trosglwyddo’r cerddi a’r broses o lunio a dehongli’r testunau golygedig droi at DG.net . Mae’r Rhagymadrodd i’r gyfrol hon yn seiliedig ar yr ysgrifau yn y golygiad electronig ar gefndir a bywyd y bardd gan Dylan Foster Evans, ac ar egwyddorion y testunau golygedig, awduraeth a thraddodiad y llawysgrifau gan Dafydd Johnston. Mae’r golygiad electronig hefyd yn cynnwys ysgrifau ar y cyd-destun llenyddol gan Huw Meirion Edwards, ar grefft y cerddi gan A. Cynfael Lake, ac ar y cefndir cerddorol gan Sally Harper. Mae DG.net yn wefan ddwyieithog, a cheir cyfieithiadau Saesneg o’r holl gerddi yn ogystal â’r aralleiriadau Cymraeg a gynhwysir yn y gyfrol hon.
Mae’r golygiad hwn yn ffrwyth cywaith rhyngadrannol, a chydnabyddir yn ddiolchgar y nawdd ariannol a gafwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau ar gyfer y prosiect hwnnw. Rhannwyd y cerddi rhwng chwe golygydd, a nodir eu henwau wrth y cerddi priodol yn nhabl cynnwys y gyfrol hon. Yr ydym yn ddyledus iawn i’r tri chynorthwyydd ymchwil a fu’n gweithio ar y prosiect, sef Sara Elin Roberts, Elisa Moras ac Ifor ap Dafydd, am eu cymorth wrth baratoi’r golygiad hwn.
Diolchir i Brifysgol Cymru am nawdd ariannol ar gyfer cyhoeddi’r gyfrol hon, ac i staff Gwasg Prifysgol Cymru am eu gwaith ardderchog.
Dafydd Johnston
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru Chwefror 2010

1 http://www.dafyddapgwilym.net (agorwyd Ebrill 2007 gan Brifysgol Abertawe). O hyn ymlaen cyfeirir at y wefan trwy’r byrfodd DG.net .
Rhagymadrodd
Y Bardd 1
Yn ôl tystiolaeth y testun cynharaf o’i waith sydd ar glawr, ac un sydd o bosibl yn ei law ef ei hun, enw llawn y bardd oedd Dafydd Llwyd fab Gwilym Gam. 2 Mab ydoedd i Wilym Gam ap Gwilym ab Einion Fawr o’r Tywyn ger Aberteifi. Ymhlith ei hynafiaid ar ochr ei dad y mae enwau dau fardd, sef Cuhelyn Fardd a Gwynfardd Dyfed, 3 a bu rhai o’i gyndeidiau’n swyddogion blaenllaw yng ngwasanaeth y Normaniaid yn ne-orllewin Cymru. Yn ôl tystiolaeth Gruffudd Gryg yn yr ymryson (gw. cerdd 25, ll. 48), Ardudful oedd enw mam Dafydd ond mae ei hach hithau’n anhysbys. Yn ei farwnad i Lywelyn ap Gwilym (cerdd 6), dywed Dafydd fod Llywelyn yn ewythr iddo, ac fe ddichon mai brawd ei fam oedd hwn.
Er bod gwreiddiau ei deulu yn y de-orllewin, ac yn Arglwyddiaeth Cemais yn arbennig, 4 dengys rhai o’i gerddi mai plwyf Llanbadarn Fawr yng ngogledd Ceredigion, sef bro ei dad, oedd cynefin Dafydd. Yn ôl traddodiad, Brogynin ger pentref Penrhyn-coch oedd ei gartref. Lleolir rhai o’i gerddi serch yn yr ardal honno’n benodol, 5 a gwyddys bod ei gariad Morfudd yn briod â masnachwr yn nhref Aberystwyth, gŵr a adwaenid wrth ei lysenw, ‘y Bwa Bach’. 6
Mae dyddiadau Dafydd ap Gwilym yn dal i fod yn ansicr oherwydd diffyg tystiolaeth, ond mae’r ychydig gyfeiriadau yn ei gerddi y gellir eu dyddio yn crynhoi yn y 1340au. A chymryd mai dychymyg gŵr ifanc a welir yn ‘Morfudd yn Hen’ (150), ac mai gor-ddweud a geir yn y darlun ohono’i hun yn hen ŵr yn ‘Cyngor y Bioden’ (36), nid oes rheswm i amau tystiolaeth marwnad Iolo Goch mai byr fu bywyd Dafydd. 7 Rhesymol felly yw awgrym R. Geraint Gruffydd mai c .1315 hyd c .1350 oedd cyfnod ei einioes. 8 Deil traddodiad mai yn Abaty Ystrad-fflur y’i claddwyd, fel yr awgryma cywydd Gruffudd Gryg i’r ywen uwchben ei fedd yno, ond nid annichon fod honno’n gerdd a ganwyd pan oedd Dafydd yn dal yn fyw.
Er bod bri Dafydd ap Gwilym yn seiliedig yn bennaf ar ei ganu serch a natur ar fesur y cywydd, mae’n bwysig cofio bod ganddo gorff o ganu crefyddol a mawl sy’n dangos ei fod yn feistr ar gelfyddyd draddodiadol y Gogynfeirdd ym mesurau’r awdl a’r englyn. Dengys ei gerddi mawl a marwnad iddo dderbyn nawdd ar hyd y wlad.
Dichon mai ei ewythr Llywelyn ap Gwilym oedd un o’i noddwyr cynharaf, os gellir derbyn awgrym D. J. Bowen i Ddafydd dreulio cyfnod ar faeth yn un o’i lysoedd pan fu Llywelyn yn gwnstabl Castellnewydd Emlyn, ac iddo ddysgu crefft cerdd dafod ganddo. 9 Aelwyd arall a fu’n allweddol yn ei yrfa farddol oedd llys Ieuan Llwyd yng Nglyn Aeron, un o ganolfannau llenyddol pwysicaf Cymru yn y cyfnod. Canodd Dafydd farwnadau i Angharad, gwraig Ieuan Llwyd, a’u mab Rhydderch (yr ail yn sicr yn ffugfarwnad, a’r gyntaf hefyd o bosibl). 10 Noddwyr eraill yn ei fro enedigol oedd Ieuan Llwyd ab Ieuan Fwyaf o gwmwd Genau’r Glyn, 11 ac Ieuan ap Gruffudd ap Llywelyn, tad Dyddgu. 12 Dichon mai fel mawl soffistigedig i’w theulu uchelwrol y dylid ystyried yr holl gerddi serch i Ddyddgu.
Ceir digon o dystiolaeth yn ei gerddi i Ddafydd fod yn clera yng Ngwynedd ar sawl achlysur. Canodd awdl fawl i Ddeon Bangor, a chywydd yn moli tref Niwbwrch ym Môn. 13 Lleolir un o’i helyntion serch yn Niwbwrch hefyd, ac yng Nghadeirlan Bangor y gwelodd y ferch sy’n wrthrych ‘Gwayw Serch’, man cychwyn yr ymryson â Gruffudd Gryg o Fôn. 14 Ond ym mhen arall y wlad y cafodd ei noddwr pwysicaf, sef Ifor ap Llywelyn, neu Ifor Hael o Fasaleg ym Morgannwg, gŵr a ddaeth yn batrwm o noddwr gan feirdd diweddarach yn sgil y saith cerdd iddo o waith Dafydd. 15
Trosglwyddiad y Cerddi
Y peth trawiadol am gadwraeth cerddi Dafydd ap Gwilym yw’r amrywiaeth mawr o ran nifer y copïau llawysgrif, gyda rhai’n goroesi mewn dyrnaid o lawysgrifau neu hyd yn oed un yn unig, ac eraill i’w cael mewn dros hanner cant. 16 O ran cyfnod hefyd y mae’r ffynonellau’n amrywio’n fawr, a llawer o’r cerddi’n digwydd am y tro cyntaf mewn llawysgrifau dros ddau gan mlynedd ar ôl oes y bardd. Tair yn unig a gadwyd mewn llawysgrifau o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, sef Llawysgrif Hendregadredd a Llyfr Gwyn Rhydderch. 17 Yn achos dwy o’r rheini ni oroesodd copi arall, a dyna arwydd o natur fregus y traddodiad. Nid oes wybod faint o gerddi o waith Dafydd a aeth ar ddifancoll yn llwyr. Ac eto mae’n amlwg bod ei gerddi’n hynod boblogaidd ar lafar, a dyna sy’n gyfrifol am gadwraeth cynifer ohonynt. Byddai’r cerddi’n cylchredeg trwy waith datgeiniaid proffesiynol yn y lle cyntaf, 18 ac wedyn gan feirdd ac efallai uchelwyr llengar trwy gydol y bymthegfed ganrif ac ymhell i mewn i’r unfed ar bymtheg.
Yn sgil poblogrwydd y cerddi ar lafar daw her ddeublyg i’r golygydd modern, oherwydd mae’n amlwg bod tuedd i gambriodoli cerddi serch i Ddafydd ap Gwilym, ac er bod datgeiniaid wedi’u hyfforddi i gofio llawer iawn o farddoniaeth roedd newidiadau yn y testunau dros amser yn anochel. Gwaith anodd yw didoli’r cerddi dilys o blith y cannoedd sydd wrth ei enw yn y llawysgrifau, ac adfer eu testunau gwreiddiol ar sail y fersiynau amrywiol niferus. 19
Dechreuwyd rhoi cerddi Dafydd ap Gwilym ar glawr tua chanol y bymthegfed ganrif, fesul tipyn yn gyntaf, wedi’u cofnodi oddi ar dafod leferydd mae’n debyg. Erbyn troad yr unfed ganrif ar bymtheg gwelir casgliadau mwy sylweddol yn ymffurfio ac, er bod rhai o’r llawysgrifau gwreiddiol wedi diflannu bellach, diogelwyd eu cynnwys gan ddyneiddwyr y Dadeni, megis Thomas Wiliems, Jaspar Gryffyth a John Davies, Mallwyd. Casgliad John Davies yn llawysgrif Peniarth 49 yw’r pwysicaf gan fod yr ysgolhaig mawr hwnnw yn nodi ei ffynonellau, sef Llyfr Gwyn Hergest, Llyfr Wiliam Mathew o Forgannwg, a’r hyn a elwir ganddo yn vetustus codex (‘hen lawysgrif’), casgliad mawr iawn a luniwyd yn ôl pob tebyg yn y gogledd-ddwyrain. Bu cryn gopïo ar y vetustus codex cyn iddo ddiflannu tua chanol yr ail ganrif ar bymtheg, a dirywiodd y testunau’n enbyd yn sgil awydd rhai ysgrifwyr i ddiweddaru iaith y cerddi a gwella’r cynganeddion yn ôl safonau eu cyfnod hwy. Yn anffodus, y fersiynau llwgr hynny a ddefnyddiwyd ar gyfer y casgliad printiedig cyntaf, Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym , a gyhoeddwyd dan olygyddiaeth Owain Myfyr a William Owen Pughe yn 1789. Gwendid mawr arall y gyfrol honno yw’r nifer fawr o gerddi annilys yng nghorff y casgliad, heb sôn am ffugiadau Iolo Morganwg yn y ‘Chwanegiad’. 20
Y golygiad cyntaf yn ôl safonau ysgolheigaidd modern oedd y detholiad o 64 cerdd a olygwyd gan Ifor Williams yn Cywyddau Dafydd ap Gwilym a’i Gyfoeswyr (DGG). 21 Ond ni sefydlwyd canon y bardd yn ddiogel nes cyhoeddi campwaith Thomas Parry, Gwaith Dafydd ap Gwilym (GDG) yn 1952. 22 Yn ogystal â chynnig testunau dibynadwy o 150 o gerddi a ystyriai’n waith dilys y bardd, gosododd Parry egwyddorion eglur ar gyfer penderfynu awduraeth cerddi, a’u cymhwyso i 177 o gerddi eraill a briodolir i Ddafydd ap

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents