La lecture à portée de main
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
Je m'inscrisDécouvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
Je m'inscrisVous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Description
Dyma’r unig ymdriniaeth ddiweddar yn y Gymraeg o rai o’r cwestiynau cymhleth a heriol a godir i ddiwinyddiaeth Gristnogol gan wyddoniaeth gyfoes: sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol ymateb i’r ddealltwriaeth lawnach a dyfnach sydd gennym bellach am darddiad, datblygiad a phrosesau’r bydysawd? A all Cristnogion barhau i gyffesu yng ngeiriau’r Credo, ‘Credwn yn Nuw, y Tad Hollalluog, Creawdwr nefoedd a daear’? Ac a fedrant goleddu’r Ffydd Apostolaidd a ddatguddiwyd drwy’r Ysgrythurau ac a gyffesir gan draddodiad Cristnogol y canrifoedd? Os gellir cyffesu’r ffydd hon o hyd, sut y mae ei dehongli heddiw, yn wyneb gwybodaeth gyfoes am darddiad y bydysawd, am siawns a chynllun, am Darwin a geneteg, am fiodechnoleg ac ecoleg? Mae deiliaid ‘yr atheistiaeth newydd’ yn honni nad yw cred mewn Duw yn bosibl – cred sicr awduron y gyfrol hon, fodd bynnag, yw nad oes gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth, a bod dealltwriaeth o’r naill yn cyfoethogi’n dirnadaeth o gyfoeth y llall. Dwy ffenestr wahanol sydd yma i’n galluogi i edrych ar ryfeddod Duw, ar y bydysawd sy’n tarddu yn ei fwriad a’i egni creadigol, ac ar wyrth pob bywyd sy’n ddibynnol ar y bydysawd hwnnw.
Sujets
Informations
Publié par | University of Wales Press |
Date de parution | 25 mai 2017 |
Nombre de lectures | 0 |
EAN13 | 9781786831286 |
Langue | Welsh |
Informations légales : prix de location à la page 0,0650€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.
Extrait
Cristnogaeth a Gwyddoniaeth
Cristnogaeth a Gwyddoniaeth
Noel A. Davies a T. Hefin Jones -->
Gwasg Prifysgol Cymru 2017
Hawlfraint © Noel A. Davies a T. Hefin Jones, 2017
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o r cyhoeddiad hwn na i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogop ϊ o, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen Haw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofn od catalogio r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig. ISBN 978-1-78683-1262 e-ISBN 978-1-78683-128-6
Datganwyd gan yr awduron eu hawl foesol i w cydnabod yn awduron hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cyhoeddir gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru ac Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Lluniau r clawr: Adda a Duw (ar ôl Michelangelo) hawlfraint © Rodneycleasby / Dreamstime.com; DNA hawlfraint © Cornelius20 / Dreamstime.com. Dyluniwyd y clawr gan
Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau'n gywir neu'n addas.
Cynnwys
Rhagarweiniad
Yr Awduron
1 Edrych yn Ôl: Rhai Trobwyntiau Hanesyddol
2 Gwyddoniaeth a Diwinyddiaeth: Rhai Seiliau Athronyddol
3 Y Glee Fawr, y Cread a Duw
4 Siawns, Cynllun ac Anghenraid
5 Darwin, DNA a Duw
6 Biotechnoleg a Datblygiadau Meddygol
7 Y Natur Ddynol
8 Glendid Maith y Cread: Cristnogion a r Amgylchedd
9 Credwn yn Nuw
Llyfryddiaeth Ddethol
Cyfeiriadaeth
Rhagarweiniad
Amcan y gyfrol hon yw cyflwyno, yn y Gymraeg, astudiaeth o rai o r cwestiynau cymhleth a heriol a godir i ddiwinyddiaeth Gristnogol gan wyddoniaeth gyfoes. Gwelwyd datblygiadau cyffrous ym mhob maes o wyddoniaeth yn ystod yr ugeinfed ganrif a r unfed ganrif ar hugain. Yn ami iawn, cododd y datblygiadau hyn gwestiynau moesol astrus i n cymdeithas. Amcan y gyfrol hon, fodd bynnag, fydd helpu r darllenydd i ystyried y cwestiynau diwinyddol: sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol ymateb i r ddeall-twriaeth lawnach a dyfnach sydd gennym bellach am darddiad, datblygiad a phrosesau r bydysawd? A all Cristnogion ddal i gyffesu yng ngeiriau r Credo, Credwn yn Nuw, y Tad Hollalluog, Creawdwr nefoedd a daear ? A fedrant goleddu r Ffydd Apostolaidd a ddatguddiwyd yn yr Ysgrythurau ac a gyffesir gan draddodiad Cristnogol y canrifoedd, sef, i Dduw ddod yn ddyn yn Iesu, iddo gael ei groeshoelio drosom ni, i Dduw ei gyfodi ar fore r trydydd dydd, iddo ddanfon yr Ysbryd Glân ar y disgyblion ar y Pentecost cyntaf a i fod yn eistedd ar ddeheulaw Duw, y Tad, yn ben ar bob peth? Os gellir cyffesu r ffydd hon o hyd, sut y mae ei dehongli heddiw? Bydd darllenwyr y gyfrol hon yn sylweddoli fod llawer, fel Richard Dawkins, Christopher Hitchens, Daniel Dennett a Sam Harris, deiliaid yr atheistiaeth newydd , yn honni nad yw cred mewn Duw yn bosibl neu, o leiaf, nad yw n angenrheidiol bellach. Credant y gellir cynnig esboniad llawn o fodolaeth y bydysawd a r bywyd sydd ynddo heb orfod syrthio n ôl ar gredu bod ffynhonnell ddwyfol i r cyfan. Nid oes angen Duw i esbonio r byd. I r gwrthwyneb, gellid dadlau fod yn rhaid barnu safbwyntiau gwyddonol yn unol â datguddiad Duw yn Iesu Grist drwy r Beibl.
Bydd y gyfrol hon yn cynorthwyo darllenwyr i fod yn ymwybodol fod cryn amrywiaeth barn yn y maes cymhleth a diddorol hwn. Fodd bynnag, cred sicr yr awduron presennol yw nad oes gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth, a bod deall-twriaeth o r naill yn cyfoethogi n dirnadaeth o gyfoeth y Hall. Dwy ffenestr wahanol sydd yma sy n ein galluogi i edrych ar ryfeddod Duw, ar y bydysawd sy n tarddu yn ei fwriad a i egni creadigol, ac ar wyrth pob bywyd sy n ddibynnol ar y bydysawd hwnnw. Eu hamcan yw awgrymu sut y gellir cyfoethogi ffydd Cristnogion yn y Duw a ddatguddiwyd yn Iesu drwy gymryd o ddifri y ddeall-twriaeth wyddonol gyfoes o r bydysawd a r bywyd sydd ynddo. Mewn geiriau eraill, sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol gofleidio n feirniadol a chreadigol y ddealltwriaeth wyddonol, a chael ei dyfn-hau a i chyfoethogi drwy hynny? Felly, tea bod rhai - o safbwynt diwinyddol neu o safbwynt anghrediniol - wedi gweld gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth, bydd y gyfrol hon yn pwys-leisio r modd y mae diwinyddiaeth Gristnogol a gwyddoniaeth yn cyfoethogi ei gilydd a thrwy hynny n cyfrannu at ehangder a dyfnder ein dirnadaeth o r ffydd Gristnogol a r cread o n cwmpas. Enghraifft o r safbwynt cadarnhaol hwn am berthynas Cristnogaeth a gwyddoniaeth oedd datganiad y Pab Ffransis mewn anerchiad i r Academi Pontificaidd ar Wyddoniaeth yn 2014 ei fod yn credu fod y Glee Fawr ac esblygiad yn hollol gyson â r ffydd Gristnogol yn Nuw fel Crëwr y bydysawd a Rhoddwr bywyd. Nid yw hyn, meddai r Pab, yn golygu mai dewin yw Duw . Dyma dystiolaeth bwysig o blaid safbwynt y gyfrol hon mai egni creadigol a chariadus Duw fu ar waith o r dechreuadau. Darganfod mwy am yr egni hwn a wnawn o genhedlaeth i genhedlaeth. 1
Fel yn achos y rhan fwyaf o gyfrolau o r fath, bydd cyfyngiadau ymarferol ar hyd y gyfrol ac felly ar y rhychwant o bynciau y gellir eu trafod. Gobaith yr awduron yw eu bod wedi ymdrin â r prif faterion sy n destun trafodaethau cyfoes ar berthynas Cristnogaeth a gwyddoniaeth. Tarddodd y gyfrol mewn cyrsiau ar yr un pwnc yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin (fel yr ydoedd y pryd hwnnw) ac ym Mhrifysgol Caerdydd. Rhannwyd y gwaith o lunio r drafftiau cyntaf o r penodau rhwng y ddau awdur cyn iddynt fynd ati i werthuso a beirniadu gwaith ei gilydd nes dod i gytundeb ar fersiynau terfynol o r penodau. Yn yr ystyr hwn y mae r gyfrol gyfan yn gyfanwaith gan y ddau awdur.
Cyflwyna r bennod gyntaf, Edrych yn Ôl: Rhai Trobwyntiau Hanesyddol , fraslun o ddatblygiad y drafodaeth rhwng diwinydd-iaeth a gwyddoniaeth o r Oesoedd Canol ymlaen. Ceir ystyriaeth o r chwyldro meddyliol a achoswyd o ganlyniad i waith nifer o wydd-onwyr amlwg ac enwog. Rhoddir ystyriaeth i ddamcaniaethau heriol Copernicws a Galileo yn ystod yr unfed a r ail ganrif ar bymtheg ynglýn â chylchoedd y planedau a pherthynas yr Haul â r ddaearen hon. Cawn drafod goblygiadau Deddfau Mudiant Newton yn y ddeunawfed ganrif. Y mae r chwyldro a r dadlau a achoswyd gan Ddamcaniaeth Esblygiad Charles Darwin ac Alfred Wallace yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dal i ennyn trafodaeth frwd, a hynny dros ganrif a hanner wedi cyhoeddi cyfrol enwog Darwin, On the Origin of Species, yn 1859, a rhoddir ystyriaeth i r dadleuon hyn. Bu chwyldro gwyddonol yr ugeinfed ganrif a r ganrif bresennol yr un mor gynhyrfus a cheir cyfle yn y bennod hon i roi ystyriaeth gychwynnol i feysydd megis Damcaniaeth Cwantwm, geneteg a chosmoleg.
Seiliau athronyddol gwyddoniaeth a diwinyddiaeth fydd pwnc yr ail bennod. Cymharir seiliau athronyddol y ddwy ddisgyblaeth a thrwy hynny ceisir cyfrannu at ddealltwriaeth lawnach o u perth-ynas â i gilydd, a u cyfraniad at ein dirnadaeth o r ffydd Gristnogol. Trafodir amcan y ddwy ddisgyblaeth, eu rhagdybiaethau sylfaenol, y dulliau dadansoddi a ddefnyddir ganddynt, a chanlyniadau eu hymchwilio a u hymholi. Ystyrir materion megis arbrofi, casglu tystiolaeth empeiraidd, llunio, cadarnhau, addasu a gwrthod damcaniaethau, a lie modelau mewn esboniadaeth wyddonol. Ar ddiwedd y bennod cyflwynir gwahanol ffyrdd o ddeall perthynas y ddwy ddisgyblaeth â i gilydd.
Dechreuadau r bydysawd fydd pwnc y drydedd bennod, Y Glee Fawr, y Cread a Duw . Rhoir amlinelliad o brif ddamcaniaethau cosmoleg gyfoes a r datblygiadau diweddaraf yn y maes, gan gynnwys yr ymchwil a ddeilliodd o r Cyclotron yn Genefa. Ydyw r safbwynt beiblaidd yn anghyson â r damcaniaethau hyn? Neu a oes modd eu cysoni â i gilydd? Yn wyneb y drafodaeth hon, beth olyga bellach i gyffesu Duw (yng ngeiriau r Credo) fel Crëwr pob peth, gweledig ac anweledig ?
Yn y bedwaredd bennod, Siawns, Cynllun ac Anghenraid , trosglwyddir ein sylw o r anferthedd cosmig i fychander micro-sgopaidd y gronynnau a r pelydrau sy n ddeunydd crai r byd-ysawd. Ffiseg yr ugeinfed ganrif fydd pwnc y bennod hon. Dyma faes sydd wedi n gorfodi i feistroli dealltwriaeth wahanol o natur realiti yn sgil darganfyddiadau am natur mater ei hun, am y gronynnau, y pelydrau a r egnϊon sy n greiddiol i ffiseg cwantwm. Rhoddir ystyriaeth hefyd i ddamcaniaeth chwyldroadol Einstein am berthnasolrwydd ac, ar sail hynny, i r cwestiwn creiddiol: a ydyw sicrwydd absoliwt yn bosibl neu a ydyw popeth yn fater o siawns ac, felly, yn ansicr a phenagored?
Yn hanner olaf yr ugeinfed ganrif bu darganfod natur a swydd-ogaeth DNA yn achos chwyldro llawn cymaint â damcaniaethau Darwin ac eraill yng nghanol y ganrif flaenorol. Yn wir, yn y maes hwn, yn anad un, y codwyd y cwestiynau mwyaf heriol ac y cafwyd y dadleuon mwyaf llosg. Bydd y burned bennod, Darwin, DNA a Duw , yn cyflwyno amlinelliad o r datblygiadau gwyddonol hyn, yn ystyried sut y maent yn herio diwinyddiaeth, ac yn ein gorfodi i feddwl yn wahanol am berthynas y ddynolryw â gweddill y cosmos ac â r Duw sy n Grëwr y cyfan.
Bydd y chweched bennod, Biotechnoleg a Datblygiadau Medd-ygol , yn ymdrin â natur datblygiadau megis ymchwil bôngelloedd, clonio ac addasu genetig, eu seiliau gwyddonol a r heriau diwin-yddol a godir ganddynt. Y mae r maes hwn yn codi cwestiynau dirdynnol sy n ami yn ymwneud, mewn modd mwyaf personol, â chraidd ein bywyd fel personau unigol, fel teuluoedd ac fel dynolryw sy n byw mewn partneriaeth â r Ddaear. Byddwn yn edrych yn bennaf ar y modd y mae gwyddoniaeth yn medru herio a chyfoethogi diwinyddiaeth Gristnogol ond, yn y bennod hon, ni fyddwn yn medru osgoi ystyried rhai o r cwestiynau moesol hefyd.
Yn wyneb hyn oil beth sydd gan wyddoniaeth i w ddweud am y natur ddynol ac a ydyw r ddealltwriaeth hon yn gyson â r saf-bwynt Cristnogol, sef, ein bod wedi n creu ar lun a delw