Nid Sianel Gyffredin Mohoni!
189 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Nid Sianel Gyffredin Mohoni! , livre ebook

-

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
189 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Dyma’r astudiaeth gyntaf ar hanes blynyddoedd cynnar un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru – Sianel Pedwar Cymru – sy’n cloriannu penderfyniadau a gweithgareddau’r sianel yn ystod blynyddoedd ei chyfnod prawf rhwng 1981 a 1985. Trwy gyfrwng astudiaeth o gofnodion, gohebiaeth a chyfweliadau gydag unigolion fu’n allweddol i fenter gyffrous S4C, eir ati i ddarlunio’r sialensiau, y llwyddiannau a’r methiannau fu’n wynebu Awdurdod a swyddogion S4C wrth iddynt fynd ati i lunio gwasanaeth teledu Cymraeg fyddai’n ateb gofynion ac anghenion y gynulleidfa yng Nghymru. Ceir yn y gyfrol hefyd ddadansoddiad o’r gwersi y gall hanes y sianel ei gynnig i’w swyddogion cyfredol wrth iddynt fynd ati i’w gosod ar seiliau cadarn ar gyfer dyfodol sy’n ymddangos yn gynyddol ansicr.

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 juillet 2016
Nombre de lectures 0
EAN13 9781783168903
Langue Welsh

Informations légales : prix de location à la page 0,0500€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

Nid Sianel Gyffredin Mohoni!
Y MEDDWL A’R DYCHYMYG CYMREIG
Golygydd Cyffredinol: Gerwyn Wiliams
Dan olygyddiaeth gyffredinol John Rowlands M. Wynn Thomas (gol.), DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (1995) Gerwyn Wiliams, Tir Neb (1996) (Llyfr y Flwyddyn 1997; Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith) Paul Birt, Cerddi Alltudiaeth (1997) E. G. Millward, Yr Arwrgerdd Gymraeg (1998) Jane Aaron, Pur fel y Dur (1998) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith) Grahame Davies, Sefyll yn y Bwlch (1999) John Rowlands (gol.), Y Sêr yn eu Graddau (2000) Jerry Hunter, Soffestri’r Saeson (2000) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2001) M. Wynn Thomas (gol.), Gweld Sêr (2001) Angharad Price, Rhwng Gwyn a Du (2002) Jason Walford Davies, Gororau’r Iaith (2003) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2004) Roger Owen, Ar Wasgar (2003) T. Robin Chapman, Meibion Afradlon a Chymeriadau Eraill (2004) Simon Brooks, O Dan Lygaid y Gestapo (2004) (Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2005) Gerwyn Wiliams, Tir Newydd (2005) Ioan Williams, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880–1940 (2006) Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth mewn Theori (2006) Sioned Puw Rowlands, Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod (2006) Tudur Hallam, Canon Ein Llên (2007) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith) Enid Jones, FfugLen (2008) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
Dan olygyddiaeth gyffredinol Gerwyn Wiliams Eleri Hedd James, Casglu Darnau’r Jig-so (2009) Jerry Hunter, Llwybrau Cenhedloedd (2012) Kate Woodward, Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith? (2013) Rhiannon Marks, ‘Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr’ (2013) Gethin Matthews (gol.), Creithiau (2016)
Y MEDDWL A’R DYCHYMYG CYMREIG
Nid Sianel Gyffredin Mohoni!
Hanes Sefydlu S4C
Elain Price
Elain Price, 2016
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd, CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalog i’r llyfr hwn ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-7831-6888-0 eISBN 978-1-7831-6890-3
Datganwyd gan Elain Price ei hawl foesol i’w chydnabod yn awdur y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 79 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Llun y clawr © hawlfraint 06photo| Dreamstime.com
Cynnwys
Diolchiadau
Lluniau
Byrfoddau
Rhagymadrodd
1.  Y Frwydr dros Sianel Deledu Gymraeg
2.  Deunaw Mis o Baratoi – Dyddiau Cynnar Awdurdod Sianel Pedwar Cymru
3.  Gwireddu’r Arbrawf – Darllediadau Cyntaf ac Argraffiadau’r Gynulleidfa
4.  Mentrau Ariannol – Sicrhau Telerau Teg ac Ehangu i Feysydd Newydd
5.  Adolygu’r Sianel – Arolygon Barn ac Archwiliad y Swyddfa Gartref
Cloriannu
Atodiad. Aelodau Awdurdod Sianel Pedwar Cymru (1981–1985)
Llyfryddiaeth
Nodiadau
i Nick a Gruff
Diolchiadau
Carwn ddiolch i nifer helaeth o bobl am eu cymorth wrth i mi fynd ati i lunio’r astudiaeth hon. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i staff a swyddogion S4C a fu mor barod i ryddhau dogfennau ar gyfer yr astudiaeth. Diolchaf yn arbennig i Nia Ebenezer, Carys Evans, Iona Jones, John Walter Jones, Lynette Morris, Kathryn Morris, Jen Pappas, Alun Thomas a Phil Williams am fod mor barod eu cymwynas yn ystod y cyfnod y bûm yn ymweld â’r sianel a thrwy gydol cyfnod yr astudiaeth hon. Dymunaf ddiolch i nifer o staff BBC Cymru am eu hymateb parod i’m hymholiadau; yn arbennig hoffwn ddiolch i Siôn Brynach, Karl Davies, Edith Hughes, Keith Jones, Yvonne Nicholson a Menna Richards. Hoffwn ddiolch i James Codd yng Nghanolfan Archifau Ysgrifenedig y BBC am ei gymorth a’i arweiniad yn ystod fy ymweliadau â Caversham. Diolchaf i Phil Henfrey, Shone Hughes, Owain Meredith, Siôn Clwyd Roberts a Huw Rossiter yn ITV Wales am eu cymorth. Dymunaf hefyd gydnabod y cyngor a’r cymorth a gefais gan staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru, Archif yr ITA/IBA/Cable Authority ym Mhrifysgol Bournemouth a’r Archifau Seneddol yn San Steffan.
Bûm yn ffodus iawn i gael cyfarfod a chyfweld nifer o unigolion a fu’n weithgar ac yn gwbl allweddol i’r diwydiant teledu Cymraeg gydol yr 1970au a dechrau’r 1980au. Carwn ddiolch yn ddiffuant i Wil Aaron, Huw Davies, Chris Grace, Dr Glyn Tegai Hughes, Syr Jeremy Isaacs, y diweddar Geraint Stanley Jones, Eleri Wynne Jones, Huw Jones, Robin Lyons, Mair Owen, y Parch. Ddr Alwyn Roberts ac Euryn Ogwen Williams am eu hamser a’r gefnogaeth hael a gefais ganddynt oll. Cefais hefyd gymorth amhrisiadwy gan y diweddar Owen Edwards, a roddodd yn hael o’i amser a’i gefnogaeth er gwaethaf cyflwr ei iechyd. Dymunaf ddiolch yn fawr i arbenigwyr yn y maes a fu mor barod eu cymwynas – Ifan Gwynfil Evans, y diweddar John Hefin, Dr Martin Johnes, Dr Ruth McElroy, yr Athro Justin Smith, yr Athro Elan Closs Stephens a Kevin Williams, a dymunaf ddiolch yn arbennig i Dr Jamie Medhurst am ei arweiniad ac am fod mor barod i fenthyg deunydd.
Rwy’n ddyledus iawn i’r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg (bellach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol) am y nawdd i gwblhau’r ddoethuriaeth sy’n sail i’r gyfrol hon. Hoffwn ddiolch i’r holl staff yno am eu cefnogaeth a’r gynhaliaeth yn ystod cyfnod yr ymchwil. Diolchaf hefyd i Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe, am y nawdd i gyhoeddi’r gyfrol hon, ac i Gerwyn Wiliams a staff Gwasg Prifysgol Cymru am eu cefnogaeth a’u cymorth.
Hoffwn ddiolch i’m cydweithwyr am eu cwmni a’u cymorth, ond yn benodol carwn ddiolch yn gwbl ddiffuant, i Dr Gwenno Ffrancon am ei hymddiriedaeth a’i harweiniad. Bu ei chyfeillgarwch a’i chefnogaeth yn allweddol wrth i mi lunio’r astudiaeth hon.
I gloi, carwn ddiolch i’m ffrindiau agos a’m teulu oll, yn enwedig Mam, Dad, Elfyn, Guto a Branwen. Ond yn arbennig hoffwn ddiolch i Nick fy ngŵr a’m mab Gruff am fy annog a’m hysbrydoli i barhau gyda’r gwaith hwn. Diolch i chi’ch dau o waelod calon am bob dim ac am wneud i mi wenu bob dydd.
Lluniau
1. Aelodau o dîm Newyddion Saith – Deryk Williams, y golygydd, gyda’r cyflwynwyr Beti George a Gwyn Llewelyn (Llun: trwy ganiatâd BBC Cymru)
2. Tîm cynhyrchu Y Byd ar Bedwar yn cwrdd â Ramon Castro Ruz, brawd hynaf Fidel Castro (Llun: trwy ganiatâd ITV Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
3. Golygfa o bennod ‘Chewing Gum’ Joni Jones (Llun: trwy ganiatâd S4C)
4. Cast Coleg , un o lwyddiannau wythnos gyntaf darlledu S4C (Llun: trwy ganiatâd ITV Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
5. Dau o gymeriadau mwyaf poblogaidd Pobol y Cwm , Harri Parri (Charles Williams) a Jacob Ellis (Dillwyn Owen) (Llun: trwy ganiatâd BBC Cymru)
6. SuperTed , llwyddiant mawr ymweliad cyntaf S4C â MIP TV yn Cannes (Llun: trwy ganiatâd S4C)
7. Dafydd Hywel (Alun) a Reginald Matthias (Dick) mewn golygfa o ffilm Karl Francis, Yr Alcoholig Llon (Llun: trwy ganiatâd S4C)
Byrfoddau
AGSSC
Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain Cymru
ABS
Association of Broadcasting Staffs
ACTT
Association of Cinematograph, Television and Allied Technicians
ADA
Awdurdod Darlledu Annibynnol (Independent Broadcasting Authority)
AGB
Audits of Great Britain
ATA
Awdurdod Teledu Annibynnol (Independent Television Authority)
BARB
Broadcasters’ Audience Research Board
BBC
British Broadcasting Corporation
BBC WAC
BBC Written Archives Centre, Caversham
BBFC
British Board of Film Classification
CBI
Confederation of British Industry
CDC
Cyngor Defnyddwyr Cymru
CPGTH
Casgliad Personol Dr Glyn Tegai Hughes
CPJM
Casgliad Personol Dr Jamie Medhurst
CS4C
Casgliad S4C
C4
Channel 4
C4UK
Channel 4 UK
DCMS
Department of Culture, Media and Sport
HTV
Harlech Television
IBA
Independent Broadcasting Authority
IMG
International Management Group
IPA
Institute of Practitioners in Advertising
ITA
Independent Television Authority
ITCA
Independent Television Companies Association
ITN
Independent Television News
ITP
Independent Television Publications
ITV
Independent Television
LlGC
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
MIP TV
Marché International des Programmes de Television
OBA
Open Broadcasting Authority
PDFC
Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig
PMM
Peat, Marwick and Mitchell
RPI
Retail Price Index
RTS
Royal Television Society
S4C
Sianel Pedwar Cymru
TAC
Teledwyr Annibynnol Cymru
TWI
Trans World International
TWW
Television Wales and West
UCN
Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr
WFCA
Welsh Fourth Channel Authority
Rhagymadrodd
Ers ei lansiad fwy na 30 blynedd yn ôl, mae Sianel Pedwar Cymru (S4C) wedi gweddnewid y byd darlledu yng Nghymru ac wedi diddanu, addysgu a hysbysu cenhedlaethau o wylwyr hen ac ifanc. Nid sianel gyffredin mo S4C, fe’i sefydlwyd am gyfuniad o resymau gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol ac ieithyddol, ac o’r herwydd mae’n rhaid ystyried ei chyfraniad yn y termau cymhleth hynny ac nid ar sail ei hapêl i’r gynulleidfa yn unig. Nid oes unrhyw gyfnod yn hanes y sianel sy’n darlunio hyn yn well na’r cyfnod prawf a roddwyd iddi rhwng 1981 ac 1985. Mae’r sianel sy’n darlledu heddiw yn dra gwahanol i’r un a lansiwyd yn 1982, ond yr un yw’r frwydr heddiw ag y bu yn ystod y cyfnod tyngedfennol cynnar hwn, sef yr ymdrech barhaus i sicrhau dyfodol a thelerau teg i ddarlledu rhaglenni Cymraeg ar un sianel benodedig. Wrth i’r esgid barhau i wasgu ar goffrau ariannol y llywodraeth, a’r bygythiad y daw newidiadau sylweddol i’w rhan mae’n allweddol edrych yn ôl ar amgylchiadau sefydlu’r sianel a’r blynyddoedd cynnar o ddarlledu er mwyn cloriannu ei llwyddiannau a’i methiannau, a chofio sut a pham y tyfodd yr egin hwn yn wasnanaeth cynhwysfawr o raglenni amrywiol i’r gynulleidfa Gymraeg.
Bwriad y gyfrol hon, felly, yw dadansoddi a dehongli hanes sefydlu S4C fel sianel newydd yn nhirlun darlledu Cymru a’r modd y ffurfiwyd trydydd awdurdod darlledu i Brydain. Bydd yn edrych ar flynyddoedd cyfnod prawf y sianel mewn manylder, gan ystyried y sialensiau a wynebwyd gan yr awdurdod newydd, a chan swyddogion a staff y sianel wrth gynllunio a chyflwyn

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents