‘Mae’r Beibl o’n tu’
356 pages
Welsh

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

‘Mae’r Beibl o’n tu’ , livre ebook

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
356 pages
Welsh
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Hon yw'r astudiaeth gyntaf mewn unrhyw iaith sy'n archwilio ymatebion crefyddol y Cymry yn yr Unol Daleithiau i gaethwasiaeth yn ystod y cyfnod 1838-68, sef oes aur y wasg gyfnodol Gymraeg yno. Gan ddefnyddio'r wasg gyfnodol fel sail, cyflwynir trafodaeth wreiddiol am y modd y syniai'r Cymry Americanaidd am gaethwasiaeth, un o faterion mwyaf dyrys eu gwlad fabwysiedig, a hynny yng nghyd-destun disgwrs Feiblaidd. Asesir y modd y gwnaeth syniadaeth grefyddol a chyfeiriadaeth Feiblaidd dreiddio'r erthyglau, yr ysgrifau, y darnau o farddoniaeth a'r rhyddiaith greadigol a gyhoeddwyd yng nghyfnodolion Cymraeg yr Unol Daleithiau, gan gynnig mewnwelediad unigryw i'r farn gyhoeddus Gymraeg a Chymreig-Americanaidd am gaethwasiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dylanwadodd adnabyddiaeth y Cymry Americanaidd a'r Beibl yn ddwys ar eu meddwl, eu dychymyg a'u gweithgarwch o ddydd i ddydd, ac yn y gyfrol hon bwrir goleuni o'r newydd ar baradocs gwlad a goleddai gaethwasiaeth tra yn ymfalchio yn ei rhyddid.

Byrfoddau
Rhagymadrodd
Pennod 1: ‘Teulu Ham sy’n cael eu hymlid’
Pennod 2: ‘O henffych, henffych fore clir, Pryd na bydd gorthrwm yn ein tir!’
Pennod 3: ‘I ddwyn y gaethglud fawr yn rhydd’
Pennod 4: ‘Hyn ydyw crefydd Crist’
Pennod 5: ‘(D)ylwn ufuddhau i Dduw o flaen ufuddhau i ddynion’
Diweddglo
Nodiadau
Llyfryddiaeth

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 septembre 2022
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786838841
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 5 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,1250€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

‘Mae’r Beibl o’n tu’
Y MEDDWL A’R DYCHYMYG CYMREIG Golygydd Cyredinol: Aled Llion Jones
 1. M. Wynn Thomas (gol.),DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru(1995)  2. Gerwyn Wiliams,Tir Neb(1996) (Llyfr y Flwyddyn 1997; Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)  3. Paul Birt,Cerddi Alltudiaeth(1997)  4. E. G. Millward,Yr Arwrgerdd Gymraeg(1998)  5. Jane Aaron,Pur fel y Dur(1998) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)  6. Grahame Davies,Sefyll yn y Bwlch(1999)  7. John Rowlands (gol.),Y Sêr yn eu Graddau(2000)  8. Jerry Hunter,Soffestri’r Saeson(2000) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2001)  9. M. Wynn Thomas (gol.),Gweld Sêr(2001) 10. Angharad Price,Rhwng Gwyn a Du(2002) 11. Jason Walford Davies,Gororau’r Iaith(2003) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2004) 12. Roger Owen,Ar Wasgar(2003) 13. T. Robin Chapman,Meibion Afradlon a Chymeriadau Eraill(2004) 14. Simon Brooks,O Dan Lygaid y Gestapo(2004) (Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2005) 15. Gerwyn Wiliams,Tir Newydd(2005) 16. Ioan Williams,Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880–1940(2006) 17. Owen Thomas (gol.),Llenyddiaeth mewn Theori(2006) 18. Sioned Puw Rowlands,Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod(2006) 19. Tudur Hallam,Canon Ein Llên(2007) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith) 20. Enid Jones,FfugLen(2008) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith) 21. Eleri Hedd James,Casglu Darnau’r Jig-so(2009) 22. Jerry Hunter,Llwybrau Cenhedloedd(2012) 23. Kate Woodward,Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith?(2013) 24. Rhiannon Marks,‘Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr’(2013) 25. Gethin Matthews,Creithiau(2016) 26. Elain Price,Nid Sianel Gyffredin Mohoni!(2016) 27. Rhianedd Jewell,Her a Hawl Cyfieithu Dramâu(2017) 28. M. Wynn Thomas,Cyfan-dir Cymru(2017) 29. Lisa Sheppard,Y Gymru ‘Ddu’a’r Ddalen‘Wen’(2018) 30. Siwan M. Rosser,Darllen y Dychymyg(2020)
Y MEDDWL A’R DYCHYMYG CYMREIG
‘Mae’r Beibl o’n tu’ Ymatebion crefyddol y Cymry yn Americai gaethwasiaeth (1838–1868)
Gareth Evans-Jones
GWASG PRIFYSGOL CYMRU 2022
Hawlfraint © Gareth Evans-Jones, 2022
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, otogopio, re-cordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78683-883-4 e-ISBN 978-1-78683-884-1
Cysodwyd gan Geethik Technologies, India.
Datganwyd gan Gareth Evans-Jones ei hawl foesol i’w gydnabod yn aw-dur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cydnabyddir cymorth ariannol Prifysgol Bangor ar gyfer y cyhoeddiad hwn.
Ond y mae ymdrech diino y dyddiau hyn i wneud y tair [plaid wleidyddol: y Democratiaid, y Dimwybyddion a’r Gw-eriniaethwyr] yn un, ac aberthu pob gwahaniaeth, er mwyn sicrhau y fuddugoliaeth o blaid eu pwnc mawr, sef Caethiwed; am hynny, Werinwyr, ‘byddwn bybur, ac ymwrolwn’ – mae’r Beibl o’n tu. ‘Y Llywyddiaeth’,Y Cyfaill o’r Hen Wlad(Hydref 1860), 395.
I Jerry ac Eryl
Cynnwys
Diolchiadau
Byrfoddau
Termau
Y Beiblau
Rhagymadrodd Pennod 1: ‘Teulu Ham sy’n cael eu hymlid’ Pennod 2: ‘O henych, henych fore clir, Pryd na byddgorthrwm yn ein tir!’ Pennod 3: ‘I ddwyn y gaethglud fawr yn rhydd’ Pennod 4: ‘Hyn ydyw crefydd Crist’ Pennod 5: ‘[D]ylem ufuddhau i Dduw o aenufuddhau i ddynion’
Diweddglo
Nodiadau
Llyfryddiaeth
Mynegai
i
x
x
i
xii
xiii
1 11
41 81 121
155
203
211
305
337
Mae'r dudalen hon yn fwriadol wag
Diolchiadau
Mae fy niolch yn aruthrol i lawer am yr holl gymorth a chefnogaeth a dderbyniais yn ystod cyfnod ymchwilio a llunio’r llyfr hwn. Yn gyntaf, hown ddiolch o waelod calon i’m cyfarwyddwyr PhD, Eryl W. Davies a Jerry Hunter, am eu harweiniad doeth a’u cyfeillgarwch ar hyd y blynyddoedd. Mae’r ddau wedi bod, ac yn parhau i fod, yn ysbrydoliaeth imi. Mae fy nyled yn anfesuradwy iddynt, ac iddyn nhw y cywynaf y gyfrol hon. Carwn gydnabod â gwerthfawrogiad gwirioneddol y gefnogaeth ariannol ac addysgiadol a gefais o ddau gyfeiriad gwahanol wrth imi weithio ar y prosiect PhD a ddaeth yn sail i’r llyfr hwn; y naill gan Ymdd-iriedolaeth James Pantyfedwen, a’r llall gan yr AHRC a Chanolfan Hy orddiant Doethurol mewn Ieithoedd Celtaidd. Roedd cael bod yn rhan o ganolfan o ymchwilwyr doethurol yn broîad hynod a’m galluogodd i ddatblygu fel ymchwilydd, a phroî hinsawdd ddeallusol eithriadol a grëwyd gan fy nghyfoedion a’n cyfarwyddwyr. Diolch i holl aelodau sta hen Ysgol y Gymraeg a’r hen Ysgol Athron-iaeth a Chrefydd, Prifysgol Bangor, am fod mor barod eu cymwynas, ac i’r gymuned ôl-radd yn Ysgol y Gymraeg am y trafodaethau difyr a’r cwmni. Hown gydnabod fy ngwerthfawrogiad i holl sta Llyfrgell ac Archi-fau Prifysgol Bangor. Treuliais gyfnodau estynedig yn archifdy’r brify-sgol yn pori drwy amryw gasgliadau ac yn manteisio ar arbenigedd y sta, yn enwedig, felly, Einion Thomas, Elen Simpson, a Shan Robinson. Diolch hefyd i sta Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Lly-frgell Widener, Prifysgol Harvard, a Llyfrgell Gladstone, Penarlâg, am eu cymorth. Bu nifer o unigolion yn hynod gefnogol a chymwynasgar wrth i’r llyfr ddatblygu. Am bob ysgogiad a sgwrs werthfawr, diolch i’r diweddar Ei-rug Davies; i Cai Fôn Davies, Dafydd Guto Ifan, E. Wyn James, Bill Jones, Non Mererid Jones, Sam Jones, Sheila M. Kidd, Catherine McKenna, D. Densil Morgan, Osian Wyn Owen, Angharad Price, David Sullivan, Llŷr Titus, Gerwyn Wiliams a Manon Wyn Williams. Diolch i Rhiannon ac Evan John Hughes, Emlyn Richards, a Carwyn a Nerys Siddall, am rannu’n hael o’u llyfrgelloedd. A diolch i Lyn Bechtel am ei harweiniad a’i hamynedd wrth imi fentro dysgu Hebraeg.
  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents