173
pages
Welsh
Ebooks
2017
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
173
pages
Welsh
Ebook
2017
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Publié par
Date de parution
15 mars 2017
Nombre de lectures
0
EAN13
9781786830609
Langue
Welsh
Poids de l'ouvrage
1 Mo
Publié par
Date de parution
15 mars 2017
Nombre de lectures
0
EAN13
9781786830609
Langue
Welsh
Poids de l'ouvrage
1 Mo
C YFAILL P WY O R H EN W LAD ?
Cyfaill Pwy o r Hen Wlad?
Gwasg Gyfnodol Gymraeg America 1838-1866
Rhiannon Heledd Williams -->
Gwasg Prifysgol Cymru 2017
Hawlfraint © Rhiannon Heledd Williams, 2017
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o r cyhoeddiad hwn na i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78683-058-6
e-ISBN 978-1-78683-060-9
Datganwyd gan Rhiannon Heledd Williams ei hawl foesol i w chydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Llun y clawr: Clawr Y Cyfaill O’r Hen Wlad yn America, Mawrth 1839. Trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru Dyluniad y clawr: Olwen Fowler
I gofio n annwyl am Mam a Dad, fy arwyr
C YNNWYS
Diolchiadau
Cyflwyniad
1 Newyddiaduraeth Gymraeg America
2 Heb Dduw heb ddim, Duw a digon : Enwadaeth a Chrefydd Cymry America
3 Cyhoeddiad rhydd ac anmhleidgar ? Gwleidyddiaeth Cymry America a dylanwad y wasg
4 Oes y byd i r iaith Gymreig? Parhad yr iaith Gymraeg yn America
5 Llon heddy yw llenyddiaeth? Traddodiad llenyddol a diwylliant Cymry America
Casgliad
Tra Môr Tra Brython? Dylanwad y wasg a pharhad diwylliant Cymraeg America
Nodiadau
Llyfryddiaeth
D IOLCHIADAU
Carwn ddiolch i nifer helaeth o bobl am eu cymorth wrth lunio r gyfrol hon. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i staff archifdy Prifysgol Bangor, llyfrgell Prifysgol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru am gael pori drwy r cyfnodolion.
Diolch arbennig i Brifysgol Bangor am ysgoloriaeth i dreulio cyfnod ym Mhrifysgol Harvard, a fu n brofiad bythgofiadwy. Diolch i staff a myfyrwyr yr adran Geltaidd yno, ac i gynorthwywyr yr holl lyfrgelloedd. Diolchaf i r darlithwyr canlynol am ganiatáu imi astudio eu modiwlau tra oeddwn yno: yr Athro Elisa New, yr Athro Henry Louis Gates Jr, Dr Stephanie Sandler, Dr John Schauffer, Dr Kang. Diolch hefyd am sgyrsiau difyr gyda r Athro Werner Sollors, Dr Kevin van Anglen a Dr Melinda Gray.
Rwy n ddyledus iawn i r AHRC am nawdd i gwblhau r ddoethuriaeth sy n sail i r gyfrol hon. Hoffwn ddiolch i holl staff Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, am eu cyfeillgarwch, yn enwedig Rhodri, Heledd a Menna. Cyflwynaf fy niolchgarwch pennaf i r Athro Jerry Hunter, a gynigiodd arweiniad a chefnogaeth ar bob cam o r daith.
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Dr Lowri Rees, Dr Aled Llion Jones, yr Athro Bill Jones a Dr Simon Brooks am ddarllen rhannau o r gyfrol a chynnig sylwadau. Diolch hefyd am sgyrsiau gydag eraill sy n ymddiddori yn y maes, megis yr Athro E. Wyn James, yr Athro Densil Morgan a r Athro Daniel Williams, ac i Angharad Watkins am ei hargymhellion gwerthfawr.
Diolch i aelodau o Gymdeithas Gymraeg Utica, Cymry Vermont a staff llyfrgell Coleg Utica am eu croeso a u cyfarwyddyd, ond yn anad dim i Leonard Wynne a i wraig Dolores am eu parodrwydd i gynnig cymorth.
Hoffwn gydnabod y nawdd a dderbyniais i gyhoeddi r gyfrol gan Brifysgol De Cymru, a hefyd i Wasg Prifysgol Cymru am eu hamynedd a u trylwyredd wrth baratoi r deipysgrif.
Yn olaf, diolch i m cydweithwyr a m ffrindiau a fu n gwmni ar hyd y daith, yn enwedig Glesni, Elliw, Einir, Hefina, Lowri, Catrin, Eifiona, Llinos, Sian Eleri, Sioned, Angharad, Cyril, Cris a Judith. Diolch i fy nheulu, yn enwedig fy chwaer Annes Fflur a m nith Cadi Fflur am eu cariad. Diolch arbennig iawn i Llion Iwan am dy gymorth parod wrth olygu r gyfrol, am dy sylwadau adeiladol, ond yn anad dim am dy gariad a th anogaeth dibendraw.
Cyflwynaf fy niolchgarwch pennaf i Mam a Dad am eu cefnogaeth ddiwyro. Gresyn na chawsant rannu pen draw r daith gyda mi. Diolch gwirioneddol am y sylfaen cadarn a gefais gennych, eich ysbrydoliaeth a ch cariad di-amod. Cyflwynaf y gyfrol hon felly i gofio n annwyl iawn amdanoch.
Cyflwyniad
Er gadel Cymru lawn ei breintiau, Ei lloer, ei ser, a i goleuadau, Wele n dod, er difa n alaeth A r colledion, Gyfaill odiaeth. 1
Dychmygwch eistedd mewn hen Land Rover gyda dyn yn ei nawdegau yn gwrando ar gasetiau corau meibion o Gymru. Siarad o flaen cynulleidfa o dros ddau gant mewn cymanfa ganu Gymraeg, a bwyta cacennau cri ar y diwedd. Gweld bedd Wil Colar Starts, un o gymeriadau mwyaf cofiadwy Caradog Prichard. Cwrdd â rhywun oedd â chefnder yn dod o r un pentref â chi. Rhedeg i ganol y môr yn Boston ar ddydd G ŵ yl Dewi. Yna dychmygwch gael y profiadau hyn ar dir a daear Gogledd America, a r bobl hyn y deuthum ar eu traws yn ddisgynyddion i ymfudwyr o Gymru neu â rhyw gysylltiad teuluol a diddordeb yn y genedl.
Swynwyd llu o awduron a darllenwyr gan ramant iwtopaidd ac antur sefydlu r Wladfa, ac o r herwydd cyhoeddwyd toreth o ddeunydd sy n archwilio profiadau r Cymry i Batagonia. Er bod graddfa yr ymfudo i Ogledd America yn llawer uwch nag i Dde America mewn gwirionedd, prin o i gymharu yw r diddordeb yn hynt a helynt yr ymfudwyr hyn, er iddynt greu a chynnal diwylliant Cymraeg ar dir estron yr un mor llewyrchus â u cyfoeswyr yn yr Ariannin. Yn wir, pan deithiais o amgylch hen dreflannau r Cymry yn rhan uchaf talaith Efrog Newydd, cefais syndod o ganfod y bwrlwm sy n dal i fod ymysg y cymdeithasau Cymreig yno, ac ambell gapel yn sefyll o hyd. Rhyfeddais at ddathliadau lu ar Ddydd G ŵ yl Dewi, ac yn Vermont gwelais gryn dipyn o ysgrifen Cymraeg yn yr amgueddfa lechi. Cofnodwyd hanes y Cymry ymfudedig yn amgueddfa Ynys Ellis yn Efrog Newydd. Eto i gyd, ychydig iawn a wyddant fod gwasg Gymraeg fywiog ar un adeg yn gwasanaethu r Cymry ar hyd ac ar led America.
Yn sgil ton o ymfudo na welwyd ei thebyg o Gymru i America yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ymdrechwyd i ail-greu r diwylliant Cymraeg a fyddai n gweddu i amodau byw r wlad fabwysiedig. Un o r cyfryngau mwyaf grymus yn y cyfnod i ddiffinio cenedligrwydd oedd y wasg gyfnodol, a weithredai fel dull cyfathrebu hanfodol i roi mynegiant i amrywiol agweddau ar hunaniaeth yr ymfudwyr. Yn anad dim, trwy gyfrwng y Gymraeg y trafodwyd pynciau megis crefydd, gwleidyddiaeth, diwylliant, iaith a llenyddiaeth o fewn y cloriau hyn.
Cyhoeddwyd nifer o gerddi tebyg i r uchod yn y cyfnodolion, sy n tystio i bwysigrwydd y cyfrwng print yn camu i r adwy fel cyfaill i lenwi bwlch ym mywydau r ymfudwyr a lleddfu eu hiraeth am yr hen wlad. Yn wir, am bron i ganrif bu arloeswr y maes hwn yn ceisio gwireddu arwyddocâd ei deitl, Y Cyfaill o r Hen Wlad .
Er bod ymfudo yn ffenomen sy n ganolog i r cyfnod modern, ychydig o waith sy n ei drafod fel pwnc hanesyddol o bwys a weddnewidiodd holl ddemograffeg Cymru a Phrydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyhoeddwyd nifer o astudiaethau cyfoes yn ymateb i r diddordeb cynyddol mewn allfudo a mewnfudo, a thermau fel globaleiddio ac amlddiwylliannaeth yn ennill eu plwyf, ond cymharol ychydig yw r deunydd sy n ymdrin â r gorffennol mewn cymhariaeth. Canolbwyntiodd cyfran sylweddol o haneswyr ar olrhain y patrymau ymfudo mwyaf blaenllaw i America, yn enwedig yr Almaenwyr a r Gwyddelod, ac edrychwyd yn helaeth ar effeithiau r mewnlifiad ar frodwaith cymdeithasol y wlad. Cyfeiriadau arwynebol yn unig a geir at y Cymry, os o gwbl, mewn llyfrau cyffredinol ar ymfudo i America, gan roi r prif sylw i r grwpiau mwy niferus ac amlwg. Yn wir, anwybyddir Cymru i raddau helaeth hyd yn oed yn yr astudiaethau ar ymfudo o Brydain yn y cyfnod.
Eto i gyd, cafwyd rhai testunau gan haneswyr Cymreig sy n olrhain hynt y genedl yn America, er eu bod wedi dyddio erbyn hyn. Serch hynny, prin yw r trafodaethau ar oblygiadau ymfudo r Cymry ar ansawdd eu hunaniaeth. Canolbwyntiwyd yn bennaf ar godi statws y genedl, gan ddarlunio cenedligrwydd drwy gyflwyno hanes Cymry adnabyddus a wnaeth gyfraniad i dwf a datblygiad America mewn gwahanol ffyrdd. Tueddwyd hefyd i ganolbwyntio ar ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg er mwyn darlunio r croestoriad rhwng cynnal Cymreictod ac ymdoddi i r ffordd Americanaidd o fyw, gan fod diwylliant yr hanner cyntaf yn ymdebygu i raddau helaeth i arferion y famwlad. Edrychwyd yn fanwl yn ogystal gan gyfran deg o awduron ar amgylchiadau r Cymry mewn ardal neu dalaith benodol yn America.
Prinnach fyth yw r dadansoddiad o effaith ymfudo ar genedligrwydd drwy lygaid llenyddiaeth Gymraeg America - yn enwedig y wasg - er iddi gynnig ystod eang o wybodaeth gyffredinol am arferion cymdeithasol a diwylliannol dros gyfnod hir o amser. Ceir ambell bennod yn trafod y wasg Gymraeg yng Nghymru gyda chyfeiriadau at y wasg Americanaidd mewn cyfrolau ieithyddol, ond yng nghyd-destun cynhaliaeth a theithi r iaith yn hytrach nag ystyried y materion sy n nodweddu cyfnodolion fel genre yn eu hawl eu hunain. Am flynyddoedd bu r pwyslais ar lunio llyfryddiaethau, gan roi cynseiliau yn unig ar gyfer ysgolheictod o natur mwy dadansoddol. Anaml, felly, y caed astudiaeth o rediad y cyfnodolyn a i ddefnyddio fel deunydd ymchwil cynradd.
Gresyna Aled Gruffydd Jones yn ei drafodaeth dreiddgar ar y wasg yng Nghymru fod cyn lleied o ymchwil i gyfnodolion fel etifeddiaeth lenyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan iddynt weithredu fel ffenestr werthfawr i ddigwyddiadau hanesyddol yr oes. 2 Fodd bynnag, mae Margaret Beetham yn ystyried bod papurau newydd yn hytrach yn rhan o broses gymdeithasol gymhleth, sy n arwyddocaol wrth ystyried hunaniaeth amlochrog Cymry America. Rhoddir pwyslais cynyddol ar rychwant rhyngddisgyblaethol astudiaethau ym maes y wasg gyfnodol, fframwaith sy n ddelfrydol i astudio hunaniaeth oherwydd ei natur gwmpasog:
Nineteenth century magazines and newspapers are prime sources on economic, political and literary matters. However, a periodical is not a window on to the past or even a mirror of it. Each article, each periodical number, was and is part of a complex process in which writers, editors, publishers and readers en