Y Chwyldro Ffrengig a r Anterliwt
266 pages
Welsh

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Y Chwyldro Ffrengig a'r Anterliwt , livre ebook

-

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
266 pages
Welsh
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

A new edition of a Welsh interlude which shows strong support for the French Revolution, and which has not received any critical attention since the end of the eighteenth century.
Dulliau Golygu: Nodyn Hanes Bywyd a Marwolaeth Brenin a Brenhines Ffrainc: Testun Nodiadau ar yr Anterliwt Atodiad 1: Tonau'r anterliwt i. Tri Chant o Bunnau ii. Tempest of War iii. Betty Brown iv. Difyrrwch Gw}r y Gogledd v. God Save the King Baledi a Cherddi Huw Jones, Glanconwy 1. '[Cerdd] yn achos y rhyfel presennol' 2. '[Cerdd] yn rhoi hanes brwydr a fu rhwng Lloegr a Hisbaen, y 14 o Chwefror 1797, a'r modd y gorchfygwyd yr ysbaeniaid gan Syr John Jervis, Admiral Lloegr' 3. 'Carol Plygain' ar 'Difyrrwch Gw}r y Gogledd' 4. 'Carol Plygain' ar 'Terfyn y Dyn Byw' 5. Englyn 6. 'Carol Plygain' ar 'Hir Oes Dyn' 7. Englyn ymyl dalen Nodiadau ar y Baledi a'r Cerddi Atodiad 2: Tonau'r cerddi i. Charity Meistress (cerdd 1) ii. Duw Gadwo'r Brenin (yr hen ffordd) (cerdd 2) iii. Difyrrwch Gw}r y Gogledd (cerdd 3) iv. Hir Oes Dyn (cerdd 6) Geirfa: Nodyn Esboniadol Geirfa Llyfryddiaeth Ddethol

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 janvier 2014
Nombre de lectures 0
EAN13 9780708326992
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 5 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,0408€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

CYMRU A’R CHWYLDRO FFRENGIG
Golygyddion Cyffredinol: Mary-Ann Constantine a Dafydd Johnston
CYMRU A’R CHWYLDRO FFRENGIG
Chwyldro Ffrengig 1789, mae’n debyg, oedd digwyddiad diffiniol y cyfnod Rhamantaidd yn Ewrop. Nid trefn cymdeithas yn unig a ansefydlogwyd ganddo ond iaith a syniadaeth yn ogystal: roedd iddo ganlyniadau diwylliannol dwfn a hirhoedlog. Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae ein dealltwriaeth o ddylanwad y Chwyldro ar ddiwylliant Prydain wedi datblygu’n aruthrol. O safbwynt llenyddiaeth, wrth i sylw beirniadol symud o’r beirdd amlycaf i destunau ymylol anghanonaidd, daethom i weld sut y bu i waith gan awduron benywaidd, awduron hunanaddysgedig, pamffledwyr radicalaidd, proffwydi a phropagandyddion teyrngarol gyfrannu at weddnewid ieithwedd a syniadau’r cyfnod. Eto, mae bylchau annisgwyl yn aros, a hyd yn oed mewn astudiaethau diweddar ar yr adwaith ‘Brydeinig’ i’r Chwyldro ychydig o wybodaeth a geid o hyd am yr ymatebion yn y rhanbarthau. Mewn ym-driniaethau llenyddol a hanesyddol yngl}n â’r hyn a elwir yn ‘bedair cenedl’ Prydain, mae Cymru wedi bod yn anweledig i bob pwrpas; mae llawer o’r ymchwilwyr sy’n gweithio yn y maes yn gwbl anymwybodol o’r math o ffynonellau sydd ar gael ar gyfer astudiaethau cymharol. Mae Cyfres Cymru a’r Chwyldro Ffrengig yn gynnyrch prosiect pedair blynedd dan nawdd yr AHRC a Phrifysgol Cymru yn y Ganolfan Uwch-efrydiau Cymreig a Cheltaidd. Mae’n darparu ystod eang o ddeunydd Cymreig o’r degawdau a rychwantai’r Chwyldro a’r rhyfeloedd a’i dilynodd. Mae pob cyfrol wedi ei golygu gan arbenigwr yn y maes ac yn cyflwyno casgliad o destunau (ynghyd â chyfieithiad lle bo angen) ogenreneilltuol yn ogystal â rhagymadrodd beirniadol sy’n gosod y deunydd yn ei gyd-destun hanesyddol a llenyddol. Cyhoeddir llawer o’r deunydd am y tro cyntaf, a daw pob math o wahanolgenresdan y chwyddwydr. O faledi a phamffledi i lythyrau personol a cherddi arobryn, traethodau, cylchgronau, pregethau, caneuon a dychan, mae’r amrywiaeth sy’n cael ei gwmpasu gan y gyfres yn adlewyrchiad cyffrous o gymhlethdod gwleidyddol a diwylliannol yr oes. Gobeithiwn y bydd y cyfrolau yn cymell ysgolheigion a myfyrwyr ym maes hanes a llenyddiaeth Cymru i ailddarganfod y cyfnod cyfareddol hwn, ac yn cynnig digonedd o bosibiliadau cymharol ar gyfer rhai sy’n gweithio mewn meysydd eraill.
Mary-Ann Constantine a Dafydd Johnston Golygyddion Cyffredinol
CYMRU A’R CHWYLDRO FFRENGIG
Y Chwyldro Ffrengig a’r Anterliwt Hanes Bywyd a Marwolaeth Brenin a Brenhines Ffraincgan Huw Jones, Glanconwy
golygwyd gan
FFION MAIR JONES
GWASG PRIFYSGOL CYMRU CAERDYDD 2014
© Ffion Mair Jones, 2014
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd CF10 4UP.
www.gwasg-prifysgol-cymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-0-7083-2649-7 e-ISBN 978-0-7083-2699-2
Datganwyd gan Ffion Mair Jones ei hawl foesol i’w chydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cysodwyd gan Eira Fenn Gaunt, Pentyrch Argraffwyd gan CPI Antony Rowe, Chippenham.
Rhestr o Ddelweddau Rhagair Cydnabyddiaethau Rhestr o Fyrfoddau
Rhagymadrodd
Dulliau Golygu: Nodyn
Cynnwys
Hanes Bywyd a Marwolaeth Brenin a Brenhines Ffrainc: Testun
Nodiadau ar yr Anterliwt
Atodiad 1: Tonau’r Anterliwt
i. ‘Tri Chant o Bunnau’ ii. ‘Tempest of War’ iii. ‘Betty Brown’ iv. ‘Difyrrwch Gw}r y Gogledd’ v. ‘God Save the King’
Baledi a Cherddi Huw Jones, Glanconwy
1. ‘[Cerdd] yn achos y rhyfel presennol’ 2. ‘[Cerdd] yn rhoi hanes brwydr a fu rhwng Lloegr a Hisbaen,  y 14 o Chwefror 1797, a’r modd y gorchfygwyd yr Ysbaeniaid  gan Syr John Jervis, Admiral Lloegr’ 3. ‘Carol Plygain’ ar ‘Difyrrwch Gw}r y Gogledd’ 4. ‘Carol Plygain’ ar ‘Terfyn y Dyn Byw’
vii ix xi xiii
1
39
45
103
149
150 152 153 154 155
157
157
162 165 168
vi
CYNNWYS
5. Englyn 6. ‘Carol Plygain’ ar ‘Hir Oes Dyn’ 7. Englyn ymyl dalen
Nodiadau ar y Baledi a’r Cerddi
Atodiad 2: Tonau’r Cerddi
i. ‘Charity Meistress’ (cerdd 1)
ii. ‘Duw Gadwo’r Brenin’ (yr hen ffordd) (cerdd 2)
iii. ‘Difyrrwch Gw}r y Gogledd’ (cerdd 3)
iv. ‘Hir Oes Dyn’ (cerdd 6)
Geirfa: Nodyn Esboniadol
Geirfa
Llyfryddiaeth Ddethol
Mynegai i’r Testunau
Mynegai Cyffredinol
171 172 174
175
186
186
187
188
189
191
195
225
237
241
Delweddau
Del. 1 Tudalen deitl Hugh Jones,Gwedd o Chwareyddiaeth Sef Hanes Bywyd a Marwolaeth, Brenhin, a Brenhines Ffraingc: Ac amryw eraill o’u Deiliaid. Hefyd Darluniad o Grefydd Babaidd: A’r modd y darostyngwyd y Pabyddion yn y Tymestl diweddar, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 2
Del. 2 Jacques Louis David, ‘Y Frenhines Marie Antoinette (1755–93) ar y ffordd i’w dienyddio, 1793’, Bridgeman Art Library / Casgliad Preifat. 21
Del. 3 Isaac Cruikshank, ‘A General Fast in Consequence of the War!!’, The British Museum. 25
Thispageintentionallyleftblank.
Rhagair
Lwc yr ymchwilydd a ddaeth ag anterliwt Huw Jones, Glanconwy, sef prif arlwy’r gyfrol hon, i’m sylw, a hynny yn gynnar yn nyddiau prosiect Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth ar hanes ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’. Yn swatio rhwng cyfeiriadau at waith gan ddau Huw (neu Hugh) Jones llawer enwocach, sef Huw Jones, Maesglasau, a Huw Jones, Llangwm, ar dudalennauLibri Walliae, canfyddais gyfeiriad gogleisiol atGwedd o Chwareyddiaeth Sef Hanes Bywyd a Marwolaeth, Brenhin, a Brenhines Ffraingc, etc. Wrth chwilota drwy gatalogmicroficheLlyfrgell Gened-laethol Cymru llwyddais i gael hyd i fanylion lleoliad copi o’r testun ymhlith y daliadau, a boddhad mawr oedd canfod cyfrol lân a dianaf o anterliwt na chlywswn erioed sôn amdani cyn hynny, ac o waith awdur a oedd hefyd bron yn gwbl ddieithr i mi. Gan fod prosiect ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’ yn anelu’n benodol at ddwyn testunau o amrywiolgenresllenyddol i sylw’r cyhoedd, yn academydd-ion ac yn lleygwyr, yr oedd lle i olygiad o’r anterliwt yn rhaglen waith ein hymchwil. Ynghyd â golygiadau o gerddi Cymraeg a Saesneg eu hiaith o Gymru cyfnod y Chwyldro, baledi, cyfnodolion a phapurau newydd, pamffledi, llythyrau a dyddiaduron, y mae’r gyfrol hon yn ffrwyth cyfnod pedair blynedd o waith tîm o ymchwilwyr ar ddylanwad y Chwyldro ar Gymru ac ymatebion Cymru iddo. Cyhoeddwyd eisoes gyfrolau sy’n rhoi sylw i’rgenresa enwyd gan dîm y prosiect, sef Dr Mary-Ann Constantine, Dr Cathryn Charnell-White, Dr Elizabeth Edwards, Dr Marion Löffler a Dr Heather Williams. Ymddangosodd cyfrol o ysgrifau amrywiol yn ogystal, yn dwyn y teitlFootsteps of Liberty and Revolt: Essays on Wales and the French Revolution, dan olygyddiaeth Mary-Ann Constantine a’r Athro Dafydd Johnston, cyfarwyddwr y Ganolfan. Hoffwn gydnabod fy nyled i holl aelodau’r prosiect, ac yn arbennig i’r arweinydd a’r cyfarwyddwr am eu sylwadau ar y gwaith a gyflwynir yma. Bûm yn ffodus yn ogystal o gefnogaeth aelodau panel ymgynghorol y prosiect, yn arbennig Dr Wyn James a’r Athro John Barrell. Yr wyf yn hynod ddyledus i Dylan N. Jones, Nereus, Y Bala, am gysodi’r alawon. Bu Dr Meredydd Evans a Dr Phyllis Kinney yn barod i rannu eu gwybodaeth ynghylch cerddoriaeth draddodiadol Cymru gyda
  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents