Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’
131 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’ , livre ebook

-

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
131 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Dyma’r gyfrol Gymraeg gyntaf i drafod y portread o amlddiwylliannedd yng Nghymru mewn ffuglen Gymraeg a Saesneg gyfoes. Mae’n astudiaeth gymharol sy’n dod â gwaith rhai o awduron Cymraeg a Saesneg mwyaf blaenllaw Cymru yn y degawdau diwethaf ynghyd – gan gynnwys Angharad Price, Llwyd Owen, Tony Bianchi, Charlotte Williams a Dannie Abse. Mae’n ein cyflwyno hefyd i waith awduron nad ydynt wedi derbyn llawer o sylw beirniadol hyd yn hyn, awduron megis Nikita Lalwani a Joe Dunthorne. Er mwyn ystyried y portread o amlddiwylliannedd, rhoddir ar waith ddamcaniaethau am ‘aralledd’ – term sy’n dynodi gwahaniaeth a ystyrir yn israddol i’r brif ffrwd gymdeithasol neu ddiwylliannol. Trwy archwilio ffurf y nofel Gymreig gyfoes, ynghyd â themâu megis ystrydebau, amlieithrwydd, a mudo a mewnfudo, awgryma’r gyfrol hon sut y gall darllen ffuglen ar draws ffiniau ieithyddol Cymru gyfrannu at ddatblygu cymdeithas Gymreig fwy cynhwysol – cymdeithas lle y mae’r Gymraeg yn ganolog i fywyd y genedl, ond lle yr ymwrthodir â seilio hunaniaeth Gymreig ar allu’r unigolyn yn yr iaith honno; a chymdeithas lle y mae’r dwyieithrwydd sylfaenol hwn yn herio cysyniadau am oruchafiaeth, ac angenrheidrwydd, un brif ffrwd ddiwylliannol.


Diolchiadau
Rhestr Termau
Cyflwyniad
1 Y Gymru ‘Ddu’: Diffinio Aralledd yn y Gymru Amlddiwylliannol
2 ‘Yr un alaw, gwahanol eiriau’: Herio awdurdod yn y nofel aml-leisiol
3 ‘Welsh... Was ist das?’: Herio ystrydebau ac chreu gofodau synergaidd
4 ‘Call me Caliban’: Iaith ac aralledd
5 ‘Gwlad oedd wedi peidio â bod’: Croesi a chwalu ffiniau
Casgliadau a dechreuadau: Y Ddalen ‘Wen’
Llyfryddiaeth
Mynegai

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 juin 2018
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786831996
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 1 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,0500€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

Y Gymru Ddu a r Ddalen Wen
Y MEDDWL A R DYCHYMYG CYMREIG
Golygydd Cyffredinol: Gerwyn Wiliams
Dan olygyddiaeth gyffredinol John Rowlands
1. M. Wynn Thomas (gol.), DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (1995)
2. Gerwyn Wiliams, Tir Neb (1996) (Llyfr y Flwyddyn 1997; Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
3. Paul Birt, Cerddi Alltudiaeth (1997)
4. E. G. Millward, Yr Arwrgerdd Gymraeg (1998)
5. Jane Aaron, Pur fel y Dur (1998) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
6. Grahame Davies, Sefyll yn y Bwlch (1999)
7. John Rowlands (gol.), Y S ê r yn eu Graddau (2000)
8. Jerry Hunter, Soffestri r Saeson (2000) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2001)
9. M. Wynn Thomas (gol.), Gweld S ê r (2001)
10. Angharad Price, Rhwng Gwyn a Du (2002)
11. Jason Walford Davies, Gororau r Iaith (2003) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2004)
12. Roger Owen, Ar Wasgar (2003)
13. T. Robin Chapman, Meibion Afradlon a Chymeriadau Eraill (2004)
14. Simon Brooks, O Dan Lygaid y Gestapo (2004) (Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2005)
15. Gerwyn Wiliams, Tir Newydd (2005)
16. Ioan Williams, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880 - 1940 (2006)
17. Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth mewn Theori (2006)
18. Sioned Puw Rowlands, Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod (2006)
19. Tudur Hallam, Canon Ein Ll ê n (2007) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
20. Enid Jones, FfugLen (2008) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
Dan olygyddiaeth gyffredinol Gerwyn Wiliams
21. Eleri Hedd James, Casglu Darnau r Jig-so (2009)
22. Jerry Hunter, Llwybrau Cenhedloedd (2012)
23. Kate Woodward, Cleddyfym Mrwydr yr Iaith? (2013)
24. Rhiannon Marks, Pe Galium, Mi Luniwn Lythyr (2013)
25. Gethin Matthews (gol.), Creithiau (2016)
26. Elain Price, Nid Sianel Gyjfredin Mohoni! (2016)
27. Rhianedd Jewell, Her a Howl Cyfieithu Dramau (2017)
28. M. Wynn Thomas, Cyfan-dir Cymru (2017)
Y MEDDWL A R DYCHYMYG CYMREIG
Y Gymru Ddu a r Ddalen Wen
Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990
Lisa Sheppard -->

GWASG PRIFYSGOL CYMRU CAERDYDD 2018
h Lisa Sheppard, 2018
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o r cyhoeddiad hwn na i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatad ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd, CF10 4UR.
www.gwasgprijysgolcymru.org
Mae cofnod catalog i r llyfr hwn ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78683-197-2
e-ISBN 978-1-78683-199-6
Datganwyd gan Lisa Sheppard ei hawl foesol i w chydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 79 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Ariennir y cyhoeddiad hwn yn rhannol gan Brifysgol Caerdydd.
Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau'n gywir neu'n addas.
Llun y clawr: Bethan Ash, Spotaholic (2015), pwyth collage. Trwy ganiatâd.
i Jane Cousins a Sali Flowers
Cynnwys
Diolchiadau
Rhestr Termau
Cyflwyniad
1. Y Gymru Ddu : Diffinio Aralledd yn y Gymru Amlddiwylliannol
2. Yr un alaw, gwahanol eiriau : Herio Awdurdod yn y Nofel Aml-leisiol
3. Welsh... Was ist das? : Herio Ystrydebau a Chreu Gofodau Synergaidd
4. Call me Caliban : Iaith ac Aralledd
5. Gwlad a oedd wedi peidio â bod : Croesi a Chwalu Ffiniau
Casgliadau a Dechreuadau: Y Ddalen Wen
Nodiadau
Llyfryddiaeth
Diolchiadau
Hoffwn ddiolch o waelod calon i r sawl sydd wedi bod mor barod eu cyngor a u cefnogaeth wrth imi gyflawni r ymchwil hon.
Mae r gyfrol hon yn seiliedig ar ffrwyth fy ymchwil ddoethur ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae fy niolch pennaf yn eiddo i r Athro Katie Gramich, Dr Siwan Rosser a Dr Simon Brooks am eu cyfarwyddyd diwyd a thrylwyr yn ystod y cyfnod hwnnw. Fe m rhoesant ar ben ffordd fel myfyriwr gradd, ac roedd yn fraint cael gweithio gyda hwy a dysgu cymaint ganddynt unwaith eto fel myfyriwr ôl-raddedig Roeddent mor barod eu cymwynas a u cyngor ymhob achos (ac yn dal i fod), ac mae fy nyled iddynt yn fawr. Diolch hefyd i r Athro Gerwyn Wiliams a r Athro Daniel Williams, a fu n arholi r traethawd, am drafodaeth ddifyr a sylwadau treiddgar sydd wedi bod yn anhepgor wrth ddychwelyd at y gwaith a i addasu.
Diolch yn ogystal i r Athro Sioned Davies a Dr Dylan Foster Evans am eu cefnogaeth ymhob peth, ac i holl staff Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd am eu cyngor a u cyfeillgarwch dros y blynyddoedd. Rwy n ddiolchgar iawn iddynt oll am eu brwdfrydedd a r croeso cynnes rwyf wedi i dderbyn ganddynt, fel myfyriwr yn y lle cyntaf ac, erbyn hyn, fel aelod staff. Diolch hefyd i fyfyrwyr gradd ac ôl-radd yr ysgol am daflu goleuni newydd ar rai testunau a syniadau mewn seminarau a thrafodaethau. Rwy n ddyledus hefyd i sawl aelod staff a myfyriwr ôl-raddedig yr Ysgol Saesneg Cyfathrebu ac Athroniaeth, Prifysgol Caerdydd, am eu cyfeill-garwch a u harweiniad mewn nifer o agweddau ar fy mywyd academaidd.
Ni fyddai wedi bod yn bosib imi gwblhau r ymchwil hon heb nawdd hael oddi wrth gronfa Ysgoloriaethau Ymchwil y Llywydd, Prifysgol Caerdydd. Ni fyddai wedi bod yn bosib ychwaith gyhoeddi r gyfrol hon heb i Brifysgol Caerdydd ddyfarnu arian imi o gronfa Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer Astudiaethau Cymreig. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i r brifysgol, felly, am ei chefnogaeth ariannol sydd wedi caniatau imi gwblhau a chyhoeddi r ymchwil hon. Ynghyd a hynny hoffwn ddiolch i staff Gwasg Prifysgol Cymru am eu cyngor; eu hamynedd a u hymroddiad wrth i r gyfrol fynd ar ei thaith drwy r wasg.
Hoffwn ddiolch hefyd i aelodau Rhwydwaith (Ail)-Ddehongli Amlddiwylliannedd Prifysgol Caerdydd ac aelodau Cymdeithas Llên Saesneg Cymru am eu sylwadau ar bapurau ymchwil ac am ysgogi syniadau newydd. Diolch yn arbennig i r Athro M. Wynn Thomas am estyn croeso cynnes i ni ymchwilwyr newydd i r gymdeithas honno, ac am gymryd cymaint o ddiddordeb yn ein gwaith. Diolch yn ogystal i Dr Neil Evans, yr Athro Paul O Leary a r Athro Charlotte Williams am eu caredigrwydd wrth adael imi ddarllen golygiad newydd A Tolerant Nation? cyn ei gyhoeddi, a oedd o gymorth wrth ddatblygu r gwaith ymhellach.
Diolch i m ffrindiau am eu cyfeillgarwch, eu brwdfrydedd, a u diddordeb yn fy ngwaith. Diolch i Mam a Dad, nid yn unig am eu cefnogaeth, eu cariad, a u gofal, ond am benderfynu fy anfon i ysgol Gymraeg a rhoddi imi ddwy iaith; y penderfyniad hwnnw a roes fod i r gwaith hwn trwy ennyn fy niddordeb mewn ieithoedd a lleiafrifoedd - ie, Dad, ti dy hun sydd ar fai fy mod i wedi bod yn fyfyriwr am gymaint o flynyddoedd! Diolch i Dan am ei gariad, ei ffydd ynof bob amser ac am fod yn ddisgybl bodlon mewn sawl darlith fyrfyfyr yn y t ŷ ar berthnasedd theori ôl-drefedigaethol i faterion cyfoes. Ac yn olaf, diolch i Rolo a Wispa am fynnu fy mod yn codi o r ddesg bob hyn a hyn er mwyn mynd â nhw am dro.
Rhestr Termau
alltudiaeth - exile
Y cyflwr o fod wedi eich gwahanu oddi wrth y lle neu r wlad sy n gartref ichi. Gall unigolyn fod yn alltud am sawl rheswm - fel ffoadur, fel mudwr sydd wedi symud oherwydd gwaith neu resymau sosioeconomaidd, neu oherwydd rhesymau gwleidyddol neu gyfreithiol sy n golygu na all ddychwelyd i w wlad i fyw.
amlddiwylliannedd - multiculturalism
Bodolaeth traddodiadau diwylliannol lluosog oddi mewn i r un wlad neu diriogaeth. Mewn rhai cyd-destunau cyfeiria amlddiwylliannedd at bolisïau gwleidyddol sy n sicrhau hawliau neu gydnabyddiaeth i grwpiau diwylliannol ymylol neu leiafrifol penodol, yn wahanol i bolisiau sy n ceisio cymhathu diwylliannau llai i ddiwylliant mwyafrifol y wlad.
aml-leisiol - polyvocal
Term i ddisgrifio testun sy n cyflwyno sawl llais neu stori, neu destun sy n cael ei adrodd gan sawl llais neu o sawl safbwynt gwahanol.
amrywiaith - heteroglossia
Bodolaeth amrywiaethau penodol (megis cyweiriau, ieithweddau) oddi mewn i r un iaith. Roedd y Rwsiad Mikhail Bakhtin o r farn bod y nofel yn ffurf lenyddol sydd wedi i nodweddu gan amrywiaith oherwydd bod gwahanol ieithoedd (er enghraifft, naratif, deialog) yn ffurfio r cyfanwaith.
(yr) arall - (the) other
Term pwysig ym meysydd athroniaeth a beirniadaeth lenyddol a diwylliannol. Mae r arall yn dynodi rhywbeth sydd ar wahân ac (fel arfer) yn israddol i r hunan , ac sy n cynrychioli r gwrthwyneb llwyr iddo. Oherwydd uwchraddoldeb ac awdurdod yr hunan dros yr arall gellir ystyried bod yr hunan yn cynrychioli r arfer neu norm neu awdurdod mewn cymdeithas, a r arall yn cynrychioli r anarferol, yr annormal, y difreintiedig, neu hyd yn oed bygythiad i rym y norm. Ond oherwydd y gwrthgyferbyniad hwn, mae bodolaeth yr arall yn hanfodol er mwyn i r hunan ei ddiffinio i hun yn erbyn yr arall . Yn ei dro diffinnir yr arall o safbwynt ei wahaniaeth i r hunan . Mewn cymdeithas drefedigaethol, mae r bobl a drefedigaethwyd yn cael eu hystyried yn arall i rym ac awdurdod y diwylliant trefedigaethol honedig uwchraddol.
aralledd - otherness
Y profiad o deimlo fel arall , neu o gael eich gweld fel yr arall gan rywrai. Yn aml, cysylltir aralledd â theimladau o alltudiaeth, unigedd, diffyg perthyn, ansicrwydd neu anghyflawnder.
cydgymeriad - synecdoche
Elfen mewn testun (megis delwedd neu gymeriad neu air) sy n cynrychioli cysyniad neu elfen fwy. Yn y gyfrol hon, er enghraifft, ystyrir sut y mae gair Cymraeg mewn testun Saesneg yn gallu cynrychioli r diwylliant Cymraeg yn ei gyfanrwydd.
cyferbyniadau deuaidd/deuol - binary oppositions
Pâr o dermau neu gysyniadau sy n perthyn i w gilydd a ystyrir bod ganddynt ystyron croes - er enghraifft, da a drwg, hapus a thrist. Ym maes beirniadaeth lenyddol ôl-strwythurol y mae theori lenyddol ôl-drefedigaethol yn rhan ohono, ystyrir bod ein dirnad o r byd wedi i seilio ar gyferbyniadau deuaidd sydd yn gosod un ochr o r ddeuoliaeth yn uwch na r llall, a bod angen herio r ddealltwriaeth hon. Er enghraifft, mae beirn

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents