Darllen y Dychymyg
322 pages
Welsh

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Darllen y Dychymyg , livre ebook

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
322 pages
Welsh
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Erbyn hyn, mae llyfrau i blant yn ganolog i’r diwydiant cyhoeddi ac yn rhan annatod o addysg pob plentyn. Ond prin yw’r sylw beirniadol a gafodd hanes a datblygiad llenyddiaeth plant yn y Gymraeg. Mae’r gyfrol hon yn mynd i’r afael â’r tawelwch hwn yn ein hanes cenedlaethol, gan ddadlau bod i lenyddiaeth plant arwyddocâd cymdeithasol a diwylliannol sylweddol. Rhoddir sylw i lyfrau a chylchgronau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn benodol, gan archwilio’r ffactorau a oedd yn cyflyru awduron i ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifainc. Drwy ddehongli sut y dychmygid plant yn y gorffennol, mae’r gyfrol hon yn ein galluogi i ddeall nad sefydlog nac unffurf yw ystyr y termau ‘plant’ a ‘phlentyndod’ mewn unrhyw oes.


Rhagair
Rhestr o ddarluniau
ADRAN 1 Cyflwyniad i’r maes
1. Llenyddiaeth Gymraeg i blant
2. Ailafael yn yr Anrheg
ADRAN 2 1820au–1840au
3. Y plentyn arwrol
4. Y plentyn darllengar
ADRAN 3 1840au–1880au
5. Dyfeisio plentyndod
6. Delfrydau newydd
7. Ymestyn y dychymyg a’r meddwl
8. Casgliadau
Ôl-nodiadau
Llyfryddiaeth
Mynegai

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 décembre 2020
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786836519
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 10 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,1250€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

Darllen y Dychymyg
Y MEDDWL A’R DYCHYMYG CYMREIG Golygydd Cyffredinol: Aled Llion Jones
Dan olygyddiaeth gyffredinol John Rowlands
 1. M. Wynn Thomas (gol.),DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru(1995)  2. Gerwyn Wiliams,Tir Neb(1996) (Llyfr y Flwyddyn 1997; Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)  3. Paul Birt,Cerddi Alltudiaeth(1997)  4. E. G. Millward,Yr Arwrgerdd Gymraeg(1998)  5. Jane Aaron,Pur fel y Dur(1998) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)  6. Grahame Davies,Sefyll yn y Bwlch(1999)  7. John Rowlands (gol.),Y Sêr yn eu Graddau(2000)  8. Jerry Hunter,Soffestri’r Saeson(2000) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2001)  9. M. Wynn Thomas (gol.),Gweld Sêr(2001) 10. Angharad Price,Rhwng Gwyn a Du(2002) 11. Jason Walford Davies,Gororau’r Iaith(2003) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2004) 12. Roger Owen,Ar Wasgar(2003) 13. T. Robin Chapman,Meibion Afradlon a Chymeriadau Eraill(2004) 14. Simon Brooks,O Dan Lygaid y Gestapo(2004) (Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2005) 15. Gerwyn Wiliams,Tir Newydd(2005) 16. Ioan Williams,Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880 –1940(2006) 17. Owen Thomas (gol.),Llenyddiaeth mewn Theori(2006) 18. Sioned Puw Rowlands,Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod(2006) 19. Tudur Hallam,Canon Ein Llên(2007) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith) 20. Enid Jones,FfugLen(2008) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
Dan olygyddiaeth gyffredinol Gerwyn Wiliams
21. Eleri Hedd James,Casglu Darnau’r Jigso(2009) 22. Jerry Hunter,Llwybrau Cenhedloedd(2012) 23. Kate Woodward,Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?(2013) 24. Rhiannon Marks,‘Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr’(2013) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith) 25. Gethin Matthews,Creithiau(2016) 26. Elain Price,Nid Sianel Gyffredin Mohoni!(2016) 27. Rhianedd Jewell,Her a Hawl Cyfieithu Dramâu(2017) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith) 28. M. Wynn Thomas,Cyfandir Cymru(2017) 29. Lisa Sheppard,Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen‘Wen’(2018)(Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2019)
Y MEDDWL A’R DYCHYMYG CYMREIG
Darllen y Dychymyg Creu Ystyron Newydd i Blant a Phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg
Siwan M. Rosser
GWASG PRIFYSGOL CYMRU CAERDYDD 2020
c Hawlfraint Siwan M. Rosser, 2020
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaenllaw gan Gwasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, King Edward VII Avenue, Cathays Park, Caerdydd, CF10 3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalog i’r llyfr hwn ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBNeISBN
9781786836502 9781786836519
Datganwyd gan Siwan M. Rosser ei hawl foesol i’w chydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 79 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Argraffwyd gan CPI Antony Rowe, Melksham
I Miriam a Dyfnan
Cynnwys
Rhagair
Rhestr o Ddarluniau
ADRAN 1 Cyflwyniad i’r Maes 1. Llenyddiaeth Gymraeg i Blant 2. Ailafael yn yrAnrheg
ADRAN 2 1820au–1840au 3. Y Plentyn Arwrol 4. Y Plentyn Darllengar
ADRAN 3 1840au–1880au 5. Darganfod y Plentyn? 6. Delfrydau Newydd 7. Ymestyn y Dychymyg a’r Meddwl
8. Casgliadau
Ôlnodiadau
Llyfryddiaeth
Mynegai
ix
xi
1 15
41 73
105 139 175
205
227
271
291
Rhagair
Ar yr olwg gyntaf, cyfrol am yr hyn a ddywedwn wrth ein plant drwy gyfrwng gair a llun, stori a chân yw hon. Ond mae hefyd yn llyfr am yr hyn a ddywedwn wrth famau a thadau, a’r pethau sy’n angenrheidiol, yn ein tyb ni, nid yn unig er mwyn magu plant, ond er mwyn meithrin rhieni da. Yn hynny o beth, yn ystod cyfnod datblygu a drafftio’r gyfrol hon dysgais nad ar chwarae bach mae magu teulu a deuthum i werthfawrogi fwyfwy y gofal a’r cariad a brofais i a’m chwiorydd gan ein rhieni. Ergyd fawr, felly, oedd colli Mam wrth imi gywiro proflen y gyfrol hon. Mae’r diolch pennaf am bopeth iddi hi a Dad, a’r cof yn annwyl iawn amdanynt. Diolch yn arbennig hefyd i Iwan am ei gefnogaeth ddiwyro ac i’r plant am eu hamynedd a’u hwyl. Cefais bob cymorth a chyfeillgarwch gan gydweithwyr yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, a diolch i’r Athro Sioned Davies, Dr Dylan Foster Evans a’r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost am gynnig sylwadau gwerthfawr ar drywydd yr ymchwil a chynnwys y gyfrol. Bu trafod y maes gyda myfyrwyr yr Ysgol hefyd o fudd mawr wrth roi trefn ar yr ymchwil a’r dadansoddi, ac elwais yn fawr o’r cwestiynau a’r deongliadau gwreiddiol a gonest a gynigwyd ganddynt. Diolch hefyd i olygydd cyfres ‘Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig’, Dr Aled Llion Jones, am ei sylwadau craff, ac i staff Gwasg Prifysgol Cymru am eu gofal yn ystod y broses gyhoeddi. Dymunaf gydnabod hefyd fy nyled i ysgolheigion a fu’n dadlennu holl amrywiaeth ryfeddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg o’m blaen. Byddwch yn sylwi imi bwyso’n drwm ar ddadansoddiadau treiddgar R. Tudur Jones o fywyd diwylliannol a chrefyddol y cyfnod, a hefyd E. G. Millward, y daeth y newyddion trist am ei farwolaeth wrth i’r gyfrol hon fynd i’r wasg. Dyma ysgolhaig a fu’n ysbrydoliaeth imi ers dyddiau coleg. Fe’m symbylodd i archwilio’r cyrion a pheidio â derbyn mai cewri’r gorffennol yn unig sy’n haeddu sylw. Dyfynnir yn helaeth o ffynonellau cynradd drwy gydol y gyfrol hon er mwyn rhoi blas i’r darllenydd ar ieithwedd a chywair awduron y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyflwynir yr holl ddyfyniadau yn eu horgraff wreiddiol. O ganlyniad, byddwch yn sylwi ar ‘wallau’ ac anghysonderau ieithyddol (yn arbennig yn achos dyblu ‘n’ a
Rhagair ix
  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents