138
pages
Welsh
Ebooks
2013
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement
138
pages
Welsh
Ebook
2013
Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne En savoir plus
Publié par
Date de parution
15 mai 2013
Nombre de lectures
0
EAN13
9781783165711
Langue
Welsh
Poids de l'ouvrage
1 Mo
Dyma’r astudiaeth gyntaf o hanes lliwgar a ffilmiau dadleuol y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg (1971 – 86), a sefydlwyd yn unswydd er mwyn cynhyrchu ffilmiau Cymraeg eu hiaith megis Teisennau Mair, O’r Ddaear Hen a Madam Wen. Wrth olhrain hanes y sefydliad, dadleuir fod sefydlu’r Bwrdd yn rhan o’r frwydr dros ddiogelu a gwarchod y Gymraeg a yrrwyd gan ysfa caredigion yr iaith i sicrhau parhad iddi. Gyda ffigyrau cyfrifiadau 1961 a 1971 yn tystio i ddihoeni graddol niferoedd y siaradwyr Cymraeg, a chyda’r broses ddemocrataidd yn profi’n bur aneffeithlon, roedd sefydlu’r Bwrdd yn un ymgais arloesol ymhlith nifer i geisio diogelu ac ymrymuso’r iaith trwy ddulliau diwylliannol.
Publié par
Date de parution
15 mai 2013
Nombre de lectures
0
EAN13
9781783165711
Langue
Welsh
Poids de l'ouvrage
1 Mo
Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?
Y MEDDWL A R DYCHYMYG CYMREIG
Golygydd Cyffredinol: Gerwyn Wiliams
Dan olygyddiaeth gyffredinol John Rowlands
1. M. Wynn Thomas (gol.), DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (1995)
2. Gerwyn Wiliams, Tir Neb (1996) (Llyfr y Flwyddyn 1997; Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
3. Paul Birt, Cerddi Alltudiaeth (1997)
4. E. G. Millward, Yr Arwrgerdd Gymraeg (1998)
5. Jane Aaron, Pur fel y Dur (1998) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
6. Grahame Davies, Sefyll yn y Bwlch (1999)
7. John Rowlands (gol.), Y Sêr yn eu Graddau (2000)
8. Jerry Hunter, Soffestri r Saeson (2000) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2001)
9. M. Wynn Thomas (gol.), Gweld Sêr (2001)
10. Angharad Price, Rhwng Gwyn a Du (2002)
11. Jason Walford Davies, Gororau r Iaith (2003) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2004)
12. Roger Owen, Ar Wasgar (2003)
13. T. Robin Chapman, Meibion Afradlon a Chymeriadau Eraill (2004)
14. Simon Brooks, O Dan Lygaid y Gestapo (2004) (Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2005)
15. Gerwyn Wiliams, Tir Newydd (2005)
16. Ioan Williams, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880-1940 (2006)
17. Owen Thomas (gol), Llenyddiaeth mewn Theori (2006)
18. Sioned Puw Rowlands, Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod (2006)
19. Tudur Hallam, Canon Ein Llên (2007) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
20. Enid Jones, FfugLen (2008) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
Dan olygyddiaeth gyffredinol Gerwyn Wiliams
21. Eleri Hedd James, Casglu Darnau r Jig-so (2009)
22. Jerry Hunter, Llwybrau Cenhedloedd (2012)
Y MEDDWL A R DYCHYMYG CYMREIG
Cleddyfym Mrwydr yr Iaith?
Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
Kate Woodward -->
GWASG PRIFYSGOL CYMRU CAERDYDD 2013
h Kate Woodward, 2013
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o r cyhoeddiad hwn na i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd, CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalog i r llyfr hwn ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-0-7083-2592-6
e-ISBN 978-1-7831-6571-1
Datganwyd gan Kate Woodward ei hawl foesol i w chydnabod yn awdur y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 79 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau'n gywir neu'n addas.
Clawr: Hayes Design
I fy nheulu
Cynnwys
Diolchiadau
Rhestr Luniau
Talfyriadau
1. Braenaru r Tir
2. Death to Hollywood! : Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr, Cyngor Celfyddydau Cymru a r British Film Institute
3. Gwreiddiau a Chyd-destun Sefydlu r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
4. Troi n Genedlaethol a Brwydrau 1973-1978
5. Teisennau Mair (1979) a Newid Gêr (1980)
6. O.G. (1981) ac O r Ddaear Hen (1981)
7. Madam Wen (1982), S4C a Ty d Ymα Tomi! (1983)
Cloriannu
Nodiadau
Atodiad: Ffilmyddiaeth
Diolchiadau
Hoffwn achub y cyfle i ddiolch i nifer o bobl a m cynorthwyodd yn ystod y broses o ymchwilio ac ysgrifennu r gyfrol hon.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i r Athro Ioan Williams, am ei arweiniad a i gyngor ers cychwyn y gwaith; Iestyn Hughes a staff Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru; Jen Pappas o Lyfrgell S4C; staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru (yn enwedig staff arwrol Ystafell Ddarllen y De), Llyfrgell Hugh Owen, Archifdy Caernarfon, y Llyfrgell Brydeinig a Llyfrgell y BFI. Carwn ddiolch i Christophe Dupin, Prifysgol Queen Mary, Llundain, am fy nghynorthwyo gydag ymchwil i adran ranbarthol y British Film Institute; Peter Tyndall, am ganiatáu i mi fynediad at gasgliad llawysgrifau Cyngor Celfyddydau Cymru yn ystod ei gyfnod fel prif weithredwr; Menna Richards, am ganiatâd i weld casgliad y BBC, a Geraint Talfan Davies am ganiatâd i weld papurau Aneirin Talfan Davies. Rwy n ddiolchgar hefyd i Glyn Tegai Hughes am roi i mi nifer o bapurau Cymdeithas Celfyddydau Gogledd Cymru, a charwn ddiolch iddo yntau, yn ogystal â Gwyn Thomas, Wil Aaron, Gwilym Owen, John Walter Jones, Eirwen Williams ac Elwyn Williams am eu haelioni a u parodrwydd i rannu eu hatgofion.
Hoffwn ddiolch i Anwen Jones, Elin Haf Gruffydd Jones, Kate Egan, Paul Newland, Jamie Medhurst, Rhodri ap Dyfrig a Gerwyn Wiliams am eu cymorth, eu cefnogaeth a u cyfeillgarwch.
Carwn ddiolch i gronfa gynadleddau Prifysgol Aberystwyth a chronfa ymchwil yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu am gyllid i deithio i nifer o gynadleddau, lle cefais gyfleoedd i drafod amryw o r syniadau a geir yn y gyfrol hon. Rwy n ddyledus hefyd i gronfa Syr David Hughes-Parry ac i r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu am gefnogaeth ariannol a ganiataodd i r gyfrol hon weld golau dydd.
Yn olaf, ond bwysicaf, hoffwn ddiolch i fy nheulu bendigedig, ac i Elwyn yn arbennig, am eu cefnogaeth a u cariad.
Rhestr Luniau
1. Cefin Roberts (Llew), Marged Esli (Mair) a J. O. Roberts (Goronwy) yn ffilmio Teisennau Mair (Gareth Wynn Jones, 1979).
2. Cefin Roberts (Llew) a Marged Esli (Mair) yn ffilmio Teisennau Mair (Gareth Wynn Jones, 1979).
3. Y cyfarwyddwr Gareth Wynn Jones gyda Dafydd Hywel (Huw Handi Twls) ac Elliw Haf (Bet).
4. John Pierce Jones (O.G) yn ystod y ffilmio.
5. Y teulu Vaughan yn O r Ddaear Hen (Wil Aaron, 1981): J. O. Roberts (Arthur Vaughan), Valerie Wynne-Williams (Dr Miriam Vaughan) a Bethan Jones (Anna Vaughan).
6. Y st ỳ nt ddramatig ar ddiwedd O r Ddaear Hen.
7. Arthur Vaughan (J. O. Roberts) yn gelain wedi r ddamwain angheuol.
8. Un o brif olygfeydd Madam Wen (Pennant Roberts, 1982).
9. John Pierce Jones a Marged Esli mewn golygfa o Madam Wen.
10. Marged Esli fel Madam Wen.
11. Charles Williams ac Ian Saynor yn ffilmio un o r golygfeydd tafarn.
12. Elen Roger Jones a Marged Esli yn ystod y ffilmio.
13. Un o olygfeydd dramatig Madam Wen.
14. Y criw cynhyrchu a r actorion Janet Aethwy ac Iestyn Garlick.
15. John Ogwen yn Madam Wen.
Lle na nodir enw r ffotograffydd yn yr adran luniau, gwnaed pob ymdrech i ddod o hyd i ddeiliad yr hawlfraint.
Talfyriadau
BFI (1933-)
Sefydlwyd y British Film Institute ym 1933 fel cwmni preifat gyda r bwriad o hyrwyddo ffilmiau. Mae r BFI wedi derbyn arian cyhoeddus ers ei sefydlu. Cyn 1965, daeth yr arian oddi wrth y Cyfrin Gyngor a r Trysorlys, ac wedi hynny daeth oddi wrth adrannau diwylliannol y llywodraeth.
BFfC (1971-86)
Ffurfiwyd y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg o dan adain Cymdeithas Celfyddydau Gogledd Cymru yn dilyn Ysgol Breswyl ar [G]yfryngau llenyddol newydd yng Ngregynog yng Ngorffennaf 1970. Gweith-redai ar y cychwyn o dan yr enw Panel Ffilmiau Gregynog. Ym 1972 mabwysiadodd yr enw Bwrdd Ffilmiau r Gogledd, ac yn fuan wedyn fe i newidiwyd i Fwrdd Ffilmiau Cymraeg. Diddymwyd y bwrdd ym mis Medi 1986.
CCC (1967-94)
Dyfarnwyd ail siarter i CCPF ym 1967, ac yn sgil hyn dechreuodd Cymru a r Alban weithredu pwyllgorau lled annibynnol. Galwyd y pwyllgor yng Nghymru yn Gyngor Celfyddydau Cymru (Welsh Arts Council).
CCC (1994-)
Ymrannodd CCPF ym 1994 a ffurfiwyd tri chyngor annibynnol, sef Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau yr Alban a Chyngor Celfyddydau Cymru (Arts Council of Wales).
CCGC (1964-94)
Sefydlwyd Cymdeithas Celfyddydau Gogledd Cymru ym 1964. Roedd yn ariannu mudiadau a chlybiau celfyddydol yng ngogledd Cymru, ac yn hyrwyddo gwyliau ac arddangosfeydd celfyddydol a diwylliannol. Roedd gan y gymdeithas nifer o is-bwyllgorau, gan gynnwys rhai celf, llenyddiaeth, cerddoriaeth a drama. Syr Ben Bowen Thomas oedd cadeirydd cyntaf CCGC.
CCPF (1945-94)
Ym 1945 cyhoeddwyd y byddai gwaith CEMA yn parhau wedi r rhyfel o dan yr enw Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr (Arts Council of Great Britain), ac y byddai n derbyn cyllid oddi wrth y llywodraeth. Dyfarnwyd Siarter Frenhinol iddo ar 9 Awst 1946. Cadeirydd cyntaf CCPF oedd John Maynard Keynes.
CEMA (1940-5)
Ym 1940, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sefydlwyd CEMA (Committee for the Encouragement of Music and the Arts) er mwyn rhoi cymorth cyllidol i fudiadau celfyddydol a oedd yn wynebu anawsterau wrth geisio cynnal eu gweithgarwch. Ariannwyd y pwyllgor gan y Pilgrim Trust. Cadeiriwyd CEMA gan yr Arglwydd De La Warr, llywydd y bwrdd addysgol.
Pwyllgor Cymru (1945-67)
Bu gan CEMA bwyllgorau ymgynghorol yng Nghymru a r Alban, ac yn sgil siarter 1946 roedd gofyn i CCPF sefydlu pwyllgorau ar gyfer Cymru a r Alban. Gwnaed hyn yng Nghymru mewn ymgynghoriad â r Ysgrifennydd Addysg. Pwyllgorau ymgynghorol oedd y rhain. Cadeirydd cyntaf Pwyllgor Cymru oedd yr Arglwydd Harlech, a oedd hefyd yn aelod o gyngor CCPF. Erbyn 1965 roedd gan Bwyllgor Cymru is-bwyllgorau ym meysydd drama, celf, cerdd a llên.
1
Braenaru r Tir
Cyflwyniad
Yn eu cyfrol The Media in Wales: Voices of a Small Nation, dywed David M. Barlow, Philip Mitchell a Tom O Malley: [It is] difficult to see how any account of the history and development of the media in Wales can be told without recourse to the idea of struggle . 1 Bwriad y gyfrol hon yw gwyntyllu hanes un asiantaeth anghofiedig a sefydlwyd yn unswydd er mwyn cynhyrchu ffilmiau Cymraeg eu hiaith. Wrth ddatguddio hanes y sefydliad, dadleuir yma fod sefydlu r Bwrdd Ffilmiau Cymraeg (BFfC) (1971-86) yn rhan o r frwydr dros ddiogelu a gwarchod yr iaith Gymraeg a yrrwyd gan ysfa caredigion yr iaith i sicrhau parhad iddi. Gyda ffigyrau cyfrifiadau 1961 a 1971 yn tystio i ddihoeni graddol niferoedd y siaradwyr Cymraeg, a chyda r broses ddemocrataidd yn profi n bur aneffeithlon, roedd sefydlu r bwrdd yn un ymgais ymhlith nifer i geisio diogelu ac ymrymuso r iaith trwy ddulliau diwylliannol.
Wrth ddarlunio hanes yr ymgais hon i broffesiynoli cynhyrchu ffilmiau Cymraeg, dadlennir y modd yr oedd gan rymoedd allanol rôl allweddol yng ngallu r bwrdd i wireddu ei ddyheadau. Roedd y broses o ddatblygu ffilmiau Cymraeg ar drugaredd cyfundrefn gyllidol a reolid y