Cyfan-dir Cymru
148 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
148 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Dyma gasgliad o ysgrifau sy’n archwilio rhai o’r dolennau cyswllt cymhleth a chyfoethog rhwng diwylliannau llên Cymraeg a llên Saesneg Cymru dros ganrif a mwy. Mae’r testunau a drafodir yn amrywio o bynciau cyffredinol (tarddiad y syniad fod y Cymry yn genedl gapelog; delweddau Cymru o Ewrop; ei hagwedd at y Taleithiau) i ddadansoddiadau manwl o weithiau unigol (Gwaed yr Uchelwyr; Ymadawiad Arthur); ac astudiaeth o awduron sydd wedi eu hanwybyddu i raddau helaeth (Pennar Davies; Alun Llywelyn-Williams).


Rhagair
Y genedl grefyddol
Gwreiddiau’r syniad o ‘Genedl Anghydffurfiol’
‘Y Genedl Anghydffurfiol a Llên Saesneg
Dadeni Cymru Fydd
Seisnigrwydd Ymadawiad Arthur
Chwarae rhan yng nghynhyrchiad Cymru Fydd
Tri dysgwr
Caethiwed Branwen
Yr Efrydd a’r Almonwydden
Cennad angen: barddoniaeth Waldo Williams
Dau fydolwg
Ewtopia: cyfandir dychymyg y Cymry
Gwlad o bosibiliadau: Cymru a’r Taleithiau
Dolennau Cyswllt
Y werin a’r byddigions
Monica Lewinsky a fi
Vernon Watkins, Taliesin Bro Gŵyr
Y Bardd Cocos ar gefn ei geffyl

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 novembre 2017
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786831002
Langue Welsh

Informations légales : prix de location à la page 0,0500€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

Cyfan-dir Cymru
Y MEDDWL A’R DYCHYMYG CYMREIG
Golygydd Cyffredinol: Gerwyn Wiliams
Dan olygyddiaeth gyffredinol John Rowlands
1. M. Wynn Thomas (gol.), DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (1995)
2. Gerwyn Wiliams, Tir Neb (1996) (Llyfr y Flwyddyn 1997; Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
3. Paul Birt, Cerddi Alltudiaeth (1997)
4. E. G. Millward, Yr Arwrgerdd Gymraeg (1998)
5. Jane Aaron, Pur fel y Dur (1998) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
6. Grahame Davies, Sefyll yn y Bwlch (1999)
7. John Rowlands (gol.), Y Sêr yn eu Graddau (2000)
8. Jerry Hunter, Soffestri’r Saeson (2000) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2001)
9. M. Wynn Thomas (gol.), Gweld Sêr (2001)
10. Angharad Price, Rhwng Gwyn a Du (2002)
11. Jason Walford Davies, Gororau’r Iaith (2003) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2004)
12. Roger Owen, Ar Wasgar (2003)
13. T. Robin Chapman, Meibion Afradlon a Chymeriadau Eraill (2004)
14. Simon Brooks, O Dan Lygaid y Gestapo (2004) (Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2005)
15. Gerwyn Wiliams, Tir Newydd (2005)
16. Ioan Williams, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880–1940 (2006)
17. Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth mewn Theori (2006)
18. Sioned Puw Rowlands, Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod (2006)
19. Tudur Hallam, Canon Ein Llên (2007) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
20. Enid Jones, FfugLen (2008) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
Dan olygyddiaeth gyffredinol Gerwyn Wiliams
21. Eleri Hedd James, Casglu Darnau’r Jig-so (2009)
22. Jerry Hunter, Llwybrau Cenhedloedd (2012)
23. Kate Woodward, Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith? (2013)
24. Rhiannon Marks, ‘Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr’ (2013)
25. Gethin Matthews (gol.), Creithiau (2016)
26. Elain Price, Nid Sianel Gyffredin Mohoni! (2016)
27. Rhianedd Jewell, Her a Hawl Cyfieithu Dramâu (2017)
Y MEDDWL A’R DYCHYMYG CYMREIG
Cyfan-dir Cymru
Ysgrifau ar Gyfannu Dwy Lenyddiaeth Cymru
M. Wynn Thomas
M. Wynn Thomas, 2017
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd, CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalog i’r llyfr hwn ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78683-098-2
e-ISBN 978-1-78683-100-2
Datganwyd gan M. Wynn Thomas ei hawl foesol i’w gydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 79 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau’n gywir neu’n addas.
Cover image: Iwan Bala, Barca / Y llong (2004)
Cynnwys
Rhagair
Cydnabyddiaethau
Y Genedl Grefyddol
1. Gwreiddiau’r Syniad o Genedl Anghydffurfiol
2. Y Genedl Anghydffurfiol a Llenyddiaeth Saesneg Cymru Ddiwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
Dadeni Cymru Fydd
3. Seisnigrwydd ‘Ymadawiad Arthur’
4. Chwarae Rhan yng Nghynhyrchiad Cymru Fydd
Tri Dysgwr
5. Caethiwed Branwen: Agweddau ar Farddoniaeth Alun Llywelyn-Williams
6. Yr Efrydd a’r Almonwydden: Pennar Davies, y Llenor o Lyn Cynon
7. Cennad Angen: Barddoniaeth Waldo Williams
Dau Fydolwg
8. Ewtopia: Cyfandir Dychymyg y Cymry
9. Gwlad o Bosibiliadau: Golwg ar Lên Cymru ac America
Dolennau Cyswllt
10. Y Werin a’r Byddigions: Gwaed yr Uchelwyr a Diwylliant Llên Troad y Ganrif
11. Monica Lewinsky a Fi
12. Vernon Watkins: Taliesin Bro Gŵyr
13. Y Bardd Cocos ar gefn ei Asyn: Cip ar Kulturkampf y Tridegau
Rhagair
‘Ynof mae Cymru’n un’, meddai Waldo Williams, ond gan ychwanegu’n onest ac yn awgrymog, ‘y modd nis gwn.’ 1 ‘Deufyd digymod yn ymryson sydd / yn fy mhreswylfa gyfrin’, meddai Alun Llywelyn-Williams, 2 gan gyfeirio’n benodol at y ddau ddiwylliant – diwylliant y Gymraeg a diwylliant Saesneg Cymru – a fu’n feithrinfeydd i’w bersonoliaeth ac i’w ddawn. Dau ddatganiad, felly, sy’n llwyr wrthwyneb i’w gilydd – neu fel yna ymddengys ar y darlleniad brysiog cyntaf. Ac eto, medraf fy hun dystio y gall y ddau argyhoeddiad gydorwedd oddi mewn i brofiad amlochrog, amwys, un person. Oherwydd, o ystyried ychydig ymhellach, nid yw’r naill ddatganiad o reidrwydd yn gwrth-ddweud, neu’n nacáu, y llall. Yn wir, medrir dadlau mai undod cyfansawdd yw undod y Gymru fodern. E pluribus unum yw’r arwyddair a geir ar sêl fawreddog y Taleithiau ‘Unedig’, ac mae’n ddisgrifiad teg o Gymru fitw yn ogystal. Ni olyga hynny, wrth gwrs, fod yr elfennau gwahanol sy’n nodweddu’r genedl gyfoes yn cydblethu’n dwt ac yn daclus. Mae’n amlwg ddigon fod y rhan fwyaf o’r priodoleddau hynny’n cyd-fyw’n hynod anfodlon ac anesmwyth, a’u bod nhw hefyd yn gwrthdaro’n barhaus, gan gystadlu’n ffyrnig o ddinistriol â’i gilydd.
Ac o fyfyrio ymhellach, ceir fod modd mentro cam neu ddau arall i’r dyfnderoedd. Oherwydd os taw ffrwyth cydberthyn a thynnu croes gwahanol elfennau yw undod cenedl ar un olwg, yna ar olwg arall, yr undod sy’n cynhyrchu’r profiadau amrywiol hyn o gydberthyn a chroesdynnu. Eto fyth, nid elfennau gosod mo’r cynhwysion gwahanol hyn, oblegid gwelir hwy’n trawsnewid yn barhaus o gyfnod i gyfnod ac o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae’r cyfan oll yn symudol; yn fythol adnewyddol a thrawsffurfiannol. A phan fyddwn ni’n synied am ‘Hanes Diwylliant’, at hyn y byddwn ni mewn gwirionedd yn cyfeirio, er mai prin iawn, iawn, ysywaeth, yw’r haneswyr – boed hwy’n haneswyr diwylliannol neu’n haneswyr cymdeithasol – sydd wedi sylwi ar hynny.
Y broses hon – ac yn bennaf y berthynas gymhleth, gymysg rhwng y ddau ddiwylliant – sy’n nodweddu bywyd diwylliannol y Gymru gyfoes. Hyhi sy’n creu ac yn cynnal ‘undod’ y mae ei gyfansoddiad yn unigryw i’r genedl. Ni all yr union batrymwaith hwn fodoli oddi mewn i unrhyw gyfanwaith arall. Er da, a hefyd ysywaeth er drwg, y cymhleth tensiynau hyn yw’n cwlwm perthyn arbennig ni fel pobl, ac mae’r ysgrifau sy’n dilyn – cynnyrch ugain mlynedd – yn ymdrech i ymgydnabod â hynny, nid drwy drafod y testun yn benodol ond drwy gydosod dwy lenyddiaeth Cymru a’u trafod ar y cyd. Oherwydd, fel y pwysleisir yn nheitl y gyfrol hon, nid rhyw undod gosod, digyfnewid, mo undod cenedl, eithr ffrwyth proses anodd, barhaus, o gyfannu. Mae’r ysgrifau hyn, felly, yn enghraifft o’r weithred allweddol, fythol ansicr, honno.
Ac yn gynsail i’r gyfrol gyfan mae’r argyhoeddiad a fynegais gyntaf yn y gyfrol Corresponding Cultures . Mynnu yr oeddwn fod mawr angen meddwl mewn
cross-cultural terms, to think, for instance, of writers in the two languages of twentieth-century Wales as deriving from a common cultural source and as sharing social experiences. To think in these terms may be beneficial to our apprehension and appreciation of particular writers, and it should sharpen our sense of the magnitude and hospitable capaciousness of modern Welsh literary culture. But, above all else, to think in these terms is to begin the process of making connections, finding associations, across the cultural divide that has been both the making and undoing of modern Wales, so as to begin the delicate work of stitching Wales together again, and producing an image not of a simple monolithic entity but of a remarkable profusion of significant differences, creative hostilities, silent interconnections and hidden attachments. 3
Mae hi’n ugain mlynedd bellach ers i’r anogaeth hon gael ei chyhoeddi, ond trist gorfod adrodd ein bod ni’n dal i aros yn ein hunfan, gan ddisgwyl yn ofer o hyd am ymateb priodol. Pa ymdrech a wnaed yn y cyfamser, er enghraifft, i olrhain hanes dyrys cydberthynas gymhleth a chyson gyfnewidiol dau ddiwylliant Cymru, gan gychwyn gyda chyfnod y gwrthdaro (o ymddangosiad My People , dyweder, hyd at yr Ail Ryfel Byd) a gorffen gyda dadansoddiad o’n cyfnod amwys ac amlweddog ni o gydnabod a chydberthyn, cyfnod yr esgorodd degawd chwyldroadol y 1960au a chyfraniad gweddnewidiol Cyngor Celfyddydau Cymru arno a datblygiad sydd bellach yn cael ei gefnogi’n swyddogol drwy nawdd Llywodraeth Cymru? Ac o ganolbwyntio ar lenyddiaeth Gymraeg yn unig am y tro, pwy sydd wedi mentro ystyried y posibilrwydd cryf fod dadeni disglair llenyddiaeth yn y Gymraeg ar ddechrau’r ugeinfed ganrif yn bur ddyledus i ddatblygiad bygythiol diwylliant Saesneg y Gymru ddiwydiannol newydd? Nid oes neb, chwaith, wedi trafod yn ystyrlon effaith presenoldeb y Gymraeg ar driniaeth yr iaith Saesneg gan lenorion Cymreig. A byddai’n hawdd amlhau enghreifftiau eraill o’r diffygion sylfaenol amlwg yn ein dealltwriaeth ni o Gymru ddeu-ddiwylliannol yr ugeinfed ganrif.
Nid ymdrech gyson i ymateb i’r her nac i lenwi’r bylchau a geir yn y gyfrol hon. Ymdrech yn unig ydyw i sicrhau bod y ddwy lenyddiaeth yn cydorwedd yn y meddwl ar hyd yr adeg a thrwy hynny fod y sgwrs ddiwylliannol sy’n cyfoethogi’n hadnabyddiaeth ohonom ni ein hunain fel pobl yn cael ei chydnabod. Digon amrwd yw’r rhaniadau oddi mewn i’r gyfrol a phenawdau breision a osodwyd arnynt. Arwyddbyst ydynt yn dynodi rhediad y meddwl, a cheir awgrym hefyd o ddilyniant amser, gan mai trafod Cymru’r canrifoedd a fu y mae’r penodau am ‘Y genedl grefyddol’ ac felly hefyd y penodau dilynol a grynhoir o dan bennawd bras ‘Dadeni Cymru Fydd’. Ymhob achos ceisir arddangos yn dawel fod angen symud yn gyson yn ôl ac ymlaen rhwng dwy iaith a dau ddiwylliant Cymru os am lawn amgyffred datblygiadau allweddol yn hanes y genedl. Eithr ni fynegir yr argyhoeddiad hwnnw’n ymosodol o groch ar ffurf dadl; islais yn unig ydyw.
Wrth fynd heibio, crybwyllir dyled arwyddocaol T. Gwynn Jones i’r awduron Saesneg a fu’n trafod y testun Arthuraidd, ac yn sgil hynny nodir y gallai T. Gwynn Jones ei hun yn hawdd fod wedi dewis barddoni yn y Saesneg yn hytrach na’r Gymraeg, nid yn unig am ei fod wedi ymserchu’n ifanc yng ngherddi’r iaith fain ond am ei fod yn ymwybodol iawn y galla

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents