Pam na fu Cymru
99 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
99 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

During the nineteenth century, the Age of Nationalism, small stateless nations all over Europe developed successful national movements which demanded rights for minority language communities. One of the central questions of Welsh history is why this didn’t happen in Wales.


Welsh patriotism emphasised radicalism and liberalism, which subsumed Wales within the discourse of British progressive politics. Liberalism promotes majoritarian identities, and in Wales is a key component of British hegemony. Wales in the nineteenth century was more liberal and radical than almost any other country in Europe. Contrary to the popular view that this was a boost for Welsh nationalism, Pam na fu Cymru (Why Wales never happened) shows that this was the very reason for its failure.


1. Methiant annisgwyl cenedlaetholdeb Cymraeg
2. Cenedl Iaith
3. Rhyddfrydiaeth yn gorthrymu’r Cymry
4. Dadadeiladu rhyddfrydiaeth
5. Sut y gall Cymru fod
6. Terfyn

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 juin 2015
Nombre de lectures 1
EAN13 9781783162352
Langue Welsh

Informations légales : prix de location à la page 0,0500€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

P AM NA FU C YMRU
SAFBWYNTIAU
Gwleidyddiaeth • Diwylliant • Cymdeithas

Golygydd Cyffredinol y Gyfres: Daniel G. Williams, Prifysgol Abertawe
Dyma gyfres sydd yn trafod ac ailystyried rhai o bynciau canolog astudiaethau gwleidyddol a diwylliannol Cymru a thu hwnt. Ei nod yw cyflwyno ymdriniaethau grymus ar amrywiaeth o bynciau o fewn y dyniaethau – o ffasgaeth i sosialaeth, o ethnigrwydd i rywioldeb, o iaith i grefydd. Tynnir ynghyd rhai o feddyliau mwyaf praff a difyr Cymru i gynnig safbwyntiau annisgwyl a dadlennol ar hanes, diwylliant a syniadaeth gyfoes o ogwydd gwleidyddol, theoretig a chymdeithasol.


yn y gyfres
Richard Wyn Jones (2013), ‘Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru’: Plaid Cymru a’r Cyhuddiad o Ffasgaeth Simon Brooks (2015), Pam na fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg
Pam na fu Cymru
Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg
Simon Brooks
Hawlfraint © Simon Brooks, 2015
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78316-233-8 e-ISBN 978-1-78316-235-2
Datganwyd gan Simon Brooks ei hawl foesol i’w gydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.


Cysodwyd yng Nghymru gan Eira Fenn Gaunt, Caerdydd. Argraffwyd gan CPI Antony Rowe, Chippenham, Wiltshire.
i’m rhieni
Dirmygaf finau Ryddfrydiaeth pob dyn sydd yn credo mewn goresgyniad.
Michael D. Jones
C YNNWYS
Rhagair
Nodyn: Iaith a Thermau
Map: Cenhedloedd Brenhiniaeth Habsbwrg
1 Methiant Annisgwyl Cenedlaetholdeb Cymraeg
2 Cenedl Iaith
3 Rhyddfrydiaeth yn Gorthrymu’r Cymry
4 Dadadeiladu Rhyddfrydiaeth
5 Sut y gall Cymru fod
6 Terfyn

Nodiadau
Rhagair
Mewn caffis ar Simon-Dach Straße ym Merlin yr ysgrifennais ran gyntaf y llyfr hwn, ac mewn caffis ar Stryd Fawr Porthmadog y cafodd ei gwblhau. Daeth y pwl olaf, mwy sylweddol o ysgrifennu ar ganol cyfnod hir iawn o fod yn ddi-waith. Gallaf gydymdeimlo erbyn hyn gyda Bob Owen, Croesor sy’n sôn yn ei hunangofiant am fynd ‘i Borthmadog i “seinio” bob wythnos . . . yng ngŵydd pawb a ymlwybrai heibio . . . bu bron iawn i’r amgylchiadau fy ngwneud yn Folshi.’Ond daeth y byd academaidd i’w achub yntau, ac felly y bu gweithio ar y llyfr hwn o gryn gymorth i mi. Wedi’i chyfansoddi ar dripiau rhwng ‘Gwesty Cymru’ Borth-y-gest, swyddfa dôl Port ac Ysgol Gynradd Llanrug i godi’r plant, mae’r gyfrol yn un o dair sy’n rhannu’r un nod cyffredinol, sef ymchwilio i amodau ffurfiant cymdeithas Gymraeg yr unfed ganrif ar hugain. Yn 2013, ymddangosodd Pa Beth yr Aethoch Allan i’w Achub? o dan fy ngolygyddiaeth innau a Richard Glyn Roberts, sy’n ymdrin ag effaith gwladychiaeth ar y gymdeithas Gymraeg. Yn awr, yn Pam na fu Cymru , rwy’n cloriannu’r ideoleg, Rhyddfrydiaeth, a draws-newidiodd ragolygon y Gymru Fodern. Astudiaeth o amlethnigrwydd ac amlddiwylliannedd oddi mewn i’r gymuned Gymraeg fydd y drydedd gyfrol.
Ni fuasai’r gyfrol hon yn bosibl heb i’m rhieni roi to uwch fy mhen a bwyd ar y bwrdd. Fel arall, byddwn i wedi llwgu! Cefais gefnogaeth a chariad y plant hefyd a addawodd ysgrifennu llyfrau eu hunain, ond nid y math mae ‘dad yn eu sgwennu’. Bydd llawer yn cydymdeimlo â hwy, a diolch iddynt am eu hanogaeth a’u synnwyr cyffredin. Bu eraill yn gefn imi hefyd. Roedd Dwynwen Hywel yn gydymaith hyfryd ar lawer taith i Aberdaron a llethrau’r Wyddfa. Mae Abererch yn lle llawer brafiach ers i Richard Glyn ddisodli John Elias fel prif ysgolhaig y cylch a dangosodd Gwion Owain, Barry Chips ac eraill sut i fyhafio yn y Blac Boi. Cefais groeso yn Llŷn ac Eifionydd hefyd, ac roedd gweithredu fel ysgrifen-nydd y mudiad Cymreigyddol cyfoes, Cymdeithas Parêd Dewi Sant Pwllheli, yn ffordd i ymlacio (rwy’n falch inni ennill y frwydr i’w gadw’n uniaith Gymraeg yn wyneb pwysau pres cyhoeddus).
Wrth baratoi’r gwaith, elwais yn ddirfawr ar gynghorion amryw o ffrindiau. Mae fy nyled pennaf i’r hanesydd mawr hwnnw Robin Okey, arbenigwr ar dwf hunaniaeth genedlaethol ymysg pobloedd leiafrifol canolbarth a dwyrain Ewrop. Anfonodd ataf lythyr hir pedair tudalen –na, epistol yn wir! –yn dadansoddi drafft o’r deipysgrif yn finiog fanwl, a thrafod â mi ar faes yr Eisteddfod a thrwy ebost sawl blwyddyn yn olynol. Ymatebodd Dafydd Glyn Jones i ddrafft lled derfynol mewn modd treiddgar tu hwnt, yn dilyn sgwarnogod deallusol diddorol odiaeth, ei sylwadau’n llenwi tudalennau lawer, ac rwy’n hynod ddiolchgar iddo. Dywedodd wrthyf hefyd fod yna Stryd Cavour yn Nhalysarn, ac fe’m gogleisiwyd gan yr enw hwnnw bron cymaint â chan Lôn Balaclava yn Nanhoron, Llŷn –y ddau’n brawf digamsyniol o’r cyswllt rhwng Cymru Gymraeg a’r byd. Yr olaf o’r henaduriaid dysg a roes o’u hamser mor hael oedd Prys Morgan, yntau’n bwrw golwg manwl ar y testun hefyd gan wneud awgrymiadau defnyddiol tu hwnt, yn enwedig yng nghyswllt gwledydd gorllewin Ewrop a diwylliant yr Alban a Lloegr.
Yr hen a ŵyr a’r ifanc a dybia, medd y ddihareb, ond at y canol oed cynnar y trois er mwyn rhoi min ar fy nadleuon. Aeth Richard Glyn Roberts drwy’r cwbl â chrib fân ddwywaith yn codi anghysondebau syniadol (a gwallau iaith!). Bu’n fwy o ddylanwad deallusol arnaf na neb arall ond odid yn ystod y blynyddoedd diweddar, yn enwedig ym maes cymdeithaseg cenedlaetholdeb. Bu ei safbwynt ôl-Farcsaidd a gwrthryddfrydol digymrodedd, wedi’i ysbrydoli gan Pierre Bourdieu ac Alain Badiou, yn arf pellach i minnau yn fy ymdriniaeth â Rhyddfrydiaeth y Gymru Gymraeg. Trafodwyd llawer yn oriau mân y bore dros wydraid o win coch a chwpanaid o de, bisgedi ceirch a chosyn caws, o Ffatri Laeth Rhydygwystl neu Normandi, yn ei dyddyn wrth y ffin rhwng Eifionydd a Llŷn.
Daeth yn ogystal gymwynasau o gyfeiriadau eraill. Darllenodd E. Wyn James ddrafft cynnar iawn o ran gyntaf y gwaith. Fe’m cyfeiriwyd gan Gwennan Higham at ddyfyniad tra phwysig gan Herder, a chan Hywel Jones at sylw diddorol gan E. G. Ravenstein. Fe’m dysgwyd gan Tony Bianchi pam na ddaeth Northumbria yn genedl. Roedd gwahoddiad i draddodi Darlith Goffa Syr Hugh Owen ym Mhrifysgol Bangor yn gyfle i feddwl o’r newydd am y Llyfrau Gleision. Cefais sgyrsiau buddiol am Michael D. Jones gyda Dafydd Tudur mewn symposiwm ar genedlaetholdeb Cymreig, yn Barcelona o bob man. Trefnwyd y daith honno gan Brifysgol Abertawe, sefydliad a wnaeth lu o gymwynasau â mi, ac rwy’n ddiolchgar i Mike Sullivan, Syd Morgan ac Alan Sandry. Diolch hefyd i Brifysgol Abertawe am gyfrannu at gostau cyhoeddi’r gyfrol hon. A diolch i Wasg Prifysgol Cymru, yn ogystal ag i’w darllenydd anhysbys ym maes athroniaeth. Gwnaethpwyd gwaith manwl a chymen ganddynt.
Ond mae fy niolch pennaf i Daniel G. Williams. Yn ddeallusol, rwy’n edmygydd mawr o’i waith. Bu o wir gymorth a help imi mewn cyfnod anodd, ac nid yn broffesiynol yn unig. Diolch iddo am gyfeillgarwch triw sy’n croesi ffiniau disgyblaeth ac ideoleg, ac am fy annog i ysgrifennu’r llyfr hwn. Buasai darnau digyswllt ohono mewn drôr am flynyddoedd, a heb ei anogaeth mewn drôr y buasent wedi aros.
Rwyf yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Saunders Lewis am ddyfarnu imi ysgoloriaeth a’m galluogodd i ddechrau mynd i’r afael â’r gwaith hwn, rai blynyddoedd yn ôl bellach. Gyda’r nawdd hwn, dysgais yr Almaeneg o fynychu cyrsiau iaith y Goethe Institut yn Freiburg a Berlin, ynghyd ag ym mhrifysgolion Fienna a Tübingen. Caniataodd Prifysgol Freiburg, Prifysgol Fienna a Phrifysgol Humboldt, Berlin imi ddefnyddio eu llyfrgelloedd. Cefais hwyl arni hefyd yn Hauptbücherei Fienna ac yn llyfrgell ganolog dinas Prag. Diolch yn arbennig i Barbara Rüth, fy lletywraig radlon yn Friedrichshain, Berlin, ble y bûm yn lletya am sawl mis, ac a geisiodd roi sglein ar fy Almaeneg lafar. Lle i enaid gael llonydd yw Berlin, a daeth y teulu ataf hefyd am gyfnod. Ym Merlin y dysgodd fy merch ei geiriau cyntaf mewn ail iaith, ac er i’r rheini gael eu bwrw dros gof ganddi erbyn hyn, byddaf yn ei hatgoffa mai trydedd iaith yw’r Saesneg iddi, a bod modd mentro i’r byd mawr heb fynd trwy byrth Lloegr.
Simon Brooks
Eifionydd
Nodyn: Iaith a Thermau
Llyfr Cymraeg yw hwn yn defnyddio ffynonellau mewn tair iaith yn bennaf: Cymraeg, Almaeneg a Saesneg. Er hynny, rwy’n dymuno i’r darllenydd gael profiad Cymraeg o’i ddarllen. Cyfieithais yr holl ddyfyniadau Almaeneg i’r Gymraeg, gan gadw’r testun Almaeneg yn y cefn ar ffurf troednodiadau (diolch i Marion Löffler, Heini Gruffudd a Gwennan Higham am fwrw golwg dros rai o’r cyfieithiadau, ac am gynnig cywiriadau a gwelliannau yn ôl y galw). Ceir llond dwrn o gyfieithiadau o’r Ffrangeg hefyd, a chan nad wyf yn medru’r iaith honno bu Richard Glyn Roberts yn ddigon caredig i’m cynorthwyo.
Cyfieithais hefyd y rhan fwyaf o’r dyfyniadau Saesneg. Byddai gwneud fel arall yn gosod Saesneg ar ris gwahanol i ieithoedd y cyfandir. Gosodais y Saesneg wreiddiol yn y cefn, ac eithrio pan fo’r Saesneg yn gyfieithiad ei hun o iaith arall. Ni chyfieithais er hynny yr ychydig ddyfyniadau sy’n ymddangos yn unig mewn troednodyn. Gadewais rai testunau heb eu cyffwrdd hefyd os oedd yr ergyd yn debygol o fynd ar goll o’u trosi. Ni chyfieithais nemor ddim ychwaith o ddatganiadau Cymry’r bedwaredd ganrif ar bymtheg (y ganrif hir hyd at 1914). Mae’n haws gwerthfawrogi sawr eu bombast Fictoraidd yn yr iaith gysefin. A rhaid oedd tynnu sylw hefyd at ddefnydd helaeth rhai o’r Cymry hyn o’r Saesonaeg yn lle’r hen Omeraeg, sy’n awgrym mor bendant o’u safbwynt diwylliannol a gwleidyddol.
Anghenraid mewn llyfr Cymraeg fel hwn yw pennu terminoleg ar gyfer cysyniadau. Mewn diwylliannau iach, mae termau’n ymrafael â’i gilydd am oruchafiaeth a datblyga disgwrs syniadol yn sgil hyn. Yng Nghymru, fodd bynnag, ceir tuedd ddiweddar i derminoleg gael ei sefydlogi gan eiriadurwyr a p

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents