Yr Anymwybod Cymreig
166 pages
Welsh

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Yr Anymwybod Cymreig , livre ebook

-

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
166 pages
Welsh
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

‘J. R. Jones a Gwilym O. Roberts: dau o ddeallusion y 60au mewn cyd-destun rhyngwladol’ yn Y Traethodydd, 608, Ionawr 2013, tt.40-57.



‘Brawdoliaeth Bywyd: Canwy a rhai llysieuwyr Cymraeg eraill’ yn Y Faner Newydd, Gwanwyn 2013, tt.30-33.



‘Proffwyd Empathi: Gwilym O. Roberts’ yn Y Faner Newydd, Haf 2013, tt.42-43.



‘Gwilym O. Roberts’ yn Y Bywgraffiadur Cymreig arlein, 2013



‘Merfyn Lloyd Turner’ yn Y Bywgraffiadur Cymreig arlein, 2014



‘Canrif y Cyfaill Carcharorion’ yn Y Faner Newydd, Haf 2015, tt. 35-39.



‘O Ryfedd Ryw: Merfyn Turner, 1915-1991, yr arloeswr anghofiedig’ yn Y Traethodydd, Hydref 2015, tt.220-239.



‘Sych ar y Sul: Referenda 1961 a 1968 ac agweddau at yfed a’r dafarn yng Nghymru Gymraeg y 1960au’ yn Welsh History Review/Cylchgrawn Hanes Cymru, 27 (4), 2015, tt.755-784.



‘Yr Hogiau Nedw, Y Chwilod a’r Bit Cymreig: Datblygiad Diwylliant Ieuenctid Cymraeg 1957-1967’ yn Llafur, 11 (4), 2015, tt.58-79.



‘Dyfnallt Morgan’ yn Y Bywgraffiadur Cymreig arlein, 2016



‘Profiadau Dau Wrthwynebwr Cydywbodol yn yr Ail Ryfel Byd’ – Cymod Gwanwyn/Haf 2016.



‘Plymio i’r Dyfnderoedd: Ymatebion Cynnar i Waith Sigmund Freud a’r ‘Feddyleg Newydd’ yn y Gymru Gymraeg c.1918-1945’ yn Angharad Price (gol), Ysgrifau Beirniadol XXXIV, (Dinbych, 2016), tt.89-113.



Cofnodion ar ‘Theori Seicdreiddiol’ a’r ‘Monograff’ yn yr Esboniadur arlein, 2016



‘Y delfrydwr a’r perffeithydd: Gwenallt gan Alan Llwyd’ O’r Pedwar Gwynt, rhif 2, Gaeaf 2016, tt.25-26.



‘Gwrthwynebu Ffair Arfau Caerdydd’, Y Faner Newydd, Gwanwyn 2017, tt.40-44.



‘Plant yr Ecsodus: Crefydd a’r Gymdeithas Oddefol yng Nghymru, c.1957-1970’ yn Llafur, 12 (2), 2017, tt.69-87.



‘Pamffledi Heddychwyr Cymru: Adeiladu’r Gymdeithas Amgen yn y 1940au’ Y Traethodydd, Ionawr 2018, tt.33-47 (Rhan 1) a Ebrill 2018, (Rhan 2), tt. 74-83.



‘Cassie Davies’ yn Y Bywgraffiadur Cymreig arlein, 2018



‘Cymru a Chwyldro Diwylliannol 1968’, O’r Pedwar Gwynt, rhif 7, Haf 2018, tt.28-9.



‘Cofio Thomas Merton’ yn Y Faner Newydd (i’w gyhoeddi, Gwanwyn 2019).


Mae’r gyfrol hon yn rhoi cipolwg ar gyfoeth hanes syniadau yng Nghymru dros hanner canrif cynhyrfus rhwng diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a marwolaeth yr athronydd disglair J. R. Jones ym 1970. Bu Jones yn rhan ganolog o’r ymgais a wnaed yn y cyfnod i gyflwyno syniadau newydd, heriol a chwyldroadol o feysydd fel seicdreiddiad a dirfodaeth i’r diwylliant Cymraeg. Adeiladodd meddylwyr ac ysgolheigion tebyg iddo ddarlun o’r anymwybod Cymreig mewn gwaith sydd o gymorth parhaol i ddeall ein profiadau hanesyddol a gwleidyddol fel cenedl. Trwy ddadansoddi sut yr ymatebodd awduron Cymraeg i syniadau Freud, Jung, Sartre, de Beauvoir ac eraill, lleolir hanes deallusol y Gymru Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol eang. Ceisir ymhellach ddangos perthnasedd a phwysigrwydd y dehongliad Cymraeg o rhai o’r syniadau hyn i ddadleuon cyfoes ynglˆyn ag iechyd meddwl, gwleidyddiaeth ac hunaniaeth yng Nghymru. Ymatebodd cenhedlaeth o awduron i’r argyfwng dirfodol a wynebai’r diwylliant Cymraeg yn y cyfnod dan sylw trwy ddangos ymrwymiad a phenderfyniad i gymhwyso ac addasu’r datblygiadau deallusol mwyaf modern er mwyn ceisio goresgyn yr argyfwng mewn modd sy’n parhau’n ysbrydoliaeth heddiw, yng nghysgod Brexit a thwf awdurdodaeth.



Diolchiadau
Cyflwyniad
1. Meddygon yr Enaid: Seicdreiddiad a Seicotherapi yn y Gymraeg
2. Tywyll Heno? Ymatebion Llenorion Cymraeg I Seicdreiddiad
3. Argyfwng ac Ymrwymiad: Dirfodaeth Gymraeg
4. Cyfannu’r Rhwyg: Seicoleg yng Ngwaith J. R. Jones
Casgliad
Nodiadau
Llyfryddiaeth
Mynegai

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 juin 2019
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786834461
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 4 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,0992€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

YR ANYMWYBOD CYMREIG
Freud, Dirfodaeth a’r Seice Cenedlaethol
L L I O N W I G L E Y
YRANYMWYBODCYMREIG
SAFBWYNTIAU
Gwleidyddiaeth • Diwylliant • Cymdeithas
Golygydd Cyffredinol y Gyfres: Daniel G. Williams, Prifysgol Abertawe
Dyma gyfres sydd yn trafod ac ailystyried rhai o bynciau canolog astudiaethau gwleidyddol a diwylliannol Cymru a thu hwnt. Ei nod yw cywyno ymdriniaethau grymus ar amrywiaeth o bynciau o fewn y dyniaethau – o ffasgaeth i sosialaeth, o ethnigrwydd i rywioldeb, o iaith i grefydd. Tynnir ynghyd rhai o feddyliau mwyaf praff a difyr Cymru i gynnig safbwyntiau annisgwyl a dadlennol ar hanes, diwylliant a syniadaeth gyfoes o ogwydd gwleidyddol, theoretig a chymdeithasol.
yn y gyfres
Richard Wyn Jones (2013),‘Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru’: Plaid Cymru a’r Cyhuddiad o Ffasgaeth Simon Brooks (2015),Pam na fu Cymru: Methiant Cenedlaetholdeb Cymraeg
Yr Anymwybod Cymreig Freud, Dirfodaeth a’r Seice Cenedlaethol
Llion Wigley
Gwasg Prifysgol Cymru 2019
Hawlfraint © Llion Wigley, 2019
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn
na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw
ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo,
recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru,
Cofrestfa’r Brifysgol, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN978-1-78683-445-4 e-ISBN 978-1-78683-446-1
Datganwyd gan Llion Wigley ei hawl foesol i’w gydnabod yn awdur
ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint,
Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cydnabyddir cymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru, a
Chronfa Goffa Thomas Ellis, Prifysgol Cymru, ar
gyfer cyhoeddi’r llyfr hwn.
Cysodwyd yng Nghymru gan Eira Fenn Gaunt, Caerdydd.
Argraffwyd gan CPI Antony Rowe, Melksham.
Diolchiadau
Cywyniad
1
2
3
4
C YNNWYS
Meddygon yr Enaid: Seicdreiddiad a Seicotherapi yn y Gymraeg
Tywyll Heno? Ymatebion Llenorion Cymraeg i Seicdreiddiad
Argyfwng ac Ymrwymiad: Dirfodaeth Gymraeg
Cyfannu’r Rhwyg: Seicoleg yng Ngwaith J. R. Jones
Casgliad
Nodiadau Llyfryddiaeth Mynegai
vii
3
6
9
1
9
7
5
1
117
123 143 149
I mam ac er cof annwyl am dad
Diochiadau
Hoffwn ddiolch yn arbennig i Daniel Williams am fy ngwahodd i y s g r i f e n n u c y f ro l y n g n g h y f re s S a f b w y n t i a u a c a mei gymorth a charedigrwydd wrth imi gwblhau’r gwaith. Diolch i Betsan Caldwell am roi’r caniatâd imi ddyfynnu o bapurau ei thad, J. R. Jones, sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a diolch i staff y llyfrgell honno a staff Llyfrgell y Celfyddydau ac Astud-iaethau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd am eu cymorth parod a chyfeillgar hwythau. Diolch hefyd i Siôn Rees Williams am ei wybodaeth yngl}n â’i dad, John Ellis Williams, ac i Mari Gwilym am wybodaeth am ei thad, Gwilym O. Roberts. Mae’r canlynol wedi bod yn gefnogol iawn o fy ngwaith ac wedi rhoi llawer o gymorth imi: Jane Aaron, T. Robin Chapman, Angharad Price, Brynley Roberts, M. Wynn Thomas a Steven Thompson. Diolchi fy nghydweithwyr yng Ngwasg Prifysgol Cymru am eu holl gwmnïaeth, cymorth a chefnogaeth. Hoffwn ddiolch i Geraint Evans, Adam Hammond, Gwion Huws, Geraint MacDonald a’u teuluoedd am eu cyfeillgarwch cynnes. Yn bennaf oll, hoffwn ddiolch i fy nheulu – fy mam Angharad, Esyllt a Gwenllian –am eu cefnogaeth a’u cariad dibendraw. Mae’r llyfr hwn wedi’i ysgrifennu er cof am ‘Y Capten’ Iolo Wigley: crefftwr, Cymro a gwladgarwr i’r carn a fu’n dad a chyfaill cariadus imi.
Cylwyniad
Cyfrol am ddylanwad seicdreiddiad a dirfodaeth ar y meddwl Cymreig yw hon. Ond nid hynny yn unig, gan nad dadansoddiad unffordd a gynigir. Bu i’r profiad Cymreig, a’r anymwybod Cymreig yn benodol, ddylanwadu yn ei dro ar y modd neilltuol y datblygodd y canghennau syniadaethol hyn yng Nghymru. Y ddadl greiddiol ceisiaf ei chynnal trwy’r gyfrol yw i syniadau seicdreiddiol a dirfodol ill dau apelio at y Cymry Cymraeg yn arbennig gan eu bod wedi cynnig model i fframio ac esbonio’u profiadau yn yr ugeinfed ganrif, wrth i’r ymwybyddiaeth dyfu yn eu plith bod eu hiaith a’u diwylliant o dan fygythiad. Yn achos seicdreiddiad, apeliai’r syniad bod hunaniaeth ddyfnach Gymreig yn llechu o dan wyneb yr hunaniaeth Brydeinig, swyddogol, at garedigion yr iaith a chenedlaetholwyr. Roedd cyfnod twf y mudiad cenedlaethol rhwng y rhyfeloedd hefyd yn gyfnod twf dylanwad Freud, wedi’r cyfan. Adlewyrchir hyn yn y ffaith awgrymog fod cofiannydd ac un o brif ladmeryddion gwaith 1 Freud, y Cymro Ernest Jones, yn aelod cynnar o Blaid Cymru. Dadansoddiad o’r anymwybod cenedlaethol yw un o’r elfennau sy’n nodweddu’r drafodaeth gynnar o waith Freud a Jung yn y Gymraeg, ynghyd ag ymgais amlweddog i weld y cysylltiadau a glymai eu syniadau â rhai o draddodiadau a hynodion y diwyll iant Anghydffurfiol Cymraeg, fel y seiat. Yn sgil hynny, dehong lwyd un o’r cysyniadau pwysicaf o fewn theori Freudaidd, sefy modd y tuedda elfennau a phrofiadau ataliedig (repressed) ddychwelyd i’n hymwybod, mewn ffordd benodol Gymraeg yng ngwaith J. R. Jones yn arbennig.
  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents