Cyfaill Pwy o r Hen Wlad?
343 pages
Welsh

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Cyfaill Pwy o'r Hen Wlad? , livre ebook

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
343 pages
Welsh
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Dyma gyfrol sy’n ymdrin â hanes Cymry America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, trwy lygaid y wasg gyfnodol Gymraeg. Cynrychiolai’r cyfnod rhwng 1838 ac 1866 ei hoes aur, ond ychydig iawn o ymchwil sydd wedi darlunio hynt a helynt yr ymfudwyr o Gymru trwy ddefnyddio cyfnodolion fel ffynonellau cynradd. Fel cyfrwng cyfathrebu allweddol yn yr oes honno, rhoddent lwyfan i’r Cymry drafod pynciau’r dydd yn eu mamiaith. Prin bod unrhyw un yng Nghymru heb ryw gysylltiad teuluol ag America, neu’n adnabod rhywun sydd wedi ymfudo, ac yn yr un modd mae gan ddisgynyddion y Cymry yn America ddiddordeb yn eu hetifeddiaeth – mae bwrlwm y cymdeithasau Cymreig yn ffynnu o hyd ar draws y cyfandir, a dathliadau Gŵyl Ddewi a chymanfaoedd mor fyw ag erioed. Eto i gyd, ychydig iawn a wyddant fod gwasg Gymraeg fywiog ar un adeg yn gwasanaethu’r Cymry yn eu gwlad fabwysiedig.

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 mars 2017
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786830593
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 18 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,0582€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

Cyfaill Pwy o’r Hen wlad?
00 Prelims Cyfaill 2017_2_27.indd 1 27-Feb-17 11:22:39 AM00 Prelims Cyfaill 2017_2_27.indd 2 27-Feb-17 11:22:39 AMCyfaill Pwy o'r Hen Wlad?
Gwasg Gyfnodol Gymraeg America 1838–1866
Rhiannon Heledd Williams
Gwasg Prifysgol Cymru
2017
00 Prelims Cyfaill 2017_2_27.indd 3 27-Feb-17 11:22:39 AMHawlfraint © Rhiannon Heledd Williams, 2017
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn
na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw
ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo,
recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol
Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78683-058-6
e-ISBN 978-1-78683-059-3
Datganwyd gan Rhiannon Heledd Williams ei hawl foesol i’w chydnabod
yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint,
Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cysodwyd yng Nghymru gan Eira Fenn Gaunt, Caerdydd.
Argraffwyd gan CPI Antony Rowe, Chippenham, Wiltshire.
00 Prelims Cyfaill 2017_2_27.indd 4 27-Feb-17 11:22:39 AMI gofo'n annwyl am Mam a Dad,
fy arwyr
00 Prelims Cyfaill 2017_2_27.indd 5 27-Feb-17 11:22:39 AM00 Prelims Cyfaill 2017_2_27.indd 6 27-Feb-17 11:22:39 AMCynnwys
Diolchiadau ix
Cyfwyniad1
1Newyddiaduraeth Gymraeg America 11
2 ‘Heb Dduw heb ddim, Duw a digon’: Enwadaeth a
Chrefydd Cymry America 63
3 ‘Cyhoeddiad rhydd ac anmhleidgar’? Gwleidyddiaeth
Cymry America a Dylanwad y Wasg 107
4 ‘Oes y byd i’r iaith Gymreig?’ Parhad yr iaith
Gymraeg yn America 169
5 ‘Llon heddy’ yw llenyddiaeth?’ Traddodiad llenyddol
a diwylliant Cymry America 203
Casgliad
‘Tra Môr Tra Brython?’ Dylanwad y Wasg a pharhad
diwylliant Cymraeg America 257
Nodiadau 273
Llyfryddiaeth307
Mynegai319
00 Prelims Cyfaill 2017_2_27.indd 7 27-Feb-17 11:22:39 AM00 Prelims Cyfaill 2017_2_27.indd 8 27-Feb-17 11:22:39 AMdiolCHiadau
Carwn ddiolch i nifer helaeth o bobl am eu cymorth wrth lunio’r
gyfrol hon. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i staff archifdy Prifysgol
Bangor, llyfrgell Prifysgol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol
Cymru am gael pori drwy’r cyfnodolion.
Diolch arbennig i Brifysgol Bangor am ysgoloriaeth i dreulio
cyfnod ym Mhrifysgol Harvard, a fu’n brofad bythgofadwy.
Diolch i staff a myfyrwyr yr adran Geltaidd yno, ac i
gynorthwywyr yr holl lyfrgelloedd. Diolchaf i’r darlithwyr canlynol am
ganiatáu imi astudio eu modiwlau tra oeddwn yno: yr Athro
Elisa New, yr Athro Henry Louis Gates Jr, Dr Stephanie Sandler,
Dr John Schauffer, Dr Kang. Diolch hefyd am sgyrsiau difyr gyda’r
Athro Werner Sollors, Dr Kevin van Anglen a Dr Melinda Gray.
Rwy’n ddyledus iawn i’r AHRC am nawdd i gwblhau’r
ddoethur iaeth sy’n sail i’r gyfrol hon. Hoffwn ddiolch i holl staff Ysgol y
Gymraeg, Prifysgol Bangor, am eu cyfeillgarwch, yn enwedig
Rhodri, Heledd a Menna. Cyfwynaf fy niolchgarwch pennaf i’r
Athro Jerry Hunter, a gynigiodd arweiniad a chefnogaeth ar bob
cam o’r daith.
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Dr Lowri Rees, Dr Aled Llion
Jones, yr Athro Bill Jones a Dr Simon Brooks am ddarllen rhannau
o’r gyfrol a chynnig sylwadau. Diolch hefyd am sgyrsiau gydag
eraill sy’n ymddiddori yn y maes, megis yr Athro E. Wyn James, yr
Athro Densil Morgan a’r Athro Daniel Williams, ac i Angharad
Watkins am ei hargymhellion gwerthfawr.
Diolch i aelodau o Gymdeithas Gymraeg Utica, Cymry Vermont
a staff llyfrgell Coleg Utica am eu croeso a’u cyfarwyddyd, ond
00 Prelims Cyfaill 2017_2_27.indd 9 27-Feb-17 11:22:39 AMDiolchiadau
yn anad dim i Leonard Wynne a’i wraig Dolores am eu
parodrwydd i gynnig cymorth.
Hoffwn gydnabod y nawdd a dderbyniais i gyhoeddi’r gyfrol
gan Brifysgol De Cymru, a hefyd i Wasg Prifysgol Cymru am eu
hamynedd a’u trylwyredd wrth baratoi’r deipysgrif.
Yn olaf, diolch i’m cydweithwyr a’m ffrindiau a fu’n gwmni ar
hyd y daith, yn enwedig Glesni, Elliw, Einir, Hefna, Lowri, Catrin,
Eifona, Llinos, Sian Eleri, Sioned, Angharad, Cyril, Cris a Judith.
Diolch i fy nheulu, yn enwedig fy chwaer Annes Ffur a’m nith
Cadi Ffur am eu cariad. Diolch arbennig iawn i Llion Iwan am dy
gymorth parod wrth olygu’r gyfrol, am dy sylwadau adeiladol,
ond yn anad dim am dy gariad a’th anogaeth dibendraw.
Cyfwynaf fy niolchgarwch pennaf i Mam a Dad am eu cefn -
ogaeth ddiwyro. Gresyn na chawsant rannu pen draw’r daith gyda
mi. Diolch gwirioneddol am y sylfaen cadarn a gefais gennych,
eich ysbrydoliaeth a’ch cariad di-amod. Cyfwynaf y gyfrol hon
felly i gofo’n annwyl iawn amdanoch.
x
00 Prelims Cyfaill 2017_2_27.indd 10 27-Feb-17 11:22:39 AMCyfwyniad
Er gadel Cymru lawn ei breintiau,
Ei lloer, ei ser, a’i goleuadau,
Wele’n dod, er difa’n alaeth
1A’r colledion, Gyfaill odiaeth.
Dychmygwch eistedd mewn hen Land Rover gyda dyn yn ei
nawdegau yn gwrando ar gasetiau corau meibion o Gymru. Siarad
o faen cynulleidfa o dros ddau gant mewn cymanfa ganu Gymraeg,
a bwyta cacennau cri ar y diwedd. Gweld bedd Wil Colar Starts,
un o gymeriadau mwyaf cofadwy Caradog Prichard. Cwrdd â
rhywun oedd â chefnder yn dod o’r un pentref â chi. Rhedeg i
ganol y môr yn Boston ar ddydd G{yl Dewi. Yna dychmygwch
gael y profadau hyn ar dir a daear Gogledd America, a’r bobl
hyn y deuthum ar eu traws yn ddisgynyddion i ymfudwyr o Gymru
neu â rhyw gysylltiad teuluol a diddordeb yn y genedl.
Swynwyd llu o awduron a darllenwyr gan ramant iwtopaidd
ac antur sefydlu’r Wladfa, ac o’r herwydd cyhoeddwyd toreth o
ddeunydd sy’n archwilio profadau’r Cymry i Batagonia. Er bod
graddfa yr ymfudo i Ogledd America yn llawer uwch nag i Dde
America mewn gwirionedd, prin o’i gymharu yw’r diddordeb yn
hynt a helynt yr ymfudwyr hyn, er iddynt greu a chynnal diwylliant
Cymraeg ar dir estron yr un mor llewyrchus â’u cyfoeswyr yn yr
Ariannin. Yn wir, pan deithiais o amgylch hen drefannau’r Cymry
yn rhan uchaf talaith Efrog Newydd, cefais syndod o ganfod y
bwrlwm sy’n dal i fod ymysg y cymdeithasau Cymreig yno, ac
ambell gapel yn sefyll o hyd. Rhyfeddais at ddathliadau lu ar
01 Prif destun Cyfaill 2017_2_27.indd 1 27-Feb-17 11:23:01 AMCyfaill pwy o’r hen wlad?
Ddydd G{yl Dewi, ac yn Vermont gwelais gryn dipyn o ysgrifen
Cymraeg yn yr amgueddfa lechi. Cofnodwyd hanes y Cymry
ymfudedig yn amgueddfa Ynys Ellis yn Efrog Newydd. Eto i gyd,
ychydig iawn a wyddant fod gwasg Gymraeg fywiog ar un adeg
yn gwasanaethu’r Cymry ar hyd ac ar led America.
Yn sgil ton o ymfudo na welwyd ei thebyg o Gymru i America
yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ymdrechwyd i ail-greu’r
diwylliant Cymraeg a fyddai’n gweddu i amodau byw’r wlad
fabwysiedig. Un o’r cyfryngau mwyaf grymus yn y cyfnod i
ddiffinio cenedligrwydd oedd y wasg gyfnodol, a weithredai fel dull
cyfathrebu hanfodol i roi mynegiant i amrywiol agweddau ar
hunaniaeth yr ymfudwyr. Yn anad dim, trwy gyfrwng y Gymraeg
y trafodwyd pynciau megis crefydd, gwleidyddiaeth, diwylliant,
iaith a llenyddiaeth o fewn y cloriau hyn.
Cyhoeddwyd nifer o gerddi tebyg i’r uchod yn y cyfnodolion,
sy’n tystio i bwysigrwydd y cyfrwng print yn camu i’r adwy fel
‘cyfaill’ i lenwi bwlch ym mywydau’r ymfudwyr a lleddfu eu hiraeth
am yr hen wlad. Yn wir, am bron i ganrif bu arloeswr y maes hwn
yn ceisio gwireddu arwyddocâd ei deitl, Y Cyfaill o’r Hen Wlad.
Er bod ymfudo yn ffenomen sy’n ganolog i’r cyfnod modern,
ychydig o waith sy’n ei drafod fel pwnc hanesyddol o bwys a
weddnewidiodd holl ddemograffeg Cymru a Phrydain yn y
bedwar edd ganrif ar bymtheg. Cyhoeddwyd nifer o astudiaethau
cyfoes yn ymateb i’r diddordeb cynyddol mewn allfudo a
mewnfudo, a thermau fel ‘globaleiddio’ ac ‘amlddiwylliannaeth’ yn ennill
eu plwyf, ond cymharol ychydig yw’r deunydd sy’n ymdrin â’r
gorffennol mewn cymhariaeth. Canolbwyntiodd cyfran sylweddol
o haneswyr ar olrhain y patrymau ymfudo mwyaf blaenllaw i
America, yn enwedig yr Almaenwyr a’r Gwyddelod, ac edrychwyd
yn helaeth ar effeithiau’r mewnlifad ar frodwaith cymdeithasol
y wlad. Cyfeiriadau arwynebol yn unig a geir at y Cymry, os o
gwbl, mewn llyfrau cyffredinol ar ymfudo i America, gan roi’r prif
sylw i’r grwpiau mwy niferus ac amlwg. Yn wir, anwybyddir
Cymru i raddau helaeth hyd yn oed yn yr astudiaethau ar ymfudo
o Brydain yn y cyfnod.
Eto i gyd, cafwyd rhai testunau gan haneswyr Cymreig sy’n
olrhain hynt y genedl yn America, er eu bod wedi dyddio erbyn
2
01 Prif destun Cyfaill 2017_2_27.indd 2 27-Feb-17 11:23:01 AMCyfwyniad
hyn. Serch hynny, prin yw’r trafodaethau ar oblygiadau ymfudo’r
Cymry ar ansawdd eu hunaniaeth. Canolbwyntiwyd yn bennaf
ar godi statws y genedl, gan ddarlunio cenedligrwydd drwy
gyfwyno hanes Cymry adnabyddus a wnaeth gyfraniad i dwf a
datblygiad America mewn gwahanol ffyrdd. Tueddwyd hefyd i
ganolbwyntio ar ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg er
mwyn darlunio’r croestoriad rhwng cynnal Cymreictod ac ymdoddi
i’r ffordd Americanaidd o fyw, gan fod diwylliant yr hanner cyntaf
yn ymdebygu i raddau helaeth i arferion y famwlad. Edrychwyd
yn fanwl yn ogystal gan gyfran deg o awduron ar amgylchiadau’r
Cymry mewn ardal neu dalaith benodol yn America.
Prinnach fyth yw’r dadansoddiad o effaith ymfudo ar
genedligrwydd drwy lygaid llenyddiaeth Gymraeg America – yn enwedig
y wasg – er iddi gynnig ystod eang o wybodaeth gyffredinol am
arferion cymdeithasol a diwylliannol dros gyfnod hir o amser. Ceir
ambell bennod yn trafod y wasg Gymraeg yng Nghymru gyda
chyfeiriadau at y wasg Americanaidd mewn cyfrolau ieithyddol,
ond yng nghyd-destun cynhaliaeth a theithi’r iaith yn hytrach nag
ystyried y materion sy’n nodweddu cyfnodolion fel genre yn eu
hawl eu hunain. Am fynyddoedd bu’r pwyslais ar lunio
llyfryddiaethau, gan roi cynseiliau yn unig ar gyfer ysgolheictod o natur
mwy dadansoddol. Anaml, felly, y caed astudiaeth o rediad y
cyfnodolyn a’i ddefnyddio fel deunydd ymchwil cynradd.
Gresyna Aled Gruf

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents